10.—(1) O ran cais am ganiatâd i dreillio—
(a) rhaid ei wneud i Weinidogion Cymru;
(b) rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth y mae'n rhesymol i Weinidogion Cymru ofyn amdani;
(c) onid yw'r treillio'n dod o fewn un o'r achosion a ddisgrifir ym mharagraffau (2) a (3), rhaid iddo gynnwys datganiad amgylcheddol;
(ch) pan fo paragraff (2) yn gymwys, a phan fo dyfarniad yr Ysgrifennydd Gwladol yn ymwneud â rhan yn unig o'r treillio, rhaid iddo gynnwys datganiad amgylcheddol mewn cysylltiad ag unrhyw ran o'r treillio nad yw'r dyfarniad yn gymwys iddo; a
(d) rhaid amgáu gyda'r cais ffi a ddyfernir yn unol â rheoliad 25.
(2) Yr achos cyntaf yw os bydd yr Ysgrifennydd Gwladol wedi penderfynu o dan reoliad 5(2) fod y treillio'n brosiect neu ran o brosiect sy'n bodloni dibenion amddiffyn gwladol ac y byddai cymhwyso'r Rheoliadau hyn, ym marn yr Ysgrifennydd Gwladol, yn cael effaith andwyol ar y dibenion hynny.
(3) Yr ail achos yw os bydd Gweinidogion Cymru, cyn pen 12 mis cyn dyddiad y cais, wedi dyfarnu mewn ymateb i gais o dan reoliad 6(1)(a) nad yw'r treillio'n brosiect perthnasol.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i'r ceisydd gyflenwi, o fewn y cyfnod y gellir yn rhesymol ei bennu, y nifer o gopïau o'r cais a all fod yn rhesymol ofynnol.
(5) Os bydd y ceisydd, o fewn y cyfnod y mae Gweinidogion Cymru wedi ei bennu, neu gyfnod pellach y gall Gweinidogion Cymru ei ganiatáu, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ofynion y rheoliad hwn, tybir y bydd y cais wedi ei dynnu'n ôl ar ddiwedd y cyfryw gyfnod, ac ad-delir y ffi os nad yw Gweinidogion Cymru erbyn hynny wedi cyhoeddi hysbysiad o dan reoliad 12(1).
(6) Caniateir tynnu'n ôl gais o dan y rheoliad hwn ar unrhyw adeg drwy hysbysiad i Weinidogion Cymru, ac ad-delir y ffi os nad yw Gweinidogion Cymru, ar yr adeg pryd y mae hysbysiad tynnu'n ôl yn dod i law, wedi cyhoeddi erbyn hynny hysbysiad o dan reoliad 12(1).
(7) Pan fo cais o dan y rheoliad hwn yn dod i law, a hwnnw'n gais a all fod yn brosiect neu ran o brosiect sy'n bodloni dibenion amddiffyn gwladol, rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu copi o'r cais hwnnw ar gyfer yr Ysgrifennydd Gwladol.
11.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru o'r farn—
(a) bod y datganiad amgylcheddol yn methu â chynnwys digon o wybodaeth o ddisgrifiad a bennir mewn unrhyw un neu rai o'r paragraffau yn Rhan 2 o Atodlen 1 i alluogi rhoi ystyriaeth lawn i effeithiau amgylcheddol y treillio; a
(b) o ystyried yn benodol wybodaeth a dulliau asesu cyfredol, y gellir yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol i'r ceisydd gyflenwi gwybodaeth bellach o'r cyfryw ddisgrifiad.
(2) Pan fo'r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru ofyn i'r ceisydd gyflenwi'r wybodaeth bellach honno y mae Gweinidogion Cymru o'r farn bod ei hangen a rhaid iddynt hysbysu'r ceisydd—
(a) am y nifer o gopïau o'r wybodaeth bellach honno y mae'n ofynnol i'r ceisydd eu cyflenwi; a
(b) cyn pen pa gyfnod y mae'n rhaid cyflenwi'r wybodaeth bellach honno.
(3) Pan fo'r ceisydd, cyn pen y cyfnod y mae Gweinidogion Cymru wedi ei bennu, neu'r cyfnod pellach y gall Gweinidogion Cymru ei ganiatáu, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw archiad gan Weinidogion Cymru o dan y rheoliad hwn, bernir y bydd y cais wedi ei dynnu'n ôl ar ddiwedd y cyfnod hwnnw ac ad-delir y ffi os na fydd Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi erbyn hynny hysbysiad o dan reoliad 12(1).
12.—(1) Pan fo'r canlynol yn dod i law—
(a) cais a wneir o dan reoliad 10 sy'n cynnwys datganiad amgylcheddol; neu
(b) gwybodaeth bellach a gyflenwir o dan reoliad 11 neu wybodaeth arall a ddarperir gan y ceisydd,
rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi drwy hysbysebu'n gyhoeddus, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, hysbysiad yn cydymffurfio â gofynion paragraff (2).
(2) Rhaid i'r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth ganlynol —
(a) enw'r ceisydd;
(b) datganiad bod y ceisydd wedi gwneud cais neu, yn ôl y digwydd, wedi cyflenwi gwybodaeth bellach neu wybodaeth arall, i Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn;
(c) datganiad bod y cais yn ddarostyngedig i asesiad o'i effeithiau ar yr amgylchedd o dan y Rheoliadau hyn;
(ch) y bydd Gweinidogion Cymru'n gwneud penderfyniad ar y cais o dan y Rheoliadau hyn a datganiad y gall y cais naill ai gael ei ganiatáu, p'un ai'n ddarostyngedig i amodau ai peidio, neu ei wrthod;
(d) cyfeiriad y man yng Nghymru lle y caniateir edrych ar gopïau o'r cais ac o unrhyw wybodaeth bellach neu wybodaeth arall ac o unrhyw adroddiadau neu gyngor sydd wedi eu dyroddi neu ei ddyroddi i Weinidogion Cymru ar yr adeg honno, yn ôl y digwydd;
(dd) datganiad y caniateir edrych ar y cais, unrhyw wybodaeth bellach neu wybodaeth arall, ac unrhyw adroddiadau neu gyngor sydd wedi eu dyroddi neu ei ddyroddi i Weinidogion Cymru, yn y man hwnnw, yn ddi-dâl, ac ar unrhyw adeg resymol yn ystod cyfnod y mae'n rhaid iddo beidio â bod yn llai nag wyth wythnos yn cychwyn ar ddyddiad cyhoeddi'r hysbysiad;
(e) o ba gyfeiriad y gellir caffael copïau o'r cais ac o unrhyw wybodaeth bellach neu wybodaeth arall ac o unrhyw adroddiadau neu gyngor sydd wedi eu dyroddi neu ei ddyroddi i Weinidogion Cymru ac, os codir tâl o dan baragraff (3) am gyflenwi copïau, swm y tâl;
(f) datganiad y caiff unrhyw berson sy'n dymuno cyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru ynghylch y cais neu ynghylch unrhyw wybodaeth bellach neu wybodaeth arall neu unrhyw adroddiadau neu gyngor sydd wedi eu dyroddi neu ei ddyroddi i Weinidogion Cymru wneud hynny'n ysgrifenedig cyn pen y cyfnod a grybwyllir yn is-baragraff (dd); ac
(ff) i ba gyfeiriad yng Nghymru y caniateir anfon sylwadau.
(3) Caniateir codi tâl rhesymol, ar unrhyw berson sy'n gofyn amdanynt, am ddarparu copïau o'r cais neu o unrhyw wybodaeth bellach neu wybodaeth arall neu o unrhyw adroddiadau neu gyngor sydd wedi eu dyroddi neu ei ddyroddi i Weinidogion Cymru.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon at y cyrff ymgynghori priodol ac at y perchennog (os nad y perchennog yw'r ceisydd)—
(a) copi o'r cais a, chyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, o unrhyw wybodaeth bellach neu wybodaeth arall ac o unrhyw adroddiadau neu gyngor sydd wedi eu dyroddi neu ei ddyroddi i Weinidogion Cymru, a
(b) datganiad—
(i) y caniateir cyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru ynghylch y cais,
(ii) yn datgan i ba gyfeiriad yng Nghymru y caniateir anfon y sylwadau, a
(iii) yn datgan cyn pen pa gyfnod, nad yw'n llai nag wyth wythnos yn cychwyn ar y dyddiad pryd y cyhoeddir gyntaf hysbysiad yn unol â pharagraff (1), y caniateir cyflwyno sylwadau.
