1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 2 Ebrill 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “arweiniad plant” (“children’s guide”) yw'r arweiniad ysgrifenedig a gynhyrchwyd yn unol â rheoliad 4;
mae gan “asiantaeth fabwysiadu” (“adoption agency”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 2(1) o Ddeddf Mabwysiadau a Phlant 2002;
ystyr “Bwrdd Lleol Diogelu Plant” (“Local Safeguarding Children Board”) yw bwrdd a sefydlwyd o dan adran 31 o Ddeddf Plant 2004;
mae i'r ymadrodd “cofnod achos y plentyn” (“the child’s case record”) yr ystyr sydd iddo yn rheoliad 6;
ystyr “cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu” (“adoption support services advisor”) yw'r person a benodwyd yn unol â rheoliad 6 o Reoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005(3);
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yw'r datganiad ysgrifenedig a lunnir yn unol â rheoliad 3(1);
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000(4);
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002(5);
ystyr “diwrnodau gwaith” (“working days”) yw unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy'n wyl y banc o fewn yr ystyr yn Neddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(6);
mae i “gwarcheidwad” (“guardian”) yr ystyr a roddir i guardian yn adran 5 o Ddeddf Plant 1989;
ystyr “gwasanaeth mabwysiadu” (“adoption service”) yw cyflawni gan awdurdod lleol swyddogaethau mabwysiadu perthnasol o fewn ystyr adran 43(3)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 2000;
ystyr “gweithiwr cymdeithasol” (“social worker”) yw person sydd wedi'i gofrestru yn y gofrestr gweithwyr cymdeithasol a gedwir yn unol ag adran 56 o Ddeddf 2000;
ystyr “panel Mabwysiadu” (“adoption panel”) yw panel a sefydliwyd yn unol a rheoliad 3 o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005(7)
ystyr “Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005” (“the 2005 Adoption Agencies Regulations”) yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005(8);
mae “rheolwr” (“manager”) i'w ddehongli'n unol â rheoliad 10;
ystyr “swyddfa briodol” (“appropriate office”) mewn perthynas â gwasanaeth mabwysiadu awdurdod lleol—
os yw swyddfa a reolir gan y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i phennu ganddo yn swyddfa briodol mewn perthynas â'r awdurdod lleol hwnnw, y swyddfa honno,
mewn unrhyw achos arall, unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad —
(a) at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at reoliad yn y Rheoliadau hyn neu Atodlen i'r Rheoliadau hyn sy'n dwyn y rhif hwnnw;
(b) mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw neu yn yr Atodlen honno sy'n dwyn y rhif hwnnw;
(c) mewn paragraff at is-baragraff â llythyren neu rif yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y llythyren honno neu'r rhif hwnnw.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'n ymddangos bod bwriad i'r gwrthwyneb, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys—
(a) cyflogi person p'un ai am dâl neu beidio;
(b) cyflogi person o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau; a
(c) caniatáu i berson weithio fel gwirfoddolwr;
ac mae cyfeiriadau at gyflogai neu at berson a gyflogir i'w dehongli yn unol â hynny.
3.—(1) Mewn perthynas â'r gwasanaeth mabwysiadu, rhaid i bob awdurdod lleol lunio datganiad ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “y datganiad o ddiben”) a rhaid i'r datganiad fod yn ddatganiad o'r materion a restrir yn Atodlen 1.
(2) Rhaid i'r awdurdod roi copi o'r datganiad o ddiben i'r Cynulliad Cenedlaethol a, phan wneir cais am gopi, rhaid iddo sicrhau bod copi ohono ar gael i'w archwilio gan—
(a) plant a all gael eu mabwysiadu, eu rhieni a'u gwarcheidwaid;
(b) personau sy'n dymuno mabwysiadu plentyn;
(c) personau a fabwysiadwyd, eu rhieni, eu rhieni naturiol a'u cyn-warcheidwaid;
(ch) personau sy'n gwneud cais am asesiad o'u hanghenion er mwyn i wasanaethau cymorth mabwysiadu gael eu darparu ar eu cyfer gan yr awdurdod;
(d) pob person sy'n gweithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i'r awdurdod sicrhau bod y modd y cynhelir ei wasanaeth mabwysiadu bob amser yn unol â'i ddatganiad o ddiben.
