Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Navigation


Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Offerynnau Statudol

2007 Rhif 2851 (Cy.248)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2007

Gwnaed

28 Medi 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1 Hydref 2007

Yn dod i rym

23 Hydref 2007

Go to Explanatory Note

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22, 42(6) a 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (1), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt(2), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

RHAN 1 CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2007.

(1) (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Hydref 2007 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Rheoliadau 2006” (“the 2006 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006(3).

ystyr “Rheoliadau 2007 (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2007(4).

Diwygio Rheoliadau 2006 a Rheoliadau 2007

3.  Diwygir Rheoliadau 2006 yn unol â Rhan 2.

4.  Diwygir Rheoliadau 2007 yn unol â Rhan 3.

RHAN 2 DIWYGIADAU I REOLIADAU 2006

5.  Yn y testun Saesneg o reoliad 2(1A) o Reoliadau 2006, ar ôl y gair “his”, mewnsoder “or her”.

6.  Yn y testun Cymraeg o reoliad 55(3)(ba) o Reoliadau 2006 hepgorer y gair “nad”.

7.  Yn y testun Cymraeg o baragraff 1(4)(ch) o Atodlen 1 i Reoliadau 2006, yn lle “blentyn ei briod neu ei bartner sifil;”, rhodder “briod neu bartner sifil ei blentyn,”.

RHAN 3 DIWYGIADAU I REOLIADAU 2007

Diwygio rheoliad 2 o Reoliadau 2007

8.  Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2007, yn y man priodol yn nhrefn y wyddor, mewnosoder—

ystyr “blwyddyn bwrsari” (“bursary year”) yw blwyddyn academaidd y cwrs—

(a)

mewn perthynas â hi y mae'r myfyriwr yn gymwys i gael unrhyw daliad o dan fwrsari gofal iechyd y cyfrifwyd ei swm drwy gyfeirio at ei incwm; neu

(b)

mewn perthynas â hi y mae'r myfyriwr yn gymwys i gael unrhyw daliad o dan lwfans gofal iechyd yr Alban y cyfrifwyd ei swm drwy gyfeirio at ei incwm;

ystyr “cwrs dysgu o bell dynodedig” (“designated distance learning course”) yw cwrs a ddynodwyd gan Weinidogion Cymru dan reoliad 61C;”;

ystyr “cwrs dysgu o bell presennol” (“present distance learning course”) yw'r cwrs dysgu o bell dynodedig y mae person yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef;”;

ystyr “lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl” (“disabled distance learning students' allowance”) yw'r grant taladwy dan reoliad 61F;”;

mae i “myfyriwr dysgu o bell cymwys” (“eligible distance learning student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 61A;.

9.  Yn y testun Saesneg o reoliad 2(1A) o Reoliadau 2007, ar ôl y gair “his”, mewnsoder “or her”.

Diwygio rheoliad 4 o Reoliadau 2007

10.  Yn rheoliad 4 o Reoliadau 2007—

(a) yn dilyn paragraff (6)(a), mewnosoder—

(aa) at gwrs dynodedig a chwrs dysgu o bell dynodedig;;

(b) yn lle paragraff (12), rhodder—

(12) Os bydd—

(a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn ffoadur neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu'n llysblentyn i ffoadur—

(i) yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o'r cwrs presennol, mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs y mae'r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn perthynas â chwrs rhan-amser dynodedig, cwrs dysgu o bell dynodedig neu gwrs dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr rhan-amser cymwys, myfyriwr dysgu o bell cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol; neu

(ii) yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o'r cwrs cymhwysol neu o gwrs cymhwysol arall y mae ei statws fel myfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs cymhwysol y mae'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef; ac

(b) ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, os bydd statws ffoadur A neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant neu ei lys-riant, yn ôl y digwydd, wedi dod i ben ac nad oes hawl bellach i aros wedi'i rhoi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr cymwys neu fyfyriwr cymhwysol yn terfynu'n syth cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.;

(c) yn lle paragraff (13), rhodder–.

