Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 5 Apelau

Apelau yn erbyn hysbysiadau

30.—(1) Caiff person apelio i Weinidogion Cymru yn unol â'r rheoliad hwn yn erbyn—

(a) hysbysiad stop;

(b) hysbysiad adfer, neu

(c) hysbysiad o dan baragraff 5 o Atodlen 4,

a chyfeirir at unrhyw hysbysiad o'r fath yn y rheoliad hwn fel yr “hysbysiad perthnasol” (“relevant notice”).

(2) Caniateir i apêl gael ei dwyn ar unrhyw un o'r seiliau canlynol—

(a) nad oedd gan Weinidogion Cymru bwer i gyflwyno'r hysbysiad perthnasol, nac i gynnwys gofyniad penodol ynddo;

(b) bod rhyw afreoleidd-dra, diffyg neu wall o bwys wedi bod yn yr hysbysiad perthnasol, neu mewn cysylltiad ag ef; neu

(c) bod unrhyw un o ofynion yr hysbysiad perthnasol yn afresymol.

(3) Rhaid dwyn apêl yn erbyn hysbysiad perthnasol drwy hysbysiad, y mae'n rhaid iddo—

(a) cynnwys copi o'r hysbysiad perthnasol;

(b) datgan y seiliau dros apelio; ac

(c) cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru o fewn 28 o ddiwrnodau i ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad perthnasol.

(4) Ac eithrio fel y darperir fel arall gan y rheoliad hwn, caiff Gweinidogion Cymru ddyfarnu'r weithdrefn (a allai gynnwys darpariaeth ar gyfer ymweliadau â'r safle) ar gyfer penderfynu'r apêl.

(5) Caiff apelau o dan y rheoliad hwn gael eu cynnal drwy sylwadau ysgrifenedig neu drwy wrandawiad.

(6) Wrth ddyfarnu ar yr apêl—

(a) caiff Gweinidogion Cymru gadarnhau, amrywio neu ddirymu'r hysbysiad perthnasol, a

(b) rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r ceisydd o'r rhesymau dros eu penderfyniad.

(7) Pan fo apêl yn cael ei dwyn yn erbyn hysbysiad stop (oni fydd yr hysbysiad wedi'i dynnu'n ôl gan Weinidogion Cymru) mae'r holl ofynion sydd wedi'u cynnwys ynddo yn cael effaith hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru yn dirymu'r hysbysiad neu'n amrywio'r gofynion.

(8) Os bydd Gweinidogion Cymru yn amrywio gofynion hysbysiad sgrinio neu hysbysiad stop, bydd yr amrywiadau yn cael effaith o'r dyddiad hysbysu o dan baragraff (6)(b).

(9) Pan fo apêl yn cael ei dwyn yn erbyn hysbysiad adfer, ni fydd unrhyw effaith i'r hysbysiad hyd nes y caiff ei gadarnhau neu ei amrywio ar apêl neu hyd nes y tynnir yr apêl yn ôl.

(10) Caiff Gweinidogion Cymru benodi person i arfer ar eu rhan, gyda thaliad neu hebddo, eu swyddogaeth o ddyfarnu'r apêl neu unrhyw fater sy'n rhan o'r apêl a bydd Atodlen 5 yn cael effaith mewn perthynas â phenodiad o'r fath.

Apelau yn erbyn penderfyniadau sgrinio a phenderfyniadau cydsynio

31.—(1) Caiff y personau a bennir ym mharagraff (2) apelio i Weinidogion Cymru o dan y rheoliad hwn yn erbyn penderfyniad, cydsyniad neu hysbysiad (yn ôl y digwydd) (“penderfyniad perthnasol”).

(2) Y personau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) yw—

(a) person sydd wedi gwneud cais am benderfyniad sgrinio mewn cysylltiad â phrosiect y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu ei fod yn brosiect sylweddol, neu y bernir eu bod wedi penderfynu felly, o dan reoliad 7;

(b) person sydd wedi gwneud cais am gydsyniad ar gyfer prosiect sylweddol y cafodd cydsyniad mewn cysylltiad ag ef ei wrthod neu ei roi yn ddarostyngedig i amodau, ac eithrio'r rhai a bennir yn rheoliad 17(2); ac

(c) person a hysbyswyd o benderfyniad o dan baragraff 3 o Atodlen 4.

(3) Rhaid dwyn apêl yn erbyn penderfyniad perthnasol o fewn 3 mis i'r dyddiad yr hysbyswyd y person o'r penderfyniad perthnasol.