(4) Nid oes dim ym mharagraff (3) yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod fynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn neu i beidio â chydymffurfio â hi neu'n ei awdurdodi i wneud hynny.
4.—(1) Rhaid i bob awdurdod lleol gynhyrchu arweiniad ysgrifenedig i'r gwasanaeth mabwysiadu (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “yr arweiniad plant”) ac mae'n orfodol mai datganiad ydyw o'r materion a restrir yn Atodlen 2.
(2) Rhaid i'r awdurdod ddarparu copi o'r arweiniad plant ar gyfer—
(a) y Cynulliad Cenedlaethol;
(b) pob darpar fabwysiadydd y mae'r awdurdod wedi lleoli gydag ef blentyn i'w fabwysiadu; ac
(c) pob plentyn (yn ddarostyngedig i oedran a dealltwriaeth y plentyn hwnnw) a all gael ei leoli, neu sydd wedi ei leoli, gan yr awdurdod i'w fabwysiadu.
5. Rhaid i bob awdurdod lleol—
(a) adolygu'n rheolaidd a, phan fo hynny'n briodol, ddiwygio'r datganiad o ddiben a'r arweiniad plant; a
(b) hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o unrhyw ddiwygiad o'r fath o fewn 28 o ddiwrnodau.
6.—(1) Rhaid i bob awdurdod lleol sefydlu cofnod achos (“cofnod achos y plentyn”) mewn perthynas â phob plentyn a gosod arno—
(a) unrhyw wybodaeth ac adroddiadau a ddaeth i law'r awdurdod lleol mewn cysylltiad â'r plentyn;
(b) adroddiad sefydlogrwydd y plentyn;
(c) unrhyw gofnod ysgrifenedig o unrhyw drafodion panel mabwysiadu o dan reoliad 18 o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005, ei argymhelliad ynghylch â ddylai plentyn gael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu ai peidio, a'r rhesymau dros ei argymhelliad ac unrhyw gyngor a roddwyd gan y panel i asiantaeth fabwysiadu;
(ch) unrhyw gofnod o benderfyniad yr asiantaeth fabwysiadu ac unrhyw hysbysiad o'r penderfyniad hwnnw o dan reoliad 19 o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005;
(d) manylion unrhyw gydsyniad gan riant neu warcheidwad plentyn i leoli i fabwysiadu o dan reoliad 19 o Ddeddf 2002 (lleoli plant gyda chydsyniad rhiant);
(dd) manylion unrhyw gydsyniad gan riant neu warcheidwad plentyn i wneud gorchymyn mabwysiadu yn y dyfodol o dan adran 20 o Ddeddf 2002 (cydsyniad ymlaen llaw i fabwysiadu);
(e) unrhyw ffurflen neu hysbysiad yn tynnu yn ôl gydsyniad o dan adran 19 neu 20 o Ddeddf 2002 neu hysbysiad o dan adran 20(4)(a) neu (b) o Ddeddf 2002.;
(f) copi o unrhyw orchymyn lleoliad mewn cysylltiad â'r plentyn; ac
(ff) unrhyw ddogfennau eraill neu wybodaeth arall a ddaw i law'r awdurdod lleol ac y mae'r awdurdod o'r farn y dylent gael eu cynnwys neu y dylai gael ei chynnwys yn y cofnod achos..
