Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 5 TROSGLWYDDO AC AMRYWIO CANIATADAU

Trosglwyddo caniatâd

16.—(1) Rhaid i ganiatâd a roddir o dan y Rheoliadau hyn beidio â chael ei drosglwyddo naill ai'n gyfan gwbl neu'n rhannol i berson arall heb gael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru ymlaen llaw ac os ymhonnir i unrhyw drosglwyddiad gael ei wneud heb gymeradwyaeth o'r fath bydd y trosglwyddiad yn ddi-rym.

(2) Caiff Gweinidogion Cymru, pan ddaw cais i law oddi wrth y perchennog neu'r deiliad, gymeradwyo trosglwyddo naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig i amodau trosglwyddo y mae Gweinidogion Cymru o'r farn eu bod yn briodol.

(3) Pan fo caniatâd yn cael ei drosglwyddo, bydd y perchennog —

(a) yn parhau'n atebol am dorri unrhyw amod y bydd y caniatâd yn ddarostyngedig iddo, pryd bynnag y bydd y tor-amod yn digwydd;

(b) yn parhau i fod a'r cyfryw hawliau a rhwymedigaethau mewn perthynas â'r caniatâd ag y mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar eu cyfer.

(4) Ni fydd unrhyw ddeiliad caniatâd yn atebol am dorri amodau, sy'n cynnwys unrhyw amodau trosglwyddo, y mae'r caniatâd yn ddarostyngedig iddynt, ond pan dorrir hwynt tra bydd y deiliad yn ddeiliad y caniatâd.

(5) Ni fydd deiliad caniatâd yn atebol am dorri unrhyw amodau a osodir er mwyn gweithredu terfynau rhanbarthol ar faint o dunelli y caniateir eu treillio.

(6) Pan fo caniatâd wedi ei drosglwyddo gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru o dan baragraff (2), bydd y trosglwyddiad yn peidio â bod yn effeithiol ar ddiwedd y cyfnod o 40 o ddiwrnodau yn dechrau ar y dyddiad trosglwyddo, neu unrhyw gyfnod pellach y gall Gweinidogion Cymru gytuno iddo, onid yw'r trosglwyddai'n hysbysu Gweinidogion Cymru cyn pen y cyfnod hwnnw—

(a) bod y cyfan o'r caniatâd wedi ei drosglwyddo neu fod rhan o'r caniatâd wedi ei throsglwyddo, yn ôl y digwydd, i'r trosglwyddai;

(b) os trosglwyddo rhan yn unig a wneir, am hyd a lled y rhan a drosglwyddir; ac

(c) am y dyddiad trosglwyddo.

Amrywio caniatâd

17.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu amrywio caniatâd a roddir o dan y Rheoliadau hyn, yn gyfan gwbl neu'n rhannol.

(2) Caiff Gweinidogion Cymru wneud hynny naill ai —

(a) ar gais person a grybwyllir yn rheoliad 18(1); neu

(b) ar gynnig Gweinidogion Cymru eu hunain, yn yr amgylchiadau y darperir ar eu cyfer yn rheoliad 21(1).

(3) Caiff unrhyw amrywiad ei wneud nid yn unig i'r caniatâd ei hun ond hefyd i unrhyw amod yr oedd y caniatâd yn ddarostyngedig iddo cyn ei amrywio.

Amrywio caniatâd ar gais: dyfarniadau rhagarweiniol a ffioedd

18.—(1) Caniateir gwneud cais am amrywio i Weinidogion Cymru —

(a) os trosglwyddwyd y cyfan o'r caniatâd o dan reoliad 16, gan y deiliad;

(b) os trosglwyddwyd rhan o'r caniatâd o dan reoliad 16, ac os trosglwyddiad mewn cysylltiad â'r rhan honno yw'r trosglwyddiad a gynigir, gan y deiliad;

(c) os bydd—

(i) person (“trosglwyddai arfaethedig”) yn ystyried dod i gytundeb â'r perchennog neu'r deiliad ar gyfer trosglwyddo caniatâd o dan reoliad 16, naill ai'n gyfan gwbl neu'n rhannol, a

(ii) yr amrywiad a gynigir yn gysylltiedig â rhan neu â'r cyfan o'r caniatâd y bwriedir ei drosglwyddo,

gan y trosglwyddai arfaethedig; ac

(ch) mewn unrhyw achos arall, gan y perchennog.

