Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1344) (“y Gorchymyn”) er mwyn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2007/201/EC sy'n diwygio Penderfyniad 2002/757/EC ar fesurau ffytoiechydol brys dros dro i rwystro dod â Phytophthora ramorum Werres, De Cock & Man in 't Veld sp. nov (O.J. Rhif L 90, 30.3.2007, t.83) i'r Gymuned ac i rwystro'i ledaenu o fewn y Gymuned ac i wneud mân newidiadau eraill. Y prif newidiadau a wneir yw—

(a) diwygio'r rhestr o ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddi (erthygl 2(4));

(b) cyflwyno gofynion ychwanegol ar symud deunydd sy'n dueddol o gael y pla yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn, yn benodol bod mesurau ffytoiechydol priodol yn cael eu cymryd o fewn radiws o ddau fetr o'r fan lle bu planhigion heintiedig yn gorwedd.

Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol llawn wedi'i lunio ar gyfer yr offeryn hwn.