7.—(1) Rhaid i bob awdurdod lleol, pan fydd o'r farn mai mabwysiadu yw'r dewis gorau ar gyfer plentyn, neu pan fydd plentyn yn cael ei ildio, ddarparu'r canlynol ar gyfer rhieni naturiol:—
(a) gwasanaeth cwnsela;
(b) cymaint o wybodaeth mewn perthynas â'r plentyn ag y byddo'n rhesymol i rieni naturiol ofyn amdani, ac ag y gall yr awdurdod lleol ei rhoi;
(c) eglurhad a gwybodaeth ysgrifenedig mewn cysylltiad â'r materion canlynol:—
(i) y weithdrefn mewn cysylltiad â lleoli i fabwysiadu ac â mabwysiadu, gan gynnwys y Gofrestr Mabwysiadu i Gymru a Lloegr;
(ii) goblygiadau cyfreithiol—
(aa) rhoi cydsyniad i leoli i fabwysiadu o dan adran 19 o Ddeddf 2002 (gosod plant gyda chydsyniad rhiant);
(bb) rhoi cydsyniad i wneud gorchymyn mabwysiadu yn y dyfodol o dan adran 20 o Ddeddf 2002; (cydsyniad ymlaen llaw i fabwysiadu);
(cc) gorchymyn lleoliad;
(dd) mabwysiadu;
(2) Rhaid i bob awdurdod lleol, pan fydd o'r farn mai mabwysiadu yw'r dewis gorau ar gyfer plentyn, neu pan fydd plentyn yn cael ei ildio, ganfod dymuniadau a theimladau rhieni naturiol a gwarcheidwad y plentyn ac unrhyw berson arwyddocaol arall y mae'r awdurdod lleol o'r farn ei fod yn berthnasol mewn cysylltiad —
(a) â'r materion a nodir yn adran 1(4)(f)(ii) a (iii) o Ddeddf 2002 (materion y mae'n rhaid i'r asiantaeth roi sylw iddynt);
(b) â lleoli'r plentyn i'w fabwysiadu ac â'i fabwysiadu, gan gynnwys unrhyw ddymuniadau a theimladau ynghylch magwraeth grefyddol a diwylliannol y plentyn; a
(c) â chyswllt â'r plentyn os yw'r asiantaeth wedi ei hawdurdodi i leoli'r plentyn i'w fabwysiadu neu os caiff y plentyn ei fabwysiadu.
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan na fo gan dad plentyn gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, a phan fo'r awdurdod lleol yn gwybod pwy yw tad y plentyn.
(4) Pan fo paragraff (3) yn gymwys a'r awdurdod lleol wedi'i fodloni ei bod yn briodol gwneud hynny, rhaid i'r awdurdod lleol ganfod, i'r graddau y bo hynny'n bosibl, p'un a yw'r tad—
(i) yn dymuno caffael cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn o dan adran 4 o Ddeddf Plant 1989; neu
(ii) yn bwriadu gwneud cais am orchymyn preswyl neu orchymyn cyswllt o dan adran 8 o Ddeddf Plant 1989 mewn cysylltiad â'r plentyn, neu os yw'r plentyn yn ddarostyngedig i orchymyn gofal, yn bwriadu gwneud cais am orchymyn o dan adran 34 o Ddeddf Plant 1989 (cyswllt rhwng rhieni a phlant mewn gofal).
8. Mae'n orfodol—
(a) bod gan bob awdurdod lleol gynlluniau ysgrifenedig o'i strategaeth ar recriwtio niferoedd digonol o fabwysiadwyr;
(b) bod gan bob awdurdod lleol gynlluniau cynhwysfawr ar gyfer prosesau paratoi a chymeradwyo mabwysiadwyr yn gynwysedig o fewn ei bolisïau a'i weithdrefnau;
(c) bod pob awdurdod lleol yn darparu ar gyfer darpar fabwysiadwyr wybodaeth ysgrifenedig ynghylch y broses fabwysiadu gan gynnwys gwybodaeth am:—
(i) y polisi a'r gweithdrefnau o ran y broses fabwysiadu
(ii) trefniadau ar gyfer asesu Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu a'u darparu
(iii) y Gofrestr Fabwysiadu i Gymru a Lloegr, a
(iv) trefniadau consortiwm lleol;
(ch) bod pob awdurdod lleol yn darparu cymorth pan fydd tarfu wedi bod neu mewn perygl o fod ar leoliad, gan gynnwys cymorth cyfryngu a threfnu cyfarfodydd i drafod tarfu ar leoliadau mabwysiadu.
