Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Offerynnau Statudol

2007 Rhif 2803 (Cy.236)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Cymru) 2007

Gwnaed

25 Medi 2007

Yn dod i rym

15 Hydref 007

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer eu pwerau o dan adran 1 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Cymru) 2007.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 15 Hydref 2007.

Cymeradwyo

2.  Rhaid i unrhyw gymeradwyaeth o dan y Gorchymyn hwn neu unrhyw adnewyddiad, diwygiad, ataliad neu ddirymiad o gymeradwyaeth fod yn ysgrifenedig.

Cymeradwyo diheintyddion

3.—(1) Caniateir i weithgynhyrchydd diheintydd wneud cais i Weinidogion Cymru gymeradwyo'r diheintydd hwnnw ar gyfer ei ddefnyddio mewn achosion pan fydd gorchymyn o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 yn pennu bod yn rhaid defnyddio diheintydd a gymeradwywyd.

(2) Dim ond os ydynt wedi'u bodloni ynghylch y canlynol y caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo diheintydd—

(a) o ran ei effeithiolrwydd a'i ansawdd; a

(b) ei fod yn cydymffurfio â Rheoliadau Cynhyrchion Bioleiddiadol 2001(2).

(3) O ran y gymeradwyaeth—

(a) rhaid pennu'r gyfradd wanhau; a

(b) caiff gynnwys amodau penodol y mae'r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddynt.

(4) Caniateir i Weinidogion Cymru gynnal profion ar y diheintydd ar unrhyw adeg, a rhaid iddynt gynnal profion arno cyn ei gymeradwyo oni bai —

(a) bod gan y diheintydd yr un fformiwleiddiad â diheintydd arall a weithgynhyrchir gan y gweithgynhyrchydd sy'n gwneud y cais;

(b) bod y diheintydd arall yn ddiheintydd a gymeradwywyd; ac

(c) y gwneir cais am gymeradwyaeth i'w ddefnyddio yn unig mewn un neu fwy o amgylchiadau y cafodd y diheintydd arall ei gymeradwyo ar eu cyfer.

(5) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi rhestr o ddiheintyddion a gymeradwywyd.

(6) Yn erthygl hon, ystyr “cyfradd wanhau” yw nifer y rhannau o ddwr sydd i'w defnyddio i wanhau un rhan o ddiheintydd a gymeradwywyd.

Defnyddio'r diheintydd

4.  Dim ond yn unol ag amodau ei gymeradwyaeth neu'n unol â chyfarwyddyd arolygydd y ceir defnyddio diheintydd a gymeradwywyd.

Parhad cymeradwyaeth ac adnewyddiad ohoni

5.—(1) Mae cymeradwyaeth yn para am ddwy flynedd, a chaniateir ei hadnewyddu o fewn 3 mis cyn iddi ddod i ben.

(2) Os gwneir cais i adnewyddu, mae'r gymeradwyaeth yn parhau'n ddilys tan y dyddiad pryd y caiff y ceisydd ei hysbysu o'r penderfyniad i adnewyddu neu wrthod adnewyddu.

Diwygio, atal a dirymu cymeradwyaethau

6.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio, atal neu ddirymu'r gymeradwyaeth neu wrthod adnewyddu'r gymeradwyaeth os peidiwyd â chynhyrchu'r diheintydd neu os o ran y diheintydd—

(a) nad yw bellach yn effeithiol neu o ansawdd addas;

(b) nad yw'n cydymffurfio ag unrhyw amod yn y gymeradwyaeth; neu

(c) nad yw'n cydymffurfio â Rheoliadau Cynhyrchion Bioleiddiadol 2001.

(2) Caiff Gweinidogion Cymru hefyd atal cymeradwyaeth tra cynhelir ymchwiliad ar unrhyw ddiheintydd os oes ganddynt seiliau rhesymol dros amau bod unrhyw un o'r seiliau ym mharagraff (1) yn gymwys

Sylwadau i Weinidogion Cymru

7.—(1) Caiff gweithgynhyrchydd wneud sylwadau yn erbyn—

(a) gwrthodiad i roi neu adnewyddu cymeradwyaeth;

(b) diwygiad, ataliad neu ddirymiad o gymeradwyaeth; neu

(c) unrhyw amod ar gymeradwyaeth,

i berson a benodir gan Weinidogion Cymru.

(2) Rhaid i'r gweithgynhyrchydd hysbysu Gweinidogion Cymru o'i fwriad i wneud sylwadau o'r fath i'r person penodedig o fewn un mis ar ôl iddo dderbyn hysbysiad yn gwrthod rhoi neu adnewyddu'r gymeradwyaeth neu'n diwygio, atal neu ddirymu'r gymeradwyaeth.