(13) Os bydd—

(a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn berson â hawl i ddod i mewn neu i aros neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu'n llysblentyn i'r cyfryw berson—

(i) yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o'r cwrs presennol, mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs y mae'r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn perthynas â chwrs rhan-amser dynodedig, cwrs dysgu o bell dynodedig neu gwrs dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr rhan- amser cymwys, myfyriwr dysgu o bell cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol; neu

(ii) yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o'r cwrs cymhwysol neu o gwrs cymhwysol arall y mae ei statws fel myfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs cymhwysol y mae'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef; a

(b) ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, os bydd y cyfnod a ganiateir i'r person sydd â hawl i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig wedi terfynu ac nad oes hawl bellach i aros wedi'i rhoi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr cymwys neu fyfyriwr cymhwysol yn terfynu'n syth cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi..

Diwygio rheoliad 5 o Reoliadau 2007

11.  Yn rheoliad 5 o Reoliadau 2007—

(a) ym mharagraff (1)—

(i) yn lle “i baragraff (2)”, rhodder “i baragraffau (2), (3) a (3A)”;

(ii) yn dilyn is-baragraff (b), mewnosoder—

(bb) heb fod yn ddynodedig dan reoliad 61C;;

(b) ym mharagraff (2)—

  • yn lle “paragraff 6 neu 7”, rhodder “paragraff 7 neu 8”;

(c) yn dilyn paragraff (2), mewnosoder—

(2A) Nid yw cwrs a ymgymerir fel rhan o Gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth yn gwrs dynodedig.;

(ch) yn dilyn paragraff (3), mewnosoder—

(3A) Nid yw paragraff (1)(bb) yn gymwys pan fo rhywun sy'n gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â'r cwrs—

(a) yn fyfyriwr anabl; a

(b) yn ymgymryd â chwrs yn y Deyrnas Unedig ond nid yn ei fynychu oherwydd ni all ei fynychu am reswm sy'n gysylltiedig â'i anabledd..

Diwygio rheoliad 6 o Reoliadau 2007

12.  Yn rheoliad 6(15)(a) o Reoliadau 2007, yn lle “lle nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi trosi neu lle na fydd yn trosi”, rhodder “lle nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi trosglwyddo neu drosi neu lle na fydd yn trosglwyddo neu drosi”, ac yn lle “dan reoliad 70(1),”, rhodder “dan reoliad 8, rheoliad 61I, rheoliad 61J a rheoliad 70.”.

13.  Yn rheoliad 6 o Reoliadau 2007 —

(a) ym mharagraff (19) yn dilyn “cwrs gradd cywasgedig”, mewnosoder “neu gwrs dysgu o bell dynodedig”;

(b) ym mharagraff (20)(b) yn dilyn “phresenoldeb y myfyriwr ar y cwrs”, mewnosoder “neu, yn achos cwrs dysgu o bell dynodedig, ymgymryd â'r cwrs”.

Diwygio rheoliad 12 o Reoliadau 2007

14.  Yn rheoliad 12, hepgorer paragraffau (4) ac (5).

Diwygio rheoliad 16 o Reoliadau 2007

15.  Yn rheoliad 16 o Reoliadau 2007—

(a) yn lle paragraff (4), rhodder—

(4) Yn achos cwrs dynodedig yng Ngholeg Heythrop, swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw'r lleiaf o—

(a) £2,195; a

(b) y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno.;

(b) yn lle paragraff (5), rhodder—

(5) Yn achos cwrs dynodedig yn Ysgol Cerdd a Drama Guildhall, swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw'r lleiaf o —

(a) £4,455; a

(b) y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno..

Diwygio rheoliad 23 o Reoliadau 2007

16.  Ar ôl rheoliad 23 o Reoliadau 2007, mewnosoder—

23A.—(1) Ymdrinnir â myfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo fel pe bai'n bresennol ar y cwrs dynodedig at ddiben cymhwyso ar gyfer y grantiau dilynol—

(a) grant ar gyfer dibynyddion;

(b) grant costau byw myfyrwyr anabl;

(c) grant cynhaliaeth neu grant cymorth arbennig;

(ch) grant addysg uwch.