(4) Rhaid i hysbysiad o apêl—

(a) disgrifio'r penderfyniad perthnasol;

(b) nodi'r seiliau dros apelio; ac

(c) datgan a hoffai'r apelydd i'r apêl fod ar ffurf gwrandawiad neu ymchwiliad lleol neu i gael ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig.

(5) Rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno copïau o'r hysbysiad i'r partïon sydd â buddiant cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael yr wybodaeth honno.

(6) Caiff person y cyflwynir iddo gopi o'r hysbysiad o dan baragraff (5) gyflwyno sylwadau mewn cysylltiad â'r apêl cyhyd â'i fod yn hysbysu Gweinidogion Cymru o'i ddymuniad i wneud hynny o fewn 21 o ddiwrnodau i'r dyddiad y mae'n cael copi o'r hysbysiad.

(7) Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu—

(a) a ddylai'r apêl fod ar ffurf gwrandawiad neu ymchwiliad lleol; neu

(b) a ddylid cynnal yr apêl drwy sylwadau ysgrifenedig,

a rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r cyfranogwyr yn yr apêl o'u penderfyniad.

(8) Wrth ddyfarnu'r apêl, caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu neu wrthod yr apêl, neu wrth-droi unrhyw ran o'r penderfyniad perthnasol, a chânt ystyried yr apêl fel petaent yn ystyried y penderfyniad am y tro cyntaf.

(9) Caiff Gweinidogion Cymru benodi person i arfer ar eu rhan, gyda thaliad neu hebddo, eu swyddogaeth o ddyfarnu apêl neu unrhyw fater sy'n rhan o'r apêl, a bydd Atodlen 5 yn cael effaith mewn perthynas â phenodiad o'r fath.

(10) Mae is-adrannau (2) i (5) o adran 250 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(28) (ymchwiliadau lleol, tystiolaeth a chostau) yn gymwys mewn perthynas â gwrandawiadau neu ymchwiliadau lleol sy'n cael eu cynnal yn unol â rheoliad 33 yn yr un modd ag y maent yn gymwys i ymchwiliadau lleol o dan yr adran honno, ond fel petai'r cyfeiriadau at “the Minister” yn gyfeiriadau at Weinidogion Cymru a chan hepgor y cyfeiriadau at “local authority”.

(11) Mae adran 322A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(29) (gorchmynion ynghylch costau pan nad oes unrhyw wrandawiad neu ymchwiliad yn cael ei gynnal) yn gymwys mewn perthynas â gwrandawiad neu ymchwiliad lleol o dan reoliad 33 yn yr un modd ag y mae'n gymwys i wrandawiad neu ymchwiliad lleol y cyfeirir ato yn yr adran honno.

(12) Ac eithrio fel y darperir fel arall gan y rheoliad hwn neu gan reoliad 32 neu 33, rhaid i Weinidogion Cymru ddyfarnu'r weithdrefn (a all gynnwys darpariaethau ar gyfer ymweliadau â'r safle) ar gyfer penderfynu'r apêl.

(13) Rhaid i'r nifer o gopïau a bennir gan Weinidogion Cymru fynd gydag unrhyw sylwadau, datganiad neu ddogfennau eraill sydd i'w cyflwyno i Weinidogion Cymru o dan reoliad 32 neu 33.

(14) Yn y rheoliad hwn, ystyr “penderfyniad perthnasol” (“relevant decision”) yw —

(a) penderfyniad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (2)(a);

(b) penderfyniad i wrthod cydsyniad neu i roi cydsyniad yn ddarostyngedig i'r amodau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2)(b);

(c) hysbysiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (2)(c).

Dyfarnu apelau drwy sylwadau ysgrifenedig

32.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo apêl i'w dyfarnu drwy sylwadau ysgrifenedig.

(2) O fewn chwe wythnos i gael hysbysiad bod yr apêl i'w dyfarnu felly, rhaid i'r apelydd—

(a) cyflwyno i Weinidogion Cymru unrhyw sylwadau (neu unrhyw sylwadau pellach) y mae'n dymuno dibynnu arnynt yn yr apêl; neu

(b) hysbysu Gweinidogion Cymru eu bod yn dymuno dibynnu ar yr wybodaeth a ddarparwyd eisoes yn unig.

