Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006 (“Rheoliadau 2006”) a Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2007 (“Rheoliadau 2007”).

Newidir darpariaethau cyfatebol Rheoliadau 2006 a Rheoliadau 2007 fel a ganlyn —

Cyrsiau Gradd Cywasgedig;

Mae rheoliadau 5—8, 10—13, 18 a 21 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2006 o ran cyrsiau gradd “cywasgedig” newydd. Caiff yr Ysgrifennydd Gwladol ddyfarnu cyrsiau sy'n gyrsiau gradd cywasgedig a ddarperir gan sefydliadau addysg yn Lloegr drwy gyllid cyhoeddus. Gall myfyrwyr cymwys fod yn gymwys i gael cymorth am hyd y cyrsiau hynny. Mae newidiadau i Reoliadau 2006 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â myfyrwyr sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru sy'n ymgymryd â'r cyfryw gyrsiau. Mae rheoliadau 27, 28, 32, 34, 42, 44-48 a 51 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau tebyg i Reoliadau 2007.

Cymhwystra Gwladolion o Dwrci;

Mae rheoliadau 5, 9, 11, 12, 19, 22—25 a 26 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2006 o ran cymhwystra gwladolion o Dwrci. Diwygir Rheoliadau 2006 er mwyn cydymffurfio ag erthygl 9 o Benderfyniad Rhif 1/80 Cyngor y Gymdeithas ar 19 Medi 1980 ar ddatblygiad y Gymdeithas rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Thwrci.

Crëwyd Cyngor y Gymdeithas gan y cytundeb a sefydlodd gymdeithas rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Thwrci a lofnodwyd yn Ankara ar 12 Medi 1963 gan Weriniaeth Twrci ar y naill law ac Aelod-wladwriaethau'r EEC a'r Gymuned ar y llaw arall. Cwblhawyd y cytundeb, a'i gymeradwyo a'i gadarnhau ar ran y Gymuned gan Benderfyniad y Cyngor 64/732/EEC ar 23 Rhagfyr 1963 (OJ 1973 C 113 t.1).

Mae Erthygl 9 o Benderfyniad Rhif 1/80 o Gyngor y Gymdeithas ar 19 Medi 1980 ar ddatblygiad y gymdeithas yn darparu: “Turkish children residing legally in a Member State of the Community with their parents who are or have been legally employed in that member State, shall be admitted to courses of general education, apprenticeship and vocational training under the same educational entry qualifications as the children of nationals of that member State. They may in that Member State be eligible to benefit from the advantages provided for under the national legislation in this area.”. Mae rheoliadau 27, 33, 35, 41, 49, 52, 56, 57, 62 a 63 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau tebyg i Reoliadau 2007.

Newidiadau eraill;

Mae rheoliadau 20 a 50 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 46 o Reoliadau 2006 a rheoliad 54 o Reoliadau 2007 yn eu trefn o ran y diffiniad o grant at ffioedd at ddibenion Rhan 9 o Reoliadau 2006 a 2007.

Mae rheoliad 24 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 62 o Reoliadau 2006 i bennu'r rheolau o ran myfyriwr sy'n dod yn gymwys i gael cymorth ôl-radd yn ystod blwyddyn academaidd.

Mae rheoliadau 29—31 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 6 (hyd y cyfnod cymhwystra) a rheoliad 7 (astudio blaenorol) o Reoliadau 2007 o ran y diffiniad o gwrs blaenorol.

Mae rheoliadau 36 a 37 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 15 o Reoliadau 2007 fel y bydd myfyriwr sy'n parhau, yn gymwys i gael grant at ffioedd dim ond os dyfarnwyd eisoes ei fod yn gymwys i gael cymorth o ran cwrs dynodedig.

Mae rheoliad 58 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 75 o Reoliadau 2007 o ran y diffiniad o “cwrs amser-llawn cyfatebol” a “cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol” o ran cyrsiau ôl-radd dynodedig.

Mae'r newidiadau a wneir gan reoliadau 59 a 60 o'r Rheoliadau hyn i reoliad 76 o Reoliadau 2007 yn egluro'r rheolau ynghylch cyfnod cymhwystra o ran myfyrwyr ôl-raddedig.

Mae rheoliadau 53—55 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r ffigurau yn Rheoliadau 2007 fel a ganlyn;

Rheoliadau 16(5), 37(4)(c), 65(1)(b), 65(5)(e), 65(5)(f), 65(5)(ff) a 65(6)(a).