(2) Rhaid i gais o dan baragraff (1) (“cais amrywio”), os y ceisydd yw'r deiliad neu os yw'n drosglwyddai arfaethedig (p'un ai o'r cyfan neu o ran o'r caniatâd), gael dogfen yn mynd gydag ef yn dynodi cydsyniad ysgrifenedig y perchennog i'r cais.

(3) Cyn penderfynu p'un ai i ganiatáu cais amrywio ai peidio, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a) oni phenderfynwyd bod y treillio'n brosiect amddiffyn gwladol pan roddwyd caniatâd ar gyfer y treillio, benderfynu, o ystyried y meini prawf dethol hynny sy'n berthnasol i'r amrywiad a gynigir, p'un a fyddai'r amrywiad yn brosiect perthnasol ai peidio; a

(b) p'un a fyddai'r amrywiad yn brosiect cynefinoedd ai peidio.

(4) Pan fo Gweinidogion Cymru, er mwyn iddynt wneud dyfarniad o dan baragraff (3), o'r farn bod hynny'n angenrheidiol, cânt ofyn i'r person sy'n gwneud y cais amrywio gyflenwi unrhyw wybodaeth bellach cyn pen unrhyw gyfnod penodedig ac mewn unrhyw ddull sy'n rhesymol ofynnol.

(5) Os yw'r ceisydd yn methu â chyflenwi'r wybodaeth y gofynnir amdani o dan baragraff (4) cyn pen y cyfnod penodedig neu'r cyfnod pellach y mae Gweinidogion Cymru ei ganiatáu, bernir y bydd y cais wedi ei dynnu'n ôl.

(6) Cyn gwneud dyfarniad o dan baragraff (3) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori—

(a) â'r perchennog (os nad y perchennog yw'r ceisydd);

(b) â'r ceisydd; a

(c) â'r cyrff ymgynghori priodol.

(7) Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl iddynt wneud dyfarniad o dan baragraff (3);

(a) anfon copi ohono i'r ceisydd, ynghyd â gwybodaeth ynghylch sut y caniateir herio'r penderfyniad;

(b) anfon copi ohono i unrhyw bersonau eraill yr ymgynghorir â hwy o dan baragraff (6); ac

(c) cymryd y camau hynny y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol i sicrhau ei fod ar gael i'r cyhoedd o dan sylw.

(8) Ar yr adeg yr anfonir i'r ceisydd y copi o'r dyfarniad o dan baragraff (7) rhaid i Weinidogion Cymru ofyn am i'r ffi briodol a ddyfernir o dan reoliad 25 gael ei thalu.

(9) Os na thelir y ffi o fewn y cyfnod a bennir gan Weinidogion Cymru, neu'r cyfnod pellach y mae Gweinidogion Cymru ei ganiatáu, bernir y bydd y cais amrywio wedi ei dynnu'n ôl.

Amrywio caniatâd ar gais: prosiectau perthnasol a phrosiectau cynefinoedd

19.—(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn dyfarnu o dan reoliad 18(3)(a) y byddai amrywiad yn brosiect perthnasol —

(a) rhaid i Weinidogion Cymru ofyn i'r ceisydd ddarparu datganiad amgylcheddol cyn pen cyfnod penodedig a rhaid iddynt beidio â phenderfynu'r cais amrywio hyd nes y bydd y ceisydd wedi'i ddarparu; a

