Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main navigation

Supplementary menus and contents

Offerynnau Statudol

2007 Rhif 2311 (Cy.182)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Lwfansau Cynhaliaeth Addysg (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

4 Awst 2007

Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

7 Awst 2007

Yn dod i rym

31 Awst 2007

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 181 o Ddeddf Addysg 2002(1), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:—

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lwfansau Cynhaliaeth Addysg (Cymru) 2007.

(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Awst 2007 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw'r cyfnod rhwng 1 Medi mewn un flwyddyn hyd at 31 Awst yn y flwyddyn nesaf, ac eithrio pan fo tymor cyntaf sefydliad addysgol cydnabyddedig yn dechrau cyn 1 Medi, y flwyddyn academaidd yw'r cyfnod sy'n cychwyn ar ddechrau'r tymor hwnnw ac sy'n dod i ben yn union cyn dechrau'r tymor cyntaf hwnnw yn y flwyddyn ddilynol;

ystyr “cwrs addysg cymwys” (“eligible education course”) yw cwrs a ddisgrifir yn rheoliad 4;

ystyr “cyrchnodau dysgu” (“learning goals”) yw amcanion a gytunwyd rhwng person cymwys a'r sefydliad addysgol cydnabyddedig y mae'n ei fynychu a hwythau'n amcanion sy'n ymwneud â chynnydd addysgol y person cymwys;

ystyr “Cytundeb Dysgu Rhan 1” (“Learning Agreement Part 1”) yw contract a lofnodir rhwng person cymwys a'i sefydliad addysgol cydnabyddedig sy'n nodi'r cyfrifoldebau priodol sy'n llywodraethu'i bresenoldeb a thalu dyfarndaliadau wythnosol fel y'u disgrifir ym mharagraffau 5(2) a 5(3);

ystyr “Cytundeb Dysgu Rhan 2” (“Learning Agreement Part 2”) yw contract a lofnodir rhwng person cymwys a'i sefydliad addysgol cydnabyddedig sy'n nodi'r amcanion y mae'n rhaid i berson cymwys eu cyflawni er mwyn bod yn gymhwysol i gael bonws ysbeidiol fel y'i disgrifir yn rheoliad 8;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg 2002;

ystyr “incwm aelwyd” (“household income”) yw incwm fel y'i diffinnir ac fel y'i cyfrifir at ddibenion credyd treth plant yn Rheoliadau Credydau Treth (Diffinio a Chyfrifo Incwm) 2002(3) fel y'u diwygiwyd o dro i dro;

mae i “lwfans cynhaliaeth addysg” (“education maintenance allowance”) (LCA) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliadau 5(1) i 5(4);

mae i “person cymwys” (“eligible person”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 3(1) i 3(4);

ystyr “sefydliad addysgol cydnabyddedig” (“recognised educational institution”) yw—

(a)

ysgol yng Nghymru a gynhelir gan awdurdod lleol,

(b)

ysgol annibynnol yng Nghymru a gofrestrwyd o dan Ran 10 o Ddeddf Addysg 2002,

(c)

sefydliad yng Nghymru yn y sector addysg bellach, neu

(ch)

unrhyw sefydliad addysgol arall yng Nghymru y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei fod yn briodol;

ystyr “sesiwn ddysgu” (“learning session”) yw cyfnod pryd y mae sefydliad addysgol cydnabyddedig yn monitro presenoldeb ac yn adrodd arno.

Personau Cymwys

3.—(1) Mae person cymwys yn cymhwyso i gael lwfans cynhaliaeth addysg mewn cysylltiad â chwrs addysg cymwys yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy.

