1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol a Chynefinoedd Naturiol (Echdynnu Mwynau drwy Dreillio Gwely'r Môr) (Cymru) 2007, a deuant i rym ar 28 Medi 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran dyfroedd Cymru fel y'u diffinnir yn rheoliad 2(1).
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “yr Alban” yr ystyr a roddir i “Scotland” ac i “parth Albanaidd” yr ystyr a roddir i “Scottish zone” gan adran 126 o Ddeddf yr Alban 1998(4);
ystyr “ceisydd arfaethedig” (“prospective applicant”) yw person sy'n bwriadu gwneud cais o dan reoliad 10 neu o dan reoliad18;
ystyr “cychwyn” (“commencement”) yw'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym;
mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” gan adran 158(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(5);
ystyr “y cyrff ymgynghori priodol” (“the appropriate consultation bodies”) yw—
mewn perthynas ag unrhyw dreillio yn nyfroedd Cymru a allai fod yn brosiect neu ran o brosiect at ddibenion amddiffyn gwladol, yr Ysgrifennydd Gwladol;
mewn perthynas ag unrhyw dreillio yn nyfroedd Cymru a fyddai'n debygol o effeithio'n sylweddol ar yr amgylchedd yn nyfroedd Lloegr, yr Ysgrifennydd Gwladol;
mewn perthynas ag unrhyw dreillio yn nyfroedd Cymru a fyddai'n debygol o effeithio'n sylweddol ar yr amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon, Adran yr Amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon;
Cyngor Cefn Gwlad Cymru; a
y cyrff hynny sydd â buddiant mewn prosiect perthnasol, ym marn Gweinidogion Cymru, oherwydd eu cyfrifoldebau amgylcheddol penodol;
mae i'r ymadrodd “datganiad amgylcheddol” (“environmental statement”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 7(1);
ystyr “y deiliad” (“the holder”), mewn cysylltiad â chaniatâd a roddir o dan y Rheoliadau hyn, yw unrhyw berson y mae'r caniatâd wedi ei drosglwyddo iddo, tra bydd y caniatâd wedi ei freinio yn y person hwnnw;
ystyr “drwy hysbysebu'n gyhoeddus” (“by public advertisement”), mewn perthynas â hysbysiad yw—
drwy gyhoeddi'r hysbysiad mewn cyhoeddiad cenedlaethol a phapur newydd lleol y mae Gweinidogion Cymru o'r farn eu bod yn briodol; a
os yw Gweinidogion Cymru yn cynnal gwefan at ddiben hysbysebu ceisiadau, drwy gyhoeddi'r hysbysiad ar y wefan;
ystyr “dyfroedd Cymru” (“Welsh waters”) yw dyfroedd llanw a rhannau o'r môr sy'n gyfagos â Chymru o'r ffynhonnau penllanw cymedrig i'r terfynau dyfroedd tiriogaethol allan i'r môr;
ystyr “dyfroedd Lloegr” (“English waters”) yw —
ac eithrio, mewn perthynas â pharagraffau (a) a (b),—
dyfroedd cyfagos â Gogledd Iwerddon,
dyfroedd cyfagos â'r Alban,
y parth Albanaidd, a
dyfroedd Cymru;
ystyr “dyfroedd sy'n gyfagos â Gogledd Iwerddon” (“waters adjacent to Northern Ireland”) yw hynny o ddyfroedd mewndirol a môr tiriogaethol y Deyrnas Unedig ag sy'n gyfagos â Gogledd Iwerddon, fel y dyfernir o dan adran 98(8) o Ddeddf Gogledd Iwerddon 1998(8);
ystyr “dyfroedd sy'n gyfagos â'r Alban” (“waters adjacent to Scotland”) yw hynny o ddyfroedd mewndirol a môr tiriogaethol y Deyrnas Unedig ag sy'n gyfagos â'r Alban, fel y dyfernir o dan adran 126(2) o Ddeddf yr Alban 1998(9);
mae i “Gogledd Iwerddon” yr ystyr a roddir i “Northern Ireland” gan Ddeddf Gogleddd Iwerddon 1998(10)
ystyr “y Gyfarwyddeb Adar Gwyllt” (“the Wild Birds Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 79/409/EEC(11) ar gadwraeth adar gwyllt;
ystyr “y Gyfarwyddeb Cynefinoedd” (“the Habitats Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC(12) ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt;
ystyr “y Gyfarwyddeb EIA” (“the EIA Directive”) yw Cyfarwyddeb 85/337/EEC(13) ar asesu effeithiau prosiectau penodol ar yr amgylchedd, boed y prosiectau'n rhai cyhoeddus neu'n rhai preifat;
ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad ysgrifenedig, a dehonglir “hysbysu” ac ymadroddion cytras yn unol â hynny;
ystyr “y meini prawf dethol” (“the selection criteria”) yw'r meini prawf a geir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn;
ystyr “perchennog” (“owner”)
mewn perthynas â mwynau a geir yn nyfroedd Cymru y mae gan y Goron neu Ddugiaeth fuddiant ynddynt (fel y'i diffinnir yn adran 293 (diffiniadau rhagarweiniol) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(14)), sef—
ystad mewn ffi syml, neu
buddiant sydd gyfwerth, ym marn Gweinidogion Cymru, ag ystad o'r fath,
yw'r awdurdod priodol fel y'i diffinnir yn yr adran honno;
mewn perthynas â mwynau nad oes gan y Goron neu Ddugiaeth fuddiant o'r fath ynddynt neu nad ydynt yn perthyn i ystad y Goron, yw'r person y breinir y mwynau ynddo mewn ffi syml neu berson sydd â buddiant yn y mwynau sy'n gyfwerth ag ystad mewn ffi syml, ym marn Gweinidogion Cymru;
ystyr “prosiect cynefinoedd” (“habitats project”) yw prosiect ar gyfer gwneud gwaith treillio yn nyfroedd Cymru nad yw'n uniongyrchol gysylltiedig â rheoli safle Ewropeaidd neu'n angenrheidiol i hynny ac sy'n debygol o gael effaith sylweddol (naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â chynlluniau a phrosiectau eraill) ar safle Ewropeaidd;
ystyr “prosiect perthnasol” (“relevant project”) yw unrhyw brosiect ar gyfer gwneud gwaith treillio yn nyfroedd Cymru a fyddai'n debygol o effeithio'n sylweddol ar yr amgylchedd yn rhinwedd ffactorau megis natur, maint neu leoliad y gwaith treillio;
ystyr “safle Ewropeaidd” (“European site”) yw unrhyw un neu rai o'r canlynol a leolir yn nyfroedd Cymru—
ardal cadwraeth arbennig;
safle o bwys Cymunedol sydd wedi ei roi ar y rhestr y cyfeirir ati yn nhrydydd is-baragraff Erthygl 4(2) o'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd;
ardal a gaiff ei dosbarthu'n ardal gwarchodaeth arbennig o dan Erthygl 4(1) neu (2) o'r Gyfarwyddeb Adar Gwyllt;
safle y mae Gweinidogion Cymru wedi ei gynnig yn safle cymwys ar gyfer ei ddynodi'n ardal cadwraeth arbennig at ddibenion bodloni rhwymedigaethau'r Deyrnas Unedig o dan Erthygl 4(1) o'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd—
hyd oni chaiff ei gynnwys yn y rhestr o safleoedd o bwys Cymunedol y cyfeirir ati yn nhrydydd is-baragraff Erthygl 4(2) o'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd, neu
hyd oni chytunir o dan Erthygl 4(2) o'r Gyfarwyddeb honno i beidio â chynnwys y safle yn y rhestr honno; ac
ystyr “treillio” (“dredging”) yw echdynnu mwynau drwy dreillio yn nyfroedd Cymru, ond nid yw'n cynnwys—
echdynnu y mae unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys unrhyw ddeddfiad a geir mewn Deddf neu is-ddeddfwriaeth leol) yn awdurdodi'n benodol ei wneud, ac nid yw'n cynnwys yn benodol echdynnu a awdurdodir gan orchymyn o dan adran 3 (gorchmynion o ran dyfrffyrdd mewndirol etc.) o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992(15);
treillio mewn unrhyw ddyfroedd o fewn awdurdodaeth awdurdod porthladd, fel y'i diffinnir yn adran 57 o Ddeddf Porthladdoedd 1964(16); neu
echdynnu y mae unrhyw un neu rai o'r Rheoliadau canlynol yn gymwys iddo—
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 1999(17),
Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) 1999(18),
Rheoliadau Gwaith Piblinell Cludo Nwy Cyhoeddus (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 1999(19),
Rheoliadau Cynhyrchu Petrolewm Alltraeth a Phiblinellau Petrolewm Alltraeth (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 1999(20),
Rheoliadau Gwaith Piblinellau (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2000(21), ac
os yw'r cyd-destun yn gwneud hynny'n ofynnol, mae'n cynnwys treillio a gynigir.