(b) bydd darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â'r cais amrywio yn yr un modd ag y maent yn gymwys i gais o dan reoliad 10, fel petai cyfeiriadau at benderfynu cais o dan baragraff (1) o'r rheoliad hwnnw ac ymadroddion cytras yn gyfeiriadau at benderfynu cais o dan reoliad 18—

(i) rheoliadau 7 ac 8,

(ii) paragraffau (4), (5) a (6) o reoliad 10,

(iii) rheoliadau 11 a 12,

(iv) ac eithrio paragraff 7(b), rheoliad 13,

(v) rheoliadau 14 a 15,

(vi) rheoliad 23,

(vii) rheoliadau 25 i 27, ac

(viii) rheoliadau 29 a 30.

(2) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gofyn am ddatganiad amgylcheddol o dan baragraff (1)(a) ac nad yw wedi'i ddarparu cyn pen y cyfnod penodedig, neu unrhyw gyfnod pellach a ganiateir ganddynt, bernir bod y cais wedi'i dynnu'n ôl ar ddiwedd y cyfnod hwnnw ac ad-delir y ffi, ar yr amod na fydd unrhyw hysbyseb o dan reoliad 12(1), fel y'i cymhwysir gan baragraff 1(b), wedi'i chyhoeddi ar y dyddiad y tynnir y cais yn ôl.

(3) Pan fo Gweinidogion Cymru yn dyfarnu o dan reoliad 18(3)(b) y byddai amrywiad yn brosiect cynefinoedd, bydd darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â'r cais amrywio yn yr un modd ag y maent yn gymwys mewn perthynas â chais a wnaed o dan reoliad 10, fel petai cyfeiriadau at benderfynu cais o dan baragraff (1) o'r rheoliad hwnnw ac ymadroddion cytras yn gyfeiriadau at benderfynu cais o dan reoliad 18—

(a) rheoliadau 13 a 14;

(b) rheoliadau 23 i 30.

Amrywio caniatâd ar gais: achosion eraill

20.—(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn dyfarnu o dan reoliad 18(3) na fyddai amrywiad yn brosiect perthnasol na phrosiect cynefinoedd, mae'r rheoliad hwn yn gymwys—

(a) i'r cais mewn cysylltiad â'r amrywiad hwnnw; a

(b) i unrhyw gais dilynol, mewn cysylltiad â'r un amrywiad, a gyflwynir i Weinidogion Cymru o fewn 12 mis i ddyddiad y dyfarniad.

(2) Pan fo'n rhesymol angenrheidiol, caiff Gweinidogion Cymru ofyn i'r ceisydd ddarparu gwybodaeth bellach cyn pen unrhyw gyfnod ac ar unrhyw ffurf a bennir yn rhesymol.

(3) Pan fo'r ceisydd, cyn pen unrhyw gyfnod y bydd Gweinidogion Cymru wedi'i bennu, neu unrhyw gyfnod pellach y byddant yn ei ganiatáu, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw archiad gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (2), bernir bod y cais amrywio wedi'i dynnu'n ôl ac ad-delir y ffi, ar yr amod na fydd Gweinidogion Cymru, ar ddyddiad ei dynnu'n ôl, wedi cydymffurfio â gofynion paragraff (4).

(4) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon —

(a) copi o'r cais amrywio ac o unrhyw wybodaeth bellach a ddarparwyd o dan baragraff (2); a

(b) datganiad yn dweud y caniateir i sylwadau ynglyn â'r cais gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru, ac yn nodi i ba gyfeiriad yng Nghymru y caniateir i'r sylwadau gael eu hanfon, a chyn pen pa gyfnod y caniateir i'r sylwadau gael eu cyflwyno, sef cyfnod na fydd yn llai nag wyth wythnos gan ddechrau ar y dyddiad y caiff y datganiad ei anfon,

at y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (5).

