Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad (EC) Rhif 1924/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar honiadau am faethiad ac iechyd a wneir am fwydydd, fel y'i cywirwyd gan Gorigendwm (OJ Rhif L12, 18.1.2007, t3), “Rheoliad y GE”.

2.  Mae'r Rheoliadau—

(a) yn dynodi'r awdurdodau cymwys at ddibenion Erthyglau penodol Rheoliad y GE (rheoliad 3);

(b) yn pennu'r awdurdodau gorfodi (rheoliad 4);

(c) yn darparu ei bod yn dramgwydd, yn ddarostyngedig i randdirymiadau penodol a mesurau trosiannol a bennir yn Rheoliad y GE lle y bo'n berthnasol—

(i) i wneud honiadau am faethiad neu iechyd nad ydynt yn gyffredinol yn cydymffurfio â gofynion Rheoliad y GE ac yn benodol sydd yn gamarweiniol neu wneud honiad o fathau gwaharddedig penodol;

(ii) i wneud honiadau am ddiodydd alcoholaidd ac eithrio i'r graddau cyfyngedig iawn a ganiateir gan Reoliad y GE;

(iii) i wneud honiad na ellir ei gyfiawnhau'n wyddonol;

(iv) i fethu â darparu'r wybodaeth faethol a ragnodwyd wrth wneud honiad am iechyd;

(v) i wneud honiad maethol nad yw'n un o'r rhai a restrir yn yr Atodiad i Reoliad y GE;

(vi) i wneud honiad maethol cymharol nad yw'n cydymffurfio â gofynion Rheoliad y GE;

(vii) i wneud honiad am iechyd nad awdurdodwyd o dan y gweithdrefnau a ddarperir yn Rheoliad y GE ac nad yw'r wybodaeth benodedig gydag ef yn y labelu neu mewn unrhyw ddull arall o'i gyflwyno;

(viii) i wneud honiad am iechyd o fath a waherddir yn benodol gan Reoliad y GE; neu

(ix) yn achos honiadau am iechyd o ran lleihau risg rhag clefyd, i fethu â rhoi gyda'r honiad y datganiad a ragnodir yn Rheoliad y GE (rheoliad 5).

3.  Mae'r Rheoliadau hefyd—

(a) yn cymhwyso darpariaethau penodol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 at ddibenion y Rheoliadau hyn ( rheoliad 6);

(b) yn darparu ei bod, yn ddarostyngedig i derfynau penodol, yn dramgwydd i rwystro, methu â rhoi gwybodaeth neu gamarwain yn fwriadol unrhyw un sy'n gweithredu ac yn gorfodi'r Rheoliadau hyn (rheoliad 7); ac

(c) yn diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 ynghylch y meysydd lle y mae gorgyffwrdd rhwng y Rheoliadau hynny a Rheoliad y GE (rheoliad 8).

4.  Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gostau busnes ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.