8. Rhaid i berson beidio â dechrau na chyflawni prosiect sylweddol onid yw wedi cael cydsyniad Gweinidogion Cymru yn gyntaf.
9.—(1) Ar ôl cael penderfyniad sgrinio bod prosiect yn brosiect sylweddol, caiff y ceisydd, cyn gwneud cais am gydsyniad, ofyn i Weinidogion Cymru roi eu barn ar ba wybodaeth y dylid ei darparu yn y datganiad amgylcheddol (“barn gwmpasu”).
(2) Os bydd y ceisydd yn gofyn am farn gwmpasu, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r ceisydd ac unrhyw rai o'r cyrff ymgynghori y gwelant yn dda, cyn rhoi eu barn.
(3) Os yw Gweinidogion Cymru yn credu nad oes ganddynt ddigon o wybodaeth i roi barn gwmpasu, cânt ofyn i'r ceisydd ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae arnynt ei hangen o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y bydd Gweinidogion Cymru yn cael yr archiad am y farn gwmpasu.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru roi'r farn gwmpasu i'r ceisydd o fewn 5 wythnos
(a) i'r dyddiad y daeth yr archiad am farn gwmpasu i'w llaw; neu
(b) pan fo'n gymwys, o'r dyddiad y daeth yr wybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani o dan baragraff (3) i'w llaw.
10.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys—
(a) os ymgynghorir â chorff ymgynghori gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 9(2); neu
(b) os bydd corff ymgynghori yn cael archiad am wybodaeth oddi wrth berson sy'n bwriadu gwneud cais am gydsyniad.
(2) Pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i'r corff ymgynghori—
(a) dyfarnu a oes yn ei feddiant unrhyw wybodaeth y mae'n credu ei bod yn berthnasol i'r broses o baratoi datganiad amgylcheddol; a
(b) yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), trefnu bod yr wybodaeth honno ar gael i Weinidogion Cymru neu'r ceisydd (yn ôl y digwydd) o fewn 28 o ddiwrnodau i ddyddiad yr ymgynghoriad neu'r archiad.
(3) Caiff corff ymgynghori godi ffi resymol ar y ceisydd am yr wybodaeth a ddarparwyd gan y corff hwnnw o dan baragraff (2)(b), i adlewyrchu'r gost o drefnu bod yr wybodaeth berthnasol ar gael.
(4) Nid yw paragraff (2)(b) yn ei gwneud yn ofynnol i gorff ymgynghori ryddhau i'r ceisydd unrhyw wybodaeth—
(a) y caiff wrthod ei datgelu o dan reoliad 12(1) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004(27); neu
(b) y mae'n cael ei rwystro rhag ei datgelu gan reoliad 13(1) o'r Rheoliadau hynny.
(5) Os nad yw corff ymgynghori yn awdurdod cyhoeddus o fewn ystyr “public authority” yn rheoliad 2(2) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, bydd paragraff (4) yn gymwys fel petai'n awdurdod cyhoeddus o'r fath.
11.—(1) Rhaid i gais am gydsyniad gynnwys datganiad amgylcheddol a rhaid iddo gael ei wneud i Weinidogion Cymru.
(2) Rhaid i'r ceisydd am gydsyniad ddarparu i Weinidogion Cymru gymaint o gopïau o'r cais ag y mae arnynt angen rhesymol amdanynt.
(3) Ar ôl cael y cais am gydsyniad, rhaid i Weinidogion Cymru —
(a) anfon copi o'r cais at unrhyw rai o'r cyrff ymgynghori sy'n briodol yn eu barn hwy, a'u hysbysu y cânt gyflwyno sylwadau o fewn 6 wythnos i'r dyddiad y cawsant y cais; a
(b) er mwyn sicrhau bod aelodau'r cyhoedd y mae a wnelo'r cais â hwy yn cael cyfle i gyflwyno sylwadau cyn y dyfernir y cais, cyhoeddi mewn papur newydd sy'n cylchredeg ym mro'r tir perthnasol ac ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru hysbysiad—
(i) yn datgan bod y cais wedi'i wneud;
(ii) yn nodi cyfeiriad lle gellir archwilio'r cais yn rhad ac am ddim, a lle caniateir i gopïau o'r cais gael eu gwneud (y caniateir i ffi resymol gael ei chodi amdanynt), ar bob adeg resymol o fewn 6 wythnos i ddyddiad cyhoeddi'r hysbysiad;
(iii) yn datgan y caiff sylwadau ar effeithiau amgylcheddol tebygol y prosiect eu cyflwyno mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru yn y cyfeiriad a bennir o dan baragraff (ii) o fewn 6 wythnos i'r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad;
(iv) yn datgan, os bydd cydsyniad yn cael ei roi, y bydd yn ddarostyngedig i'r amodau yn rheoliad 17(2), ac i unrhyw amodau eraill y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda;
(v) yn datgan, os yw'n berthnasol, ba un o Wladwriaethau eraill yr AEE, yr awdurdodau y cyfeirir atynt yn erthygl 6(1) o'r Gyfarwyddeb AEA a'r cyhoedd o dan sylw yn y Wladwriaeth AEE honno, yr ymgynghorir â hwy ynglyn â'r cais.