(5) Dyma'r personau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (4)—

(a) y cyrff ymgynghori priodol;

(b) y perchennog (os nad y ceisydd yw'r perchennog); ac

(c) unrhyw berson arall (gan gynnwys unrhyw gorff anllywodraethol sy'n hyrwyddo gwaith diogelu'r amgylchedd yn nyfroedd Cymru) y mae'n debyg bod ganddo fuddiant yn y cais neu y mae Gweinidogion Cymru yn credu y byddai'r cais yn debyg o effeithio arno.

(6) Cyn penderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod cais amrywio y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo, caiff Gweinidogion Cymru roi cyfle i gyflwyno sylwadau (p'un ai'n bersonol neu'n ysgrifenedig) i berson a benodir gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw, i'r ceisydd, i'r perchennog (os nad y ceisydd yw'r perchennog) ac i unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru yn credu y dylid rhoi cyfle o'r fath iddo.

(7) Wrth benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod cais amrywio y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo, rhaid i Weinidogion Cymru gymryd i ystyriaeth —

(a) yr wybodaeth a ddarperir yn y cais amrywio;

(b) unrhyw wybodaeth bellach a ddarperir o dan baragraff (2) ac unrhyw wybodaeth arall a gyflwynir gan y ceisydd;

(c) unrhyw sylwadau perthnasol a gyflwynir mewn ymateb i'r copïau o'r cais a ddarperir o dan baragraff (4);

(ch) adroddiad unrhyw berson a benodir o dan baragraff (6); a

(d) unrhyw un o bolisïau cyhoeddedig Gweinidogion Cymru mewn perthynas ag echdynnu mwynau drwy dreillio gwely'r môr.

(8) Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu'r cais amrywio naill ai drwy roi neu wrthod caniatâd ar gyfer yr amrywiad.

(9) Caiff penderfyniad i roi caniatâd ar gyfer yr amrywio fod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae Gweinidogion Cymru yn credu eu bod yn briodol, gan gynnwys —

(a) amodau sydd wedi'u bwriadu i roi ar waith unrhyw bolisi a gymerir i ystyriaeth o dan baragraff (7)(d) ac sy'n cynnwys terfynau rhanbarthol ar dunelledd y mwynau y caniateir treillio amdanynt, a

(b) amodau ynglyn â'r ffioedd, y dyfernir arnynt yn unol â rheoliad 25, ac sydd i'w talu mewn cysylltiad â threuliau Gweinidogion Cymru a dynnir wrth ddehongli ac asesu canlyniadau unrhyw waith i fonitro cydymffurfedd â'r amodau sy'n gysylltiedig â'r caniatâd a hwnnw'n fonitro a wnaed yn unol â'r amodau hynny.

(10) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon hysbysiad o'r penderfyniad o dan baragraff (8) at y personau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (5), a rhaid i'r hysbysiad ddatgan —

(a) y prif resymau dros y penderfyniad;

(b) y prif ystyriaethau y mae'r penderfyniad wedi'i seilio arno gan gynnwys, os yw'n berthnasol, gwybodaeth am y broses o gyfranogi gan y cyhoedd;

(c) pan fo caniatâd yn cael ei roi —

(i) unrhyw amodau a osodir o dan baragraff (9), a

(ii) pan fo'n gymwys, y prif gamau i'w cymryd i osgoi, lleihau ac, os yw'n bosibl, gwrthbwyso unrhyw effeithiau andwyol arwyddocaol; ac

(ch) y caniateir herio'r penderfyniad a'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny.

Dirymu, atal dros dro neu amrywio caniatâd ac eithrio ar gais

21.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys—

(a) pan ddigwydd toriad sylweddol o unrhyw amod sy'n gysylltiedig â'r caniatâd neu â throsglwyddiad o'r caniatâd; neu

(b) mewn unrhyw achos arall, pan fo Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn briodol arfer y pwerau a roddir gan y rheoliad hwn, er mwyn diogelu'r amgylchedd rhag effeithiau andwyol arwyddocaol a achosir gan y treillio a awdurdodir drwy'r caniatâd.

(2) Pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru—

(a) dirymu'r caniatâd; neu

(b) ei amrywio'n barhaol p'un ai'n gyfan gwbl neu'n rhannol.

