Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 2 Sgrinio

Y gofyniad am benderfyniad sgrinio

4.—(1) Rhaid i berson beidio â dechrau na chyflawni prosiect tir heb ei drin oni fydd yn gyntaf wedi cael penderfyniad sgrinio sy'n caniatáu i'r prosiect fynd yn ei flaen.

(2) Rhaid i berson beidio â dechrau cyflawni prosiect ailstrwythuro y mae ei faint yn hafal i'r trothwy sy'n gymwys neu'n uwch na hynny (trothwy a gyfrifir yn unol â rheoliad 5) oni fydd yn gyntaf wedi cael penderfyniad sgrinio sy'n caniatáu i'r prosiect fynd yn ei flaen.

Trothwyon

5.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn darparu ar gyfer dyfarnu a yw maint prosiect ailstrwythuro yn hafal i'r trothwy sy'n gymwys neu'n uwch na hynny.

(2) Mae'r trothwy ar gyfer y math o brosiect ailstrwythuro a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 1 wedi'i nodi yng ngholofn 2 neu 3.

(3) Mae paragraffau (4) a (5) yn gymwys pan fo prosiect ailstrwythuro yn cynnwys dim ond un o'r mathau o brosiect ailstrwythuro a bennir yng ngholofn 1.

(4) Pan fo prosiect ailstrwythuro i'w gyflawni'n gyfan gwbl y tu allan i ardal sensitif, y trothwy a bennir yng ngholofn 2 yw'r trothwy sy'n gymwys i'r prosiect hwnnw.

(5) Pan fo prosiect ailstrwythuro i'w gyflawni, neu pan fo unrhyw ran ohono i'w chyflawni, mewn ardal sensitif, y trothwy a bennir ar gyfer y math hwnnw o brosiect ailstrwythuro yng ngholofn 3 yw'r trothwy sy'n gymwys iddo.

(6) Pan fo prosiect ailstrwythuro wedi'i ffurfio o fwy nag un o'r mathau o brosiect ailstrwythuro a bennir yng ngholofn 1—

(a) rhaid i bob rhan berthnasol o'r prosiect ailstrwythuro gael ei asesu er mwyn dyfarnu'r trothwy sy'n gymwys i'r rhan honno, a

(b) os yw unrhyw ran berthnasol o'r prosiect ailstrwythuro yn hafal i'r trothwy sy'n gymwys i'r rhan honno neu'n uwch nag ef, yna mae'r prosiect ailstrwythuro cyfan i'w drin fel un y mae ei faint yn hafal i'r trothwy sy'n gymwys iddo neu'n uwch na'r trothwy hwnnw.

(7) Yn y rheoliad hwn, ystyr “ardal sensitif” (“sensitive area”) yw—

(a) tir yr hysbyswyd o dan adrannau 3(1) neu 5(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(19) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(20) ei fod yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.

(b) eiddo sy'n ymddangos ar Restr Treftadaeth y Byd a gedwir o dan erthygl 11(2) o Gonfensiwn 1972 UNESCO er diogelu Treftadaeth Ddiwylliannol a Naturiol y Byd(21)

(c) safle Ewropeaidd o fewn ystyr “European site” yn rheoliad 10 o Reoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, etc.) 1994(22).

(ch) ardal o harddwch naturiol eithriadol a ddynodwyd fel y cyfryw drwy Orchymyn a wnaed gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru(23) o dan adran 82 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(24) (dynodi ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol) ac a gadarnhawyd yn briodol gan Weinidogion Cymru o dan adran 83(3) o'r Ddeddf honno;

(d) Parc Cenedlaethol o fewn ystyr “National Park” yn Neddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949(25); neu

(dd) heneb gofrestredig o fewn ystyr “scheduled monument” yn Neddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979(26).

Cais am benderfyniad sgrinio

6.—(1) Rhaid i gais am benderfyniad sgrinio—

(a) cael ei wneud i Weinidogion Cymru;

(b) cynnwys cynllun sy'n ddigon i beri i'r tir perthnasol gael ei adnabod;

(c) cynnwys disgrifiad cryno o natur, maint a diben y prosiect a'i effeithiau posibl ar yr amgylchedd;

(ch) cynnwys unrhyw wybodaeth arall y gall y ceisydd ddymuno ei darparu neu unrhyw sylwadau eraill y gall ddymuno eu cyflwyno.

