Rheoliad 3
1.—(1) At ddibenion yr Atodlen hon —
ystyr “aelod o'r teulu” (“family member”) (oni nodir fel arall) —
o ran gweithiwr y ffin o'r AEE, gweithiwr mudol o'r AEE, person hunangyflogedig y ffin o'r AEE neu berson hunangyflogedig o'r AEE yw —
ei briod neu ei bartner sifil;
ei blentyn neu blentyn ei briod neu blentyn ei bartner sifil; neu
perthnasau uniongyrchol dibynnol yn ei linach esgynnol neu yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;
o ran person cyflogedig Swisaidd, person cyflogedig Swisaidd y ffin, person hunangyflogedig Swisaidd y ffin neu berson hunangyflogedig Swisaidd —
ei briod neu ei bartner sifil; neu
ei blentyn neu blentyn ei briod neu blentyn ei bartner sifil;
o ran gwladolyn y GE nad yw'n hunangynhaliol —
ei briod neu ei bartner sifil; neu
ei ddisgynyddion uniongyrchol neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil—
sydd o dan 21 mlwydd oed; neu
sy'n ddibynyddion iddo neu sy'n ddibynyddion i'w briod neu i'w bartner sifil;
o ran gwladolyn y GE sy'n hunangynhaliol—
ei briod neu ei bartner sifil; neu
ei ddisgynyddion uniongyrchol neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil—
sydd o dan 21 mlwydd oed; neu
sy'n ddibynyddion iddo neu sy'n ddibynyddion i'w briod neu i'w bartner sifil;
perthnasau uniongyrchol dibynnol yn ei linach esgynnol neu yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;
o ran gwladolyn y Deyrnas Unedig, at ddibenion paragraff 9 —
ei briod neu ei bartner sifil; neu
ei ddisgynyddion uniongyrchol neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil—
sydd o dan 21 mlwydd oed; neu
sy'n ddibynyddion iddo neu sy'n ddibynyddion i'w briod neu i'w bartner sifil;
ystyr “AEE” (“EEA”) yw Ardal Economaidd Ewropeaidd, sef yr ardal sy'n ffurfio'r Gymuned Ewropeaidd, Gweriniaeth Iwerddon, Brenhiniaeth Norwy a Thywysogaeth Liechtenstein;
ystyr “Cyfarwyddeb 2004/38” (“Directive 2004/38”) yw Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar 29 Ebrill 2004(4) ar hawliau dinasyddion yr Undeb ac aelodau o'u teuluoedd i symud ac i breswylio'n rhydd yn nhiriogaeth yr Aelod-wladwriaethau;
ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Swiss Agreement”) yw'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau, o'r naill barti, a'r Conffedrasiwn Swisaidd, o'r llall, ar Rydd Symudiad Personau a lofnodwyd yn Luxembourg ar 21 Mehefin 1999(5) ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;
ystyr “gweithiwr” (“worker”) yw gweithiwr o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu o Gytundeb yr AEE(6), yn ôl y digwydd;
ystyr “gweithiwr mudol o'r AEE” (“EEA migrant worker”) yw gwladolyn o'r AEE sy'n weithiwr ac eithrio gweithiwr y ffin o'r AEE, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “gweithiwr y ffin o'r AEE” (“EEA frontier worker”) yw gwladolyn o'r AEE —
sy'n weithiwr yn y Deyrnas Unedig; a
sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;
ystyr “gwladolyn y Deyrnas Unedig” (“United Kingdom national”) yw person sydd i'w drin fel gwladolyn o'r Deyrnas Unedig at ddibenion y Cytuniadau Cymunedol;
ystyr “Gwladolyn y GE” (“EC national”) yw gwladolyn o Aelod-wladwriaeth y Gymuned Ewropeaidd;
ystyr “gwladolyn yr AEE” (“EEA national”) yw gwladolyn o'r Wladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig;
ystyr “Gwladwriaeth yr AEE” (“EEA State”) yw Aelod-wladwriaeth yr Ardal Economaidd Ewropeaidd;
ystyr “hawl i breswylio'n barhaol” (“right of permanent residence”) yw hawl sy'n codi o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad;
ystyr “person cyflogedig” (“employed person”) yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
ystyr “person cyflogedig Swisaidd” (“Swiss employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd yn berson cyflogedig, ac eithrio person Swisaidd cyflogedig y ffin, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “person cyflogedig Swisaidd y ffin” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn Swisaidd—
sy'n berson cyflogedig yn y Deyrnas Unedig; a
sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu yn y Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;
ystyr “person hunangyflogedig” (“self-employed person”) yw—
o ran gwladolyn AEE, person sy'n hunangyflogedig o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu o Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd; neu
o ran gwladolyn Swisaidd, person sy'n hunangyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
ystyr “person hunangyflogedig AEE” (“EEA self-employed person”) yw gwladolyn o'r AEE sy'n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig y ffin o'r AEE, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “person hunangyflogedig Swisaidd” (“Swiss self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy'n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig Swisaidd y ffin, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “person hunangyflogedig Swisaidd y ffin” (“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd—
sy'n berson hunangyflogedig yn y Deyrnas Unedig; a
sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu yn y Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;
ystyr “person hunangyflogedig y ffin o'r AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yw gwladolyn o'r AEE —
sy'n berson hunangyflogedig yn y Deyrnas Unedig; a
sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;
ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros” (“person with leave to enter or remain”) yw person—
a gafodd ei hysbysu gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref y tybir, er ystyried nad yw'n gymhwysol i'w gydnabod fel ffoadur, ei bod yn iawn caniatáu iddo ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu aros yno;
a gafodd ganiatâd i ddod i mewn neu aros yn unol â hynny (ac na chafodd y caniatâd hwnnw ei ddirymu); ac
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers pan gafodd ganiatâd i ddod i mewn neu aros;
mae i “wedi setlo” yr ystyr a roddir i “settled” yn adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971(7).
(2) At ddibenion yr Atodlen hon, mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn ac unrhyw berson a chanddo ofal plentyn a rhaid dehongli “plentyn” (“child”) yn unol â hynny.
(3) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person i gael ei drin fel petai'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir pe byddai wedi bod yn preswylio felly oni bai—
(a) ei fod ef;
(b) bod ei briod neu ei bartner sifil;
(c) bod ei riant; neu
(ch) yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinell esgynnol, bod ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil,
mewn cyflogaeth dros dro y tu allan i'r Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu wedi bod mewn cyflogaeth felly, neu, yn ôl y digwydd, y tu allan i'r diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir.
(4) At ddibenion is-baragraff (4), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i'r Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu'r diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn cynnwys —
(a) yn achos aelodau o lynges, o fyddin neu o awyrlu rheolaidd y Goron, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r Deyrnas Unedig; a
(b) yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu'r Swistir, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir.
(5) At ddibenion yr Atodlen hon mae ardal —
(a) nad oedd gynt yn rhan o'r Gymuned Ewropeaidd neu o'r AEE; ond
(b) sydd ar unrhyw adeg cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym neu wedi hynny wedi dod yn rhan o'r naill neu'r llall o'r ardaloedd hyn neu o'r ddwy ohonynt, i gael ei hystyried fel petai wedi bod erioed yn rhan o'r AEE.
OJ L158, 30.04.2004, tt.77-123. Back [4]
Cm. 4904. Back [5]
ystyr “Cytundeb yr AEE” yw'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992 — Cm 2073, fel y'i haddaswyd gan y Protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993, Cm. 2183. Back [6]
1971 p.77; mewnosodwyd adran 33(2A) gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p.61). Back [7]