Erthygl 12
1.—(1) Rhaid i'r trwyddedai sicrhau bod unrhyw berson sy'n mynd ar y fangre drwyddedig yn cael gwybod bod y fangre'n drwyddedig o dan y Gorchymyn hwn, pa un ai trwy gyfrwng system o hysbysiadau y gwneir hynny neu mewn rhyw ffordd arall.
(2) Rhaid i'r trwyddedai ddarparu'r canlynol wrth yr allanfeydd o'r man i anifeiliaid ac wrth unrhyw fan llwytho a dadlwytho—
(a) baddonau traed sy'n cynnwys diheintydd a gymeradwywyd; a
(b) cyfleusterau ar gyfer tynnu oddi ar esgidiau laid, tom anifeiliaid ac unrhyw halogion eraill sy'n dod o anifeiliaid cyn defnyddio'r baddonau traed.
(3) Rhaid i'r trwyddedai ddarparu cyfleusterau ar y fangre drwyddedig ar gyfer newid, glanhau a diheintio dillad a gwaredu dillad y gellir eu taflu.
(4) Rhaid i'r trwyddedai —
(a) sicrhau mai yn y man i anifeiliaid yn unig y caiff yr anifeiliaid eu dadlwytho a'u llwytho; a
(b) sicrhau, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol, nad yw anifeiliaid yn gadael y man i anifeiliaid ac eithrio ar gerbyd.
(5) Pan gynhelir crynhoad anifeiliaid y mae'r terfynau amser yn erthyglau 9 a 10 yn gymwys iddo, rhaid i'r trwyddedai sicrhau—
(a) na ddeuir â'r un anifail i'r fangre cyn dechrau'r crynhoad anifeiliaid; a
(b) bod pob anifail yn cael ei symud o'r fangre erbyn diwedd y crynhoad anifeiliaid.
2.—(1) Ni chaiff neb fynd ar fangre drwyddedig yn gwisgo dillad allanol neu esgidiau y gellir gweld eu bod wedi'u halogi â llaid, tom anifeiliaid neu halogion eraill sy'n dod o anifeiliaid.
(2) Os bydd person yn y man i anifeiliaid yn gwisgo dillad allanol neu esgidiau y gellir gweld eu bod wedi eu halogi â llaid, tom anifeiliaid neu halogion eraill sy'n dod o anifeiliaid, rhaid iddo ar ei union wrth adael y man i anifeiliaid, lanhau halogi garw oddi ar ei ddillad allanol neu ei esgidiau (onid ydynt i gael eu gwaredu) a naill ai—
(a) eu diheintio;
(b) newid i ddillad neu esgidiau glân;
(c) eu gwaredu; neu
(ch) ymadael â'r fangre drwyddedig.
(3) Os bydd person y tu allan i'r man i anifeiliaid yn gwisgo dillad allanol neu esgidiau y gellir gweld eu bod wedi eu halogi â llaid, tom anifeiliaid neu halogion eraill sy'n dod o anifeiliaid, caiff arolygydd gyflwyno iddo hysbysiad yn rhoi iddo'r dewis a hynny ar ei union—
(a) glanhau ei ddillad allanol neu ei esgidiau;
(b) newid i ddillad neu esgidiau glân;
(c) gwaredu dillad neu esgidiau y gellir eu taflu; neu
(ch) ymadael â'r fangre drwyddedig.
3. Rhaid i unrhyw berson sy'n ymadael â'r man i anifeiliaid, gan ddefnyddio'r cyfleusterau a ddarperir, dynnu'r llaid, tom anifeiliaid ac unrhyw halogion eraill sy'n dod o anifeiliaid oddi ar ei esgidiau ac yna diheintio'r esgidiau hynny yn y baddon traed a ddarperir sy'n cynnwys diheintydd a gymeradwywyd.
4.—(1) Ni chaiff neb ddod ag unrhyw gerbyd na chyfarpar a gludir ar y cerbyd hwnnw ar y fangre drwyddedig na mynd â hwy oddi yno os gellir gweld eu bod wedi'u halogi â thom anifeiliaid neu unrhyw halogiad arall sy'n dod o anifeiliaid.
(2) Ni fydd y paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gerbyd neu gyfarpar a gludir ar y cerbyd hwnnw sy'n dod ar fangre drwyddedig —
(a) os yw'r dom anifeiliaid neu halogiad arall yn dod yn unig o'r anifeiliaid a gludir ar y cerbyd pan ddaethpwyd â'r cerbyd ar y fangre drwyddedig; neu
(b) yn unswydd er mwyn eu glanhau a'u diheintio, os eir â hwy yn unionsyth i'r cyfleusterau glanhau a diheintio yn ddi-oed ar ôl cyrraedd y fangre.