(2) Mae i ymadroddion Cymraeg a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac y mae'r ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn cael eu defnyddio yn y Gyfarwyddeb EIA neu'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd, yr un ystyr at ddibenion y Rheoliadau hyn â'r ystyr a roddir i'r ymadroddion Saesneg hynny yn y Cyfarwyddebau hynny.
(3) Pan fo'r Rheoliadau hyn yn cyfeirio at —
(a) cais neu archiad y caiff unrhyw berson ei wneud; neu
(b) cymeradwyaeth, penderfyniad, dyfarniad neu farn i'w dyroddi neu i'w ddyroddi gan Weinidogion Cymru;
rhaid i unrhyw gais neu archiad o'r fath gael ei wneud yn ysgrifenedig, a rhaid i unrhyw gymeradwyaeth, penderfyniad, dyfarniad neu farn o'r fath gael ei dyroddi neu ei ddyroddi'n ysgrifenedig.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae'r Rheoliadau hyn yn rhwymo'r Goron.
(2) Ni chaniateir gwneud y Goron yn droseddol atebol am dorri unrhyw un neu rai o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn, er bod hynny'n dramgwydd troseddol, ond caiff yr Uchel Lys, ar gais unrhyw berson y mae'n ymddangos i'r Llys fod ganddo fuddiant, ddatgan bod unrhyw weithred neu anweithred gan y Goron sy'n torri darpariaeth yn y modd hwnnw yn anghyfreithlon.
(3) Er gwaethaf unrhyw beth ym mharagraff (2), mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i bersonau yng ngwasanaeth cyhoeddus y Goron fel y maent yn gymwys i unrhyw berson arall.
1998 p.46. Gweler hefyd Gorchymyn Terfynau Dyfroedd Cyfagos â'r Alban 1999 (O.S. 1999/1126). Back [4]
2006 p.32; Gweler hefyd erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 3 iddo. Caiff y darpariaethau hyn, a wnaed o dan adran 155(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) (pwer i wneud gorchymyn at ddibenion y diffiniad o Gymru), eu trin fel pe baent wedi eu gwneud o dan adran 158(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn rhinwedd paragraff 26(3) o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno. Back [5]
1987 p.49 Back [6]
1964 p.29. Back [7]
1998 p.47. Gweler hefyd Gorchymyn Terfynau Dyfroedd Cyfagos (Gogledd Iwerddon) 2002 (O.S. 2002/791). Back [8]
1998 p.46. Gweler hefyd Gorchymyn Terfynau Dyfroedd Cyfagos â'r Alban 1999 (O.S. 1999/1126). Back [9]
1998 p.47. Gweler hefyd Gorchymyn Terfynau Dyfroedd Cyfagos (Gogledd Iwerddon) 2002 (O.S. 2002/791). Back [10]
OJ Rhif L103, 25.04.97, t.1, y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Back [11]
OJ Rhif L206, 22.07.92, t.7 y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Back [12]
OJ Rhif L175, 05.07.85, t. 40, a ddiwygiwyd gan Gyfarwyddeb 97/11/EC, OJ Rhif L73, 14.03.97, t.5 a Chyfarwyddeb 2003/35/EC, OJ Rhif L156, 25.06.03, t.17. Back [13]
1990 p. 8. mewnosodwyd adran 293 gan Atodlen 3 i Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5). Back [14]
1964 p.40. Back [16]
O.S. 1999/293, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/2867, 2006/3099, a 2006/3295. Back [17]
O.S. 1999/1783. Back [18]
O.S. 1999/1672, fel y'i diwygir gan Ddeddf Cyfleustodau 2000 (p.27), adran 76(7) a chan O.S. 2007/1996. Back [19]
O.S.1999/360, a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/933. Back [20]
O.S. 2000/1928, a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/1992. Back [21]
Amended by correction slip on 01 February 2008