(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn ail-wneud Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978 (O.S. 1978/32).
Mae erthygl 3 yn darparu y caiff gweithgynhyrchydd diheintydd wneud cais i Weinidogion Cymru gymeradwyo'r diheintydd hwnnw ar gyfer ei ddefnyddio pan fydd gorchymyn o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (p. 22) yn pennu bod yn rhaid defnyddio diheintydd a gymeradwywyd. Mae erthygl 4 yn darparu mai dim ond yn unol ag amodau'r gymeradwyaeth neu yn unol â chyfarwyddyd arolygydd y ceir defnyddio diheintydd a gymeradwywyd.
Mae erthygl 5 yn darparu bod cymeradwyaeth yn para am ddwy flynedd ond caniateir ei hadnewyddu. Mae erthygl 6 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio, atal neu ddirymu cymeradwyaeth neu wrthod adnewyddu cymeradwyaeth. Mae erthygl 7 yn darparu gweithdrefn i weithgynhyrchydd wneud sylwadau yn erbyn unrhyw ddiwygiad, ataliad neu ddirymiad neu wrthodiad o'r fath.
Mae erthygl 8 yn darparu bod yn rhaid i weithgynhyrchydd neu gyflenwr gymryd camau rhesymol i hysbysu unrhyw berson yn y Deyrnas Unedig y mae wedi cyflenwi diheintydd iddo yn y 6 mis blaenorol os cafodd y gymeradwyaeth ei diwygio, ei hatal neu ei dirymu, neu os cafodd cais i adnewyddu'r gymeradwyaeth ei gwrthod.
Mae erthygl 9 yn gwahardd rhoi unrhyw ddiheintydd ar y farchnad sydd wedi'i labelu neu sydd fel arall yn cael ei gynrychioli fel diheintydd a gymeradwywyd os na chafodd ei gymeradwyo dan y Gorchymyn hwn neu os newidiwyd y fformiwla ar ei gyfer ers rhoi'r gymeradwyaeth.
Mae erthygl 11 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth am ddiheintydd, neu samplau o'r diheintydd hwnnw, yn cael ei ddarparu iddynt.
Yr awdurdod lleol fydd yn gorfodi'r Gorchymyn (erthygl 12). Mae torri'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, ac yn dwyn cosb yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honno.
Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi ei lunio ar gyfer yr offeryn hwn. Mae copïau ar gael oddi wrth Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol