Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 4 AMRYWIOL

Dirymu Rheoliadau

27.  Dirymir Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2005(10).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(11).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

28 Mawrth 2007

Rheoliad 3(1)

ATODLEN 1 GWYBODAETH I'W CHYNNWYS YN Y DATGANIAD O DDIBEN

1.  Nodau ac amcanion yr awdurdod lleol mewn perthynas â'r gwasanaeth mabwysiadu, gan gynnwys achosion sy'n ymwneud â mabwysiadu rhwng gwledydd.

2.  Y trefniadau y mae'r awdurdod lleol wedi'u rhoi yn eu lle i asesu a gwneud darpariaeth ar gyfer gwasanaethau cymorth mabwysiadu.

3.  Enw a chyfeiriad y rheolwr.

4.  Cymwysterau a phrofiad perthnasol y rheolwr.

5.  Nifer a chymwysterau a phrofiad perthnasol y staff a gyflogir gan yr awdurdod at ddibenion gwasanaeth mabwysiadu'r awdurdod.

6.  Strwythur trefniadol y gwasanaeth mabwysiadu.

7.  Y system sydd yn ei lle i fonitro a gwerthuso darpariaeth y gwasanaethau i sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir gan yr awdurdod yn effeithiol a bod ansawdd y gwasanaeth mabwysiadu o safon briodol.

8.  Y gweithdrefnau ar gyfer recriwtio, paratoi, asesu, cymeradwyo a chefnogi darpar rieni mabwysiadol.

9.  Manylion y cynghorydd gwasanaeth cefnogi mabwysiadu a'r gweithdrefnau ar gyfer asesu ar gyfer gwasanaethau cefnogi mabwysiadu a'u darparu.

10.  Crynodeb o'r gweithdrefnau cwynion a sefydlwyd yn unol â Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Plant) (Cymru) 2005(12), Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2005 (13) ac adran 114 o Ddeddf lechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau 2003(14).

11.  Cyfeiriad a rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol.

Rheoliad 4(1)

ATODLEN 2 GWYBODAETH I'W CHYNNWYS YN YR ARWEINIAD PLANT

1.  Crynodeb o'r datganiad o ddiben.

2.  Crynodeb o'r gweithdrefnau pan nodir mai mabwysiadu yw'r cynllun priodol ar gyfer y plentyn.

3.  Gwybodaeth ynghylch rôl y cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu a chrynodeb o'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud cais am asesiad ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu.

4.  Crynodeb o'r gweithdrefnau cwynion a sefydlwyd yn unol ag adran 26 o Ddeddf Plant 1989, Gorchymyn Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Y Weithdrefn Gwynion) 1990 ac adran 114 o Ddeddf lechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003.

5.  Manylion ynghylch sut y gall plentyn gael mynediad i wasanaethau eiriolwr sy'n annibynnol ar yr awdurdod i'w helpu i ddwyn cwyn neu i wneud cynrychioliad o dan y gweithdrefnau cwynion y cyfeirir atynt ym mharagraff 4.

6.  Cyfeiriad a rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol.

7.  Enw, cyfeiriad a rhif ffôn Comisiynydd Plant Cymru.

Rheoliadau 1(2)(c)

ATODLEN 3 GWYBODAETH Y MAE EI HANGEN AM BERSONAU SY'N GWNEUD CAIS AM REOLI NEU WEITHIO AT DDIBENION Y GWASANAETH MABWYSIADU

1.  Prawf o bwy yw'r person gan gynnwys ffotograff diweddar.

2.  Naill ai—

(a) pan fo'r swydd yn ymwneud yn rheolaidd a gofalu ar ol, hyfforddi, arolygu neu fodyn unig un a gofal o bersonau o 18 oed neu llai tystysgrif ddiweddaredig a ddyroddwyd o dan adran 113B o'r Ddeddf honno ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi; neu

(b) ym mhob achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Deddf yr Heddlu 1997 ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi.

3.  Lleiafswm o ddau dystlythyr ysgrifenedig, gan gynnwys tystlythyr gan gyflogwr diweddaraf y person, os oes un.

4.  Os bydd person wedi gweithio o'r blaen mewn swydd yr oedd ei dyletswyddau'n cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, i'r graddau y bydd yn rhesymol ymarferol cadarnhad o'r rhesymau pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd i ben.

5.  Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.

6.  Hanes cyflogaeth yn llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau yn y gyflogaeth.

Rheoliad 20(1)

ATODLEN 4 Y COFNODION SYDD I'W CADW YNGHYLCH POB PERSON SY'N GWEITHIO AT DDIBENION Y GWASANAETH MABWYSIADU

Cofnod gan gynnwys mewn perthynas â phob person sy'n gweithio i'r awdurdod lleol—

1.  Enw llawn.

2.  Rhyw.

3.  Dyddiad geni.

4.  Cyfeiriad cartref.

5.  Yr ymgymerwyd â Gwiriadau'r Swyddfa Cofnodion Troseddol (pan fo'n briodol), eu bod yn cael eu diweddaru bob tair blynedd a'u bod yn foddhaol.

6.  Tystlythyrau a chadarnhad ysgrifenedig bod gwiriadau wedi'u gwneud dros y ffôn.

7.  Hanes cyflogaeth lawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau yn y gyflogaeth,

8.  Cymwysterau sy'n berthnasol i waith sy'n ymwneud â phlant a phrofiad o'r gwaith hwnnw.

9.  Dyddiadau y mae'n cychwyn ar gyflogaeth o'r fath ac yn rhoi'r gorau i gyflogaeth o'r fath.

10.  P'un a yw'n gyflogedig gan yr awdurdod lleol o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau, neu'n gyflogedig gan rywun ac eithrio'r awdurdod.

11.  Ei swydd-ddisgrifiad a ph'un a yw'n gweithio'n rhan-amser neu'n llawn-amser a'r nifer o oriau bob wythnos y mae'n cael ei gyflogi gan wasanaeth mabwysiadu'r awdurdod neu o dan gontract i weithio iddo.

12.  Hyfforddiant yr ymgymerir ag ef ganddo neu ganddi, goruchwylio, arfarnu, camau disgyblu (os o gwbl) a gymerwyd yn ei erbyn a chanlyniad y camau hynny, cofnodion o gwynion (os o gwbl) a wnaed yn ei erbyn neu ynglŷn ag ef a chanlyniad y gŵyn honno ac unrhyw gofnodion eraill mewn perthynas â'i gyflogaeth.

rheoliad 26(1)

ATODLEN 5 DIGWYDDIADAU HYSBYSADWY

Colofn 1 Colofn 2
Y digwyddiad: I'w hysbysu i:
Swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol Yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae'r plentyn wedi'i leoli i'w fabwysiadu ynddi
Marwolaeth plentyn sydd wedi'i leoli gyda darpar fabwysiadwyr pan fo gorchymyn mabwysiadu eto i gael ei wneud Ie Ie
Cyfeirio unigolyn sy'n gweithio i wasanaeth mabwysiadu at yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol ag adran 2(1)(a) o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 Ie
(10)

2005/3115 (Cy.235). Back [10]

(12)

O.S. 2005/ 3365 (Cy. 262). Back [12]

(13)

O.S.2005/ 3366 (Cy.263). Back [13]