Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn cychwyn darpariaethau penodol o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 (“y Ddeddf”) o ran Cymru.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn dod â nifer o ddarpariaethau i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae'r Gorchymyn hwn yn cael ei wneud gyda'r bwriad cyfyngedig o alluogi Gweinidogion Cymru i roi canllawiau neu gyfarwyddiadau ac i wneud rheoliadau, neu i wneud darpariaeth drwy reoliadau.

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn dod â'r darpariaethau o Ddeddf 2006 a nodir yn yr erthygl honno i rym ar 6 Medi 2007.

Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbedion yn ymwneud â'r darpariaethau y daethpwyd â hwy i rym gan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn.

Ymhlith pethau eraill, mae'r Gorchymyn hwn yn dod ag adran 15 o Ddeddf 2006 i rym, sy'n gwneud darpariaeth newydd ynghylch cofrestru tir yng Nghymru fel maes tref neu bentref, ac sy'n cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbedion—

(a) sy'n ei gwneud yn ofynnol, nes bod adran 1 o Ddeddf 2006 yn dod i rym o ran y man perthnasol, i faes a gofrestrwyd o dan adran 15 o Ddeddf 2006 gael ei gofnodi yn y cofrestrau a gedwir o dan Ddeddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965 (“Deddf 1965”);

(b) sy'n sicrhau bod y darpariaethau presennol ar gyfer cofrestru meysydd a thiroedd comin newydd o dan adran 13(b) o Ddeddf 1965 yn aros mewn grym mewn achosion penodol (megis ar gyfnewid tir sy'n ganlyniad i orchymyn prynu gorfodol); ac

(c) sy'n cadw unrhyw gais i gofrestru maes a wnaed o dan Ddeddf 1965 cyn 6 Medi 2007, fel bod rhaid pennu ceisiadau o'r fath o dan Ddeddf 1965.

Gellir cael gwybodaeth bellach ar y darpariaethau y daw'r Gorchymyn hwn â hwy i rym yn y Nodiadau Esboniadol i'r Ddeddf Tiroedd Comin 2006, yn www.opsi.gov.uk.