Rheoliad 2(2)
View a larger version of this image
View a larger version of this image
View a larger version of this image
View a larger version of this image
View a larger version of this image
View a larger version of this image
View a larger version of this image
View a larger version of this image
View a larger version of this image
View a larger version of this image
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae adran 15 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 (“Deddf 2006”) yn darparu sail ddiwygiedig dros ofyn am gofrestru tir yn faes tref neu bentref.
Yn rhannol yn unig y daethpwyd â Rhan I o Ddeddf 2006 i rym. Yn benodol, nid yw adrannau 1 i 3 mewn grym eto. Nes i hynny ddigwydd, nid oes modd cynnwys meysydd newydd yn y gofrestr o feysydd tref neu bentref sydd i'w chynnal yn unol â Deddf 2006. Tan hynny, mae'r Rheoliadau hyn yn galluogi'r awdurdodau cofrestru i gofrestru tir, sy'n bodloni'r meini prawf cofrestru sydd wedi'u nodi yn adran 15(1) neu 15(8) o Ddeddf 2006, yn y gofrestr o feysydd tref neu bentref sy'n cael ei chynnal yn unol â Deddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965 (“Deddf 1965”).
Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu—
(a) y weithdrefn ar gyfer gwneud cais am gofrestru tir yn faes tref neu bentref (rheoliad 3);
(b) y weithdrefn ar gyfer ymdrin â cheisiadau am gofrestru (rheoliadau 4 i 7); ac
(c) dull cofrestru tir yn faes tref neu bentref ar ôl i gais gael ei ganiatáu (rheoliad 8).
Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli'r darpariaethau perthnasol yn Rheoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Tir Newydd) 1969 (O.S. 1969/1843) (“Rheoliadau 1969”) ar gyfer cofrestru meysydd tref neu bentref newydd o dan Ddeddf 1965. Er hynny, mae Rheoliadau 1969 yn parhau mewn grym er mwyn i feysydd newydd a thiroedd comin newydd gael eu cofrestru at y dibenion a bennir yn yr arbedion a geir yn erthygl 4(1) o Orchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/2386) (Cy.197) (C.88).