(3) Cyn dirymu neu amrywio'n barhaol ganiatâd o dan baragraff (2)—

(a) rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad o'r dirymiad neu'r amrywiad arfaethedig—

(i) i'r personau a restrir ym mharagraff (4), a

(ii) yn unol â darpariaethau paragraff (5);

a

(b) caiff Gweinidogion Cymru ofyn i berchennog neu ddeiliad y caniatâd, neu'r rhan o'r caniatâd yr effeithir arni, yn ôl y digwydd, ddarparu erbyn dyddiad penodedig, unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae ei hangen, er mwyn i Weinidogion Cymru gadarnhau i ba raddau y mae'r dirymiad neu'r amrywiad arfaethedig yn debygol o fod yn effeithiol i ddiogelu'r amgylchedd rhag unrhyw effeithiau andwyol arwyddocaol a achosir fel arall gan y treillio a awdurdodir drwy'r caniatâd (“yr wybodaeth ychwanegol”).

(4) Y personau a grybwyllir ym mharagraff (3)(a)(i) yw—

(a) perchennog ac unrhyw ddeiliad y caniatâd neu'r rhan yr effeithir arni, yn ôl y digwydd;

(b) y cyrff ymgynghori priodol; ac

(c) unrhyw berson arall (gan gynnwys unrhyw gorff anllywodraethol sy'n hybu gwaith diogelu'r amgylchedd yn nyfroedd Cymru) sy'n debyg o fod â buddiant yn y cais neu y mae Gweinidogion Cymru yn credu y byddai'r dirymiad neu'r amrywiad yn debyg o effeithio arno.

(5) Rhaid i'r hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff (3)(a)—

(a) hysbysu'r derbynwyr o'r dyddiad y bwriedir i'r dirymiad neu'r amrywiad arfaethedig ddod yn weithredol o dan reoliad 22;

(b) pennu cyfnod, nad yw'n llai nag 28 o ddiwrnodau o ddyddiad yr hysbysiad (“y cyfnod penodedig”), y caniateir i sylwadau gael eu cyflwyno am y dirymiad neu'r amrywiad arfaethedig; ac

(c) hysbysu'r derbynwyr o ganlyniadau methu â chydymffurfio ag archiad am wybodaeth ychwanegol a wnaed o dan baragraff 3(b), fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (8).

(6) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi copi o'r hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff (3)(a) drwy hysbyseb gyhoeddus.

(7) Pan fo Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn angenrheidiol i'r treillio beidio neu i'r caniatâd gael ei amrywio cyn gynted â phosibl —

(a) caiff y caniatâd ei atal dros dro neu daw'r amrywiad arfaethedig, yn ôl y digwydd, yn weithredol (am y tro ac wrth aros am benderfyniad Gweinidogion Cymru o dan baragraff (11)) o'r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad yn unol â pharagraff (3)(a) i—

(i) deiliad y caniatâd, os oes un, neu,

(ii) os nad oes un, y perchennog; a

(b) rhaid i'r hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff 3(a) hysbysu'r derbynwyr o'r penderfyniad o dan y paragraff hwn a rhaid iddo ddatgan —

(i) y prif resymau dros y penderfyniad;

(ii) y prif ystyriaethau y seiliwyd y penderfyniad arnynt; a

(iii) y caniateir herio'r penderfyniad gael ei herio a'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny.

(8) Pan fo Gweinidogion Cymru yn gofyn am wybodaeth ychwanegol o dan baragraff (3)(b), ond nad yw'r wybodaeth ychwanegol yn cael ei darparu erbyn y dyddiad a bennwyd neu cyn pen unrhyw gyfnod pellach a ganiateir gan Weinidogion Cymru, ac nad yw'r caniatâd wedi'i atal dros dro o dan baragraff (7), caiff y caniatâd ei atal dros dro.

