Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 4 Gorfodi

Tramgwydd cyflawni prosiect heb benderfyniad o dan y Rheoliadau hyn

21.—(1) Bydd unrhyw berson sy'n dechrau neu'n cyflawni prosiect tir heb ei drin neu brosiect ailstrwythuro —

(a) gan dorri rheoliad 4, neu

(b) gan dorri rheoliad 8,

yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(2) Mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y rheoliad hwn sy'n ymwneud â phrosiect tir heb ei drin, tybir bod unrhyw ddarn o dir y mae'r erlyniad yn honni ei fod yn dir heb ei drin yn dir heb ei drin oni ddygir tystiolaeth ddigonol i ddangos nad yw'n dir heb ei drin, ac os dygir tystiolaeth o'r fath, rhaid i'r erlyniad brofi y tu hwnt i amheuaeth resymol fod y tir yn dir heb ei drin.

Tramgwydd gwneud gwaith yn groes i amod

22.  Bydd unrhyw berson sy'n cyflawni unrhyw weithgaredd yn groes i unrhyw un o amodau'r cydsyniad a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Tramgwydd sicrhau penderfyniad drwy ddarparu gwybodaeth anwir

23.—(1) Bydd unrhyw berson sydd, er mwyn sicrhau penderfyniad penodol ar gais a wnaed o dan y Rheoliadau hyn—

(a) yn fwriadol neu'n ddi-hid yn gwneud datganiad sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys,

(b) gyda'r bwriad o dwyllo, yn defnyddio unrhyw ddogfen sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys, neu

(c) gyda'r bwriad o dwyllo, yn cadw unrhyw wybodaeth o bwys yn ôl,

yn euog o dramgwydd.

(2) Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1) yn agored—

(a) o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na'r uchafswm statudol; neu

(b) o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.

Hysbysiadau stop

24.—(1) Os yw person wedi dechrau prosiect tir heb ei drin neu brosiect ailstrwythuro —

(a) gan dorri rheoliad 4, neu

(b) gan dorri rheoliad 8,

caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad stop”) yn gwahardd ar unwaith y cyfan neu ran o'r gwaith.

(2) Caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad stop i unrhyw berson y mae'n ymddangos iddynt fod ganddo fuddiant yn y tir perthnasol neu ei fod yn cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd sy'n cael ei wahardd gan yr hysbysiad.

(3) Caiff Gweinidogion Cymru dynnu hysbysiad stop yn ei ôl ar unrhyw adeg (heb effeithio ar eu pwerau i gyflwyno un arall) drwy gyflwyno hysbysiad i'r perwyl hwnnw i'r personau y cyflwynwyd yr hysbysiad stop iddynt.

(4) Mae effaith hysbysiad stop yn peidio os bydd —

(a) hysbysiad yn ei dynnu'n ôl yn cael ei gyflwyno o dan baragraff (3); neu

(b) Gweinidogion Cymru, ar apêl, yn penderfynu nad yw'r gwaith gwaharddedig yn brosiect sylweddol; neu

(c) Gweinidogion Cymru yn rhoi cydsyniad ar gyfer y gwaith a waharddwyd.

Cosbau am fynd yn groes i hysbysiad stop

25.—(1) Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i hysbysiad stop a gyflwynwyd iddo yn euog o dramgwydd.

(2) Caniateir i gyhuddiad gael ei ddwyn am dramgwydd o dan y rheoliad hwn drwy gyfeirio at unrhyw ddiwrnod neu gyfnod amser hwy, a chaniateir i berson gael ei gollfarnu o ail dramgwydd neu dramgwydd dilynol o dan y rheoliad hwn drwy gyfeirio at unrhyw gyfnod amser yn dilyn y gollfarn flaenorol am dramgwydd o'r fath.

(3) Mae cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at fynd yn groes i hysbysiad stop yn golygu achosi neu ganiatáu hynny.

(4) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored—

(a) o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol; a

(b) o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.

Hysbysiadau adfer

26.—(1) Os yw person wedi cyflawni prosiect tir heb ei drin neu brosiect ailstrwythuro—

(a) gan dorri rheoliad 4, neu

(b) gan dorri rheoliad 8,

caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad adfer”) i'r person y mae'n ymddangos iddynt ei fod yn gyfrifol.

(2) Caiff hysbysiad adfer ei gwneud yn ofynnol i'r person—

(a) dychwelyd, er bodlonrwydd Gweinidogion Cymru, y tir perthnasol i'r cyflwr yr oedd ynddo cyn i'r prosiect gael ei gychwyn, neu

(b) cymryd unrhyw gamau eraill y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda i ddychwelyd y tir perthnasol i gyflwr amgylcheddol da neu i unrhyw safon y mae Gweinidogion Cymru yn dyfarnu ei bod yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.

(3) Rhaid dweud yn yr hysbysiad adfer beth yw'r cyfnod y mae'r gwaith adfer i'w wneud ynddo.

