Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhestru'r holl gyrff hynny y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn gyrff sy'n cael eu cydnabod o fewn ystyr adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988. Mae'r rhain yn brifysgolion, colegau, neu gyrff eraill a awdurdodir drwy Siarter Frenhinol neu drwy Ddeddf Seneddol neu o dan Ddeddf Seneddol i roi graddau ac yn gyrff eraill a ganiateir am y tro gan y cyrff hynny i weithredu ar eu rhan wrth roi graddau. Nid yw dyfarniad a roddir gan gorff o'r fath yn ddyfarniad o'r math y cyfeirir ato yn adran 214(1) sy'n ei gwneud yn dramgwydd i roi, i gynnig rhoi neu i ddyroddi unrhyw wahoddiad sy'n ymwneud â graddau a dyfarniadau penodol nad ydynt yn cael eu cydnabod.

Mae'r Gorchymyn hwn yn diweddaru ac yn disodli'r rhestr o gyrff yng Ngorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3287), sydd wedi'i ddirymu. Mae'n cynnwys nifer o sefydliadau sydd wedi'u hawdurdodi i ddyfarnu graddau o dan adran 76 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13) ac adran 48 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (Yr Alban) 1992 (p.37). Mae'n cynnwys hefyd nifer o ysgolion, colegau a sefydliadau Prifysgol Llundain y mae'r Brifysgol wedi caniatáu iddynt ddyfarnu graddau Prifysgol Llundain.