(2) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i'r canlynol—

(a) myfyriwr cwrs gradd cywasgedig;

(b) myfyriwr anabl—

(i) nad yw'n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a

(ii) sy'n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw'n bresennol am na all fod yn bresennol am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd.

Diwygio rheoliad 30 o Reoliadau 2007

17.  Yn rheoliad 30(1) o Reoliadau 2007—

(a) ar ddechrau is-baragraff (c), mewnosoder “yn ddarostyngedig i is-baragraff (i),”;

(b) yn is-baragraff (d) yn lle “ac (ng)”, rhodder “(ng) ac (h)”;

(c) yn dilyn is-baragraff (dd), mewnosoder—

(dda) ystyr “plentyn dibynnol” (“dependent child”), o ran myfyriwr cymwys, yw plentyn sy'n ddibynnol ar y myfyriwr;;

(ch) yn dilyn is-baragraff (ng), mewnosoder—

(h) at bwrpas penderfynu a yw rhywun yn gynbartner i bartner i fyfyriwr cymwys, ystyr “partner” (“partner”) o ran partner i fyfyriwr cymwys yw–

(i) priod i bartner myfyriwr cymwys;

(ii) partner sifil i bartner myfyriwr cymwys;

(iii) pan fo myfyriwr cymwys wedi dechrau'r cwrs dynodedig penodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000, rhywun sydd fel arfer yn byw gyda phartner myfyriwr cymwys fel petai'n briod iddo;

(iv) pan fo myfyriwr cymwys wedi dechrau'r cwrs dynodedig penodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005, person sydd fel arfer yn byw gyda phartner myfyriwr cymwys fel petai'n bartner sifil iddo;

(i) yn ddarostyngedig i is-baragraff (j), at bwrpas y diffiniadau o “dibynnydd mewn oed” (“adult dependent”) a “plentyn dibynnol” (“dependent child”) caiff Gweinidogion Cymru ymdrin ag oedolyn neu blentyn fel un sy'n ddibynnol ar fyfyriwr cymwys os ydynt yn fodlon nad yw'r oedolyn neu'r plentyn—

(i) yn ddibynnol ar—

(aa) y myfyriwr cymwys; neu

(bb) ei bartner; ond

(ii) yn ddibynnol ar y myfyriwr cymwys a'i bartner gyda'i gilydd.

(j) nid yw Gweinidogion Cymru i ymdrin ag oedolyn (“A”) fel un dibynnol ar fyfyriwr cymwys yn unol ag is-baragraff (i), os yw A–

(i) yn briod neu'n bartner sifil i bartner y myfyriwr cymwys (yn cynnwys priod neu bartner sifil yr ystyria Gweinidogion Cymru bod partner y myfyriwr cymwys wedi gwahanu oddi wrtho); neu

(ii) yn gynbartner partner y myfyriwr cymwys..

Mewnosod Rhan newydd yn Rheoliadau 2007

18.  Yn dilyn rheoliad 61 o Reoliadau 2007, mewnosoder—

RHAN 10A CYMORTH TUAG AT GYRSIAU DYSGU O BELL LLAWNAMSER

Myfyrwyr dysgu o bell cymwys

61A.—(1) Mae gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael cymorth mewn cysylltiad ag ef yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig yn ddarostyngedig i'r Rhan hon ac yn unol â hi.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae person yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig os yw Gweinidogion Cymru wrth asesu ei gais am gymorth yn penderfynu bod y person hwnnw yn dod o fewn un o'r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1.