(3) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cael yr wybodaeth neu'r hysbysiad ym mharagraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru—

(a) anfon copïau o unrhyw sylwadau (neu unrhyw sylwadau pellach) at y cyfranogwyr eraill yn yr apêl; a

(b) hysbysu'r cyfranogwyr eraill yn yr apêl o unrhyw hysbysiad gan yr apelydd nad yw'n dymuno dibynnu ar unrhyw sylwadau pellach.

(4) Rhaid i unrhyw un o'r cyfranogwyr yn yr apêl sy'n dymuno cyflwyno sylwadau wneud hynny o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y caiff ei hysbysu o'r wybodaeth neu'r awgrym o dan baragraff (3).

(5) Os bydd Gweinidogion Cymru yn cael unrhyw sylwadau o dan baragraff (4), rhaid iddynt anfon copïau o'r sylwadau hynny at y cyfranogwyr eraill yn yr apêl.

(6) Rhaid i Weinidogion Cymru ganiatáu i'r cyfranogwyr yn yr apêl gyfnod o 14 o ddiwrnodau o leiaf i ymateb i unrhyw sylwadau a gyflwynwyd o dan baragraffau (2) neu (4).

(7) Ar ôl i'r cyfnod a ganiateir ym mharagraff (4) ddirwyn i ben, rhaid i Weinidogion Cymru, neu'r person a benodwyd i ddyfarnu'r apêl, ei dyfarnu a hysbysu'r cyfranogwyr yn yr apêl o'r penderfyniad.

Dyfarnu apelau drwy wrandawiad neu ymchwiliad lleol

33.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo apêl i'w dyfarnu drwy wrandawiad neu drwy ymchwiliad lleol.

(2) O fewn 6 wythnos i gael hysbysiad bod yr apêl i'w dyfarnu felly, rhaid i'r apelydd gyflwyno i Weinidogion Cymru ddatganiad sy'n cynnwys manylion llawn ei achos a chopïau o unrhyw ddogfennau y mae'n dymuno dibynnu arnynt yn y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol.

(3) Ar ôl cael y datganiadau a'r dogfennau ym mharagraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru anfon copïau ohonynt at y cyfranogwyr eraill yn yr apêl.

(4) Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a) rhoi i'r cyfranogwyr yn yr apêl 6 wythnos o rybudd am y dyddiad, yr amser a'r lle a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol ac enw'r person a benodwyd i gynnal y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol (neu, fel y bo'n gymwys, i ddyfarnu'r apêl); a

(b) rhoi unrhyw hysbysiad y gwelant yn dda, i roi gwybod i'r cyhoedd, nad yw'n llai nag 21 o ddiwrnodau cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol.

(5) Caiff Gweinidogion Cymru amrywio'r amser neu'r lleoliad ar gyfer y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol a rhaid iddynt roi unrhyw hysbysiad o'r amrywiad ag y gwelant yn dda.

(6) Os bydd parti sydd â buddiant yn dymuno cael ei glywed gerbron gwrandawiad neu ymchwiliad lleol rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad yr anfonwyd datganiadau'r apelydd ato o dan baragraff (3).

(7) Pan fo person wedi hysbysu Gweinidogion Cymru yn y modd hwn, caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol iddo gyflwyno datganiad yn cynnwys manylion ei achos a chopïau o unrhyw ddogfennau y mae'n dymuno cyfeirio atynt (ac eithrio dogfennau a gyflwynwyd gan yr apelydd o dan baragraff (2)).

(8) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copïau o unrhyw ddatganiadau a dogfennau sy'n dod i law o dan baragraff (7) at yr apelydd.

(9) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd wedi darparu datganiad iddynt o dan baragraff (2) neu (7) roi iddynt unrhyw wybodaeth bellach a bennir ganddynt mewn perthynas â'r datganiad, a rhaid iddynt anfon copi o'r wybodaeth bellach at bob un o'r cyfranogwyr eraill yn yr apêl.

(10) Cyn bod gwrandawiad neu ymchwiliad lleol yn cael ei gynnal, rhaid i Weinidogion Cymru drefnu bod yr holl ddogfennau a gyflwynwyd ar gael i'w gweld gan unrhyw berson sy'n gofyn am hynny.

(11) Mae hawlogaeth gan y cyfranogwyr yn yr apêl i gael eu clywed gerbron gwrandawiad neu ymchwiliad lleol.