12.—(1) Os bydd Gweinidogion Cymru ar ôl cydymffurfio â rheoliad 11(3) yn penderfynu y dylai datganiad, a gynhwyswyd gyda chais am gydsyniad, sy'n honni ei fod yn ddatganiad amgylcheddol gynnwys gwybodaeth ychwanegol er mwyn bod yn ddatganiad amgylcheddol, rhaid iddynt hysbysu'r ceisydd o'r wybodaeth y mae ei hangen (ac o nifer y copïau), a rhaid i'r ceisydd ddarparu'r wybodaeth honno i Weinidogion Cymru.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) anfon copi o'r wybodaeth amgylcheddol ychwanegol at unrhyw rai o'r cyrff ymgynghori y gwelant yn dda, a
(b) rhoi gwybod iddynt y cânt gyflwyno sylwadau iddynt o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y daw copi i'w llaw.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi mewn papur newydd sy'n cael ei gylchredeg ym mro'r tir perthnasol ac ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru hysbysiad—
(a) yn cyfeirio at y cais y mae'r wybodaeth ychwanegol yn ymwneud ag ef a'r dyddiad y gwnaed y cais;
(b) yn datgan bod yr wybodaeth amgylcheddol ychwanegol wedi dod i law;
(c) yn pennu cyfeiriad lle gellir archwilio copïau o'r wybodaeth amgylcheddol ychwanegol yn rhad ac am ddim, a lle caniateir i gopïau o'r cais gael eu gwneud (ac y caniateir i ffi resymol gael ei chodi amdanynt) ar bob adeg resymol o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad; ac
(ch) yn datgan y caniateir i sylwadau parthed yr wybodaeth amgylcheddol ychwanegol gael eu cyflwyno mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru yn y cyfeiriad ym mharagraff (c) o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad.
13.—(1) Cyn gynted â phosibl ar ôl cael cais am gydsyniad ar gyfer prosiect sylweddol, rhaid i Weinidogion Cymru bwyso a mesur a fyddai'r prosiect hwnnw yn debyg o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth AEE arall.
(2) Os yw Gweinidogion Cymru o'r farn bod effeithiau o'r fath yn debygol, neu os yw Gwladwriaeth AEE y mae'r prosiect yn debyg o gael effeithiau sylweddol arni yn gofyn am hynny, rhaid i Weinidogion Cymru anfon at y Wladwriaeth AEE honno—
(a) manylion am natur a lleoliad y prosiect sylweddol;
(b) unrhyw wybodaeth sydd gan Weinidogion Cymru am yr effaith y mae'n debyg o gael ar y Wladwriaeth AEE honno;
(c) mynegiad ynghylch a yw Gweinidogion Cymru o blaid rhoi cydsyniad ar gyfer y prosiect, a natur unrhyw gydsyniad a allai gael ei roi; ac
(ch) archiad bod y Wladwriaeth yn rhoi mynegiad o fewn amser rhesymol a yw'n dymuno cymryd rhan yn y weithdrefn o dan y Rheoliadau hyn.
(3) Os yw'r Wladwriaeth AEE yn mynegi ei bod yn dymuno cymryd yn yr weithdrefn o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) anfon copi ati o'r cais am gydsyniad, o'r datganiad amgylcheddol ac o unrhyw wybodaeth bellach y maent yn credu ei bod yn berthnasol i'r cais; a
(b) rhoi'r wybodaeth iddi am y weithdrefn o dan y Rheoliadau hyn.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol hefyd—
(a) trefnu bod y manylion a'r wybodaeth ym mharagraffau (2) a (3) ar gael, o fewn cyfnod amser rhesymol, i'r awdurdodau y cyfeirir atynt yn Erthygl 6(1) o'r Gyfarwyddeb AEA a'r cyhoedd o dan sylw yn nhiriogaeth y Wladwriaeth AEE; a
(b) sicrhau bod yr awdurdodau hynny a'r cyhoedd o dan sylw yn cael cyfle i anfon at Weinidogion Cymru, o fewn cyfnod amser rhesymol, eu barn ar yr wybodaeth a roddwyd, cyn y rhoddir cydsyniad ar gyfer y prosiect.