(3) Nid yw person yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys—

(a) os, yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhoddwyd neu os talwyd iddo mewn perthynas â'r cwrs dysgu o bell–

(i) bwrsari gofal iechyd p'un a yw swm y bwrsari hwnnw yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm neu beidio;

(ii) unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 1992; neu

(iii) lwfans gofal iechyd yr Alban p'un a yw swm y lwfans hwnnw yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm neu beidio;

(b) os ydyw wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;

(c) os ydyw wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi dilysu unrhyw gytundeb ynglyn â benthyciad a wnaed gydag ef pan oedd o dan 18 oed;

(ch) os ydyw, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth; neu

(d) yn ddarostyngedig i baragraff (5), os yw'n garcharor sy'n bwrw dedfryd o gaethiwed.

(4) Nid yw paragraff (3)(a) yn gymwys—

(a) os yw'r person sy'n gwneud cais am gymorth yn fyfyriwr anabl; a

(b) os rhoddwyd neu os talwyd iddo mewn perthynas â'r cwrs dysgu o bell –

(i) bwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm; neu

(ii) lwfans gofal iechyd yr Alban p'un a yw swm y lwfans hwnnw yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm neu beidio.

(5) Nid yw paragraff (3)(d) yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd pryd y mae'r myfyriwr yn mynd i'r carchar i fwrw dedfryd mewn caethiwed neu'n cael ei ryddhau o'r carchar ar ôl bwrw dedfryd o'r fath.

(6) At ddibenion paragraffau (3)(b) a (3)(c), ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a wnaed o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.

(7) Mewn achos pan fo'r cytundeb ynglyn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, bydd paragraff (3)(c) ddim ond yn gymwys os cafodd y cytundeb ei wneud—

(a) cyn 25 Medi 1991; a

(b) gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd ganddo guradur.

(8) Er gwaethaf paragraffau (2) a (3) ac yn ddarostyngedig i baragraffau (11) i (13), mae person yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys at ddibenion y Rhan hon os yw'n bodloni'r amodau ym mharagraff (9) neu (10).

(9) Yr amodau yn y paragraff hwn yw—

(a) bod y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs dysgu o bell dynodedig presennol yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf ;

(b) nad oedd y person yn preswylio fel arfer yn Lloegr ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs; ac

(c) nad yw ei statws fel myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi'i derfynu.

(10) Yr amodau yn y paragraff hwn yw—

(a) bod Gweinidogion Cymru eisoes wedi penderfynu bod y person—

(i) yn fyfyriwr cymwys mewn perthynas â chwrs dynodedig;

(ii) yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig heblaw'r cwrs dysgu o bell presennol; neu

(iii) yn fyfyriwr rhan amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig;

(b) bod statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys, myfyriwr dysgu o bell cymwys neu fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (a) wedi'i drosi neu wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol o ganlyniad i drosi neu drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(c) nad oedd y person yn preswylio fel arfer yn Lloegr ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs y cyfeirir ato yn is-baragraff (a); ac

(ch) nad yw statws y person fel myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi'i derfynu.

(11) Pan fo—

(a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn ffoadur neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu'n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o'r cwrs dysgu o bell presennol, neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn perthynas â chwrs dynodedig, cwrs rhan amser dynodedig, neu gwrs dysgu o bell dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr cymwys, myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi'i drosglwyddo i'r cwrs dysgu o bell presennol; a

(b) ar y diwrnod cyn dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, os bydd statws ffoadur A neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant neu ei lys-riant, yn ôl y digwydd, wedi terfynu ac nad oes hawl bellach i aros wedi'i rhoi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu'n syth cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(12) Pan fo—

(a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn berson â hawl i ddod i mewn neu aros neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu'n llysblentyn i'r cyfryw berson, yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o'r cwrs dysgu o bell presennol, neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn perthynas â chwrs dynodedig, cwrs rhan-amser dynodedig, neu gwrs dysgu o bell dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr cymwys, myfiriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi'i drosglwyddo i'r cwrs dysgu o bell presennol; a

(b) ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, os bydd y cyfnod a ganiateir i'r person sydd â hawl i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig wedi terfynu ac nad oes hawl bellach i aros wedi'i rhoi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu'n syth cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(13) Nid yw paragraffau (11) a (12) yn gymwys pan fo'r myfyriwr wedi dechrau ar y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef ei fod yn fyfyriwr cymwys neu'n fyfyriwr rhan amser cymwys, yn ôl y digwydd, cyn 1 Medi 2007.

