Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) 2005 (O.S. 2005/3296 Cy. 254) drwy—

(a) diweddaru'r diffiniadau o offerynnau Cymunedol penodol y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hynny (rheoliad 2(2)(a) a (4));

(b) rhoi cyfeiriad at y Penderfyniad gan y Comisiwn a ddiddymodd ac a ddisodlodd Benderfyniad cynharach gan y Comisiwn yn lle'r cyfeiriad at y Penderfyniad cynharach hwnnw sy'n ymddangos yn y Rheoliadau hynny (rheoliad 2(2(b)); ac

(c) cywiro gwall drafftio yn y Rheoliadau hynny (rheoliad 2(3)).

2.  Rhoes Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) 2005 ei heffaith o ran Cymru i Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 205/598/EC sy'n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben ac yn esemptio'r anifeiliaid hynny rhag mesurau rheoli a difodi penodol a osodwyd yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 (OJ Rhif L204, 5.8.2005, t.22). Mae Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC yn darparu na chaniateir i gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 gael eu rhoi ar y farchnad.

3.  Mae Penderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC wedi'i ddiddymu a'i ddisodli bellach gan Benderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC sy'n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben ac yn esemptio'r anifeiliaid hynny rhag mesurau rheoli a difodi penodol a osodwyd yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 ac yn diddymu Penderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC (OJ Rhif L155, 15.6.2007, t.74).

4.  Mae Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC wedi'i mynegi mewn termau sydd yn union yr un fath ag Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC ac mae Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) 2005 fel y'u diwygiwyd gan y Rheoliadau hyn yn rhoi ei heffaith o ran Cymru i Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC.

5.  Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol llawn wedi'i lunio ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir y bydd yr offeryn yn effeithio o gwbl ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.