Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Rhif 2) 2006 (O.S. 2006/2832 (Cy. 253)) (“y prif Reoliadau”). Mae'r prif Reoliadau yn rhoi ar waith Erthygl 13d o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC (OJ Rhif L 169, 10.7.00, t. 1), sy'n ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau godi ffioedd i dalu'r costau sy'n digwydd oherwydd gwiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion ar fewnforion penodol o ran planhigion, cynhyrchion planhigion a phethau eraill o drydydd gwledydd.

Mae Atodlen 2 i'r prif Reoliadau yn cynnwys darpariaeth am gyfraddau gostyngol ar gyfer planhigion penodol a chynhyrchion planhigion penodol a'r rheini'n gyfraddau y cytunwyd arnynt o dan y weithdrefn y darperir ar ei chyfer yn Erthyglau 13d(2) a 18(2) o'r Gyfarwyddeb. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi Atodlen 2 newydd i'r prif Reoliadau yn lle'r hen un, i roi ei effaith i'r cytundeb diweddaraf mewn perthynas â ffioedd cyfradd ostyngol.