10.—(1) Rhaid i bob awdurdod lleol benodi un o'i swyddogion i reoli'r gwasanaeth mabwysiadu a rhaid iddo hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith o—
(a) enw'r person a benodwyd yn unol â'r rheoliad hwn; a
(b) y dyddiad y mae'r penodiad i fod yn effeithiol.
(2) O ran y swyddog a benodir gan yr awdurdod lleol i reoli'r gwasanaeth mabwysiadu—
(a) rhaid iddo fod yn weithiwr cymdeithasol; a
(b) mae'n orfodol
(i) bod ganddo gymhwyster NVQ lefel 4 o leiaf mewn rheoli neu gymhwyster arall sy'n cyfateb o ran y cymwyseddau sy'n ofynnol gan NVQ lefel 4, neu
(ii) y bydd yn dechrau ymgymryd â'r cymhwyster pan benodir ef i reoli'r gwasanaeth mabwysiadu, ac y bydd yn ennill y cymhwyster o fewn 3 blynedd i ddyddiad ei benodi, neu
(iii) y bydd yn ennill y cymhwyster erbyn y cyfryw ddyddiad diweddarach ag y byddo'r Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno arno, mewn amgylchiadau eithriadol; ac
(c) mae'n orfodol bod ganddo ddwy flynedd o leiaf o brofiad o weithio o fewn cyd-destun gofal plant, sef profiad a allai gynnwys rheoli asiantaeth fabwysiadu wirfoddol neu asiantaeth fabwysiadu awdurdod lleol, a hynny o fewn y pum mlynedd ddiwethaf.
(3) Rhaid i'r awdurdod hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith os bydd y person a benodwyd o dan baragraff (1) yn peidio â bod yn rheolwr y gwasanaeth mabwysiadu.
11.—(1) Dim ond person sy'n ffit i ymgymryd â'r swydd a gaiff fod yn rheolwr gwasanaeth mabwysiadu.
(2) Nid yw person yn ffit i reoli gwasanaeth mabwysiadu—
(a) onid yw'r person hwnnw yn berson gonest o gymeriad dilychwin;
(b) o ystyried maint yr awdurdod a'i ddatganiad o ddiben—
(i) onid oes ganddo'r cymwysterau, y sgiliau, a'r profiad sy'n angenrheidiol i reoli'r gwasanaeth mabwysiadu; a
(ii) onid yw'n ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i reoli'r gwasanaeth mabwysiadu; ac
(c) onid oes gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael mewn perthynas â'r person hwnnw o ran pob un o'r materion a bennir yn Atodlen 3.
12.—(1) Rhaid i'r rheolwr, o ystyried—
(a) maint yr awdurdod lleol a'i ddatganiad o ddiben; a
(b) yr angen am ddiogelu a hybu lles plant a allai gael eu lleoli neu sydd wedi eu lleoli gan yr awdurdod i'w mabwysiadu,
reoli'r gwasanaeth mabwysiadu gyda gofal, hyfedredd a sgil digonol.
(2) Rhaid i'r rheolwr ymgymryd o bryd i'w gilydd ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod ganddo'r profiad a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i reoli'r gwasanaeth mabwysiadu.
13. Rhaid i reolwr a gollfernir o unrhyw dramgwydd, p'un ai yng Nghymru neu yn rhywle arall, ysgrifennu i hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith—
(i) o ddyddiad a lle'r gollfarn;
(ii) o'r tramgwydd; a
(iii) o'r gosb a osodwyd mewn perthynas â'r tramgwydd.
14. Rhaid i bob awdurdod lleol baratoi a gweithredu polisi ysgrifenedig—
(a) y bwriedir iddo ddiogelu rhag camdriniaeth neu esgeulustod bob plentyn a leolir i'w fabwysiadu gan yr awdurdod neu a all dderbyn neu sy'n derbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod;
(b) sy'n nodi'r weithdrefn sydd i'w dilyn yn achos unrhyw honiad o gam-drin neu esgeuluso;
(c) sy'n sicrhau bod y weithdrefn yn (b) yn gyson â gweithdrefnau'r Bwrdd Lleol Diogelu Plant;
(ch) sy'n sicrhau yr ymchwilir ar fyrder i'r holl honiadau a digwyddiadau o gam-drin mewn perthynas â staff yr asiantaeth neu ei gwirfoddolwyr a bod manylion yr ymchwiliad a'r camau a gymerwyd yn cael eu cofnodi ar ffeil a agorwyd ac a gedwir yn benodol i'r pwrpas hwnnw, a bod manylion hefyd yn cael eu rhoi ar gofnod y defnyddiwr gwasanaeth;
(d) sy'n sicrhau bod cofnodion ar wahân yn cael eu cadw mewn cysylltiad â:
(i) yr holl staff, ac unrhyw bersonau eraill a gyflogir neu sydd o dan gontract i ddarparu gwasanaethau,
(ii) cwynion,
(iii) unrhyw honiadau a wneir yn erbyn unrhyw berson.