(2) Mae person yn berson cymwys sy'n cymhwyso i gael lwfans cynhaliaeth addysg—

(a) os bydd Gweinidogion Cymru, yn ddarostyngedig i baragraff (4), wrth asesu cais person am gymorth, yn penderfynu ei fod yn dod o fewn un o'r categorïau a osodir yn Rhan 2 o'r Atodlen; a

(b) os bydd yn dilyn cwrs addysg cymwys y cyfeirir ato yn rheoliad 4; ac

(c) os bydd incwm aelwyd ei riant, ei warcheidwad neu ei ofalydd yn £30,810 neu lai yn y flwyddyn dreth sy'n dod i ben ym mis Ebrill yn union cyn dechrau'r flwyddyn academaidd pryd y mae'r lwfans cynhaliaeth addysg i'w dalu; ac

(ch) mae'n bodloni'r amodau ym mharagraff (3).

(3) Yr amodau yw—

(a) yn y flwyddyn academaidd 2005/06 mae'n dathlu ei ben blwydd yn ddwy ar bymtheg; neu

(b) yn y flwyddyn academaidd 2006/07 mae'n dathlu ei ben blwydd yn ddwy ar bymtheg neu'n ddeunaw; neu

(c) yn y flwyddyn academaidd 2007/08 mae'n dathlu ei ben blwydd yn ddwy ar bymtheg neu'n ddeunaw neu'n bedair ar bymtheg.

(4) Nid yw person cymwys yn cymhwyso i gael lwfans cynhaliaeth addysg os paragraff 9 yw'r unig baragraff o baragraffau 1 i 11 o Ran 2 o'r Atodlen y mae'r person yn gweddu iddo.

(5) Ni thelir lwfans cynhaliaeth addysg oni fydd person cymwys yn bodloni'r amodau yn rheoliad 7 neu reoliad 8.

(6) Mae person cymwys yn cymhwyso i gael lwfans cynhaliaeth addysg o ran y cyfnod cymhwyso y cyfeirir ato ym mharagraff (7).

(7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8) ystyr “y cyfnod cymhwyso” yw'r cyfnod o dair blynedd academaidd olynol sy'n dechrau yn y flwyddyn academaidd pan fydd y person cymwys yn peidio â bod mewn oedran ysgol gorfodol ynddi.

(8) Caiff person cymwys dderbyn taliad yn y flwyddyn academaidd pan fydd yn dathlu ei ben blwydd yn ugain oed neu os bydd wedi derbyn lwfans cynhaliaeth addysg mewn dim mwy na dwy flynedd o'r tair blynedd academaidd flaenorol a bod y sefydliad addysgol cydnabyddedig yn penderfynu ar ôl ymgynghori ag unrhyw gorff addysg arall neu gorff arall y gwêl yn dda, y dylai'r person cymwys dderbyn lwfans cynhaliaeth addysg ar gyfer y flwyddyn academaidd o dan sylw.

(9) Rhaid i berson wneud cais am lwfans cynhaliaeth addysg mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd o gwrs addysg cymwys y mae'n cymhwyso i gael cymorth ar ei gyfer.

Cwrs addysg cymwys

4.—(1) Mae cwrs yn gwrs addysg cymwys at ddibenion rheoliad 3—

(a) os yw'n rhaglen addysg academaidd lawn-amser neu'n rhaglen addysg alwedigaethol lawnamser;

(b) os yw hyd rhaglen addysg academaidd lawn-amser neu'r rhaglen addysg alwedigaethol lawnamser yn ddeng wythnos o leiaf;

(c) os darperir y rhaglen gan neu mewn sefydliad addysgol cydnabyddedig;

(ch) pe bai'r amserlen y mae'r person cymwys yn ei dilyn ar draws pob cwrs yn ei gwneud yn ofynnol iddo fod mewn dosbarth, neu mewn sesiwn astudio arall a addysgir neu lle y rhoddir arweiniad, gan gynnwys gwaith ymarferol neu brofiad gwaith nad oes tâl amdano, am ddim llai na deuddeng awr yr wythnos; ac

(d) os yw'n ymwneud â chymwysterau hyd at a chan gynnwys Cymwysterau Cenedlaethol Lefel 3.

