(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1536) (Cy.153) (“y prif Reoliadau”).
Maent yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1739/2005 sy'n gosod gofynion iechyd anifeiliaid ar gyfer symud anifeiliaid syrcas rhwng Aelod-wladwriaethau (OJ Rhif L279, 22.10.2005, t. 47). Diwygir Rheoliad 5 o'r prif Reoliadau i ddarparu ar gyfer dynodiad Gweinidogion Cymru fel awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1739/2005, ac ar gyfer ffioedd sydd i'w codi ar gyfer treuliau a dynnwyd wrth gofrestru syrcasau a champau anifeiliaid fel sy'n ofynnol o dan y Rheoliad Comisiwn hwnnw (rheoliad 4). Ychwanegir y Rheoliad Comisiwn at y rhestr o offerynnau sy'n gosod amodau ar symud anifeiliaid o fewn y Gymuned yn Rhan 1 o Atodlen 3 i'r prif Reoliadau (rheoliad 13).
Mae Rheoliadau 5 a 14 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 9 o'r prif Reoliadau ac Atodlen 5 iddynt i ddarparu ar gyfer cymeradwyo labordai i wneud profion swyddogol ar gyfer Salmonela mewn dofednod ar gyfer eu hallforio o fewn y Gymuned Ewropeaidd o dan y Cynllun Iechyd Dofednod (cynllun a sefydlwyd o dan reoliad 9 o'r prif Reoliadau ac Atodlen 4 iddynt). Diwygir Atodlen 5 hefyd mewn perthynas â ffioedd ar gyfer cymeradwyaethau gan labordai, i adlewyrchu'r trefniadau newydd hyn, ac i ddarparu ar gyfer codi ffioedd am arolygiadau ac am gyflenwi cyfarpar profi i sicrhau ansawdd pan nad yw costau o'r fath yn cael eu hadennill drwy'r ffi gymeradwyo flynyddol.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn cymhwyso ac yn gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 318/2007 sy'n gosod amodau iechyd anifeiliaid ar gyfer mewnforio adar penodol i'r Gymuned ac amodau cwarantîn gogyfer â hynny (OJ Rhif L84, 24.3.2007, t. 7). Diwygir Rheoliad 16(4) o'r prif Reoliadau fel ei bod yn gwahardd mewnforio adar caeth onid ydynt yn dod o sefydliad bridio a gymeradwywyd o fewn ystyr Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 318/2007 (rheoliad 6). Adolygir Rheoliad 19 o'r prif Reoliadau (“rhoi adar caeth mewn cwarantîn”) i adlewyrchu'r gofynion newydd ar gyfer cwarantîn ac i greu tramgwyddau newydd yn unol â hynny (rheoliad 8). Darperir mesurau i ddelio â phresenoldeb ffliw adar, Clefyd Newcastle, a Chlamydophyla psittaci neu i ddelio ag amheuaeth ohonynt, drwy ddiwygio rheoliad 21 o'r prif Reoliadau (rheoliad 9). Cymhwysir yr amodau mewnforio mewn perthynas ag adar caeth yn Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 318/2007 drwy gyflwyno paragraffau ychwanegol yn Rhannau I a II o Atodlen 7 (rheoliad 15). Disodlir Atodlen 8 gan ddarpariaethau newydd yn ymwneud â chymeradwyo canolfannau a chyfleusterau cwarantîn, a ffioedd, gan gynnwys ffioedd newydd ar gyfer cymeradwyaethau o'r fath (rheoliad 16).
Mae Rheoliad 10 o'r Rheoliadau hyn yn ymestyn rheoliad 31 o'r prif Reoliadau i ddarparu bod Gweinidogion Cymru yn dyfarnu ar gyfradd y gellir ei chodi am amser arolygwr sy'n gwneud gwaith arolygu penodol o dan y prif Reoliadau, ac yn ei chyhoeddi. Dichon y codir am rai arolygiadau o labordai o dan y Cynllun Iechyd Dofednod, arolygiadau o ganolfannau a chyfleusterau cwarantîn adarol, a goruchwyliadau milfeddygol swyddogol o adar caeth yn ystod cwarantîn, yn ôl y gyfradd hon.
Cafodd asesiad effaith reoliadol ei baratoi mewn perthynas â'r trefniadau ar gyfer cymeradwyaethau a ffioedd a gyflwynir ar gyfer cwarantîn adarol, ac â symud anifeiliaid syrcas ac â chymeradwyaethau a ffioedd mewn perthynas â gwaith profi am salmonella a wneir gan labordai o dan y Cynllun Iechyd Dofednod. Gellir cael copïau drwy'r post oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.