Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 2 CYFYNGIADAU AR DREILLIO

Cyfyngiadau ar dreillio

4.  Mae i unrhyw berson wneud gwaith treillio yn dramgwydd, ac eithrio pan fo'r treillio —

(a) yn dod o fewn un o'r achosion a ddisgrifir yn rheoliad 5 (pan na fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â'r treillio ond i'r graddau a bennir yn y rheoliad hwnnw mewn perthynas â'r achos penodol); neu

(b) yn cael ei wneud o dan ganiatâd a roddir o dan Ran 4 o'r Rheoliadau hyn ac yn unol ag ef.

Cymhwyso'r Rheoliadau'n rhannol mewn achosion penodol

5.—(1) Yr achosion a grybwyllir yn rheoliad 4(a) yw'r rhai a ddisgrifir ym mharagraffau (2), (6) a (7) o'r rheoliad hwn.

(2) Yr achos cyntaf yw pan fo Gweinidogion Cymru yn cael dyfarniad ysgrifenedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn dweud—

(a) bod y treillio'n brosiect neu ran o brosiect sy'n bodloni dibenion amddiffyn gwladol; a

(b) y byddai cymhwyso'r Rheoliadau hyn, ac eithrio i'r graddau a bennir ym mharagraffau (4), (5), (6) neu (7) o'r rheoliad hwn, yn ôl y digwydd, yn effeithio'n andwyol ar y dibenion hynny ym marn yr Ysgrifennydd Gwladol.

(3) Pan fo paragraff (2) yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru ddyfarnu a fyddai'r treillio'n brosiect cynefinoedd.

(4) Pan fo paragraff (2) yn gymwys, a bod Gweinidogion Cymru'n dyfarnu o dan baragraff (3) y byddai'r prosiect yn brosiect cynefinoedd, dim ond darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn fydd yn gymwys—

(a) Rhannau 1 a 2;

(b) rheoliad 10;

(c) rheoliadau 13 ac 14;

(ch) rheoliadau 16 i 24 ac Atodlen 3;

(d) rheoliadau 25 i 30; ac

(dd) rheoliad 32.

(5) Pan fo paragraff (2) yn gymwys a bod Gweinidogion Cymru'n dyfarnu o dan baragraff (3) na fyddai'r prosiect yn brosiect cynefinoedd, dim ond darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn fydd yn gymwys—

(a) Rhannau 1 a 2;

(b) rheoliad 26; ac

(c) rheoliad 30.

(6) Yr ail achos yw pan fo Gweinidogion Cymru wedi dyfarnu o dan reoliad 6—

(a) nad yw'r treillio'n brosiect perthnasol; a

(b) nad yw'r treillio'n brosiect cynefinoedd;

ac, mewn achos o'r fath, dim ond darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn fydd yn gymwys—

(i) Rhannau 1 a 2,

(ii) rheoliad 26, a

(iii) rheoliad 30.

(7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), y trydydd achos yw pan fo'r treillio'n parhau i gael ei wneud yn unol â chytundeb ysgrifenedig a wnaed gan y perchennog cyn cychwyn, ac mewn achos o'r fath dim ond darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn fydd yn gymwys—

(a) Rhannau 1 a 2;

(b) rheoliad 24 ac Atodlen 3;

(c) rheoliad 26;

(ch) rheoliad 29; a

(d) rheoliad 30.

(8) Pan fo cytundeb ysgrifenedig a wnaed gan y perchennog cyn cychwyn yn cael ei amrywio wrth gychwyn neu ar ôl cychwyn, dim ond pan fo Gweinidogion Cymru, o ystyried y meini prawf dethol hynny sy'n berthnasol, wedi dyfarnu nad yw treillio o dan y cytundeb fel y'i hamrywir felly yn brosiect perthnasol y bydd y treillio'n dod o dan y trydydd achos (a bydd Atodlen 2 yn effeithiol i bennu'r meini prawf dethol ar gyfer dibenion y Rheoliadau hyn).

RHAN 3 MATERION RHAGARWEINIOL

Dyfarniadau rhagarweiniol Gweinidogion Cymru

6.—(1) Caiff person sy'n cynnig gwneud gwaith treillio ofyn am ddyfarniad rhagarweiniol gan Weinidogion Cymru o ran—

(a) p'un a fyddai'r treillio'n brosiect perthnasol ai peidio; a

(b) p'un a fyddai'r treillio'n brosiect cynefinoedd ai peidio.

(2) Cyn gwneud dyfarniad mewn ymateb i archiad o dan baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori—

(a) â'r perchennog (os nad y perchennog yw'r person sy'n gofyn am y dyfarniad); a

(b) â'r cyrff ymgynghori priodol.

(3) Caiff Gweinidogion Cymru ofyn i'r person sy'n gwneud yr archiad o dan baragraff (1) ddarparu'r cyfryw wybodaeth bellach o fewn y cyfryw gyfnod penodedig ac ar y cyfryw ffurf ag sy'n rhesymol ofynnol.

(4) Os bydd y person sy'n gwneud yr archiad o dan baragraff (1) yn methu â darparu'r wybodaeth y gofynnir amdani cyn pen y cyfnod penodedig neu cyn pen unrhyw gyfnod pellach ag y bydd Gweinidogion Cymru yn ei ganiatáu, bernir y bydd yr archiad wedi ei dynnu'n ôl.

(5) Wrth wneud dyfarniad rhagarweiniol mewn ymateb i gais o dan baragraff (1)(a) rhaid i Weinidogion Cymru ystyried y meini prawf dethol hynny sy'n berthnasol yn yr achos penodol.