(2) Os yw Gweinidogion Cymru yn credu nad oes ganddynt ddigon o wybodaeth i wneud penderfyniad sgrinio, cânt ofyn i'r ceisydd ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae arnynt ei hangen.

(3) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r ceisydd o'r dyddiad y mae'r cais am benderfyniad sgrinio yn dod i'w llaw.

Y penderfyniad sgrinio

7.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru, yn unol â pharagraff (2) a'r meini prawf dethol yn Atodlen 2, benderfynu a yw prosiect yn debyg o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd (a yw'n “brosiect sylweddol”).

(2) Os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod prosiect yn debyg o gael effeithiau sylweddol ar safle Ewropeaidd (naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â phrosiectau eraill), ac nad yw'r prosiect yn uniongyrchol gysylltiedig â rheoli'r safle nac yn angenrheidiol i'w reoli, rhaid i'r prosiect gael ei drin fel petai'n debyg o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd.

(3) Cyn gwneud penderfyniad sgrinio, caiff Gweinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw un o'r cyrff ymgynghori.

(4) Ar ôl gwneud penderfyniad sgrinio, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a) hysbysu'r ceisydd ohono, gan roi'r rhesymau;

(b) ei nodi mewn cofrestr, y mae'n rhaid bod modd i'r cyhoedd ei gweld ar bob adeg resymol; ac

(c) pan fônt yn credu y gallai unrhyw un o'r cyrff ymgynghori ddymuno cael eu hysbysu o'r penderfyniad sgrinio, hysbysu'r cyrff hynny ohono.

(5) Rhaid i Weinidogion Cymru wneud penderfyniad sgrinio, a hysbysu'r ceisydd ohono, o fewn 35 o ddiwrnodau, neu gyfnod hwy y cytunir arno gyda'r ceisydd, i'r diweddaraf o'r dyddiadau canlynol—

(a) y dyddiad yn rheoliad 6(3); neu

(b) pan fo'n gymwys, y dyddiad y bydd Gweinidogion Cymru yn cael unrhyw wybodaeth bellach y maent wedi gofyn amdani o dan reoliad 6(2).

(6) Os bydd Gweinidogion Cymru wedi methu â gwneud penderfyniad sgrinio neu hysbysu ohono o fewn y cyfnod ym mharagraff (5), caiff y ceisydd hysbysu Gweinidogion Cymru ei fod yn bwriadu trin y methiant hwnnw fel penderfyniad bod y prosiect yn brosiect sylweddol.

(7) Pan fo'r ceisydd wedi hysbysu Gweinidogion Cymru felly, bernir bod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu ar ddyddiad yr hysbysiad hwnnw fod y prosiect yn brosiect sylweddol.

(8) Os bydd Gweinidogion Cymru, wedi iddynt wneud, neu y bernir eu bod wedi gwneud, penderfyniad bod y prosiect yn brosiect sylweddol—

(a) yn cael gwybodaeth bellach neu sylwadau pellach; a

(b) o ganlyniad i'r sylwadau hynny yn penderfynu nad yw'r prosiect yn brosiect sylweddol,

rhaid iddynt gymryd yr holl gamau ym mharagraff (4) mewn cysylltiad â'r penderfyniad newydd hwnnw.

(9) Os na fydd y prosiect y mae penderfyniad sgrinio yn ymwneud ag ef wedi dechrau o fewn cyfnod o dair blynedd gan ddechrau o'r dyddiad —

(a) yr hysbysir y ceisydd o'r penderfyniad sgrinio; neu

(b) y bernir bod y penderfyniad sgrinio wedi'i wneud o dan baragraff (7),

bydd y penderfyniad sgrinio yn peidio â bod yn effeithiol.

(19)

1981 p.69. Back [19]

(21)

Gweler Papur Gorchymyn 9424. Back [21]

(22)

O.S.1994/2716. Back [22]

(23)

Gweler adran 128 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43). Back [23]

(24)

2000 p. 37. Ymdrinnir â gorchmynion sy'n dynodi ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a wnaed cyn i adran 82 o Ddeddf 2000 ddod i rym fel petaent wedi'u gwneud o dan adran 82 yn rhinwedd paragraff 16 o Atodlen 15 i'r Ddeddf honno. Back [24]

(25)

1949 p. 97. Cafodd diwygiadau perthnasol eu gwneud gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25), Atodlen 10, paragraff 2. Back [25]

(26)

1979 p. 46. Gweler y diffiniad yn adran 1(11). Back [26]