(3) Rhaid i'r person penodedig ystyried y sylwadau a chyflwyno adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru o fewn un mis ar ôl iddo gael y sylwadau.

(4) Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad ysgrifenedig o'u penderfyniad terfynol a'u rhesymau drosto i'r ceisydd o fewn un mis ar ôl iddynt gael yr adroddiad oddi wrth y person penodedig.

(5) Oni fydd Gweinidogion Cymru'n cyfarwyddo fel arall, bydd y gwrthodiad i adnewyddu cymeradwyaeth neu ddiwygiad, ataliad neu ddirymiad o gymeradwyaeth yn parhau mewn grym hyd nes y byddant yn gwneud eu penderfyniad terfynol.

Dyletswyddau gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr mewn perthynas â chymeradwyaethau a ddiwygiwyd, a ataliwyd neu a ddirymwyd

8.—(1) Os bydd Gweinidogion Cymru yn diwygio, yn atal neu'n dirymu cymeradwyaeth o ddiheintydd neu'n gwrthod adnewyddu cymeradwyaeth, rhaid i'r gweithgynhyrchydd, ac unrhyw gyflenwr sy'n dod yn ymwybodol o'r ffaith, gymryd pob cam rhesymol i hysbysu pob person yn y Deyrnas Unedig y mae wedi cyflenwi'r diheintydd iddo yn y 6 mis blaenorol.

(2) Rhaid i'r cyfryw hysbysiad gael ei roi o fewn un mis ar ôl i'r gweithgynhyrchydd neu'r cyflenwr ddod yn ymwybodol o ddiwygio, atal neu ddirymu'r gymeradwyaeth, neu wrthod adnewyddu'r gymeradwyaeth

Rhoi diheintydd ar y farchnad

9.  Ni chaiff neb roi ar y farchnad unrhyw ddiheintydd sydd wedi'i labelu neu sydd fel arall yn cael ei gynrychioli fel diheintydd a gymeradwywyd —

(a) os na chafodd ei gymeradwyo o dan y Gorchymyn hwn; neu

(b) os yw'r fformiwla ar ei gyfer wedi newid ers pan roddwyd y gymeradwyaeth iddo.

Cyfeiriadau at ddiheintyddion mewn gorchmynion o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981

10.  Mae unrhyw gyfeiriad mewn gorchymyn o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 at ddiheintydd a gymeradwywyd o dan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978(3) neu a restrwyd mewn Atodlen i'r Gorchymyn hwnnw yn gyfeiriad at ddiheintydd a gymeradwywyd o dan y Gorchymyn hwn.

Darparu gwybodaeth a samplau

11.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, ei gwneud yn ofynnol i weithgynhyrchydd diheintydd y gwneir cais am gymeradwyaeth neu y rhoddir cymeradwyaeth ar ei gyfer, neu unrhyw berson y mae'r cyfryw ddiheintydd yn ei feddiant—

(a) ddarparu samplau o'r diheintydd hwnnw er mwyn cynnal profion arno; neu

(b) roi unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â'r diheintydd hwnnw.

(2) Rhaid darparu'r samplau neu'r wybodaeth i Weinidogion Cymru o fewn y cyfnod a osodir ganddynt.

(3) Ar gais Gweinidogion Cymru, rhaid i'r gweithgynhyrchydd ddarparu ei arbenigedd technegol er mwyn hwyluso unrhyw ddadansoddiad o samplau.

Gorfodi

12.—(1) Gorfodir y Gorchymyn hwn gan yr awdurdod lleol.

(2) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo, mewn achosion o ddisgrifiad penodol neu yn unrhyw achos penodol, mai hwy fydd yn gorfodi'r Gorchymyn hwn yn hytrach na'r awdurdod lleol.

Dirymiadau

13.  Dirymir y canlynol—

(a) Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978(4); a

(b) Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) 2006(5).

(c) Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) 2007(6).

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

25 Medi 2007

(1)

1981 p. 22; gweler adran 86(1) i gael y diffiniad o “the Ministers”. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r “Ministers”, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd O.S. 1999/672 ac O.S. 2004/3044, ac maent yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Back [1]

(2)

O.S. 2001/880, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/429, 2005/2451 a 2005/2759. Back [2]

(3)

O.S.1978/32, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/3166. Back [3]

(4)

O.S. 1978/32, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/3166. Back [4]

(5)

O.S. 2006/3166. Back [5]

(6)

O.S. 2007/2494. Back [6]