(3) Ni fydd y paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gerbyd neu gyfarpar a gludir ar y cerbyd hwnnw sy'n ymadael â'r fangre drwyddedig—
(a) os yw'r dom anifeiliaid neu halogiad arall yn dod yn unig o'r anifeiliaid a ddadlwythwyd o'r cerbyd ar y fangre drwyddedig; neu
(b) os yw'r dom anifeiliaid neu halogiad arall yn dod yn unig o'r anifeiliaid a lwythwyd ar y cerbyd ar y fangre drwyddedig.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn ailddeddfu, gyda diwygiadau, Orchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1803 (Cy.191)). Mae'r diwygiadau fel a ganlyn.
Yn gyntaf, pan na fo cyfres o grynoadau anifeiliaid, sy'n cael eu cynnal ar fangre â man palmantog i anifeiliaid, yn para'n hwy na chyfanswm o 48 awr, caiff y crynoadau hynny eu trin fel un crynhoad anifeiliaid (erthygl 7(6)). Yn ail, mae erthygl 8 yn darparu y caiff trwyddedai wneud cais i Weinidogion Cymru ganiatáu i ddefaid mewn arwerthiant defaid magu yn yr hydref gael mynd i fannau y tu allan i'r man palmantog i anifeiliaid ac i gael caniatâd i gynnal crynoadau pellach o anifeiliaid o fewn 27 niwrnod i'r arwerthiant hwnnw o ddefaid magu yn yr hydref. Yn drydydd, mae paragraff 1(2) o'r Atodlen yn ei gwneud yn ofynnol i'r trwyddedai ddarparu cyfleusterau ar gyfer gwaredu llaid, tom a halogion eraill sy'n dod o anifeiliaid oddi ar esgidiau, yn ogystal â darparu baddonau traed. Mae paragraff 3 o'r Atodlen yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n ymadael â'r man i anifeiliaid ddefnyddio'r cyfleusterau hynny cyn defnyddio'r baddon traed sy'n cynnwys diheintydd a gymeradwywyd. Yn bedwerydd, mae paragraff 2(1) o'r Atodlen yn darparu na chaiff unrhyw berson fynd i mewn i fangre drwyddedig gyda dillad allanol neu esgidiau y gellir gweld eu bod wedi'u halogi â llaid, yn ychwanegol at ddom anifeiliaid neu unrhyw halogydd anifeiliaid arall a bennwyd yng Ngorchymyn 2004.
Mae erthygl 4 yn darparu na fydd y Gorchymyn hwn yn gymwys os yw'r holl anifeiliaid y deuir â hwy i grynhoad anifeiliaid ym mherchenogaeth yr un person ac yn dod o fangre a awdurdodir fel grwp meddiannaeth unigol o dan Orchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003 (O.S. 2003/1966 (Cy.211)) ac os crynhoir yr anifeiliaid ar fangre y mae perchennog yr anifeiliaid yn berchen arni neu'n ei meddiannu.
Mae erthygl 5 yn ei gwneud yn ofynnol i gael trwydded ar gyfer crynoadau anifeiliaid. Mae erthygl 6 yn pennu y gellir cynnal crynhoad anifeiliaid dim ond 27 o ddiwrnodau neu fwy ar ôl i'r anifail olaf adael y fangre honno a bod y fangre honno wedi'i glanhau a'r cyfarpar hwnnw ar y fangre wedi'i lanhau o halogiad gweladwy. Os ar fangre balmantog y cynhelir y crynhoad, mae erthygl 7 yn gwneud darpariaeth ar gyfer glanhau a diheintio'r fangre honno ac yn caniatáu cynnal crynhoad o fewn y terfynau amser arferol. Mae erthygl 9 yn gosod terfyn amser o 48 awr ar grynoadau anifeiliaid at ddibenion gwerthiant ar fangre balmantog ac arwerthiannau defaid magu yn yr hydref a llwythi sy'n cael eu traddodi ymlaen ar unrhyw fangre. Mae erthygl 12 a'r Atodlen yn gosod dyletswyddau ar bersonau sy'n mynd i grynhoad anifeiliaid. Mae erthygl 13 yn gosod cyfyngiadau yn dilyn crynhoad anifeiliaid. Mae erthygl 14 yn ymdrin â gorfodi.
Mae torri'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, ac yn dwyn cosb yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honno.
Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi a gellir cael copïau oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.