Y gosb am fynd yn groes i hysbysiad adfer

27.  Mae unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ofynion hysbysiad adfer yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod—

(a) i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol; a

(b) os yw'r methiant yn parhau ar ôl y gollfarn, i ddirwy bellach nad yw'n fwy na £100 am bob diwrnod y mae'r methiant yn parhau.

Y terfynau amser ar gyfer dwyn achos cyfreithiol

28.—(1) Caniateir i achos cyfreithiol am unrhyw dramgwydd o dan reoliadau 21 i 23, rheoliad 25 neu 27 gael ei ddwyn o fewn y cyfnod o chwe mis gan ddechrau ar y dyddiad y daeth tystiolaeth, a oedd yn ddigon ym marn yr erlynydd i gyfiawnhau'r achos cyfreithiol, yn hysbys iddo.

(2) Ni chaniateir i achos cyfreithiol am dramgwydd gael ei gychwyn fwy na dwy flynedd ar ôl y dyddiad y cyflawnwyd y tramgwydd.

(3) At ddibenion paragraff (2), mae tystysgrif a lofnodwyd gan neu ar ran yr erlynydd, ac sy'n datgan ar ba ddyddiad y daeth tystiolaeth a oedd yn ddigon yn ei farn ef i gyfiawnhau'r achos cyfreithiol yn hysbys iddo, yn dystiolaeth derfynol am y ffaith honno.

(4) Bernir bod tystysgrif sy'n datgan y mater hwnnw ac sy'n honni ei bod wedi'i llofnodi felly yn dystysgrif sydd wedi'i llofnodi felly oni phrofir y gwrthwyneb.

Pwerau mynediad a phwerau diofyn

29.—(1) Caiff unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru fynd ar unrhyw dir a'i arolygu, ar unrhyw adeg resymol, er mwyn—

(a) canfod a yw rheoliad 4 neu 8 wedi'i dorri;

(b) canfod a oes tramgwydd o dan reoliad 21 i 23, 25 neu 27 wedi'i gyflawni ar y tir hwnnw neu mewn cysylltiad ag ef;

(c) cyflwyno hysbysiad sgrinio, hysbysiad stop neu hysbysiad adfer mewn cysylltiad â'r tir hwnnw; neu

(ch) arfer unrhyw swyddogaeth o dan Atodlen 4.

(2) Caiff unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru ac y mae ganddo sail resymol dros amau bod person wedi cyflawni tramgwydd o dan reoliad 23, fynd i mewn i unrhyw fangre (ond nid mangre a ddefnyddir fel annedd yn unig) sydd, neu y mae gan y person le i gredu ei bod, wedi'i meddiannu gan, neu ym meddiant, y person y credir ei fod yn gyfrifol am gyflawni'r tramgwydd, a chaiff arolygu unrhyw gofnodion y mae ganddo le rhesymol i gredu eu bod yn berthnasol i'r tramgwydd a amheuir a chymryd copïau ohonynt.

(3) Os nad oes unrhyw fesurau sy'n ofynnol gan hysbysiad adfer neu gan hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff 5 o Atodlen 4 wedi'u cymryd o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad—

(a) caiff unrhyw berson a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru fynd, ar adeg resymol, ar y tir y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef a chymryd y mesurau hynny, a

(b) adennill oddi wrth y person sy'n gyfrifol am y diffyg y treuliau a dynnwyd yn rhesymol gan y person a awdurdodwyd felly wrth iddo wneud hynny.

(4) Caiff person a awdurdodwyd o dan baragraff (1) i fynd ar unrhyw dir neu fangre gymryd oddi yno—

(a) samplau o'r pridd;

(b) sbesimenau planhigion; neu

(c) samplau a gymerwyd o sbesimenau planhigion,

er mwyn canfod a gyflawnwyd tramgwydd ar y tir hwnnw neu mewn cysylltiad ag ef.

(5) Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i berson a awdurdodwyd o dan baragraff (1), (2) neu (3) i fynd ar unrhyw dir neu fangre ddangos tystiolaeth am ei awdurdod i fynd ar y tir neu'r fangre.

(6) Caiff person a awdurdodwyd o dan baragraff (1), (2) neu (3) i fynd ar unrhyw dir neu fangre ddod ag unrhyw bersonau eraill neu unrhyw gyfarpar gydag ef sy'n angenrheidiol yn ei farn ef.

(7) Rhaid i unrhyw berson sy'n meddiannu tir neu fangre y mae person a awdurdodwyd o dan baragraff (1), (2) neu (3) wedi mynd arno neu arni, neu y mae'r tir hwnnw neu'r fangre honno yn ei feddiant, roi i'r person a awdurdodwyd felly unrhyw gymorth y gall y person hwnnw ofyn yn rhesymol amdano er mwyn ei alluogi i arfer unrhyw bwer a roddwyd iddo gan y rheoliad hwn.

(8) Bydd person sy'n fwriadol yn rhwystro neu'n atal unrhyw berson sy'n gweithredu drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan y rheoliad hwn neu sydd heb esgus rhesymol yn methu â chydymffurfio ag archiad a wnaed o dan baragraff (7) yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.