(5) Pan fo Gweinidogion Cymru yn ymwybodol o unrhyw berson arall (gan gynnwys unrhyw gorff anllywodraethol sy'n hybu diogelu'r amgylchedd mewn dyfroedd morol) sy'n debygol o fod â diddordeb yn y cais, ond sy'n annhebygol o ddod i wybod amdano drwy gyfrwng yr hysbysebu cyhoeddus, rhaid i Weinidogion Cymru anfon i'r person hwnnw hysbysiad yn cynnwys y manylion a nodir ym mharagraff (2).
13.—(1) Cyn penderfynu p'un ai i roi neu i wrthod caniatâd i gais o dan reoliad 10, rhaid i Weinidogion Cymru ddyfarnu a yw'r cais yn ymwneud â phrosiect sy'n brosiect cynefinoedd onid oes dyfarniad rhagarweiniol wedi ei wneud, cyn pen y 12 mis cyn cyflwyno'r cais, mewn ymateb i gais o dan reoliad 6(1)(b) na fyddai'r un prosiect yn brosiect cynefinoedd.
(2) Rhaid i'r ceisydd ddarparu unrhyw wybodaeth y y mae'n rhesymol i Weinidogion Cymru ofyn amdani i alluogi Gweinidogion Cymru i wneud dyfarniad o dan baragraff (1).
(3) Cyn penderfynu p'un ai i roi neu i wrthod caniatâd i brosiect y mae Gweinidogion Cymru wedi dyfarnu y byddai'n brosiect cynefinoedd (p'un ai o dan y rheoliad hwn neu o dan reoliad 6(1)(b)), rhaid i Weinidogion Cymru wneud asesiad priodol o'r goblygiadau ar gyfer y safle Ewropeaidd yr effeithir arno, yng ngoleuni ei amcanion cadwraeth; ac mae paragraff 2 o Atodlen 3 yn gymwys at y diben hwnnw.
(4) Cyn penderfynu p'un ai i roi neu i wrthod caniatâd caiff Gweinidogion Cymru roi'r cyfle i gyflwyno sylwadau (yn bersonol neu'n ysgrifenedig) i berson a benodir gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw, i'r ceisydd, i'r perchennog (os nad y perchennog yw'r ceisydd) ac i unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru o'r farn y dylent gael cyfle o'r fath.
(5) Wrth benderfynu p'un ai i roi neu i wrthod caniatâd, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried—
(a) yr wybodaeth a ddarperir yn y cais;
(b) y datganiad amgylcheddol, pan fo un wedi ei ddarparu;
(c) unrhyw wybodaeth bellach a gyflenwir o dan reoliad 11 ac unrhyw wybodaeth arall a gyflwynir gan y ceisydd;
(ch) unrhyw sylwadau perthnasol a wneir mewn ymateb i'r hysbysiad a gyhoeddir o dan reoliad 12(1), neu gan unrhyw un yr anfonwyd ato gopi o'r cais o dan reoliad 12(4) neu yr anfonwyd ato hysbysiad o dan reoliad 12(5);
(d) unrhyw farn a anfonwyd ymlaen at Weinidogion Cymru o dan reoliad 15(4);
(dd) unrhyw adroddiadau a chyngor a ddyroddwyd i Weinidogion Cymru;
(e) adroddiad unrhyw berson a benodir o dan baragraff (4); ac
(f) unrhyw bolisi Gweinidogion Cymru sydd wedi ei gyhoeddi mewn perthynas ag echdynnu mwynau drwy dreillio gwely'r môr.
