Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Navigation


Main navigation

Supplementary menus and contents

Offerynnau Statudol

2007 Rhif . 2610 (Cy. 221)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol a Chynefinoedd Naturiol (Echdynnu Mwynau drwy Dreillio Gwely'r Môr) (Cymru) 2007

Gwnaed

6 Medi 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

7 Medi 2007

Yn dod i rym

28 Medi 2007

TREFN Y RHEOLIADAU

Go to Preamble

  1. RHAN 1

    RHAGARWEINIAD

    1. 1. Enwi, cychwyn a chymhwyso

    2. 2. Dehongli

    3. 3. Cymhwyso i'r Goron

  2. RHAN 2

    CYFYNGIADAU AR DREILLIO

    1. 4. Cyfyngiadau ar dreillio

    2. 5. Cymhwyso'r Rheoliadau'n rhannol mewn achosion penodol

  3. RHAN 3

    MATERION RHAGARWEINIOL

    1. 6. Dyfarniadau rhagarweiniol Gweinidogion Cymru

    2. 7. Barn Gweinidogion Cymru am gynnwys y datganiad amgylcheddol

    3. 8. Darparu gwybodaeth i hwyluso paratoi datganiad amgylcheddol

    4. 9. Ffioedd am faterion rhagarweiniol

  4. RHAN 4

    CANIATADAU AR GYFER TREILLIO

    1. 10. Ceisiadau am ganiatâd

    2. 11. Gwybodaeth bellach

    3. 12. Cyhoeddusrwydd ac ymgynghori

    4. 13. Penderfyniadau ar geisiadau

    5. 14. Tramgwyddau sy'n gysylltiedig â cheisiadau a chaniatadau

    6. 15. Prosiectau sy'n debygol o effeithio'n sylweddol ar yr amgylchedd mewn gwladwriaeth AEE arall

  5. RHAN 5

    TROSGLWYDDO AC AMRYWIO CANIATADAU

    1. 16. Trosglwyddo caniatâd

    2. 17. Amrywio caniatâd

    3. 18. Amrywio caniatâd ar gais: dyfarniadau rhagarweiniol a ffioedd

    4. 19. Amrywio caniatâd ar gais: prosiectau perthnasol a phrosiectau cynefinoedd

    5. 20. Amrywio caniatâd ar gais: achosion eraill

    6. 21. Dirymu, atal dros dro neu amrywio caniatâd ac eithrio ar gais

    7. 22. Canlyniadau dirymu, atal dros dro neu amrywio

    8. 23. Tramgwyddau sy'n ymwneud â throsglwyddiadau ac amrywiadau

  6. RHAN 6

    CYNEFINOEDD NATURIOL

    1. 24. Gwarchod cynefinoedd naturiol

  7. RHAN 7

    CYFFREDINOL

    1. 25. Ffioedd

    2. 26. Cofrestr

    3. 27. Cosbau

    4. 28. Deddf Awdurdodaeth ar Ddyfroedd Tiriogaethol 1878

    5. 29. Ymchwiliadau lleol

    6. 30. Cyfathrebiadau electronig

    7. 31. Darpariaethau trosiannol

    8. 32. Diwygiadau i Reoliadau, ac arbedion

    1. ATODLEN 1

      DATGANIADAU AMGYLCHEDDOL

      1. RHAN 1

        Y GOFYNION SYLFAENOL

      2. RHAN 2

        Y GOFYNION YCHWANEGOL

    2. ATODLEN 2

      Y MEINI PRAWF DETHOL

      1. 1. Nodweddion y prosiectau

      2. 2. Lleoliad y prosiectau

      3. 3. Nodweddion yr effaith bosibl

    3. ATODLEN 3

      CYNEFINOEDD NATURIOL

      1. 1. Diffiniadau

      2. 2. Darpariaeth i warchod safleoedd Ewropeaidd: prosiectau treillio newydd

      3. 3. Darpariaeth i warchod safleoedd Ewropeaidd: adolygu caniatadau sy'n bodoli eisoes

      4. 4. Darpariaeth i warchod safleoedd Ewropeaidd: adolygiad o'r cytundebau sy'n bodoli eisoes

      5. 5. Y weithdrefn ar ôl adolygiad

      6. 6. Effaith penderfyniad Gweinidogion Cymru ar ôl adolygiad

      7. 7. Mesurau digolledu

Go to Explanatory Note

At ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) i'r graddau y maent yn ymwneud ag echdynnu mwynau drwy dreillio gwely'r môr, mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(2) mewn perthynas â chamau sy'n gysylltiedig â'r gofyniad am asesu'r effaith ar yr amgylchedd a gaiff prosiectau sy'n debygol o effeithio'n sylweddol ar yr amgylchedd, ac mewn perthynas â chamau sy'n berthnasol i gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a freiniwyd ynddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a chan adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 1973(3).

Mae'r Trysorlys yn cydsynio i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud fel sy'n ofynnol gan adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 1973.

(1)

1972 p.68. Estynnwyd pwerau galluogi adran 2(2) o'r Ddeddf hon yn rhinwedd diwygio adran 1(2) gan adran 2(5) o Ddeddf yr Ardal Economaidd Ewropeaidd 1993 (p.51). Mae Cyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC yn gymwys i'r AEE yn rhinwedd Erthygl 74 o'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, a pharagraff 1 o Ran I o Atodiad XX iddo (Gorch 2073). Estynnwyd Cyfarwyddeb y Cyngor 97/11/EC i'r AEE gan Benderfyniad Rhif 20/1999 Cyd-bwyllgor yr AEE dyddiedig 26 Chwefror 1999, OJ Rhif L148, 22.06.00, t.45. Back [1]

(2)

O.S. 2000/2812 ac O.S. 2002/248 fel y diwygiwyd y ddau gan Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/3329). Yn rhinwedd adrannau 59(1) a 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiadau hyn yn arferadwy gan Weinidogion Cymru. Back [2]

(3)

1973 p.51, y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Gweler adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 Back [3]