Page 1 of 1
Offerynnau Statudol
IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU
Gwnaed
7 Awst 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
9 Awst 2007
Yn dod i rym
7 Medi 2007
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 2(4) a 2(8) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) (Diwygio) 2007 a deuant i rym ar 7 Medi 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002(2).
3.—(1) Yn rheoliad 3(3)(f) o'r Prif Reoliadau hepgorer y geiriau “neu berson arall”.
(2) Yn rheoliad 4(1)(b) o'r Prif Reoliadau hepgorer y geiriau “neu berson arall”.
(3) Yn rheoliad 4A o'r Prif Reoliadau hepgorer y geiriau “neu berson arall”.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
7 Awst 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Gwneir y rheoliadau hyn o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 ac maent yn diwygio Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002. Maent yn diwygio'r eithriadau ar gyfer cofrestru fel ysbyty annibynnol, clinig annibynnol ac fel asiantaeth feddygol annibynnol drwy dynnu'r geiriau “neu berson arall” o reoliadau 3(3)(f), 4(1)(b) and 4A.
2000 p.14. Rhoddir y pwerau i'r “appropriate Minister”. Ystyr “Appropriate Minister” o ran Cymru yw'r Cynulliad: gweler adran 121(1) o'r Ddeddf. Trosglwyddir y pwerau i Weinidogion Cymru gan adran 162 a pharagraff 30 o atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru .2006 (P.32). Back [1]
O.S. 2002/325 (Cy.38), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/1703 (Cy.165). Back [2]