(9) Pan fo caniatâd wedi'i atal dros dro o dan baragraff (8) —

(a) os yw'r wybodaeth ychwanegol yn cael ei darparu er bodlonrwydd Gweinidogion Cymru cyn pen chwe mis i'r ataliad dros dro, bydd yr ataliad dros dro yn peidio a bydd y caniatâd yn parhau i fod yn effeithiol;

(b) os na chaiff yr wybodaeth ychwanegol ei darparu felly, rhaid i'r caniatâd gael ei ddirymu gan Weinidogion Cymru a rhaid i Weinidogion Cymru anfon hysbysiad o'r dirymiad at y personau a restrwyd ym mharagraff (4).

(10) Os, cyn pen y cyfnod penodedig, bydd person y mae hysbysiad wedi'i gyflwyno iddo o dan baragraff (3)(a), neu berson sydd wedi cyflwyno sylwadau mewn ymateb i'r hysbyseb a gyhoeddwyd o dan baragraff (3)(a), yn gofyn amdano, caiff Gweinidogion Cymru roi—

(a) i'r person hwnnw; a

(b) i unrhyw berson arall y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan baragraff (3)(a), neu sydd wedi cyflwyno sylwadau mewn ymateb i'r hysbyseb a gyhoeddwyd o dan baragraff (6),

gyfle i gyflwyno sylwadau (p'un ai'n bersonol neu'n ysgrifenedig) i berson a benodwyd gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw.

(11) Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu a ddylid dirymu'r caniatâd neu ei amrywio'n barhaol gan roi sylw, yn benodol—

(a) i unrhyw sylwadau a gyflwynwyd mewn ymateb i hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff (3)(a) neu hysbyseb a gyhoeddwyd o dan baragraff (6); a

(b) os yw'n gymwys, i adroddiad unrhyw berson a benodwyd o dan baragraff (10).

(12) Rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad o'r penderfyniad o dan baragraff (11) i unrhyw berson y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan baragraff (3)(a) ac i unrhyw berson a gyflwynodd sylwadau mewn ymateb i hysbyseb a gyhoeddwyd o dan baragraff (6); a rhaid i'r hysbysiad ddatgan—

(a) y prif resymau dros y penderfyniad;

(b) y prif ystyriaethau y mae'r penderfyniad wedi'i seilio arnynt, gan gynnwys, os yw'n berthnasol, gwybodaeth am y broses o gyfranogi gan y cyhoedd; ac

(c) y caniateir herio'r penderfyniad a'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny.

Canlyniadau dirymu, atal dros dro neu amrywio

22.—(1) Daw dirymiad neu amrywiad o dan reoliad 21(2) yn weithredol, yn ddarostyngedig i baragraff (2), ar y dyddiad y caiff hysbysiad ei gyflwyno o dan reoliad 21(12).

(2) Pan fo mwy nag un hysbysiad yn cael ei gyflwyno o dan reoliad 21(12) mewn cysylltiad â'r un dirymiad neu amrywiad a bod yr hysbysiadau hynny'n cael eu cyflwyno ar wahanol ddiwrnodau, daw'r dirymiad neu'r amrywiad yn weithredol ar y dyddiad y caiff yr olaf ohonynt ei gyflwyno.

(3) Pan fo caniatâd wedi'i atal dros dro neu fod amrywiad wedi dod yn weithredol dros dro, o dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn rheoliad 21(7), ond bod penderfyniad terfynol Gweinidogion Cymru o dan reoliad 21(11) yn benderfyniad i beidio â dirymu'r caniatâd nac i'w amrywio'n barhaol, bydd y caniatâd yn cael effaith eto, neu'n cael effaith yn ôl y telerau a oedd yn effeithiol cyn yr amrywiad dros dro, yn ôl y digwydd, o ddyddiad yr hysbysiad a gyflwynwyd o dan reoliad 21(12).