(5) Yn unol ag Erthygl 7(4) o'r Gyfarwyddeb AEA, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) dechrau ymgynghori â'r Wladwriaeth AEE o dan sylw ynghylch, ymhlith pethau eraill, effeithiau sylweddol posibl y prosiect ar amgylchedd y Wladwriaeth honno a'r mesurau y rhagwelir y bydd angen eu cymryd i leihau neu ddileu'r effeithiau hynny; a
(b) ceisio cytuno â'r Wladwriaeth AEE ar gyfnod amser rhesymol ar gyfer yr ymgynghori hwnnw, y mae'n rhaid iddo gynnwys amser i ystyried unrhyw farnau sy'n dod i law o dan baragraff (4)(b).
14.—(1) Os yw Gweinidogion Cymru yn cael oddi wrth Wladwriaeth AEE arall wybodaeth a ryddhawyd o dan Erthygl 7(1) a 7(2) o'r Gyfarwyddeb AEA (sy'n ymwneud â gwybodaeth ynghylch prosiect mewn un Wladwriaeth AEE sy'n debyg o gael effeithiau sylweddol ar amgylchedd Gwladwriaeth AEE arall) mewn perthynas â phrosiect sylweddol yn y Wladwriaeth AEE honno, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) trefnu i'r wybodaeth honno gael ei rhyddhau, o fewn cyfnod amser rhesymol, i'r cyrff ymgynghori ac unrhyw aelodau o'r cyhoedd y mae a wnelo'r prosiect, ym marn Gweinidogion Cymru, â hwy yn ôl pob tebyg;
(b) sicrhau bod y cyrff ymgynghori a'r aelodau o'r cyhoedd y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (a) yn cael cyfle i anfon eu barn hwy ar yr wybodaeth a ddarparwyd i'r awdurdod cymwys yn y Wladwriaeth AEE yn ystod unrhyw gyfnod y cytunir arno o dan baragraff (2).
(2) Yn unol ag Erthygl 7(4) o'r Gyfarwyddeb AEA, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol hefyd—
(a) dechrau ymgynghori â'r Wladwriaeth AEE o dan sylw ynghylch, ymhlith pethau eraill, effeithiau sylweddol posibl y prosiect ar yr amgylchedd yng Nghymru a'r mesurau y rhagwelir y bydd angen eu cymryd i leihau neu ddileu'r effeithiau hynny; a
(b) ceisio cytuno gyda'r Wladwriaeth AEE, cyn bod cydsyniad yn cael ei roi ar gyfer y prosiect, ar gyfnod rhesymol pryd y gellir anfon unrhyw farnau a geir o dan baragraff 1(b) ymlaen at y Wladwriaeth AEE honno.
(3) Os yw Gwladwriaeth AEE arall wedi gwneud penderfyniad i roi neu i wrthod cydsyniad a'i bod wedi hysbysu Gweinidogion Cymru o'r penderfyniad hwnnw yn unol ag Erthygl 9(2) o'r Gyfarwyddeb AEA, rhaid i Weinidogion Cymru gymryd y camau y maent yn ystyried eu bod yn briodol i ddwyn at sylw'r cyhoedd unrhyw wybodaeth a gafwyd gan y Wladwriaeth AEE honno mewn perthynas â'r penderfyniad hwnnw.
15.—(1) Wrth benderfynu a ddylid rhoi cydsyniad ar gyfer prosiect sylweddol, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried—
(a) y datganiad amgylcheddol;
(b) unrhyw wybodaeth amgylcheddol ychwanegol;
(c) unrhyw sylwadau a gânt o dan—
(i) rheoliad 11(3)(a);
(ii) rheoliad 12(2)(b) a (3)(ch); a
(iii) rheoliad 13(4)(b) ac
(ch) unrhyw effeithiau cymdeithasol neu economaidd a allai fod yn ganlyniad i benderfyniad i wrthod cydsyniad ar gyfer y prosiect.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â dod i benderfyniad o dan baragraff (1) tan y diweddaraf o'r canlynol—
(a) y dyddiad y daw'r cyfnod yn yr hysbysiad o dan reoliad 11(3)(b)(iii) i ben;
(b) y dyddiad y daw i ben y cyfnod o 28 niwrnod ar ôl—
(i) y dyddiad yr anfonwyd unrhyw wybodaeth amgylcheddol ychwanegol at yr cyrff ymgynghori; a
(ii) y dyddiad y cyhoeddwyd yr wybodaeth amgylcheddol ychwanegol o dan reoliad 12(3); ac
(c) y dyddiad y daw unrhyw gyfnod y cytunir arno gyda Gwladwriaeth AEE arall o dan reoliad 13(5)(b) i ben,
p'un bynnag yw'r dyddiad olaf.
