Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

(2) Pan fo paragraff (1)(ch) yn berthnasol, penderfynir faint o gymorth sy'n daladwy o dan reoliad 61D(1)(a) trwy ddidynnu o'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 61D(1)(a) un o'r symiau canlynol—

(a) £50 a £1 ychwanegol am bob £7.60 cyflawn a fyddai'n peri i'r incwm perthnasol fynd dros £15,700; neu

(b) pan fo'r ffioedd gwirioneddol yn llai na £1,150, cyfanswm sy'n hafal i'r hyn a adewir wedi didynnu o'r swm a gyfrifwyd o dan is-baragraff (a) y gwahaniaeth rhwng £1,150 a'r ffioedd gwirioneddol (oni bai bod y swm yn rhif negative ac yn yr achos hwnnw telir yr uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 61D(1)(a)).

Dehongliad o reoliad 61DD

61E.—(1) At ddibenion rheoliad 61DD—

(a) yn ddarostyngedig i is-baragraff (b), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o'r canlynol—

(i) priod myfyriwr dysgu o bell cymwys;

(ii) partner sifil myfyriwr dysgu o bell cymwys;

(iii) person sydd fel rheol yn byw gyda myfyriwr dysgu o bell cymwys fel petai yn briod ag ef pan fo myfyriwr dysgu o bell cymwys yn 25 oed neu fwy ar y diwrnod cyntaf o'r flwyddyn academaidd y caiff ei asesu ar gyfer cymorth a phan ddechreuodd y cwrs dysgu o bell dynodedig a bennir cyn 1 Medi 2005;

(iv) person sydd fel rheol yn byw gyda myfyriwr dysgu o bell cymwys fel petai yn briod ag ef neu'n bartner sifil pan fo myfyriwr dysgu o bell cymwys yn dechrau cwrs dysgu o bell dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

(b) nid yw person fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (a) i'w drin fel partner os—

(i) ym marn Gweinidogion Cymru fod y person hwnnw a'r myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi gwahanu; neu

(ii) bod y person fel rheol yn byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac nas cynhelir gan y myfyriwr dysgu o bell cymwys;

(c) ystyr “incwm perthnasol” (“relevant income”) yw'r hyn a welir ym mharagraff (2).

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae incwm perthnasol myfyriwr dysgu o bell cymwys yn hafal i'w ffynonellau ariannol yn y flwyddyn ariannol flaenorol llai—

(i) £2,000 yn achos ei bartner;

(ii) £2,000 yn achos yr unig blentyn neu'r plentyn hynaf sy'n ddibynnol ar y myfyriwr neu ei bartner; a

(iii) £1,000 yn achos pob plentyn arall sy'n ddibynnol ar y myfyriwr neu ei bartner.

(3) Pan fo Gweinidogion Cymru yn fodlon bod ffynonellau ariannol y myfyriwr dysgu o bell cymwys am y flwyddyn ariannol flaenorol yn fwy na'i ffynonellau ariannol am y flwyddyn ariannol gyfredol a bod y gwahaniaeth rhwng y ddau gyfanswm yn £1,000 neu ragor, gallant asesu ffynonellau ariannol y myfyriwr hwnnw trwy gyfeirio at y ffynonellau hynny yn y flwyddyn ariannol gyfredol.

(4) Yn y rheoliad hwn golyga ffynonellau ariannol myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn blwyddyn ariannol gyfanred ei incwm am y flwyddyn honno ynghyd â chyfanred incwm y flwyddyn honno unrhyw berson sy'n bartner i'r myfyriwr ar ddyddiad gwneud y cais.

(5) Yn y rheoliad hwn—

(a) mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i'w bartner ac unrhyw blentyn y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant drosto;

(b) ystyr “blwyddyn ariannol gyfredol” (“current financial year”) yw'r flwyddyn ariannol sy'n cynnwys diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae person yn cael ei asesu ar gyfer cymorth mewn perthynas â hi;

(c) ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf;

(ch) ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cael ei gyfrifo mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy'n gymwys iddo;

(d) ystyr “incwm” (“income” ) yw incwm gros o bob ffynhonnell heb gynnwys unrhyw gredydau treth a ddyfarnwyd yn unol ag unrhyw geisiadau o dan adran 3 o Ddeddf Credydau Treth 2002;

(dd) ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw'r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol gyfredol;

(e) ystyr “cwrs dysgu o bell dynodedig a bennir” (“specified designated distance learning course”) yw'r cwrs y mae'r person yn gwneud cais am gymorth tuag ato, neu pan fo statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi'i drosglwyddo i'r cwrs dysgu o bell dynodedig presennol o ganlyniad i un trosglwyddiad neu fwy o'r statws hwnnw gan Weinidogion Cymru o gwrs dysgu o bell (y “cwrs cychwynnol”) (“initial course”) y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf , y cwrs dysgu o bell dynodedig a bennir yw'r cwrs cychwynnol.

Lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl

61F.—(1) Mae gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl yn unol â'r Rhan hon i gael grant i helpu gyda'r gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni ei bod yn ofynnol iddo'i ysgwyddo oherwydd anabledd sydd ganddo mewn perthynas ag ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig.

(2) Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael y grant o dan y rheoliad hwn os mai'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y daw oddi tano yw paragraff 9;

(3) Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael y grant o dan y rheoliad hwn mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n flwyddyn bwrsari.

(4) Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael y grant o dan y rheoliad hwn oni bau bod Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn ymgymryd â'r cwrs dysgu o bell dynodedig yng Nghymru.

(5) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, swm y grant o dan y rheoliad hwn yw'r swm sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru yn unol ag amgylchiadau'r myfyriwr.

(6) Ni ddylai swm y grant fod yn fwy na'r canlynol—

(a) £12,420 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;

(b) £4,905 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra at wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol;

(c) y gwariant ychwanegol a dynnir—

(i) o fewn y Deyrnas Unedig er mwyn gallu bod yn bresennol yn y sefydliad;

(ii) o fewn neu o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o'i gwrs, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad dros y môr neu at ddiben bod yn bresennol yn yr Athrofa;

(ch) £1,640, mewn perthynas â blwyddyn academaidd at unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant a dynnwyd at y dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) sy'n fwy na'r uchafsymiau penodedig.

Ceisiadau am gymorth

61FF.—(1) Rhaid i berson (y “ceisydd”) wneud cais am gymorth mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell dynodedig drwy gwblhau ffurflen gais ar y cyfryw ffurf ag y byddo Gweinidogion Cymru yn gofyn amdani a'i chyflwyno i Weinidogion Cymru.

(2) Rhaid anfon gyda'r cais—

(a) datganiad a gwblhawyd gan yr awdurdod academaidd; a

(b) y cyfryw ddogfennaeth ychwanegol ag y byddo Gweinidogion Cymru yn gofyn amdani.

(3) Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau yr ystyriant yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw'r ceisydd yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys, a oes gan y ceisydd hawl i gael cymorth a swm y cymorth sy'n daladwy, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.

(4) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r ceisydd a oes ganddo hawl i gael cymorth, ac os oes ganddo hawl, swm y cymorth sy'n daladwy mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.

(5) Y rheol gyffredinol yw bod rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o chwe mis sy'n dechrau gyda diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs y cyflwynir y cais mewn perthynas ag ef.

(6) Nid yw'r rheol gyffredinol yn gymwys—

(a) pan fo un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (4) o reoliad 61B yn digwydd ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o chwe mis sy'n dechrau gyda diwrnod y digwyddiad perthnasol;

(b) pan fo'r ceisydd yn gwneud cais am y lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol; neu

(c) pan fo Gweinidogion Cymru o'r farn, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau'r achos penodol, y dylid llacio'r terfyn amser, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na'r dyddiad a bennir ganddynt.

Datganiadau a ddarperir gan awdurdodau academaidd

61G.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r awdurdod academaidd, ar gais y ceisydd, gwblhau datganiad yn y cyfryw ffurf ag y byddo Gweinidogion Cymru yn gofyn amdano fynd gyda'r cais am gefnogaeth.

(2) Nid yw'n ofynnol i awdurdod academaidd gwblhau datganiad os nad yw'n gallu rhoi'r cadarnhad gofynnol.

(3) Yn y Rhan hon, ystyr “datganiad” (“declaration”) yw—

(a) pan fo'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â'r cwrs dysgu o bell dynodedig am y tro cyntaf, datganiad—

(i) sy'n darparu gwybodaeth am y cwrs; a

(ii) sy'n cadarnhau bod y ceisydd wedi ymgymryd ag o leiaf ddwy wythnos o'r cwrs dysgu o bell dynodedig;

(b) mewn unrhyw achos arall, datganiad—

(i) sy'n darparu gwybodaeth am y cwrs; a

(ii) sy'n cadarnhau bod y ceisydd wedi ymrestru i ymgymryd â blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell dynodedig y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef.

