(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) (Diwygio) 2007 (O.S. 2007/2043 Cy. 168 ) ac yn eu hail-wneud gyda diwygiadau. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1226), sy'n darparu ar gyfer gorfodi, o ran Cymru, Reoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a chael gwared ar enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol (OJ Rhif L147, 31.5.2001, t.1) fel y'i diwygir gan yr offerynnau Cymunedol a geir yn Atodlen 1 i O.S. 2006/1226 ac fel y'i darllenir gyda hwy.
2. Y diwygiad yw bod Atodlen 6 ddiwygiedig yn cael ei mewnosod yn O.S. 2006/1226.
3. Mae Atodlen 6 i O.S. 2006/1226 ar hyn o bryd yn darparu ar gyfer gorfodi Atodlen XIA i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 (ynghylch deunydd risg penodedig, cig wedi'i adfer yn fecanyddol a dulliau cigydda).
4. Yn rhinwedd Erthygl 22(1) o Reoliad (EC) 999/2001, roedd y darpariaethau a geid yn Atodiad XIA i'r Rheoliad hwnnw o natur drosiannol hyd nes y mabwysiedid penderfyniad o dan Erthygl 5(2) neu (4) o'r Rheoliad hwnnw sy'n dyfarnu ar statws BSE gwledydd yn unol â'u risg BSE, ac ar ôl hynny byddai Atodiad V i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 (a gyflwynwyd gan Erthygl 8 o'r Rheoliad hwnnw) yn gymwys o ran deunydd risg penodedig.
5. Mae Penderfyniad bellach wedi ei fabwysiadu o dan Erthygl 5(2) o Reoliad (EC) Rhif 999/2001 (Penderfyniad y Comisiwn 2007/453/EC sy'n sefydlu statws BSE Aelod-wladwriaethau neu drydydd gwledydd neu ranbarthau ohonynt yn unol â'u risg BSE (OJ Rhif L 172, 30.6.2007, t.84)).
6. Mae Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 722/2007 sy'n diwygio Atodiadau II, V, VI, VIII, IX a XI i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a chael gwared ar enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol (OJ Rhif L164, 26.6.2007, t.7) wedi diddymu Atodiad XI i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 ac mae wedi mewnosod Atodiad V diwygiedig (“deunydd risg penodedig”) yn y Rheoliad hwnnw.
7. Mae Atodlen 6 ddiwygiedig i O.S. 2006/1226 yn darparu ar gyfer gorfodi Atodiad V diwygiedig yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 722/2007.
8. Ni luniwyd asesiad effaith reoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir y bydd yr offeryn hwn yn effeithio o gwbl ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.