(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i bobl ifanc i'w galluogi i gael addysg ar ôl iddynt gyrraedd oedran gorfodol ymadael â'r ysgol. Mae lwfans cynhaliaeth addysg hyd at £30 yr wythnos ar gael i bersonau cymwys sy'n dilyn cyrsiau cymwys. Yn ychwanegol, telir taliadau bonws o £100 hyd at dair gwaith y flwyddyn os bydd person cymwys yn bodloni amcanion ei gwrs a'r amodau a osodir yn y Rheoliadau hyn.
Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 31 Awst 2007.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi paratoi canllawiau manwl ar weithrediad y Rheoliadau. Gellir cael copïau oddi wrth. Lywodraeth Cynulliad Cymru, Yr Is-adran Cyllid Myfyrwyr, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ. Gellir dod o hyd i gopïau ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd. www.cymru.gov.uk.
Amended by correction slip on 01 September 2007