(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “gwybodaeth am y cwrs” (“course information”) yw—

(a) swm y ffioedd a godir mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi;

(b) ardystiad gan yr awdurdod academaidd ei fod o'r farn fod y ceisydd yn ymgymryd â'r cwrs dysgu o bell dynodedig yng Nghymru; ac

(c) mewn unrhyw achos pan fo'r ceisydd yn fyfyriwr anabl, ardystiad gan yr awdurdod academaidd ei fod o'r farn fod y ceisydd wedi dewis ymgymryd â'r cwrs dysgu o bell dynodedig am reswm heblaw'r ffaith na all fod yn bresennol ar gwrs dynodedig oherwydd rhesymau sy'n ymwneud â'i anabledd.

Gwybodaeth

61NG.  Mae Atodlen 3 yn ymwneud â darparu gwybodaeth.

Trosglwyddo statws

61H.—(1) Pan fo myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo i gwrs dysgu o bell dynodedig arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys i'r cwrs hwnnw pan—

(a) derbyniant gais i wneud hynny oddi wrth y myfyriwr dysgu o bell cymwys;

(b) ydynt wedi'u bodloni bod un neu fwy o'r seiliau trosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac

(c) nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi'i derfynu.

(2) Y seiliau trosglwyddo yw—

(a) bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig arall yn y sefydliad;

(b) bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig mewn sefydliad arall; neu

(c) ar ôl iddo ddechrau cwrs dysgu o bell dynodedig ar gyfer gradd gyntaf (heblaw gradd anrhydedd) bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys, cyn cwblhau'r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs dysgu o bell dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc neu bynciau yn y sefydliad.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd myfyriwr dysgu o bell cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) yn parhau i gael, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo, weddill y cymorth y penderfynodd Gweinidogion Cymru bod ganddo hawl iddo mewn perthynas â'r cwrs y mae'n trosglwyddo oddi arno.

(4) Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sydd yn daladwy ar ôl y trosglwyddo.

(5) Ni chaiff myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ar ei gymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo oddi arno ond cyn iddo gwblhau'r flwyddyn honno, wneud cais am grant arall o dan reoliad 61D(1)(b) neu reoliad 61F mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo.

(6) Pan fo myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (1), uchafswm y cymorth o dan reoliad 61D(1)(a) mewn perthynas â'r blynyddoedd academaidd y mae'n trosglwyddo iddynt ac ohonynt yw swm y cymorth sydd ar gael mewn cysylltiad â'r cwrs sydd â'r ffioedd uchaf gwirioneddol fel y'u diffinnir yn rheoliad 61D.

Trosi statws — myfyrwyr cymwys nad ydynt yn bresennol ar gwrs dynodedig

61I.—(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu cyn 1 Medi 2007 bod myfyriwr—

(a) yn fyfyriwr cymwys; ond

(b) oherwydd ei fod yn ymgymryd â chwrs dynodedig, ond nid yn bresennol arno, neu yn cael ei gyfrif fel petai'n bresennol—

(i) yn gymwys am lwfans myfyrwyr anabl yn unig mewn cysylltiad â'r cwrs hwnnw; neu

(ii) nad yw'n gymwys ar gyfer cymorth o dan Rannau 4 i 6 mewn cysylltiad â'r cwrs hwnnw,

rhaid i Weinidogion Cymru drosi ei statws i fod yn un myfyriwr dysgu o bell cymwys yn unol â'r rheoliad hwn.

(2) Rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws myfyriwr cymwys y mae paragraff (1) yn berthnasol iddo i fod yn un myfyriwr dysgu o bell cymwys pan —

(a) eu bod yn fodlon bod y myfyriwr yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig yng Nghymru; a

(b) bod y cyfnod cymhwyster heb derfynu.

(3) Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu, yn unol â'r Rhan hon, beth yw swm y cymorth a delir o dan reoliad 61D ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol i fyfyriwr sydd â'i statws wedi ei drosi o dan baragraff (2).