(6) Ni chaiff Gweinidogion Cymru roi caniatâd ond —
(a) os bydd canlyniadau asesiad a wneir o dan baragraff (3) yn cadarnhau na fydd y prosiect perthnasol, naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â chynlluniau a phrosiectau eraill, yn effeithio ar integriti'r safle Ewropeaidd; neu
(b) os ceir asesiad negyddol o'r goblygiadau ar gyfer y safle, os bydd y darpariaethau a geir ym mharagraff 2(7), neu 2(8) a (9) o Atodlen 3 yn gymwys.
(7) O ran rhoi caniatâd —
(a) caiff fod yn ddarostyngedig i'r amodau hynny sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru; gan gynnwys—
(i) amodau a fwriedir i weithredu unrhyw bolisi a gymerir i ystyriaeth o dan baragraff (5)(f) sy'n cynnwys terfynau rhanbarthol ar faint o dunelli o fwynau y caniateir eu treillio, a
(ii) amodau o ran y ffioedd, a ddyfernir yn unol â rheoliad 25, i'w talu mewn cysylltiad â threuliau Gweinidogion Cymru a dynnir wrth asesu a dehongli canlyniadau unrhyw fonitro, a wneir yn unol â'r amodau hynny, i weld i ba raddau y cydymffurfir â'r amodau sydd ynghlwm wrth y caniatâd;
a
(b) bydd yn cael ei wneud i'r perchennog ac, yn ddarostyngedig i unrhyw drosglwyddiad o dan reoliad 16, yn dod yn weithredol er budd y perchennog.
(8) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon hysbysiad o'r penderfyniad at—
(a) y ceisydd;
(b) y perchennog (os nad y perchennog yw'r ceisydd);
(c) unrhyw berson sydd wedi cyflwyno sylwadau mewn cysylltiad â'r cais; ac
(ch) y cyrff ymgynghori priodol yr ymgynghorwyd â hwy o dan reoliad 12(4)
a rhaid i'r hysbysiad ddatgan —
(i) y prif resymau dros y penderfyniad,
(ii) y prif ystyriaethau y mae'r penderfyniad wedi ei seilio arnynt gan gynnwys, os yw'n berthnasol, wybodaeth am broses cyfranogiad y cyhoedd,
(iii) pan fo caniatâd yn cael ei roi, unrhyw amodau a osodir o dan baragraff (7)(a), ac, a phan fo'n briodol, y prif gamau i'w cymryd i osgoi, lleihau ac, os yw'n bosibl, i wrthbwyso unrhyw effeithiau andwyol arwyddocaol, a
(iv) y caniateir herio'r penderfyniad a'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny.
(9) Cyn pen y cyfnod o 28 o ddiwrnodau yn dechrau ar ddyddiad y penderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi, yn yr un dull ag y cyhoeddwyd hysbysiad sy'n berthnasol i'r cais o dan reoliad 12 neu mewn dull tebyg iddo, hysbysiad yn cynnwys—
(a) datganiad bod Gweinidogion Cymru wedi rhoi caniatâd neu, yn ôl y digwydd, wedi ei wrthod;
(b) disgrifiad o'r treillio y mae caniatâd wedi ei roi iddo neu, yn ôl y digwydd, wedi ei wrthod ar ei gyfer; ac
(c) y cyfeiriad yng Nghymru lle y caiff unrhyw berson edrych ar gopi o'r hysbysiad a ddyroddir o dan baragraff (8).
14.—(1) Mae person sydd yn gwneud y canlynol at ddibenion cael caniatâd o dan reoliad 13 (p'un ai ar ei gyfer ef ei hun neu ar gyfer rhywun arall) yn tramgwyddo,—
(a) gwneud datganiad neu sylw, neu gyflenwi dogfen neu wybodaeth, y mae'r person yn gwybod ei fod neu ei bod yn anwir mewn manylyn perthnasol; neu
(b) gwneud datganiad neu sylw yn ddi-hid, neu gyflenwi dogfen neu wybodaeth, sy'n anwir mewn manylyn perthnasol.
(2) Mae i berson fethu â chydymffurfio ag amod y mae caniatâd yn ddarostyngedig iddo yn dramgwydd.
