Page 1 of 1
Offerynnau Statudol
ADDYSG, CYMRU
Wedi'i wneud
23 Gorffennaf 2007
Wedi'i osod gerbron Cynulliad Cenedlaeshol
24 Gorffennaf 2007
Yn dod i rym
1 Medi 2007
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Coleg y Drindod, Caerfyrddin (Sefydliadau Dynodedig mewn Addysg Uwch) (Cymru) 2007 a daw i rym ar 1 Medi 2007.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Dynodir Coleg y Drindod, Caerfyrddin, ac yntau'n sefydliad addysg o'r math a ddisgrifir yn is-adran (2) o adran 129 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988, yn sefydliad at ddiben yr adran honno.
Jane E. Hutt
Y Gweinidog dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc, un o Weinidogion Cymru
23 Gorffennaf 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Dynodir Coleg y Drindod, Caerfyrddin gan y Gorchymyn hwn at ddibenion adran 129 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988. Mae hyn yn golygu ei fod yn gymwys i dderbyn cymorth o gyllid a weinyddir gan gyngor cyllido addysg uwch a'i fod i'w drin fel sefydliad o fewn y sector addysg uwch at ddibenion y Deddfau Addysg.