(4) Mae'r canlynol yn gymwys i fyfyriwr sy'n dod o fewn paragraff (1)(b)(i) ac y trosir ei statws o dan baragraff (2)—

(a) pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm i'r myfyriwr o dan reoliad 24 (“y swm blaenorol”) ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol, ni ddylid gwneud unrhyw daliad mewn perthynas â'r swm hwnnw ar nac ar ôl 1 Medi 2007;

(b) uchafswm y lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl y mae'r myfyriwr yn gymwys ar ei gyfer mewn cysylltiad â'i ymgymeriad â chwrs dysgu o bell dynodedig yn y flwyddyn academaidd gyfredol yw'r mwyaf o'r symiau canlynol–

(i) y swm blaenorol; a

(ii) y “swm gwirioneddol” sef yr uchafswm o lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl y penderfyna Gweinidogion Cymru sy'n daladwy i'r myfyriwr; ac

(c) (c) pan fo swm at unrhyw ddiben wedi'i dalu i'r myfyriwr o dan reoliad 24 cyn 1 Medi 2007, mae uchafswm y lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl sy'n daladwy iddo i'r diben hwnnw am y flwyddyn academaidd gyfredol yn cael ei ostwng yn ôl swm y grant a dalwyd iddo i'r diben hwnnw yn unol â Rhan 5, a phan fo'r swm sy'n deillio o hyn yn ddim neu'n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim.

(2) Yn y rheoliad hwn ystyr “blwyddyn academaidd gyfredol” (“current academic year”) yw blwyddyn academaidd yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2007 ond cyn 1 Medi 2008.

Trosi statws — myfyrwyr cymwys yn trosglwyddo i gyrsiau dysgu o bell dynodedig

61J.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pan fo myfyriwr cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs dysgu o bell dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i statws myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo–

(a) pan dderbyniant gais oddi wrth y myfyriwr dysgu o bell cymwys i wneud hynny; a

(b) pan nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi terfynu.

(2) Ni chymhwysir y rheoliad hwn ar gyfer myfyriwr sy'n gymwys o dan reoliad 61I.

(3) Mae'r canlynol yn gymwys i fyfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1)—

(a) pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm i'r myfyriwr o dan reoliad 24 mewn rhandaliadau rheolaidd, ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â'r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy'n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys;

(b) mae uchafswm y lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl y byddai gan y myfyriwr hawl iddo, ar wahân i'r rheoliad hwn, mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs dysgu o bell penodedig mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean pan ddaeth y myfyriwr yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd, ac o ddau draean pan ddaeth yn gyfryw fyfyriwr yn ystod chwarter diweddarach o'r flwyddyn honno;

(c) pan fo swm o grant at gostau byw myfyrwyr anabl at unrhyw ddiben wedi ei dalu i'r myfyriwr o dan Ran 5 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl sy'n daladwy iddo at y diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (b) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant a dalwyd iddo at y diben hwnnw yn unol â Rhan 5, ac os yw'r swm sy'n deillio o hyn yn ddim neu'n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim; ac

(ch) pan fo'r myfyriwr, yn union cyn dod yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys, yn gymwys i wneud cais, ond ei fod heb wneud cais am fenthyciad at gostau byw ar gyfer y flwyddyn honno, neu heb wneud cais am yr uchafswm neu'r uchafswm a gynyddwyd yr oedd â hawl iddo, caiff wneud cais am y benthyciad hwnnw neu'r swm ychwanegol hwnnw o fenthyciad fel pe bai wedi parhau yn fyfyriwr cymwys; ac o dan yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (4) gostyngir uchafswm y benthyciad hwnnw neu uchafswm cynnydd y cyfryw fenthyciad am y flwyddyn academaidd yn unol â'r paragraff hwnnw.

(4) Pan fo'r cais o dan baragraff (1) yn cael ei wneud yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r benthyciad yn daladwy ar ei chyfer, gostyngir uchafswm y benthyciad neu'r uchafswm a gynyddwyd o'r cyfryw fenthyciad (yn ôl y digwydd) o ddau draean, ac os yw'r cais yn cael ei wneud yn ystod ail chwarter y flwyddyn honno gostyngir y swm hwnnw o un traean.

Trosi statws — myfyrwyr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo i gyrsiau dynodedig

61L.—(1) Pan fo myfyriwr dysgu o bell cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys i statws myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo—

(a) pan dderbyniant gais oddi wrth y myfyriwr cymwys i wneud hynny; a

(b) pan nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi terfynu.