Strwythur a lefel y taliadau, ac asesu

5.—(1) Llunnir y lwfans cynhaliaeth addysg o :

(a) dyfarndal, fel y'i disgrifir ym mharagraffau (2) a (3) a rheoliad 7 a delir bob pythefnos i'r person cymwys;

(b) taliad bonws ysbeidiol fel y'i disgrifir ym mharagraff (4) a rheoliad 8.

(2) Mae'r dyfarndal wythnosol y mae person cymwys yn ei gael yn 2006/07 i'w benderfynu yn unol â'r tabl a ganlyn:

Incwm aelwyd Dyfarndal wythnosol
Hyd at £20,270 £30
£20,271 ond yn llai na £24,850 neu'n hafal iddo £20
£24,851 ond yn llai na £30,000 neu'n hafal iddo £10

(3) Mae'r dyfarndal wythnosol y mae person cymwys yn ei gael yn 2007/08 i'w benderfynu yn unol â'r tabl a ganlyn:

Incwm aelwyd Dyfarndal wythnosol
Hyd at £20,817 £30
£20,818 ond yn llai na £25,521 neu'n hafal iddo £20
£25,522 ond yn llai na £30,810 neu'n hafal iddo £10

(4) Swm y taliad bonws ysbeidiol a ddyfernir yn unol â rheoliad 8 yw £100.

(5) Yn ddarostyngedig i baragraffau (6) i (8), bydd yr asesiad o gymhwystra ariannol person cymwys am lwfans cynhaliaeth addysg a wneir o dan y rheoliad hwn yn ddilys am y flwyddyn academaidd gyfan y gwneir yr asesiad ar ei chyfer.

(6) Os aseswyd bod yr incwm yn fwy na £20,270 yn 2006/07 neu'n fwy na £20,817 yn 2007/08, caiff person cymwys wneud cais i gael ei ailasesu os bodlonir un neu fwy o'r amodau canlynol:

(a) mae person y cymerwyd ei incwm i ystyriaeth wrth benderfynu ei gymhwystra ariannol wedi marw; neu

(b) ers i'r asesiad o incwm gael ei wneud, nid yw'r person cymwys bellach yn byw gyda'i rieni, ei warcheidwaid neu gyda pherson arall yr ystyriwyd ei incwm wrth benderfynu cymhwystra ariannol ac mae'n gyfrifol amdano'i hun; neu

(c) y mae'r person cymwys wedi dod yn rhiant; neu

(ch) ers i'r asesiad gael ei wneud bu gostyngiad mewn incwm nad yw o natur dros dro.

(7) Os bydd Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod un neu fwy o'r amodau ym mharagraff (6) yn gymwys a bod y person cymwys wedi gwneud cais i gael ei ailasesu, caniateir iddynt benderfynu bod gan berson cymwys yr hawl i gael lwfans cynhaliaeth addysg neu lefel uwch o lwfans cynhaliaeth addysg sy'n daladwy o dan reoliad 7.

(8) Os bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad o dan baragraff (7) rhaid iddynt hysbysu'r person cymwys am y penderfyniad.

(9) Os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu o dan baragraff (7) bod hawl gan berson cymwys i gael lwfans cynhaliaeth addysg neu lefel uwch o ddyfarndal wythnosol o dan reoliad 7, caniateir iddynt-

(a) ôl-ddyddio'r taliad i'r dyddiad y daeth cais y person cymwys i law ar gyfer ailasesu; neu

(b) yn yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (6)(a) ôl-ddyddio'r taliad i'r dyddiad pan fu farw'r person y cymerwyd ei incwm i ystyriaeth; neu

(c) talu lwfans cynhaliaeth addysg o dan reoliadau 7 a 8 o ran person cymwys sy'n cymhwyso i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn.