9.—(1) O ran pob awdurdod lleol—
(a) rhaid iddo sefydlu panel mabwysiadu yn unol â rheoliadau 3 a 5 o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005;
(b) mae'n orfodol bod ganddo ar waith bolisiau ysgrifenedig er mwyn sicrhau bod y panel wedi ei drefnu'n effeithiol ac yn gweithredu'n effeithlon;
(c) rhaid iddo sicrhau bod paneli mabwysiadu'n cael eu cynghori'n briodol gan berson wedi cymhwyso'n briodol o ran mabwysiadau gydag elfen dramor yn gysylltiedig â hwy os yw achos o'r fath yn cael ei ystyried;
(ch) pan fydd o'r farn mai mabwysiadu yw'r dull gorau o sicrhau sefydlogrwydd y plentyn rhaid iddo baratoi adroddiad ysgrifenedig ar gyfer y panel mabwysiadu y mae'n orfodol iddo gynnwys:—
(i) yr wybodaeth am y plentyn, teulu'r plentyn ac eraill a'r gwarcheidwad fel y nodir yn Rhannau 1, 3 a 4 o Atodlen 1 i Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005;
(ii) crynodeb wedi ei ysgrifennu gan gynghorydd meddygol yr awdurdod lleol, ar gyflwr iechyd y plentyn, hanes iechyd y plentyn ac unrhyw angen am ofal iechyd a allai godi yn y dyfodol;
(iii) dymuniadau a theimladau'r plentyn ynglŷn â'r materion a nodir yn rheoliad 13(1)(c) o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005;
(iv) dymuniadau a theimladau rhiant neu warcheidwad y plentyn, ac unrhyw berson arall y mae'r awdurdod lleol o'r farn ei fod yn berthnasol, ynglŷn â materion a nodir yn rheoliad 14(1)(c) o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005;
(v) barn yr awdurdod lleol am angen y plentyn am gyswllt â rhiant neu warcheidwad y plentyn neu â pherson arall y mae'r awdurdod lleol o'r farn ei fod yn berthnasol a'r trefniadau y bwriada'r awdurdod lleol eu gwneud er mwyn caniatáu i unrhyw berson gael cyswllt â'r plentyn;
(vi) asesiad o ddatblygiad emosiynol y plentyn a'i ddatblygiad o ran ymddygiad ac unrhyw angen cysylltiedig;
(vii) asesiad o gynneddf rhiant neu warcheidwad y plentyn i fod yn rhiant, ac os nad oes gan dad plentyn gyfrifoldeb dros y plentyn ac fe wybyddir pwy yw'r tad, asesiad o gyneddf hwnnw i fod yn rhiant hefyd;
(viii) cronoleg o'r penderfyniadau a gymerwyd gan yr awdurdod lleol ynglyn â'r plentyn;
(ix) dadansoddiad o'r opsiynau o ran gofalu am y plentyn yn y dyfodol sydd wedi eu hystyried gan yr awdurdod lleol, ac os yn berthnasol, pam yr ystyrir mai lleoliad i fabwysiadu yw'r dewis gorau; a
(x) unrhyw wybodaeth arall y mae'r awdurdod lleol o'r farn ei bod yn berthnasol.
(d) rhaid i'r awdurdod lleol anfon, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd â gwybodaeth berthnasol arall y gallai'r panel mabwysiadu ofyn amdani a rhaid iddo anfon yr wybodaeth honno at y panel mabwysiadu;
(dd) i'r graddau y bo hynny'n ymarferol, rhaid i'r awdurdod lleol gaffael unrhyw wybodaeth berthnasol arall y gallai'r panel mabwysiadu ofyn amdani ac anfon yr wybodaeth honno at y panel mabwysiadu.