(2) Mae'r canlynol yn gymwys i fyfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1)—

(a) pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl i'r myfyriwr mewn rhandaliadau rheolaidd ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â'r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy'n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys;

(b) bydd unrhyw gymorth y mae gan y myfyriwr hawl iddo o dan y Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y trosglwydda'r myfyriwr ynddi yn cael ei anwybyddu wrth benderfynu swm y cymorth y gall bod ganddo hawl iddo am y flwyddyn honno o dan Rannau 4 i 6;

(c) mae uchafswm unrhyw gymorth o dan Ran 5 neu 6 y byddai'r myfyriwr, ar wahân i'r rheoliad hwn, â hawl iddo mewn cysylltiad â chwrs dynodedig o fewn y flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean pan ddaeth y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd honno, ac o ddau draean os daeth yn gyfryw fyfyriwr mewn chwarter diweddarach o'r flwyddyn honno;

(ch) pan fo swm o lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl at unrhyw ddiben wedi ei dalu i'r myfyriwr mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant at gostau byw myfyrwyr anabl sy'n daladwy iddo o dan Ran 5 i'r diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (c) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl a dalwyd iddo i'r diben hwnnw, a phan fo'r swm sy'n deillio o hyn yn ddim neu'n swm negyddol bydd y swm hwnnw yn ddim.

Talu grantiau ar gyfer ffioedd

61LL.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i Weinidogion Cymru dalu'r grant ar gyfer ffioedd y mae'r myfyriwr â hawl iddo i'r awdurdod academaidd priodol wed ii gais dilys am daliad ddod i law.

(2) Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau o dan baragraff (1) ar unrhyw adegau ac mewn unrhyw randaliadau fel y gwelant yn dda.

(3) Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau dros dro o dan baragraff (1) mewn unrhyw achosion y barnant sy'n briodol.

Talu grantiau ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl

61M.—(1) Caiff taliadau'r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a'r lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl eu gwneud mewn dull y barna Gweinidogion Cymru sydd briodol a chânt osod amod ar gyfer yr hawl i daliad bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys i roi iddynt fanylion cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gellir gwneud y taliadau iddo trwy drosglwyddiad electronig.

(2) Pan fetha Gweinidogion Cymru â gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a dderbyniwyd oddi wrth y myfyriwr, gallant wneud asesiad dros dro a thaliad o'r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a'r lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl.

(3) Caiff Gweinidogion Cymru dalu'r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a'r lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl mewn rhandaliadau.

(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff Gweinidogion Cymru dalu'r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a'r lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl ar adegau y barnant hwy yn briodol.

(5) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu'r rhandaliad cyntaf na chwaith, pan benderfynwyd peidio â thalu cymorth mewn rhandaliadau, wneud unrhyw daliad o'r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall na'r lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl cyn iddynt dderbyn datganiad o dan reoliad 61G oni bai bod eithriad yn gymwys.

(6) Mae eithriad yn gymwys—

(a) os oes lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl yn daladwy, a'r pryd hynny gellir talu'r grant hwnnw cyn bo datganiad wedi dod i law Gweinidogion Cymru;

(b) os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu y byddai'n briodol oherwydd yr amgylchiadau eithriadol i wneud taliad heb i ddatganiad ddod i law.

Gordaliadau

61N.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad grant mewn perthynas â ffioedd oddi ar yr awdurdod academaidd.

(2) Os bydd yn ofynnol gan Weinidogion Cymru, bydd yn rhaid i fyfyriwr dysgu o bell cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd iddo o dan y Rhan hon ac sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y grant y mae ganddo hawl iddo o dan y Rhan hon.

(3) Rhaid i Weinidogion Cymru adennill gordaliad grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl oni bai eu bod yn ystyried ei bod yn amhriodol i wneud hynny.

(4) Y dulliau o adennill yw—

(a) tynnu'r gordaliad o unrhyw fath o grant sy'n daladwy i'r myfyriwr o bryd i'w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf ;

(b) cymryd unrhyw gamau eraill sydd ar gael i Weinidogion Cymru er mwyn adennill gordaliad.

(5) Mae taliad o lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordaliad os yw'r myfyriwr yn rhoi'r gorau i'r cwrs cyn y dyddiad perthnasol oni bai bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu'n wahanol.

(6) Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw dyddiad dechrau gwirioneddol tymor cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw.

