Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 1 Cyflwyniad

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Heidiau Bridio Dofednod a Deorfeydd (Cymru) 2007.

(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 30 Mehefin 2007.

(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn—

mae “adeilad” (“building”) yn cynnwys cwt, ac unrhyw ran o adeilad y mae ganddi ei system awyru ei hun ac y mae wedi'i gwahanu oddi wrth rannau eraill o'r adeilad gan bared solet;

ystyr “bridiwr cig” (“meat breeder”) yw dofednyn a gedwir i gynhyrchu wyau ar gyfer eu gori a'u deor i gynhyrchu cywion—

(a)

a gaiff eu magu i gynhyrchu cig i'w fwyta gan bobl, neu

(b)

y caiff eu hepil eu magu i gynhyrchu cig i'w fwyta gan bobl;

ystyr “cyw” (“chick”) yw aderyn sydd yn iau na 72 awr ac nad yw wedi'i fwydo;

ystyr “dodwywr fridiwr” (“layer breeder”) yw dofednyn a gedwir er mwyn cynhyrchu wyau ar gyfer eu gori a'u deor i gynhyrchu cywion—

(a)

a gaiff eu magu i gynhyrchu wyau i'w bwyta gan bobl, neu

(b)

y caiff eu hepil eu magu i gynhyrchu wyau i'w bwyta gan bobl;

ystyr “dofednod” (“poultry”) yw ffowls domestig, twrcïod, gwyddau a hwyaid;

ystyr “haid” (“flock”) yw dofednod o'r un statws iechyd â'i gilydd, a gedwir ar yr un daliad neu yn yr un caeadle, sy'n un uned epidemiolegol ar ei phen ei hun, ac sy'n cynnwys, yn achos dofednod a gaiff eu lletya, bob aderyn sy'n rhannu'r un gofod awyr;

ystyr “haid fridio” (“breeding flock”) yw haid a gedwir ar gyfer cynhyrchu wyau ar gyfer eu gori;

ystyr “labordy a gymeradwywyd” (“approved laboratory”) yw labordy a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Gorchymyn hwn;

ystyr “meddiannydd” (“occupier”), mewn perthynas ag unrhyw ddeorfa neu ddaliad, yw'r person sydd â gofal y ddeorfa neu'r daliad.

(2) Mae unrhyw gyfeiriad at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygir o dro i dro.

Yr awdurdod cymwys

3.  Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cymwys at ddibenion—

(a) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005 sy'n rhoi ar waith Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 o ran targed Cymunedol ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau salmonela penodol mewn heidiau bridio o Gallus gallus a Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003(2) sy'n ei ddiwygio (y cyfeirir ato, yn y Gorchymyn hwn, fel “Rheoliad y Comisiwn”); a

(b) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1177/2006 sy'n rhoi ar waith Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gofynion ar gyfer defnyddio dulliau rheoli penodol yn fframwaith y rhaglenni cenedlaethol ar gyfer rheoli salmonela mewn dofednod(3) (y cyfeirir ato, yn y Gorchymyn hwn, fel “Rheoliad y Comisiwn 1177/2006”).

RHAN 2 Hysbysu am ddeorfeydd a heidiau bridio

Hysbysu am ddeorfeydd

4.—(1) Rhaid i feddiannydd deorfa ddofednod â chyfanswm capasiti deor o 1000 neu fwy o wyau roi'r wybodaeth a geir yn Atodlen 1, paragraff 1 i Weinidogion Cymru—

(a) o fewn tri mis ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym; neu

(b) yn achos y cyfryw ddeorfa a sefydlir ar ôl y dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym, o fewn tri mis ar ôl i'r ddeorfa gael ei sefydlu.

(2) Rhaid i'r meddiannydd hysbysu Gweinidogion Cymru o unrhyw newid i'r wybodaeth honno neu unrhyw ychwanegiad ati a hynny o fewn tri mis ar ôl gwneud y newid neu'r ychwanegiad.

(3) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw feddiannydd sydd wedi hysbysu Gweinidogion Cymru o'r wybodaeth honno o dan unrhyw ddeddfiad arall.