16.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â rhoi cydsyniad ar gyfer prosiect a fyddai'n golygu gwneud unrhyw beth a fyddai'n anghyfreithlon o dan reoliadau 39, 41 neu 43 o'r Rheoliadau Cynefinoedd (ond nid yw hynny'n cynnwys unrhyw beth y cafodd trwydded ei rhoi ar ei gyfer o dan reoliad 44 o'r Rheoliadau hynny).
(2) Bydd paragraffau (3) a (6) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu a ddylent roi cydsyniad ar gyfer prosiect sy'n debyg o gael effaith sylweddol ar safle Ewropeaidd (naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â phrosiectau eraill) (prosiect y cyfeirir ato yn y paragraffau hynny fel “y prosiect”).
(3) Oni fydd paragraff (4) yn gymwys, dim ond os yw Gweinidogion Cymru wedi pwyso a mesur goblygiadau'r prosiect ar gyfer y safle Ewropeaidd (gan gynnwys asesiad priodol o'r goblygiadau gyda golwg ar amcanion cadwraeth y safle hwnnw) a'u bod wedi'u bodloni na fydd y prosiect yn effeithio'n andwyol ar gyfanrwydd y safle y cânt roi cydsyniad ar gyfer y prosiect.
(4) Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod rhaid i'r prosiect gael ei gyflawni am resymau hanfodol, sef bod hyn er budd cyhoeddus tra phwysig (a all, yn ddarostyngedig i baragraff (5) isod, fod o natur cymdeithasol neu economaidd) ac nad oes unrhyw ateb arall, cânt roi cydsyniad ar gyfer y prosiect er gwaethaf y ffaith bod yr asesiad o'i oblygiadau i safle Ewropeaidd yn negyddol.
(5) Pan fo'r safle Ewropeaidd yn lletya math o gynefin naturiol â blaenoriaeth neu rywogaeth â blaenoriaeth, rhaid i'r rhesymau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4) fod naill ai—
(a) yn rhesymau sy'n ymwneud ag iechyd dynol, diogelwch cyhoeddus neu ganlyniadau buddiol o'r pwys mwyaf i'r amgylchedd, neu
(b) yn rhesymau eraill sydd ym marn y Comisiwn Ewropeaidd yn achos y safle o dan sylw yn rhesymau hanfodol, sef bod hyn er budd cyhoeddus tra phwysig.
(6) Os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu rhoi cydsyniad ar gyfer y prosiect yn unol â pharagraff (4), rhaid iddynt sicrhau bod unrhyw fesurau iawndal angenrheidiol yn cael eu cymryd i sicrhau bod cydlyniad cyffredinol Natura 2000 (o fewn ystyr rheoliad 2(1) o'r Rheoliadau Cynefinoedd) yn cael ei ddiogelu.
17.—(1) Mae unrhyw gydsyniad a roddir o dan reoliad 15 i fod yn ddarostyngedig i—
(a) yr amodau ym mharagraff (2); a
(b) unrhyw amodau eraill y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda.
(2) Yr amodau sy'n ofynnol o dan baragraff (1)(a) yw—
(a) bod y cydsyniad yn mynd yn ddi-rym os na fydd y prosiect wedi'i gychwyn (drwy gyflawni gweithred o bwys) o fewn blwyddyn i'r dyddiad y cafodd ei roi;
(b) bod y cydsyniad yn dirwyn i ben os na fydd y prosiect wedi'i gwblhau o fewn 3 blynedd i'r dyddiad y cafodd ei roi; ac
(c) mai dim ond y prosiect a ddisgrifir yn y cais am gydsyniad, yn ddarostyngedig i unrhyw ddiwygiadau a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (4) y bydd y cydsyniad yn ei awdurdodi.
(3) Ar ôl i gydsyniad ddirwyn i ben yn unol â pharagraff (2)(b), caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i gais pellach am gydsyniad yn unol â pharagraff (5) gael ei wneud mewn cysylltiad ag unrhyw weithrediadau pellach neu ddefnyddiau pellach sy'n rhan o'r prosiect.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo unrhyw ddiwygiadau pan fo ceisydd yn gofyn amdanynt, ond bydd yn ofynnol gwneud cais pellach am gydsyniad yn unol â pharagraff (5) i wneud unrhyw newid o bwys i'r gweithrediadau awdurdodedig neu'r dulliau defnyddio awdurdodedig.