15.—(1) Pan fo—
(a) yn hysbys i Weinidogion Cymru fod prosiect perthnasol yn debygol o effeithio'n sylweddol ar yr amgylchedd mewn gwladwriaeth AEE arall; neu
(b) gwladwriaeth AEE arall, y mae prosiect perthnasol o'r fath yn debygol o effeithio'n sylweddol ar ei thiriogaeth, yn gofyn,
rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted â phosibl a heb fod yn hwyrach na dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad y cyfeirir ato yn rheoliad 12(1), gymryd y camau a bennir ym mharagraff (2).
(2) Y camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw bod yn rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) anfon i'r wladwriaeth yr effeithir arni —
(i) manylion am leoliad a natur y treillio,
(ii) unrhyw wybodaeth sydd ar gael ar effaith posibl y treillio ar yr amgylchedd yn y wladwriaeth yr effeithir arni, a
(iii) disgrifiad o natur y penderfyniad y gellir ei wneud o dan y Rheoliadau hyn;
(b) rhoi i'r wladwriaeth yr effeithir arni amser rhesymol er mwyn iddi, cyn i'r amser ddod i ben, ddweud a yw'n dymuno cymryd rhan yn y weithdrefn y mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar ei chyfer; ac
(c) cyhoeddi yn y London Gazette hysbysiad yn cynnwys y manylion a grybwyllir yn is-baragraff (a) ac yn nodi'r cyfeiriad o ble y gellir caffael gwybodaeth ychwanegol.
(3) Os yw gwladwriaeth yr effeithir arni'n mynegi dymuniad i gymryd rhan yn y weithdrefn y mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar ei chyfer, rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted â phosibl, anfon i'r wladwriaeth honno yr effeithir arni hynny o'r wybodaeth ganlynol nad yw wedi ei darparu eisoes ar ei chyfer yn unol â pharagraff (2)—
(a) copi o unrhyw gais a wneir o dan reoliad 10;
(b) copi o unrhyw wybodaeth bellach a roddir o dan baragraff 11 neu wybodaeth arall a ddarperir gan y ceisydd;
(c) copi o unrhyw hysbysiad a gyhoeddir o dan reoliad 12(1);
(ch) copïau o unrhyw adroddiadau a chyngor a ddyroddir i Weinidogion Cymru; a
(d) gwybodaeth berthnasol ynghylch y weithdrefn o dan y Rheoliadau hyn.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau hefyd y rhoddir y cyfle i unrhyw gyrff a chanddynt gyfrifoldebau amgylcheddol penodol ac y mae'r wladwriaeth yr effeithir arni wedi ymgynghori â hwy a'r cyhoedd o dan sylw yn cael cyfle, cyn y penderfynir ar unrhyw gais, i anfon ymlaen i Weinidogion Cymru, cyn pen cyfnod rhesymol, eu barn ar y manylion a'r wybodaeth a ddarparwyd.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) ymgynghori â'r wladwriaeth yr effeithir arni ynghylch, ymhlith materion eraill, effeithiau posibl y treillio ar amgylchedd y wladwriaeth honno yr effeithir arni a'r camau yr arfaethir eu cymryd i leihau neu i ddileu'r effeithiau hynny; a
(b) gyda chytundeb y wladwriaeth yr effeithir arni, ddyfarnu cyfnod rhesymol o amser i'r cyfnod ymgynghori barhau.
(6) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â gwladwriaeth yr effeithir arni yn unol â pharagraff (5) ynghylch y penderfyniad i'w wneud ar unrhyw gais o dan sylw, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r wladwriaeth honno yr effeithir arni am y penderfyniad a rhaid iddynt anfon iddi hysbysiad o'r penderfyniad; a rhaid i'r hysbysiad ddatgan—
(a) y prif resymau am y penderfyniad;
(b) y prif ystyriaethau y seilir y penderfyniad arnynt, gan gynnwys, os yn berthnasol, wybodaeth am broses cyfranogi y cyhoedd; ac
(c) os rhoddir y caniatâd—
(i) unrhyw amodau a osodir o dan reoliad 13(7)(a), a
(ii) pan fo'n gymwys, y prif gamau i'w cymryd i osgoi, lleihau ac, os yw'n bosibl, gwrthbwyso unrhyw effeithiau andwyol arwyddocaol.