(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Atodlenni 16 a 17 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1643 (Cy.158)) (“y prif Orchymyn”). Mae'r Atodlenni, sy'n gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 93/85/EC (OJ Rhif L 259, 18.10.1993, t.1) a Chyfarwyddeb y Cyngor 98/57/EEC (OJ Rhif L 235, 21.8.1998, t.1), yn cynnwys mesurau arbennig ar reoli Pydredd Cylch Tatws a Ralstonia solanacearum yn ôl eu trefn.
Mae'r diwygiadau i Atodlen 16, yn erthygl 2(6), yn rhoi ei heffaith i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/56/EC (OJ Rhif L 182, 4.7.2006, t.1) sy'n diwygio'r Atodiadau i Gyfarwyddeb y Cyngor 93/85/EEC. Yn yr un modd, mae'r diwygiadau i Atodlen 17, yn erthygl 2(7) ac (8), yn rhoi ei heffaith i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/63/EC (OJ Rhif L 206, 27.7.2006, t.36) sy'n diwygio Atodiadau II i VII i Gyfarwyddeb y Cyngor 98/57/EC. Mae'r diwygiadau i'r ddwy Atodlen yn diweddaru gofynion ar gyfer gwaredu deunydd halogedig a deunydd halogedig posibl, ar gyfer y mesurau rheoli sy'n ofynnol mewn mannau cynhyrchu halogedig ac, yn achos Ralstonia solanacearum, ar gyfer mesurau o'r fath o fewn parthau darnodi.
Mae'r Gorchymyn, yn erthygl 2(2) i (5), hefyd yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau drafftio i'r prif Orchymyn.
Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol llawn wedi'i lunio ar gyfer yr offeryn hwn.