(14) Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl, ar unrhyw adeg, i gael cymorth—

(a) at fwy nag un cwrs dysgu o bell dynodedig;

(b) at gwrs dysgu o bell dynodedig a chwrs dynodedig;

(c) at gwrs dysgu o bell dynodedig a chwrs rhan-amser dynodedig;

(ch) at gwrs dysgu o bell dynodedig a chwrs ôl-radd dynodedig.

Myfyrwyr sy'n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd

61B.—(1) Pan fo un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

(a) caiff myfyriwr yr hawl i grant o ran ffioedd mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn unol â'r Rhan hon cyn belled â bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd o fewn tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a

(b) nid oes grant mewn perthynas â ffioedd ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol.

(2) Pan fo un o'r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (d), (dd), (e), (f), neu (ff) o baragraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

(a) caiff myfyriwr yr hawl i grant tuag at lyfrau, teithio a gwariant arall mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn unol â'r Rhan hon; a

(b) nid yw grant tuag at lyfrau, teithio a gwariant arall ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol.

(3) Pan fo un o'r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (d), (dd), (e), (f), neu (ff) o baragraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd —

(a) caiff myfyriwr yr hawl i lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn unol â'r Rhan hon; ac

(b) nid yw lwfans myfyrwyr dysgu o bell anabl mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ar gael.

(4) Y digwyddiadau yw—

(a) bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dysgu o bell dynodedig;

(b) bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu'n dod yn berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(c) bod gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd a bod y myfyriwr yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r wladwriaeth honno;

(ch) bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r GE;

(d) bod y wladwriaeth y mae'r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd pan fo'r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(dd) bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;

(e) bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1;

(f) bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn o'r Swistir; neu

(ff) bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr o Dwrci.

Cyrsiau dysgu o bell dynodedig

61C.—(1) Mae cwrs yn ddynodedig at ddibenion adran 22(1) o'r Ddeddf a rheoliad 61A os caiff ei ddynodi gan Weinidogion Cymru dan y rheoliad hwn.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cwrs dan y rheoliad hwn os yn eu barn hwy—

(a) bod y cwrs yn cael ei grybwyll yn Atodlen 2 heblaw am gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;

(b) bod y cwrs yn gwrs llawnamser;

(c) bod y cwrs yn para am o leiaf un flwyddyn academaidd; ac

(ch) nad yw'n ofynnol gan y sefydliad neu'r sefydliadau sy'n darparu'r cwrs bod myfyrwyr sy'n ymgymryd â'r cwrs yn y Deyrnas Unedig yn ei fynychu.

(3) At ddibenion penderfynu a yw'r gofyniad ym mharagraff (2)(ch) yn cael ei fodloni, caiff Gweinidogion Cymru ddiystyru—

(a) unrhyw ofyniad a osodir gan y sefydliad neu'r sefydliadau sy'n darparu'r cwrs i fod yn bresennol mewn unrhyw sefydliad at ddibenion—

(i) cofrestru;

(ii) arholiad;

(b) unrhyw ofyniad a osodir gan y sefydliad neu'r sefydliadau sy'n darparu'r cwrs i fod yn bresennol mewn unrhyw sefydliad ar benwythnos neu yn ystod unrhyw wyliau;

(c) unrhyw gyfnod mynychu yn y sefydliad neu'r sefydliadau sy'n darparu'r cwrs y caiff y myfyriwr ei gyflawni ond nad yw'n orfodol iddo wneud hynny gan y sefydliad neu'r sefydliadau hynny.

(4) Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddynodi cwrs fel cwrs dysgu o bell dynodedig—

(a) os yw'n dod o fewn paragraff 7 neu 8 o Atodlen 2; a

(b) os yw corff llywodraethol ysgol a gynhelir wedi trefnu darparu'r cwrs ar gyfer disgybl yr ysgol.