(7) Dan yr amgylchiadau a roddir ym mharagraff (8) neu (9), ceir gordaliad o'r lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl oni bai bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu'n wahanol.

(8) Yr amgylchiadau yw—

(a) bod Gweinidogion Cymru yn cymhwyso'r cyfan neu ran o'r lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl ar gyfer prynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr dysgu o bell cymwys;

(b) bod cyfnod cymhwystra'r myfyriwr yn terfynu ar ôl y dyddiad perthnasol; ac

(c) nad yw'r offer wedi'i ddanfon at y myfyriwr cyn diwedd cyfnod cymhwystra'r myfyriwr.

(9) Yr amgylchiadau yw—

(a) bod cyfnod cymhwystra'r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu ar ôl y dyddiad perthnasol; a

(b) bod taliad lwfans myfyrwyr rhan-amser anabl yn cael ei wneud ar gyfer offer arbenigol i'r myfyriwr ar derfyn y cyfnod cymhwystra.

(10) Pan fo gordaliad o'r lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl, caiff Gweinidogion Cymru dderbyn dychweliad offer arbenigol a brynwyd â'r grant fel modd i adennill y cyfan neu ran o'r gordaliad os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol i wneud hynny.

Diwygio rheoliad 62 o Reoliadau 2007

19.  Yn rheoliad 62 o Reoliadau 2007—

(a) ar ôl paragraff (14) mewnosoder—

(14A) Pan fydd un o'r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (d), (dd), (dda), (e) neu (f) o baragraff (15) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd —

(a) gall myfyriwr fod yn gymwys i gael grant o dan reoliad 66 o ran y flwyddyn academaidd honno yn unol â'r Rhan hon; a

(b) nid yw grant o dan reoliad 66 ar gael o ran unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd pan ddigwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

(b) yn lle paragraff (19) rhodder—

(19) Pan fo—

(a) Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn ffoadur neu fod yn briod â, yn bartner sifil, yn blentyn neu yn llysblentyn ffoadur, yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o'r cwrs rhan-amser presennol neu gais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig, cwrs dysgu o bell dynodedig neu gwrs rhan-amser dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr rhan-amser cymwys, myfyriwr cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi'i drosglwyddo i'r cwrs rhan-amser presennol; a

(b) ar y diwrnod cyn dechrau'r flwyddyn academaidd y gwna A gais am gymorth mewn perthynas â hi, bod statws ffoadur A neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant neu ei lys-riant, yn ôl y digwydd, wedi terfynu ac na chaniatawyd iddo aros ymhellach ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn terfynu yn syth cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y gwna gais am gymorth ar ei chyfer.;

(c) Yn lle paragraff (20), rhodder—

(20) Pan fo—

(a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), oherwydd ei fod yn berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros, neu yn briod â, yn bartner sifil, yn blentyn neu'n llysblentyn i berson o'r fath, yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o'r cwrs rhan-amser presennol neu gais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig, cwrs dysgu o bell dynodedig neu gwrs rhan-amser dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr rhan-amser, myfyriwr cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi'i drosglwyddo i'r cwrs rhan-amser presennol; a

(b) ar y diwrnod cyn dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth ar ei chyfer, bod statws ffoadur A neu ei briod, partner sifil, rhiant neu lys-riant, yn ôl y digwydd, wedi dod i ben ac na roddwyd caniatâd pellach iddo aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn terfynu yn syth cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y gwna gais am gymorth ar ei chyfer.;

(ch) yn dilyn paragraff (22)(b), mewnosoder—

(bb) cwrs rhan-amser dynodedig a chwrs dysgu o bell dynodedig;.

Diwygio rheoliad 67 o Reoliadau 2007

20.  Yn y testun Cymraeg o reoliad 67(4)(aa) o Reoliadau 2007, hepgorer y gair “nad”.

Diwygio rheoliad 70 o Reoliadau 2007

21.  Yn rheoliad 70 o Reoliadau 2007—

(a) Yn dilyn paragraff (4), mewnosoder—

(4A) Pan fo myfyriwr dysgu o bell cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig ac yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys i statws myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y trosglwydda iddo pan–

(a) derbyniant gais oddi wrth y myfyriwr dysgu o bell cymwys i wneud hynny; a

(b) nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi terfynu.

