Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Page 1 of 1

Offerynnau Statudol

2007 Rhif 2626 (Cy.223)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2007

Wedi'i wneud

7 Medi 2007

Yn dod i rym

12.00 ganol dydd ar 8 Medi 2007

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 8(1) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chychwyn

1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2007.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru a daw i rym ar ganol dydd ar 8 Medi 2007.

Diwygio

2.  Diwygir Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003(2) drwy hepgor erthygl 3A.

Rhodri Morgan AC/AM

Prif Weinidog Cymru

7 Medi 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003 (O.S. 2003/1966 (Cy.211)) i dynnu ohono'r mesurau brys sy'n cynyddu'r cyfnod segur o 6 diwrnod i 20 o ddiwrnodau ac yn datgymhwyso paragraff 8 o Atodlen 1 a pharagraff 13 o Atodlen 2 mewn cysylltiad â symudiadau penodol mewn grwp meddiannaeth unigol.

Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.

(1)

1981 p.22. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog a'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 ac O.S. 2004/3044. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Back [1]

(2)

O.S. 2003/1966 (Cy.211) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/179 (Cy.30), O.S. 2006/1036 (Cy.106) ac O.S. 2007/2475 (Cy.211). Back [2]