(4) Mewn perthynas â chaniatâd sydd wedi'i atal dros dro o dan reoliad 21(7) neu 21(8), sy'n parhau i gael effaith o dan reoliad 21(9)(a) neu y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu o dan reoliad 21(11) i beidio â'i ddirymu —

(a) ymdrinnir ag unrhyw gyfnod a bennir yn y caniatâd ar gyfer cymryd unrhyw gamau ac sy'n dirwyn i ben ar y dyddiad yr ataliwyd y caniatâd dros dro, fel cyfnod sydd wedi'i estyn gan gyfnod sy'n hafal i'r un yr ataliwyd y caniatâd ynddo dros dro; a

(b) pan fo'n ofynnol mewn caniatâd i unrhyw beth gael ei wneud erbyn dyddiad penodedig sy'n dod ar ôl y dyddiad y cafodd y caniatâd ei atal dros dro, caiff y dyddiad penodedig hwnnw ei ohirio gan gyfnod sy'n hafal i'r un yr ataliwyd y caniatâd ynddo dros dro.

(5) Mewn perthynas â chaniatâd a gafodd ei amrywio dros dro o dan reoliad 21(8) ond y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu o dan reoliad 21(11) i beidio â'i amrywio'n barhaol—

(a) bydd unrhyw gyfnod a bennwyd yn y caniatâd ar gyfer cymryd unrhyw gamau ac sy'n dirwyn i ben ar ôl y dyddiad y cafodd y caniatâd ei amrywio dros dro o dan baragraff (b), os yw'r camau yn ymwneud â materion y mae'r amrywiad dros dro yn effeithio arnynt, yn cael ei drin fel un sydd wedi'i estyn gan gyfnod sy'n hafal i'r un yr oedd y caniatâd yn cael effaith ynddo fel caniatâd a oedd wedi'i amrywio; a

(b) pan fo'n ofynnol mewn caniatâd i unrhyw gamau gael eu cymryd erbyn dyddiad penodedig sy'n dod ar ôl y dyddiad pryd y cafodd y caniatâd ei amrywio dros dro, bydd y dyddiad penodedig, os yw'r camau yn ymwneud â materion y mae'r amrywiad dros dro yn effeithio arnynt, yn cael ei ohirio gan gyfnod sy'n hafal i'r un yr oedd y caniatâd yn cael effaith ynddo fel caniatâd a oedd wedi'i amrywio.

(6) Ni fydd dirymu neu amrywio caniatâd o dan reoliad 21(2), atal caniatâd dros dro o dan reoliad 21(7) neu 21(8), neu amrywio dros dro ganiatâd o dan reoliad 21(7), yn effeithio ar unrhyw beth a wnaed o dan y caniatâd cyn y dyddiad y cafodd y caniatâd ei ddirymu, ei amrywio, ei atal dros dro neu ei amrywio dros dro, yn ôl y digwydd.

Tramgwyddau sy'n ymwneud â throsglwyddiadau ac amrywiadau

23.—(1) Mae person yn cyflawni tramgwydd os yw, er mwyn sicrhau (p'un ai iddo'i hun neu i rywun arall) drosglwyddiad o ganiatâd o dan reoliad 16 neu amrywiad o ganiatâd o dan reoliad 17, neu mewn ymateb i archiad o dan reoliad 21(3)(b) —

(a) yn gwneud datganiad neu'n cyflwyno sylw, neu'n darparu dogfen neu wybodaeth, y mae'r person hwnnw'n gwybod ei bod yn anwir mewn manylyn perthnasol; neu

(b) yn ddi-hid yn gwneud datganiad neu'n cyflwyno sylw, neu'n darparu dogfen neu wybodaeth, sy'n anwir mewn perthnasol.

(2) Mae'n dramgwydd i berson fethu â chydymffurfio ag unrhyw amod trosglwyddo.

(3) Tra bo caniatâd wedi'i atal dros dro o dan reoliad 21(7) neu reoliad 21(8), bydd unrhyw dreillio parhaol neu unrhyw dreillio pellach o dan y cytundeb yn dramgwydd.