Hysbysu am heidiau bridio

5.—(1) Rhaid i feddiannydd daliad lle y cedwir un neu fwy o heidiau bridio o 250 o leiaf o ddofednod o unrhyw un rhywogaeth unigol roi'r wybodaeth a geir yn Atodlen 1, paragraff 2 i Weinidogion Cymru —

(a) o fewn tri mis ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym; neu

(b) yn achos y cyfryw ddaliad a sefydlir ar ôl y dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym, o fewn tri mis ar ôl sefydlu'r daliad.

(2) Rhaid i'r meddiannydd hysbysu Gweinidogion Cymru o unrhyw newid i'r wybodaeth honno neu unrhyw ychwanegiad ati a hynny o fewn tri mis ar ôl gwneud y newid neu'r ychwanegiad.

(3) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw feddiannydd sydd wedi rhoi'r wybodaeth honno i Weinidogion Cymru o dan unrhyw ddeddfiad arall.

RHAN 3 Rheoli salmonela mewn Gallus gallus

PENNOD 1 Dyletswyddau meddiannydd

Cymhwyso Pennod 1

6.  Mae'r Bennod hon yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ddaliad lle y cedwir un neu fwy o heidiau bridio o 250 o leiaf o ffowls domestig o'r rhywogaeth Gallus gallus ac mae unrhyw gyfeiriad yn y Bennod hon at feddiannydd yn gyfeiriad at feddiannydd y cyfryw ddaliad.

Hysbysu bod heidiau bridio wedi cyrraedd

7.—(1) Rhaid i'r meddiannydd hysbysu Gweinidogion Cymru o'r dyddiad y disgwylir i bob haid fridio o 250 o leiaf o ffowls domestig o'r rhywogaeth Gallus gallus gyrraedd y daliad.

(2) Rhaid ei hysbysu o leiaf ddwy wythnos cyn y dyddiad y disgwylir i'r haid gyrraedd.

Hysbysu o symud ymlaen i'r cam dodwy etc.

8.—(1) Rhaid i'r meddiannydd hysbysu Gweinidogion Cymru o'r dyddiad y mae'n disgwyl i bob haid fridio ar y daliad—

(a) symud ymlaen i'r cam dodwy neu i'r uned ddodwy; a

(b) cyrraedd diwedd y gylchred gynhyrchu.

(2) Rhaid i'r meddiannydd hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o leiaf ddwy wythnos cyn bod disgwyl i'r haid fridio symud ymlaen i'r cam dodwy neu i'r uned ddodwy.

Samplu heidiau bridio

9.—(1) Rhaid i'r meddiannydd gymryd samplau o bob haid fridio ar y daliad ar yr adegau a ganlyn—

(a) pan fo'r adar yn yr haid yn gywion;

(b) pan fo'r adar yn yr haid yn bedair wythnos oed;

(c) dwy wythnos cyn y dyddiad y mae disgwyl i'r haid ddechrau dodwy neu symud ymlaen i'r cam dodwy neu i'r uned ddodwy; ac

(ch) bob ail wythnos yn ystod y cyfnod dodwy.

(2) Rhaid i'r gwaith samplu o dan baragraff 1(a) i (c) gael ei wneud yn unol ag Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn a rhaid i waith samplu o dan baragraff 1(ch) gael ei wneud yn unol â phwynt 2.2.2.1 o'r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (samplu rheolaidd a digymell gan y gweithredydd).

Anfon samplau i labordy a gymeradwywyd

10.—(1) Rhaid i'r meddiannydd anfon y samplau a gymerir o dan erthygl 9 i labordy a gymeradwywyd at ddibenion profi am bresenoldeb salmonela.

(2) Rhaid iddo anfon y samplau o fewn—

(a) 24 o oriau ar ôl eu cymryd; neu

(b) o fewn 48 o oriau ar ôl eu cymryd os yw'n gosod y samplau mewn oergell ar dymheredd rhwng 1° a 4° C cyn gynted ag y bo'n ymarferol iddo wneud hynny ar y diwrnod y'u cymerir.