15. Rhaid i bob awdurdod lleol sicrhau, o ystyried—
(a) maint yr awdurdod a'i ddatganiad o ddiben; a
(b) yr angen i ddiogelu a hybu iechyd a lles plant a all gael eu lleoli, neu sydd wedi eu lleoli, gan yr awdurdod i'w mabwysiadu neu a all dderbyn neu sydd yn derbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu ganddo,
bod nifer digonol o bersonau sy'n briodol o ran cymhwyster, hyfedredd a phrofiad yn gweithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu, a bod gan yr awdurdod lleol bolisi recriwtio ysgrifenedig clir ar gyfer recriwtio'i staff.
16.—(1) Rhaid i awdurdod lleol beidio ag—
(a) cyflogi person i weithio at ddibenion ei wasanaeth mabwysiadu onid yw'r person hwnnw'n ffit i weithio at ddibenion gwasanaeth mabwysiadu; neu
(b) caniatáu i berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo weithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu onid yw'r person hwnnw'n ffit i weithio at ddibenion gwasanaeth mabwysiadu.
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir, ac eithrio gan yr awdurdod mewn safle sy'n caniatáu i'r person hwnnw, wrth i'r person hwnnw gyflawni'i ddyletswyddau, fod mewn cysylltiad rheolaidd â phlant a all gael eu lleoli, neu sydd wedi cael eu lleoli, gan yr awdurdod i'w mabwysiadu neu a all dderbyn neu sy'n derbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod.
(3) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn ffit i weithio at ddibenion gwasanaeth mabwysiadu awdurdod—
(a) onid yw'r person hwnnw'n berson gonest ac o gymeriad dilychwin;
(b) onid oes gan y person hwnnw'r cymwysterau, y sgiliau a'r profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae i'w gyflawni;
(c) onid yw'r person hwnnw'n ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i wneud y gwaith y mae i'w gyflawni;
(ch) onid oes gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael mewn perthynas â'r person hwnnw o ran pob un o'r materion a bennir yn Atodlen 3; a
(d) onid oes gan y person hwnnw dystysgrif SCT (CRB) gyfredol ar y lefel briodol, a bod y cyfryw dystysgrif SCT (CRB) yn cael ei hadnewyddu bob tair blynedd.
(4) Rhaid i'r awdurdod gymryd camau rhesymol i sicrhau bod unrhyw bersonau sy'n gweithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu, nad ydynt yn cael eu cyflogi gan yr awdurdod, ac nad yw paragraff (2) yn gymwys iddynt yn cael eu goruchwylio'n briodol tra byddant yn cyflawni eu dyletswyddau.
17.—(1) Rhaid i bob awdurdod lleol—
(a) sicrhau bod pob penodiad parhaol a wneir gan yr awdurdod at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu yn ddarostyngedig i gwblhau cyfnod prawf yn foddhaol; a
(b) darparu ar gyfer pob cyflogai a gyflogir gan yr awdurdod at ddibenion ei wasanaeth mabwysiadu swydd-ddisgrifiad sy'n amlinellu eu cyfrifoldebau.
(2) Rhaid i'r awdurdod sicrhau bod pob person a gyflogir gan yr awdurdod at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu—
(a) yn derbyn hyfforddiant priodol, ac yn cael ei oruchwylio a'i arfarnu'n briodol; a
(b) yn cael ei alluogi o bryd i'w gilydd i ennill cymwysterau pellach sy'n briodol i'r gwaith y mae'n ei gyflawni.
18.—(1) Rhaid i bob awdurdod lleol roi gweithdrefn ddisgyblu ar waith sydd, yn benodol—
(a) yn darparu ar gyfer atal cyflogai o'i waith a hynny dros dro pan fo angen hynny er mwyn diogelwch neu les plant a all gael eu lleoli, neu sydd wedi'u lleoli, gan yr awdurdod i'w mabwysiadu neu a all dderbyn neu sy'n derbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod;
(b) yn darparu bod y methiant ar ran cyflogai i roi gwybod i berson priodol am ddigwyddiad o gam-drin, neu o amheuaeth o gam-drin, plentyn sydd wedi'i leoli neu a all gael ei leoli gan yr awdurdod i'w fabwysiadu neu a all dderbyn neu sydd yn derbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod yn sail ar gyfer cychwyn achos disgyblu.
(2) At ddibenion paragraff (1)(b), dyma yw person priodol—
(a) rheolwr y gwasanaeth mabwysiadu;
(b) un o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol;
(c) swyddog heddlu;
(ch) un o swyddogion y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant;
(d) un o swyddogion yr awdurdod lleol y mae'r plentyn wedi'i leoli i'w fabwysiadu yn ei ardal os yw'r awdurdod hwn yn un gwahanol.
19. Rhaid i bob awdurdod lleol sefydlu system i sicrhau bod person a nodir yn gyfrifol am reoli'r gwasanaeth mabwysiadu, os yw'r rheolwr yn arfaethu bod yn absennol neu os yw'n absennol o'r awdurdod lleol am gyfnod di-dor o 20 o ddiwrnodau neu fwy, a hynny hyd onid yw'r rheolwr yn dychwelyd i'r gwasanaeth mabwysiadu neu (yn ôl y digwydd) hyd oni phenodir rheolwr newydd gan yr awdurdod.