(4B) Pan fo'r myfyriwr, cyn iddo gwblhau'r cwrs dysgu o bell cymwys, yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser yn yr un pwnc neu bynciau sy'n arwain at yr un cymhwyster yn yr un sefydliad, mae'r cwrs rhan-amser i'w ystyried fel petai yn bodloni rheoliad 63(1)(b) ac (c) os yw'r cyfnod o astudio rhan-amser y mae'r myfyriwr i ymgymryd ag efyn para un flwyddyn academaidd o leiaf ac nad yw'n hwy na dwywaith y cyfnod sydd ei angen yn arferol i gwblhau gweddill y cwrs dysgu o bell dynodedig y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo ohono.

(4C) Yn ddarostyngedig i baragraff (4CH), bydd myfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (4A) yn derbyn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y trosglwydda iddo weddill y cymorth y penderfynodd Gweinidogion Cymru ei fod yn gymwys amdano o dan Ran 10A ar gyfer blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell dynodedig o'r hwn y trosglwydda'r myfyriwr.

(4CH) Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth fydd yn daladwy wedi'r trosglwyddiad.

(4D) O ran myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (4A) wedi i Weinidogion Cymru benderfynu ynglyn â'i gymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell dynodedig y mae'n trosglwyddo ohono ond cyn iddo gwblhau'r flwyddyn honno–

(a) ni chaiff wneud cais am grant o dan reoliad 65(1)(b) os ydyw eisoes wedi gwneud cais am grant o dan reoliad 61D(1)(b);

(b) ni chaiff wneud cais am grant o dan reoliad 66 os ydyw eisoes wedi gwneud cais am grant o dan reoliad 61F.

(4DD) Pan fo myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (4A), ni chaiff cyfanswm y cymorth a delir i'r myfyriwr o dan reoliadau 61D(1)(a) a 65(1)(a) ar gyfer y blynyddoedd academaidd y bydd ef yn trosglwyddo iddynt ac ohonynt fod yn fwy na swm y cymorth y penderfynwyd sy'n daladwy i'r myfyriwr o dan reoliad 61D(1)(a).;

(b) yn dilyn paragraff (6), mewnosoder—

(6A) Pan fo myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs dysgu o bell dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr hwnnw fel myfyriwr rhan-amser cymwys i statws myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo pan—

(a) derbyniant gais oddi wrth y myfyriwr rhan-amser cymwys i wneud hynny; a

(b) na fydd y cyfnod cymhwystra wedi terfynu.

(6B) Yn ddarostyngedig i baragraff (6C), bydd myfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (6A) yn derbyn, mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd o'r cwrs y trosglwydda iddo, gweddill y cymorth y penderfynodd Gweinidogion Cymru ei fod yn gymwys i'w gael o dan Ran 11 ar gyfer blwyddyn academaidd y cwrs rhan-amser dynodedig y mae'n trosglwyddo ohono.

(6C) Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy ar ôl y trosglwyddiad.

(6CH) O ran myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (6A) ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ynglyn â'i gymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell y mae ef yn trosglwyddo ohono ond cyn iddo gwblhau'r flwyddyn honno—

(a) ni chaiff wneud cais am grant o dan reoliad 61D(1)(b) os ydyw eisoes wedi gwneud cais am grant o dan reoliad 65(1)(b);

(b) ni chaiff gwneud cais am grant o dan reoliad 61F os ydyw eisoes wedi gwneud cais am grant o dan reoliad 66.

(6D) Pan fo myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (6A), ni chaiff cyfanswm y cymorth a delir i'r myfyriwr o dan reoliadau 61D(1)(a) a 65(1)(a) mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo ohoni ac iddi fod yn fwy na chyfanswm y cymorth a benderfynwyd oedd daladwy i'r myfyriwr o dan reoliad 61D(1)(a)..

Diwygio rheoliad 74 o Reoliadau 2007

22.  Yn dilyn rheoliad 74(15)(b) o Reoliadau 2007, mewnosoder —

(bb) cwrs ôl-radd dynodedig a chwrs dysgu o bell dynodedig;.

Diwygio Atodlen 1 i Reoliadau 2007

23.  Yn y testun Cymraeg o baragraff 1(3)(ch) o Atodlen 1 i Reoliadau 2007, yn lle “blentyn ei briod neu ei bartner sifil;”, rhodder “briod neu bartner sifil ei blentyn,”.

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

28 Medi 2007