Rheoliadau 7(1) ac 11(1)
1. Disgrifiad o'r prosiect, sef gwybodaeth am safle, dyluniad a maint y prosiect.
2. Disgrifiad o'r mesurau a ragwelir er mwyn osgoi, lleihau ac, os yw'n bosibl, unioni unrhyw effeithiau andwyol arwyddocaol.
3. Y data y mae eu hangen i adnabod ac asesu'r prif effeithiau y mae'r prosiect yn debygol o'u cael ar yr amgylchedd.
4. Braslun o'r prif ddewisiadau eraill a astudiwyd gan y ceisydd a syniad o'r prif resymau dros ei ddewis, gan gymryd i ystyriaeth yr effeithiau amgylcheddol.
5. Crynodeb annhechnegol o'r wybodaeth a ddarparwyd o dan baragraffau 1 i 4 o'r Rhan hon.
1. Disgrifiad o'r prosiect, gan gynnwys yn benodol—
(a) disgrifiad o nodweddion ffisegol y prosiect cyfan a'r anghenion o ran defnydd tir yn ystod y cyfnod adeiladu a'r cyfnod gweithredol;
(b) disgrifiad o brif nodweddion y prosesau cynhyrchu, er enghraifft, natur y deunyddiau a ddefnyddir a pha faint ohonynt a ddefnyddir;
(c) amcangyfrif, yn ôl math a maint, o'r gwaddodion a'r allyriadau disgwyliedig (llygredd dwr, aer a phridd, swn, dirgryniad, golau, gwres, ymbelydredd, etc.) a fyddai'n deillio o weithredu'r prosiect arfaethedig.
2. Amlinelliad o'r prif ddewisiadau eraill a astudiwyd gan y ceisydd a syniad o'r prif resymau dros y dewis hwn, gan gymryd i ystyriaeth yr effeithiau amgylcheddol.
3. Disgrifiad o'r agweddau ar yr amgylchedd y mae'r prosiect arfaethedig yn debyg o effeithio'n sylweddol arnynt, gan gynnwys, yn benodol, poblogaeth, ffawna, fflora, pridd, dwr, aer, ffactorau hinsoddol, asedau materol, gan gynnwys y dreftadaeth bensaernïol ac archeolegol, y tirlun a rhyngberthynas y ffactorau uchod.
4. Disgrifiad o effeithiau sylweddol tebygol y prosiect arfaethedig ar yr amgylchedd, a hwnnw'n ddisgrifiad a ddylai ymdrin ag effeithiau uniongyrchol ac unrhyw effeithiau anuniongyrchol, eilaidd, cronnol, byrdymor, tymor-canolig a hirdymor, parhaol a thros dro, cadarnhaol a negyddol y prosiect, a fyddai'n deillio o:
(a) bodolaeth y prosiect;
(b) y defnydd o adnoddau naturiol;
(c) allyriant llygrwyr, creu niwsansau a dileu gwastraff,
a disgrifiad gan y ceisydd o'r dulliau darogan a ddefnyddir i asesu'r effeithiau ar yr amgylchedd.
5. Disgrifiad o'r mesurau a ragwelir i atal, lleihau ac, os yw'n bosibl, i wrthbwyso unrhyw effeithiau andwyol arwyddocaol ar yr amgylchedd.
6. Crynodeb annhechnegol o'r wybodaeth a ddarperir o dan baragraffau 1 i 5 o'r Rhan hon.
7. Awgrym o unrhyw anawsterau (diffygion technegol neu ddiffyg gwybodaeth ymarferol) y daethpwyd ar eu traws gan y ceisydd wrth grynhoi'r wybodaeth sy'n ofynnol.
Rheoliad 5(8)
1. Rhaid ystyried nodweddion y prosiectau, gan roi sylw, yn benodol, i—
(a) maint y prosiect;
(b) sut mae'n cyfuno â phrosiectau eraill;
(c) y defnydd o adnoddau naturiol;
(ch) cynhyrchu gwastraff;
(d) llygredd a niwsansau;
(dd) y perygl o ddamweiniau, gan roi sylw, yn benodol, i'r sylweddau neu'r technolegau a ddefnyddir.
2. Rhaid ystyried sensitifrwydd amgylcheddol yr ardaloedd daearyddol y mae prosiectau yn debygol o effeithio arnynt, gan roi sylw, yn benodol, i —
(a) y defnydd presennol o'r tir;
(b) digonedd, ansawdd a gallu atgynhyrchiol cymharol yr adnoddau naturiol yn yr ardal;
(c) gallu'r amgylchedd naturiol i amsugno, o roi sylw penodol i'r ardaloedd canlynol—
(i) gwlyptiroedd,
(ii) parthau arfordirol,
(iii) ardaloedd mynyddig a fforestydd,
(iv) gwarchodfeydd natur a pharciau,
(v) ardaloedd sydd wedi'u dosbarthu neu wedi'u gwarchod o dan ddeddfwriaeth y gwladwriaethau AEE; ardaloedd gwarchodaeth arbennig a ddynodwyd gan Aelod-wladwriaethau o dan y Gyfarwyddeb Adar Gwyllt neu'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd,
(vi) ardaloedd lle rhagorwyd eisoes ar y safonau ansawdd amgylcheddol sydd wedi'u pennu mewn deddfwriaeth Gymunedol,
(vii) ardaloedd dwys eu poblogaeth,
(viii) tirluniau sydd o bwys hanesyddol, diwylliannol neu archeolegol.
3. Rhaid ystyried effeithiau sylweddol posibl prosiectau, mewn perthynas â'r meini prawf a nodwyd o dan baragraffau 1 a 2 uchod, a chan roi sylw, yn benodol, i—
(a) hyd a lled yr effaith (yr ardal ddaearyddol a maint y boblogaeth yr effeithir arni);
(b) natur drawsffiniol yr effaith;
(c) graddfa a chymhlethdod yr effaith;
(ch) tebygolrwydd yr effaith;
(d) hyd, amlder a gwrthdroadwyedd yr effaith.