20.—(1) Rhaid i bob awdurdod lleol gadw a diweddaru'r cofnodion a bennir yn Atodlen 4
(2) Rhaid cadw'r cofnodion a bennir ym mharagraff (1) am 15 mlynedd o leiaf ar ôl dyddiad y cofnod diwethaf.
21.—(1) Rhaid i'r awdurdod lleol ddefnyddio at ddibenion ei wasanaeth mabwysiadu fangreoedd sy'n addas at ddiben cyflawni'r nodau a'r amcanion a geir yn y datganiad o ddiben.
(2) Rhaid i'r awdurdod sicrhau—
(a) bod trefniadau diogelwch y mangreoedd yn foddhaol ac, yn benodol, bod cyfleusterau diogel ar gyfer storio cofnodion; a
(b) bod unrhyw gofnodion nad ydynt, am unrhyw reswm, ar fangreoedd yr awdurdod yn cael eu cadw o dan amodau priodol o ddiogelwch; ac
(c) y cedwir cofnodion achos a lunnir o dan reoliadau 12 a 22 o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005(9) am 100 mlynedd o leiaf.
22.—(1) Rhaid i'r awdurdod lleol wneud trefniadau addas i sefydlu a chynnal system ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaethau mabwysiadu a ddarperir gan yr awdurdod lleol.
(2) Rhaid i'r system a sefydlir o dan baragraff (1) ddarparu bod yr awdurdod lleol —
(a) yn sicrhau bod ansawdd y gwasanaeth yn cael ei adolygu o leiaf bob blwyddyn; a
(b) yn sicrhau bod yr awdurdod lleol yn gofyn barn —
(i) y rhieni mabwysiadol a'r rhieni naturiol a'r plant sy'n cael eu mabwysiadu;
(ii) unrhyw berson sy'n derbyn gwasanaethau gan yr awdurdod lleol, neu eu cynrychiolwyr mewn perthynas â mabwysiadu;
(iii) y staff a gyflogir gan yr awdurdod lleol; a
(iv) unrhyw awdurdod lleol,
ar ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu, a hynny fel rhan o unrhyw adolygiad a gynhelir.
(3) Yn dilyn adolygiad o ansawdd y gofal, rhaid i'r awdurdod lleol lunio adroddiad ar yr adolygiad hwnnw o fewn 28 o ddiwrnodau gwaith a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael ar fformat priodol pan ofynnir iddo wneud hynny gan—
(a) y Cynulliad Cenedlaethol,
(b) defnyddwyr y gwasanaeth,
(c) cynrychiolwyr defnyddiwr y gwasanaeth,
(ch) staff a gyflogir gan yr awdurdod lleol.
23.—(1) Gall y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw adeg ofyn i'r awdurdod lleol gynnal asesiad o'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth sy'n defnyddio ei wasanaethau mabwysiadu.
(2) O fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl i gais o dan baragraff (1) ddod i law, rhaid i'r awdurdod lleol gyflenwi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol asesiad ar y ffurf sy'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid i'r awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i sicrhau na fydd yr asesiad yn gamarweiniol nac yn anghywir.
24.—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw adeg hysbysu'r awdurdod lleol o'r camau y mae'n rhaid i'r awdurdod lleol eu cymryd ym marn y Cynulliad i sicrhau cydymffurfedd â Ddeddf 2000 ac ag unrhyw reoliadau a wneir oddi tani.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu'r targedau amser erbyn pryd y mae'n rhaid i'r awdurdod lleol gymryd y camau sy'n ofynnol o dan baragraff (1).
(3) Rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan fydd unrhyw gamau sy'n ofynnol o dan baragraff (1) wedi'u cwblhau.
25. Rhaid i bob awdurdod lleol—
(a) sicrhau y gwneir cofnod ysgrifenedig o unrhyw gwyn, gan gynnwys cofnod o fanylion yr ymchwiliad a wneir, y canlyniad ac unrhyw gamau a gymerwyd yn sgil hynny, a bod y cofnod yn cael ei gadw am 3 blynedd o leiaf o'r dyddiad y'i gwneir; a
(b) rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol, pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdano, ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o unrhyw gwynion a wnaed mewn perthynas â'i wasanaeth mabwysiadu yn ystod y 12 mis blaenorol, a'r camau (os o gwbl) a gymerwyd yn sgil canlyniad yr ymchwiliad; a
(c) rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol grynodeb o unrhyw honiadau o gam-drin plant yn ystod y 12 mis blaenorol ynghyd â chanlyniadau ymchwiliadau a'r camau a gymerwyd..
26.—(1) Os bydd unrhyw un o'r digwyddiadau a restrir yn y tabl yn Atodlen 5 yn digwydd mewn cysylltiad ag awdurdod lleol, rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu'r personau a restrir yng ngholofnau'r tabl yn ddi-oed ynglyn â'r digwyddiad.
(2) Rhaid cadarnhau yn ysgrifenedig yn ogystal unrhyw hysbysiad sy'n cael ei roi ar lafar mewn cysylltiad â'r gorchymyn hwn.
2005 /3115 (Cy.235) Back [9]