6.  Wrth asesu cymhwystra ar gyfer lwfans cynhaliaeth addysg, gan gynnwys ailasesiad o dan reoliad 5(6) i (8), caiff Gweinidogion Cymru gymryd y camau hynny a gwneud yr ymholiadau hynny y maent yn ystyried sy'n angenrheidiol i benderfynu a yw'r ceisydd yn berson cymwys, a yw'r ceisydd yn cymhwyso i gael cymorth a swm y cymorth sy'n daladwy, os oes un.

Cytundeb Dysgu'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg a'r dyfarndal wythnosol

7.  Mae person cymwys yn cymhwyso i gael dyfarndal o lwfans cynhaliaeth addysg wythnosol a asesir o dan reoliad 5(2) neu (3) os yw wedi llofnodi Cytundeb Dysgu Rhan 1 ac—

(a) yn ddarostyngedig i baragraff (b) mae'r person cymwys, o ran wythnos y mae'r dyfarndal yn berthnasol iddi, wedi mynychu pob sesiwn ddysgu mewn cysylltiad â chwrs addysg cymwys; neu

(b) os nad yw'r person cymwys wedi mynychu'r gyfryw sesiwn o ran wythnos y mae'r dyfarndal yn berthnasol iddi, mae'r sefydliad addysgol cydnabyddedig wedi awdurdodi pob absenoldeb.

Cytundeb Dysgu'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg a'r taliadau bonws ysbeidiol

8.—(1) Mae person cymwys yn cymhwyso i gael taliad bonws ysbeidiol mis Ionawr, mis Gorffennaf neu fis Medi o lwfans cynhaliaeth addysg os yw'n bodloni'r amodau ym mharagraff (2).

(2) Yr amodau yw—

(a) o ran taliad bonws mis Ionawr —

(i) mae person cymwys wedi cael yn ystod y flwyddyn galendr ond cyn dechrau'r wythnos gyntaf ym mis Chwefror ddau daliad o lwfans cynhaliaeth addysg o dan reoliad 7; a

(ii) mae sefydliad addysgol cydnabyddedig yn penderfynu bod person cymwys wedi cyflawni ei nodau dysgu o ran y cyfnod sy'n cychwyn ar ddechrau'r mis Medi blaenorol hyd at ddiwedd y mis Ionawr dilynol;

(b) o ran taliad bonws mis Gorffennaf mae'r sefydliad addysgol cydnabyddedig yn penderfynu bod person cymwys wedi cyflawni ei nodau dysgu o ran y cyfnod sy'n cychwyn ar ddechrau mis Ionawr hyd at ddiwedd y mis Gorffennaf dilynol;

(c) o ran taliad bonws mis Medi—

(i) mae person cymwys wedi cael dim llai na dau ddyfarndal wythnosol o lwfans cynhaliaeth addysg o dan reoliad 7 ym mis Medi yn y flwyddyn academaidd; a

(ii) mae gan berson cymwys Gytundeb Dysgu Rhan 1 ar waith cyn y flwyddyn academaidd flaenorol.

(3) At ddibenion paragraff (2)(c)(ii) dylid ystyried unrhyw wythnos sy'n cychwyn ar ddydd Llun ym mis calendr mis Medi fel wythnos gymwys at ddibenion talu lwfans cynhaliaeth addysg;

(4) Rhaid i berson cymwys beidio â derbyn taliad bonws mis Ionawr neu daliad bonws mis Gorffennaf onid yw wedi llofnodi Cytundeb Dysgu Rhan 2 ar gyfer y flwyddyn academaidd honno.

Rôl sefydliadau addysgol cydnabyddedig

9.  Rhaid i sefydliadau addysgol cydnabyddedig sy'n darparu cyrsiau addysg cymwys i bersonau cymwys o dan y Rheoliadau hyn wneud y canlynol:

(a) cymryd camau i hybu argaeledd lwfans cynhaliaeth addysg i'w myfyrwyr a'u darpar fyfyrwyr;

(b) sicrhau bod staff wedi'u hyfforddi'n briodol i weinyddu lwfans cynhaliaeth addysg;