(5) Caniateir i geisiadau pellach am gydsyniad o dan baragraffau (3) a (4) fod yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad yn y Rheoliadau hyn sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.
(6) Yn y rheoliad hwn, mae prosiect “wedi'i gwblhau” (“completed”) os yw'r holl waith a ganiateir o dan y cydsyniad wedi'i gyflawni a bod yr holl newidiadau yn y defnydd ar y tir perthnasol, neu yn lefel y defnydd hwnnw, wedi'u rhoi ar waith.
18. Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud penderfyniad cydsynio mewn cysylltiad â phrosiect rhaid iddynt—
(a) hysbysu'r ceisydd, unrhyw gyrff ymgynghori yr anfonwyd copïau o'r cais am gydsyniad atynt o dan reoliad 11(3)(a), unrhyw Wladwriaeth AEE yr ymgynghorodd Gweinidogion Cymru â hi o dan reoliad 13(2) ac unrhyw awdurdod neu berson a anfonodd ymlaen ei farn o dan reoliad 13(5)(b) ar—
(i) eu penderfyniad;
(ii) y rhesymau a'r ystyriaethau llawn y seiliwyd y penderfyniad arnynt; a
(iii) unrhyw sylwadau a gyflwynwyd gan y cyhoedd sy'n gysylltiedig â'r cais;
(b) hysbysu'r cyhoedd o'u penderfyniad drwy gyhoeddi hysbysiad mewn papur newydd yn y fro y mae'r tir perthnasol wedi'i leoli ynddi neu drwy unrhyw ddulliau eraill y maent yn credu eu bod yn rhesymol o dan yr amgylchiadau; ac
(c) rhyddhau i'r cyhoedd ei archwilio ddatganiad sy'n cynnwys—
(i) yr hyn sydd yn y penderfyniad;
(ii) y rhesymau ac ystyriaethau llawn y mae'r penderfyniad wedi'i seilio arnynt;
(iii) disgrifiad, pan fo hynny'n berthnasol, o'r prif fesurau y mae angen eu cymryd er mwyn osgoi, lleihau neu wrthbwyso prif effeithiau andwyol y prosiect;
(iv) crynodeb o unrhyw sylwadau a gyflwynwyd gan y cyhoedd sy'n gysylltiedig â'r cais; a
(v) gwybodaeth am yr hawl i herio'r penderfyniad a'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny.
19.—(1) Yn achos prosiect trawsffiniol lle mae'r rhan fwyaf o'r tir perthnasol wedi'i leoli yng Nghymru, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Ysgrifennydd Gwladol cyn—
(a) gwneud penderfyniad sgrinio o dan reoliad 7;
(b) rhoi barn gwmpasu o dan reoliad 9; neu
(c) rhoi neu wrthod cydsyniad o dan reoliad 15.
(2) Ac eithrio pan ddeuir i gytundeb i'r gwrthwyneb o dan baragraff (4), yn achos prosiect trawsffiniol lle bo'r rhan fwyaf o'r tir wedi'i leoli yn Lloegr, yr unig Reoliadau y bydd y prosiect hwnnw'n ddarostyngedig iddynt yw'r Rheoliadau cyfatebol sy'n gymwys i'r prosiect yn Lloegr.
(3) Yn achos cais mewn cysylltiad â phrosiect trawsffiniol y byddai'r Rheoliadau hyn fel arall yn gymwys iddynt, os bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gofyn am hynny, caiff Gweinidogion Cymru gytuno i'r cais fod yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau cyfatebol, sy'n gymwys i'r prosiect yn Lloegr, yn unig.
(4) Os bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn am hynny, a bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cytuno, bydd prosiect trawsffiniol y byddai paragraff (2) yn gymwys iddo fel arall yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn yn unig.
20. Mae Atodlen 4 yn gymwys os, ar ôl dyddiad—
(a) penderfyniad nad yw prosiect yn brosiect sylweddol, neu
(b) penderfyniad i roi cydsyniad ar gyfer prosiect,
daw safle yn safle Ewropeaidd a bod Gweinidogion Cymru yn credu y byddai cyflawni neu gwblhau (o fewn ystyr “wedi'i gwblhau” yn rheoliad 17(6)) y prosiect yn debyg o gael effaith sylweddol ar y safle hwnnw ac na fyddai'n uniongyrchol gysylltiedig â rheoli'r safle nac yn angenrheidiol i'w reoli.
O.S. 2004/3391. Back [27]