16.—(1) Rhaid i feddiannydd deorfa sydd â chyfanswm capasiti deor o 1000 neu fwy o wyau ac y mae ynddi ffowls domestig o'r rhywogaeth Gallus gallus neu eu hwyau gadw cofnod—
(a) o'r wybodaeth a geir yn Atodlen 3, paragraff 3, mewn cysylltiad â symud unrhyw wyau ffowls domestig o'r rhywogaeth Gallus gallus i'r ddeorfa ac oddi yno; a
(b) o'r wybodaeth geir yn Atodlen 3, paragraff 4, mewn cysylltiad â symud unrhyw gywion ffowls domestig o'r rhywogaeth Gallus gallus o'r ddeorfa.
(2) Rhaid iddo gadw'r cofnod am ddwy flynedd ar ôl dyddiad symud y cywion.
17. Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo gadw cofnod o dan y Gorchymyn hwn ei ddangos i un o arolygwyr neu o swyddogion Gweinidogion Cymru pan ofynnir iddo wneud hynny ar unrhyw adeg resymol a rhaid iddo ganiatáu gwneud copi o'r cofnod neu o ddarn ohono.
18. Rhaid i berson beidio ag ymyrryd â sampl neu beidio â gwneud unrhyw beth iddo sy'n debygol o effeithio ar ganlyniad unrhyw brawf y mae'n ofynnol ei wneud o dan y Gorchymyn hwn, ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer yn y Gorchymyn hwn.
19. Os bydd unrhyw berson yn methu â chymryd unrhyw gamau o dan y Gorchymyn hwn, caiff arolygydd gymryd y cyfryw gamau neu beri iddynt gael eu cymryd, a bydd yn bosibl i Weinidogion Cymru adennill ei dreuliau y mae'n rhesymol iddo eu tynnu oddi wrth y person sydd wedi methu â chydymffurfio.
20.—(1) Mae'r Gorchymyn hwn i gael ei orfodi gan yr awdurdod lleol.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, y bydd y Gorchymyn hwn yn cael ei orfodi gan y Cynulliad Cenedlaethol ac nid gan yr awdurdod lleol.
21. Caiff Gorchymyn Heidiau Bridio Dofednod a Deorfeydd 1993(4) ei ddirymu o ran Cymru.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwledig, un o Wenidogion Cymru.
13 Mehefin 2007
Erthyglau 4 a 5
1. Yr wybodaeth sydd i'w rhoi yw'r canlynol—
(a) enw, cyfeiriad a Rhif ffôn y meddiannydd;
(b) cyfeiriad a Rhif ffôn y ddeorfa;
(c) capasiti deor y ddeorfa; ac
(ch) rhywogaeth y dofednod a gaiff eu deor yn y ddeorfa.
2. Yr wybodaeth sydd i'w rhoi yw'r canlynol—
(a) enw, cyfeiriad a Rhif ffôn y daliad;
(b) enw, cyfeiriad a Rhif ffôn y meddiannydd a'r person sydd piau pob haid fridio ar y daliad;
(c) nifer yr heidiau bridio ar y daliad;
(ch) dull adnabod pob haid fridio ar y daliad;
(d) y rhywogaethau ym mhob haid fridio ar y daliad;
(dd) nifer y dofednod ym mhob haid fridio ar y daliad;
(e) p'un ai ddodwywyr fridwyr neu fridwyr cig yw'r dofednod ym mhob haid fridio ar y daliad; ac
(f) statws pob haid fridio ar y daliad yn y pyramid bridio.
Erthygl 9(2)
1.—(1) Mae'r samplau canlynol i'w cymryd pan fo'r adar yn gywion—
(a) 1 leinin blychau cywion, hyd at uchafswm o 10, ar gyfer pob 500 o gywion a ddanfonir o'r ddeorfa; a
(b) carcas pob cyw, o bob deorfa, hyd at uchafswm o 60, sydd wedi marw erbyn cyrraedd y daliad.
(2) Yn y paragraff hwn, ystyr “leinin blychau cywion” (“chick box liner”) yw unrhyw ddeunydd a ddefnyddir i leinio blwch neu gynhwysydd arall y caiff cywion eu cludo ynddo o'r ddeorfa i'r daliad.
2.—(1) Mae'r samplau canlynol i'w cymryd o bob haid o adar pedair wythnos oed a phob haid ddwy wythnos cyn i'r haid ddechrau dodwy neu symud ymlaen i'r cam dodwy neu i'r uned ddodwy—
(a) swabiau o isafswm o ddau bâr o esgidiau; neu
(b) sampl gyfansawdd o ysgarthion.
(2) Yn y paragraff hwn, ystyr “sampl gyfansawdd o ysgarthion” (“a composite faeces sample”) yw sampl o ysgarthion sy'n nifer o samplau unigol sydd wedi'u cyfrifo'n unol â'r Tabl canlynol, ac y mae pob un ohonynt yn pwyso nid llai nag 1 gram, ac sydd wedi'u cymryd o safle a ddewiswyd ar hap i gynrychioli'r adeilad neu'r grwp o adeiladau ar y daliad lle y cymerwyd y sampl.
Mae nifer y safleoedd lle y mae samplau ar wahân o ysgarthion i'w cymryd er mwyn gwneud sampl gyfansawdd fel a ganlyn—
| Nifer yr adar a gedwir yn yr adeilad | Nifer y samplau o ysgarthion sydd i'w cymryd yn yr adeilad |
|---|---|
| 1—24 | Nifer sy'n hafal i nifer yr adar, hyd at uchafswm o 20 |
| 25—29 | 20 |
| 30—39 | 25 |
| 40—49 | 30 |
| 50—59 | 35 |
| 60—89 | 40 |
| 90—199 | 50 |
| 200—499 | 55 |
| 500 neu fwy | 60 |
O.S. 1993/1898. Back [4]