(c) hysbysu Gweinidogion Cymru o bob person cymwys sydd wedi ymrestru gyda'r sefydliad addysgol cydnabyddedig a chadarnhau ei fod ef a'r person cymwys wedi llofnodi Cytundeb Dysgu Rhan 1;

(ch) sicrhau bod personau cymwys yn ymwybodol o'r dull y gweinyddir lwfans cynhaliaeth addysg yn y sefydliad addysgol cydnabyddedig;

(d) sicrhau bod cofnodion presenoldeb yn cael eu cynnal o ran pob person cymwys sydd â hawl i lwfans cynhaliaeth addysg o dan y Rheoliadau hyn sydd wedi ymrestru yn y sefydliad addysgol cydnabyddedig;

(dd) cyflwyno adroddiadau wythnosol i Weinidogion Cymru gan roi manylion am y personau cymwys a ddylai neu na ddylai gael lwfans cynhaliaeth addysg o ran yr wythnos flaenorol, yn unol â rheoliad 7(a) neu (b);

(e) hysbysu Gweinidogion Cymru pan fydd Cytundeb Dysgu Rhan 2 wedi cael ei lofnodi gan gynrychiolydd y Sefydliad Addysgol Cydnabyddedig a chan y person cymwys;

(f) hysbysu Gweinidogion Cymru a ddylid talu taliad bonws ysbeidiol o dan reoliad 8 i berson cymwys ai peidio, yn unol â rheoliad 8; ac

(ff) sefydlu a chyhoeddi proses apelio ynglyn â phenderfyniadau p'un a yw person yn cymhwyso i gael dyfarndal lwfans cynhaliaeth addysg o dan reoliadau 7 neu 8.

Ôl-daliad o lwfans cynhaliaeth addysg

10.—(1) Rhaid cyflwyno cais am lwfans cynhaliaeth addysg i Weinidogion Cymru erbyn 31 Mawrth.

(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys —

(a) os bydd person cymwys yn gwneud cais am lwfans cynhaliaeth addysg ar ôl dechrau'r flwyddyn academaidd; a

(b) os daw'r cais i law Gweinidogion Cymru ar neu cyn 31 Hydref,

ac yn yr achos hwnnw ceir ôl-ddyddio'r taliad i ddechrau'r flwyddyn academaidd.

(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys —

(a) os bydd person cymwys yn gwneud cais am lwfans cynhaliaeth addysg ar ôl dechrau'r flwyddyn academaidd; a

(b) os bydd y cais yn dod i law Gweinidogion Cymru ar ôl 31 Hydref,

ac yn yr achos hwnnw ceir ôl-ddyddio'r taliad i'r dyddiad pan ddaeth y ffurflen gais i law Gweinidogion Cymru, neu i ddyddiad dechrau'r cwrs, p'un bynnag yw'r diweddaraf.

(4) Mae unrhyw ôl-daliad a gaiff ei wneud o dan y rheoliad hwn yn ddarostyngedig i'r rheolau ynghylch dyfarndaliadau wythnosol o lwfans cynhaliaeth yn rheoliad 7.

Gwahardd cyllido deuol

11.  Ni chaniateir i berson cymwys gael lwfans cynhaliaeth addysg am unrhyw gyfnod o amser pan fydd yn cael tâl lleoliad gwaith neu'n cael lwfans hyfforddi.

Gordalu

12.  Rhaid i berson cymwys, os yw hynny'n ofynnol gan Weinidogion Cymru, ad-dalu unrhyw swm a dalwyd i'r person cymwys o dan y Rheoliadau sydd am ba reswm bynnag—

(a) yn fwy na swm y lwfans cynhaliaeth addysg y mae ganddo hawl iddo o dan y Rheoliadau hyn; neu

(b) nad oedd gan y person cymwys hawl i'w gael o dan y Rheoliadau hyn.

Jane E. Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

4 Awst 2007

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(d) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]

(3)

O.S. 2002/2006. Back [3]

Amended by correction slip on 01 September 2007