(3) Rhaid iddo sicrhau bod y samplau'n cael eu nodi cyn iddynt gael eu hanfon er mwyn galluogi'r labordy a gymeradwywyd i gadarnhau—

(a) enw'r meddiannydd;

(b) cyfeiriad y daliad lle y cedwir yr haid fridio y daeth y samplau ohoni;

(c) y math o samplau;

(ch) y dyddiad y cymerwyd y samplau;

(d) dull adnabod yr haid fridio y daeth y samplau ohoni;

(dd) oed yr haid fridio y daeth y samplau ohoni;

(e) p'un ai haid o ddodwywyr fridwyr neu o fridwyr cig yw'r haid fridio y daeth y samplau ohoni; ac

(f) statws yr haid fridio y daeth y samplau ohoni yn y pyramid bridio.

Cofnodion samplau

11.—(1) Rhaid i'r meddiannydd—

(a) cadw cofnod o'r wybodaeth a geir yn Atodlen 3, paragraff 1, mewn cysylltiad â phob sampl a gymerir yn unol ag erthygl 9; a

(b) erbyn 30 Mehefin a 31 Rhagfyr bob blwyddyn, roi i Weinidogion Cymru yr wybodaeth honno mewn cysylltiad â samplu yr ymgymerir ag ef yn y chwe mis cyn ei hysbysu.

(2) Rhaid iddo gadw'r cofnod ym (1)(a) am ddwy flynedd ar ôl y dyddiad y cymerwyd y sampl.

Cofnodion symudiadau

12.—(1) Rhaid i'r meddiannydd gadw cofnod o'r wybodaeth yn Atodlen 3, paragraff 2, mewn cysylltiad â symud i'r daliad neu o'r daliad unrhyw ffowls domestig o'r rhywogaeth Gallus gallus neu eu cywion neu eu hwyau.

(2) Rhaid iddo gadw'r cofnod am ddwy flynedd ar ôl dyddiad symud y ffowls.

PENNOD 2 Dyletswyddau labordai a gymeradwywyd

Dyletswyddau labordy a gymeradwywyd

13.—(1) Rhaid i'r person â gofal labordy a gymeradwywyd sicrhau bod y gwaith o archwilio samplau a anfonwyd iddo o dan erthygl 10 yn dechrau o fewn 48 o oriau ar ôl i'r samplau hynny ddod i law.

(2) Rhaid iddo sicrhau—

(a) bod y samplau'n cael eu paratoi fel a ganlyn—

(i) rhaid paratoi leinin blychau cywion yn unol ag Atodlen 4 i'r Gorchymyn hwn;

(ii) rhaid paratoi samplau o swabiau o esgidiau yn unol â phwynt 3.1.2 yn yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn; a

(iii) rhaid paratoi unrhyw samplau eraill o ysgarthion yn unol â phwynt 3.1.3 o'r Atodiad hwnnw;

(b) bod y samplau'n cael eu profi am salmonela yn unol â'r dull a geir ym mhwynt 3.2 o'r Atodiad hwnnw; ac

(c) bod adroddiad ysgrifenedig ar ganlyniad unrhyw brawf ar unrhyw sampl yn cael ei roi i'r meddiannydd a anfonodd y sampl cyn gynted ag y bo'n ymarferol.

PENNOD 3 Defnyddio asiantau gwrthficrobaidd a brechlynnau

Gwahardd defnyddio asiantau gwrthficrobaidd

14.  Ni chaiff neb roi unrhyw asiant gwrthficrobaidd i unrhyw aderyn mewn haid fridio o ffowls domestig o'r rhywogaeth Gallus gallus fel dull penodol o reoli salmonela a hynny'n groes i Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn 1177/2006 (defnyddio asiantau gwrthficrobaidd).

Gwahardd defnyddio brechlynnau

15.  Ni chaiff neb roi unrhyw frechlyn salmonela byw i unrhyw aderyn mewn haid fridio o ffowls domestig o'r rhywogaeth Gallus gallus yn groes i Erthygl 3(1) o Reoliad y Comisiwn 1177/2006 (defnyddio brechlynnau).

(2)

OJ Rhif L 170, 1.7.2005, t.12. Mae'r Rheoliad hwn yn rhychwantu'r AEE trwy gyfrwng Penderfyniad Cyd-bwyllgor yr AEE Rhif 101/2006 sy'n diwygio Atodiad I (Materion milfeddygol a ffytoiechydol ) i Gytundeb AEE (OJ Rhif L333, 30.11.2006, t.6). Back [2]

(3)

OJ Rhif L 212, 2.8.2006, t.3. Back [3]