(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006 (“Rheoliadau 2006”) a Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2007 (“Rheoliadau 2007”).
Newidir darpariaethau cyfatebol y Rheoliadau fel a ganlyn—
Yn Rhan 2 y Rheoliadau hyn, ymdrinnir â chamgymeriadau teipograffyddol yn rhaglith a rheoliad 2(1A) testun Saesneg Rheoliadau 2006 ynghyd â chamgymeriadau teipograffyddol yn rheoliadau 55 (3)(ba) a pharagraff 1 (4)(ch) o Atodlen 1 testun Cymraeg yr un Rheoliadau.
Mae Rheoliadau 2007 yn darparu ar gyfer cymorth i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â chyrsiau addysg uwch dynodedig mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2007.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2007 i wneud darpariaeth ar gyfer rhoi cymorth ariannol i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â chyrsiau dysgu o bell dynodedig . Cwrs dysgu o bell dynodedig yw cwrs a ddynodwyd dan y rheoliad 61C newydd gan Weinidogion Cymru (rheoliad 18).
Caiff y cymorth sy'n daladwy i fyfyrwyr dysgu o bell cymwys ei nodi yn y rheoliadau 61D (grant mewn perthynas â ffioedd a grant mewn perthynas â llyfrau, teithio a gwariant arall) a 61F newydd (lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl). Caiff lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl ei dalu i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â chyrsiau dysgu o bell llawnamser o dan y rheoliad 61F newydd yn hytrach na o dan reoliad 24 o Reoliadau 2007.
Caiff statws myfyrwyr sydd eisoes yn derbyn grant costau byw myfyrwyr anabl yn gysylltiedig ag ymgymryd â chwrs dynodedig ond nid yn ei fynychu ei newid o fod yn fyfyrwyr cymwys i fod yn fyfyrwyr dysgu o bell cymwys yn unol â'r rheoliad 61I newydd. Bydd y ddarpariaeth hon hefyd yn gymwys i fyfyrwyr a ddyfarnwyd eisoes eu bod yn gymwys ond nas cymhwyswyd ar gyfer cymorth yn unig am nad oeddynt yn mynychu cwrs dynodedig.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud amryw o ddiwygiadau canlyniadol ychwanegol i Reoliadau 2007 yn dilyn cyflwyno darpariaeth ar gyfer cymorth i fyfyrwyr dysgu o bell cymwys.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio rheoliad 16 o Reoliadau 2007 i'w gwneud yn glir na all myfyriwr dan yr hen drefn sy'n mynychu cwrs yn Ysgol Cerdd a Drama Guildhall neu Goleg Heythrop fod yn gymwys ar gyfer grant tuag at ffioedd sydd yn fwy na'r ffioedd gwirioneddol sy'n daladwy ganddo (rheoliad 15).
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio rheoliad 30 o Reoliadau 2007 i egluro y caiff myfyriwr cymwys fod yn gymwys i gael grant ar gyfer dibynyddion pan fo'r dibynnydd perthnasol yn ddibynnol arno ef neu ef a'i bartner gyda'i gilydd (rheoliad 17).
Gwneir darpariaeth hefyd i alluogi rhai myfyrwyr rhan-amser i fod yn gymwys i dderbyn lwfans myfyrwyr rhan-amser anabl yn ystod blwyddyn academaidd (rheoliad 21).