Cyfnod cymhwystra

61CH.—(1) Mae myfyriwr yn cadw ei statws fel myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig hyd onid yw'r statws yn terfynu yn unol â'r rheoliad hwn a rheoliad 61A.

(2) Y cyfnod y mae myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cadw ei statws yw'r “cyfnod cymhwystra”.

(3) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol a rheoliad 61A, mae'r cyfnod cymhwystra yn terfynu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y bydd y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cwblhau ei gwrs dysgu o bell dynodedig ynddi.

(4) Mae'r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr dysgu o bell cymwys—

(a) yn tynnu'n ôl o'i gwrs dysgu o bell dynodedig dan amgylchiadau pan na fo Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu wedi trosi neu pan na fyddant yn trosglwyddo neu yn trosi ei statws dan reoliad 61H, rheoliad 61I, rheoliad 61J, rheoliad 61L neu reoliad 70; neu

(b) yn rhoi'r gorau i'w gwrs dysgu o bell dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.

(5) Caiff Gweinidogion Cymru derfynu'r cyfnod cymhwystra os yw'r myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi dangos trwy ei ymddygiad nad yw'n addas i dderbyn cymorth.

(6) Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw rai o'r camau canlynol y credent eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—

(a) terfynu'r cyfnod cymhwystra;

(b) penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael unrhyw gymorth penodol neu unrhyw swm penodol o gymorth;

(c) trin unrhyw gymorth a dalwyd i'r myfyriwr fel gordal y caniateir ei adennill o dan reoliad 61N.

(7) Pan fo'r cyfnod cymhwystra'n terfynu cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cwblhau'r cwrs dysgu o bell dynodedig ynddi caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu neu estyn y cyfnod cymhwystra am y cyfryw gyfnod ag y maent yn penderfynu arno.

Cymorth at gyrsiau dysgu o bell

61D.—(1) At ddibenion y rheoliad hwn, y cymorth sydd ar gael yw—

(a) grant mewn perthynas â ffioedd nad yw'n fwy na'r lleiaf o'r symiau canlynol—

(i) £1,150; a

(ii) y “ffioedd gwirioneddol”, sef swm y ffioedd a godir ar y myfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs dysgu o bell dynodedig; a

(b) grant nad yw'n fwy na £250 at lyfrau, teithio a gwariant arall mewn cysylltiad â'r cwrs dysgu o bell dynodedig.

(2) Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i dderbyn cymorth dan baragraff (1)(b) os mai'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y daw oddi tano yw paragraff 9.

(3) Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i dderbyn cymorth dan y rheoliad hwn—

(a) os ydyw'n fyfyriwr anabl; a

(b) os rhoddwyd neu os talwyd iddo mewn cysylltiad â'r cwrs dysgu o bell –

(i) bwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm; neu

(ii) lwfans gofal iechyd yr Alban p'un a yw swm y lwfans hwnnw yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm neu beidio.

(4) Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i dderbyn cymorth dan y rheoliad hwn oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig yng Nghymru.

(5) Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i dderbyn cymorth dan y rheoliad hwn os ydyw wedi ymgymryd ag un neu ragor o gyrsiau dysgu o bell dros gyfanswm o wyth mlynedd a'i fod wedi derbyn benthyciad neu grant o'r math a ddisgrifir ym mharagraff (6) mewn perthynas â phob un o'r blynyddoedd academaidd hynny.

(6) Y benthyciadau a'r grantiau yw—

(a) pob benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio neu wariant arall a waned mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell yn unol â'r rheoliadau a wnaed dan adran 22 o'r Ddeddf ;

(b) pob benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio neu wariant arall a waned mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell gan Adran Gyflogaeth a Dysgu (Gogledd Iwerddon) yn unol â rheoliadau wnaed dan Erthyglau 3 ac 8(4) o Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998; neu

(c) benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell a wnaed yn unol â rheoliadau a wnaed dan adrannau 73(f), 73B a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980.