(6) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl iddynt wneud dyfarniad rhagarweiniol, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a) anfon copi ohono i'r person sy'n gwneud yr archiad o dan baragraff (1) ac i unrhyw bersonau yr ymgynghorir â hwy o dan baragraff (2); a

(b) cymryd y camau y mae Gweinidogion Cymru o'r farn eu bod yn briodol i sicrhau ei fod ar gael i'r cyhoedd o dan sylw(22).

Barn Gweinidogion Cymru am gynnwys y datganiad amgylcheddol

7.—(1) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “datganiad amgylcheddol” (“environmental statement”) yw datganiad sy'n cynnwys —

(a) o leiaf yr wybodaeth a geir yn Rhan 1 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn; a

(b) hynny o'r wybodaeth, a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen honno, ag sy'n rhesymol ofynnol ar gyfer asesu effeithiau amgylcheddol y prosiect perthnasol ac, o ystyried yn benodol wybodaeth a dulliau asesu cyfredol, ag y mae'n rhesymol gofyn i'r ceisydd ei llunio;

ac mae Atodlen 1 yn effeithiol at y dibenion hyn.

(2) Pan fydd ceisydd arfaethedig yn gofyn iddynt wneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru roi barn ynghylch yr wybodaeth i'w darparu drwy ddatganiad amgylcheddol.

(3) Cyn rhoi barn, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori—

(a) â'r ceisydd arfaethedig;

(b) â'r perchennog (os nad y perchennog yw'r person sy'n gofyn am y farn); ac

(c) â'r cyrff ymgynghori priodol,

ynghylch yr wybodaeth i'w darparu drwy'r datganiad amgylcheddol.

(4) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o farn a roddir o dan y rheoliad hwn i unrhyw berson yr ymgynghorwyd ag ef o dan baragraff (3).

Darparu gwybodaeth i hwyluso paratoi datganiad amgylcheddol

8.—(1) Pan fo'r cais a gynigir yn gwneud datganiad amgylcheddol yn ofynnol, caiff ceisydd arfaethedig roi hysbysiad o fwriad i gyflwyno cais i Weinidogion Cymru.

(2) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) gynnwys yr wybodaeth sy'n angenrheidiol i nodi lleoliad a natur y treillio, a rhaid iddo nodi prif ganlyniadau amgylcheddol y treillio y cyfeirir atynt yn natganiad amgylcheddol y ceisydd arfaethedig.

(3) Cyn gynted ag y bydd cais o dan baragraff (1) yn dod i law, rhaid i Weinidogion Cymru —

(a) hysbysu'r cyrff ymgynghori priodol am enw a chyfeiriad y ceisydd arfaethedig ac am y ddyletswydd a roddir ar y cyrff ymgynghori hynny gan baragraff (4) i sicrhau bod gwybodaeth ar gael i'r person hwnnw;

(b) hysbysu'r ceisydd arfaethedig am enwau a chyfeiriadau'r cyrff a hysbysir o dan is-baragraff (a); ac

(c) hysbysu'r ceisydd arfaethedig am enw a chyfeiriad pob un o adrannau'r llywodraeth a gaiff ddal gwybodaeth a all fod yn berthnasol i baratoi'r datganiad amgylcheddol.

(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i unrhyw gorff a hysbysir o dan baragraff (3)(a) neu unrhyw un o adrannau'r llywodraeth y rhoddir gwybod amdani i'r ceisydd arfaethedig o dan baragraff (3)(c), neu Weinidogion Cymru, os gofynnir iddynt wneud hynny gan y ceisydd arfaethedig, ddyfarnu p'un a oes ganddo yn ei feddiant, ganddi yn ei meddiant neu ganddynt yn eu meddiant unrhyw wybodaeth sy'n berthnasol i baratoi'r datganiad amgylcheddol ai peidio ac, os oes ganddo, ganddi neu ganddynt wybodaeth, rhaid i'r corff, yr adran neu Weinidogion Cymru sicrhau bod yr wybodaeth honno ar gael i'r ceisydd arfaethedig.

(5) Nid yw paragraff (4) yn ei gwneud yn ofynnol datgelu unrhyw wybodaeth—

(a) y mae Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004(23) yn gymwys iddi, os byddai gan y person sy'n dal yr wybodaeth yr hawl i'w hatal mewn ymateb i archiad a wneir yn unol â'r Rheoliadau hynny; neu

(b) a fyddai, mewn unrhyw achos arall, yn wybodaeth esempt pe gofynnid am iddi gael ei datgelu yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000(24).

(6) Caiff corff neu unrhyw un o adrannau'r llywodraeth sy'n sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn unol â pharagraff (4) (ac eithrio Gweinidogion Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu ar y cais) godi tâl rhesymol sy'n adlewyrchu'r gost o sicrhau bod yr wybodaeth berthnasol ar gael.

Ffioedd am faterion rhagarweiniol

9.—(1) Pan fo archiad yn cael ei wneud o dan reoliad 7(2), neu pan fo hysbysiad yn cael ei roi o dan reoliad 8(1), rhaid i'r ceisydd arfaethedig dalu i Weinidogion Cymru y ffi a ddyfernir yn unol â rheoliad 25, ond pan fo archiad yn cael ei wneud a hysbysiad yn cael ei roi mewn cysylltiad â'r un cais, dim ond un ffi o'r fath sy'n daladwy.

(2) Ni oes rheidrwydd ar Weinidogion Cymru i gyflawni unrhyw weithred mewn ymateb i archiad neu hysbysiad hyd oni fydd y ffi wedi ei thalu.

(22)

Ar gyfer “y cyhoedd o dan sylw” Gweler Erthygl 1 o'r Gyfarwyddeb EIA. Back [22]

(23)

O.S. 2004/3391. Back [23]

(24)

2000 p.36. Gweler yn benodol Ran II o'r Ddeddf honno. Back [24]