(12) Rhaid i unrhyw gyfranogydd yn yr apêl sy'n bwriadu rhoi tystiolaeth yn yr ymchwiliad drwy ddarllen datganiad tyst anfon copi o'r datganiad tyst, a chrynodeb ysgrifenedig ohono, at Weinidogion Cymru heb fod yn llai na 3 wythnos cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer yr ymchwiliad, a rhaid i Weinidogion Cymru anfon copïau o'r datganiad tyst a'r crynodeb at y cyfranogwyr eraill yn yr apêl.

(13) Wedi i'r gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol ddod i ben, rhaid i'r person a benodwyd i gynnal y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol, oni bai ei fod wedi cael ei benodi i ddyfarnu ar yr apêl, gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru a rhaid i'r adroddiad hwnnw gynnwys—

(a) ei gasgliadau; a

(b) ei argymhellion neu ei resymau dros beidio â gwneud unrhyw argymhellion.

(14) Os yw'n fwriad gan Weinidogion Cymru i anghytuno â'r argymhelliad a wnaed yn yr adroddiad am eu bod—

(a) o farn wahanol i'r person sy'n gwneud yr adroddiad ynghylch unrhyw fater o ffaith a grybwyllwyd mewn casgliad y daethpwyd iddo gan y person hwnnw, neu y mae'n ymddangos iddynt ei fod yn berthnasol i'r casgliad hwnnw; neu

(b) yn cymryd i ystyriaeth dystiolaeth newydd neu fater o ffaith newydd,

rhaid iddynt beidio â dod i benderfyniad heb roi cyfle yn gyntaf i bawb a ymddangosodd gerbron y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol gyflwyno sylwadau o fewn amser rhesymol a bennir ganddynt.

(15) Rhaid i Weinidogion Cymru neu'r person a benodwyd i ddyfarnu ar yr apêl hysbysu'r cyfranogwyr yn yr apêl o'r penderfyniad a'r rhesymau drosto, ac anfon atynt gopi o'r adroddiad a wnaed o dan baragraff (13).

Cais i'r llys gan berson a dramgwyddir

34.—(1) Caiff person a dramgwyddir gan benderfyniad Gweinidogion Cymru nad yw prosiect yn brosiect sylweddol neu benderfyniad i roi cydsyniad ar gyfer prosiect o bwys wneud cais i'r Uchel Lys am orchymyn i ddileu'r penderfyniad.

(2) Caiff yr Uchel Lys ddileu'r penderfyniad os yw wedi'i fodloni—

(a) nad oedd y penderfyniad wedi'i wneud yn gyfreithlon; neu

(b) bod buddiannau'r person a wnaeth gais i'r llys wedi'u rhagfarnu'n sylweddol gan fethiant i gydymffurfio ag unrhyw un o ofynion eraill y Rheoliadau hyn.

(3) Rhaid i gais i'r Uchel Lys o dan y rheoliad hwn gael ei wneud o fewn 6 wythnos i ddyddiad cofnodi'r penderfyniad yn y gofrestr yn unol â rheoliad 7(4)(b) neu ei gyhoeddi'n unol â rheoliad 18(b).

(4) Caiff yr Uchel Lys drwy orchymyn interim, tra disgwylir am ddyfarniad ar gais o dan y rheoliad hwn, atal y penderfyniad rhag cael ei weithredu gan bennu unrhyw amodau y gwêl yn dda.

Dehongli'r Rhan hon

35.  Yn y Rhan hon—

ystyr “cyfranogwyr yn yr apêl” (“participants in the appeal”) yw—

(a)

yr apelydd;

(b)

y partïon sydd â buddiant;

(c)

yn achos gwrandawiad neu ymchwiliad lleol, unrhyw berson arall y caniateir iddo gymryd rhan gan y person a benodwyd i gynnal y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol.

ystyr “partïon sydd â buddiant” (“interested parties”) yw—

(a)

y cyrff ymgynghori y mae Gweinidogion Cymru yn credu eu bod yn briodol;

(b)

unrhyw berson a gyflwynodd sylwadau mewn cysylltiad â phenderfyniad perthnasol o fewn ystyr “penderfyniad perthnasol” yn rheoliad 31(14);

(c)

unrhyw Wladwriaeth AEE yr ymgynghorwyd â hi o dan reoliad 13(4);

(ch)

unrhyw awdurdod neu berson a anfonodd ei farn o dan reoliad 13(4)(b);

(d)

unrhyw berson arall y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru fod ganddo ddiddordeb penodol ym mhwnc yr apêl.

(28)

1972 p. 70. Back [28]

(29)

1990 p. 8. Mewnosodwyd adran 332A gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p. 34), adran 30(1). Back [29]