(7) Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i dderbyn cymorth dan y rheoliad hwn os yw'n ddeiliad gradd gyntaf gan sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig.

(8) At ddibenion paragraff (7), nid yw gradd i'w chael ei thrin fel gradd gyntaf—

(a) pan fo'n radd (heblaw gradd anrhydedd) a roddwyd i fyfyriwr dysgu o bell cymwys sydd wedi cwblhau'r modiwlau, arholiadau neu unrhyw ddulliau eraill o asesu angenrheidiol ar gyfer ei gwrs gradd gyntaf; a

(b) pan fo'r myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei gofrestru i barhau â'r cwrs yn yr un sefydliad addysgol yn dilyn derbyn ei radd er mwyn ennill gradd anrhydedd ar ôl cwblhau'r modiwlau, arholiadau neu unrhyw ddull arall o asesu angenrheidiol.

Swm y cymorth

61DD.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a rheoliad 61H(6), mae swm y cymorth a delir ar gyfer blwyddyn academaidd fel a ganlyn—

(a) (a) mae'r mwyafswm o'r cymorth sydd ar gael o dan reoliad 61D(1) yn daladwy os, ar ddyddiad ei gais, yw'r myfyriwr dysgu o bell cymwys neu ei bartner â hawl—

(i) o dan Rhan V11 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 i gymhorthdal incwm, budd-dal tai neu fudd-dal treth cyngor; neu

(ii) o dan Rhan 1 o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995 i lwfans ceisiwr gwaith seiliedig ar incwm neu o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogi a Hyfforddiant 1973 i lwfans o dan y trefniadau a adnabyddir fel Y Fargen Newydd;

(b) pan fo'r incwm perthnasol yn llai na £15,700, mae'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 61D(1) yn daladwy;

(c) pan fo'r incwm perthnasol yn £15,700, mae'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 61D(1)(b) yn daladwy ynghyd â £50 yn llai na'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 61D(1)(a);

(ch) pan fo'r incwm perthnasol yn uwch na £15,700, ond yn llai na £23,680, mae'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 61D(1)(b) yn daladwy a swm y cymorth taladwy o dan reoliad 61D(1)(a) yw'r swm a benderfynir arno yn unol â pharagraph (2);

(d) pan fo'r incwm perthnasol yn £23,680, mae'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 61D(1)(b) yn daladwy a swm y cymorth taladwy o dan reoliad 61D(1)(a) yw £50;

(dd) pan fo'r incwm perthnasol yn uwch na £23,680 ond yn llai na £24,280, mae'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 61D(1)(b) yn daladwy ac nid oes unrhyw gymorth yn daladwy o dan reoliad 61D(1)(a);

(e) pan fo'r incwm perthnasol yn £24,280 neu ragor ond yn llai na £26,180, nid oes unrhyw gymorth ar gael o dan reoliad 61D(1)(a) a swm y cymorth taladwy o dan reoliad 61D(1)(b) yw'r swm a adewir yn dilyn didynnu o'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 61D(1)(b) £1 am bob £9.50 cyflawn a fyddai'n peri i'r incwm perthnasol fynd dros £24,280;

(f) pan fo'r incwm perthnasol yn £26,180, nid oes unrhyw gymorth yn daladwy o dan reoliad 61D(1)(a) ac mae swm y cymorth taladwy o dan reoliad 61D(1)(b) yn £50;

(ff) pan fo'r incwm perthnasol yn uwch na £26,180, nid oes unrhyw gymorth yn daladwy o dan reoliad 61D(1).

(1)

1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147 a Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adran 42. Diwygiwyd adran 42 ac adran 43 gan Ddeddf Addysg 2002 (p. 32), Atodlen 12. Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 a Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149)(C.79)) fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/1660 (Cy.159)(C.56). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(a) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]

(3)

O.S.2006/126 (Cy.19), a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/1863 (Cy.196) ac O.S. 2007/2312 (Cy.183) Back [3]

(4)

O.S.2007/1045 (Cy.104) a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/2312 (Cy.183) Back [4]