(2) Pan fo'r awdurdod lleol, ac yntau wedi dilyn y gweithdrefnau y cyfeirir atynt yn rheoliadau 23 a 25 o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005, o'r farn y gall y darpar fabwysiadydd fod yn addas i fod yn rhiant mabwysiadol, rhaid iddo wneud asesiad yn unol â Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005;
(a) Rhaid i'r awdurdod lleol gaffael y manylion hynny am y darpar fabwysiadydd y cyfeirir atynt yn Rhan 1 o Atodlen 4 i Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005;
(b) Rhaid i'r awdurdod lleol hefyd gaffael:—
(i) adroddiad ysgrifenedig gan ymarferydd meddygol cofrestredig am iechyd y darpar fabwysiadydd, ac mae'n rhaid i'r adroddiad ymdrin â'r materion a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 4 i Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005, oni chafodd adroddiad o'r fath ei lunio o fewn 6 mis ar ôl i'r panel ystyried yr achos o dan reoliad 27 o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005, a'i fod ar gael i'r awdurdod lleol;
(ii) adroddiad ysgrifenedig am bob un o'r cyfweliadau gyda'r personau a enwebwyd gan y darpar fabwysiadydd yn ganolwyr personol; ac
(iii) adroddiad ysgrifenedig gan yr awdurdod lleol y mae'r darpar fabwysiadydd yn byw yn ei ardal, a phan fo'r darpar fabwysiadydd wedi byw yn yr ardal honno am gyfnod sy'n llai na deuddeng mis rhaid i'r awdurdod lleol gaffael adroddiad ysgrifenedig hefyd gan yr awdurdod lleol yr oedd y darpar fabwysiadydd yn byw yn ei ardal cyn hynny.
(c) Rhaid i'r awdurdod lleol baratoi adroddiad ysgrifenedig sy'n cynnwys—
(i) manylion am y darpar fabwysiadydd fel y nodir yn Rhan 1 o Atodlen 4 i Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005;
(ii) crynodeb, a ysgrifennwyd gan gynghorydd meddygol yr asiantaeth, ar gyflwr iechyd y darpar fabwysiadydd;
(iii) asesiad yr awdurdod lleol o addasrwydd y darpar fabwysiadydd i fabwysiadu plentyn, ac wrth benderfynu pa mor addas yw cwpwl i fabwysiadu plentyn rhaid i'r awdurdod lleol roi sylw priodol i'r angen am barhâd a sefydlogrwydd yn eu perthynas;
(iv) unrhyw wybodaeth berthnasol y bydd yr awdurdod lleol yn ei chaffael o dan reoliad 26(4)(dd) o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005;
(v) unrhyw wybodaeth arall y mae'r awdurdod lleol o'r farn ei bod yn berthnasol.
(ch) Mewn achos o dan adran 83 o Ddeddf 2002 rhaid i'r adroddiad gynnwys
(i) enw'r wlad (“y darddwlad”) y mae'r darpar fabwysiadydd yn dymuno mabwysiadu ohoni;
(ii) cadarnhad bod y darpar fabwysiadydd yn bodloni'r gofynion cymhwyster i fabwysiadu o'r darddwlad;
(iii) gwybodaeth ychwanegol sydd wedi'i chaffael o ganlyniad i ofynion y darddwlad; ac
(iv) asesiad yr awdurdod lleol o addasrwydd y darpar fabwysiadydd i fabwysiadu plentyn sy'n preswylio yn arferol y tu allan i Ynysoedd Prydain.
(d) Rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu'r darpar fabwysiadydd os yw ei gais i'w atgyfeirio at y panel mabwysiadu ac, ar yr un pryd, rhaid iddo anfon copi at y darpar fawbysiadydd o adroddiad yr awdurdod lleol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) uchod, a gwahodd anfon yn ysgrifenedig at yr awdurdod lleol unrhyw sylwadau ar yr adroddiad a hynny o fewn 10 niwrnod gwaith, gan ddechrau ar y dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad.
(dd) Ar ddiwedd y cyfnod o 10 niwrnod gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (d) uchod (neu'n gynharach os daw unrhyw sylwadau a wnaed gan y darpar fabwysiadydd i law cyn bod 10 niwrnod gwaith wedi mynd heibio) rhaid i'r awdurdod lleol anfon at y panel mabwysiadu—
(i) yr adroddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (c) uchod, ynghyd ag unrhyw sylwadau a gyflwynwyd gan y darpar fabwysiadydd o dan baragraff (d) uchod;
(ii) yr adroddiadau ysgrifenedig y cyfeirir atynt ym mharagraff (ch) uchod; ac
(iii) unrhyw wybodaeth berthnasol arall y mae'r asiantaeth yn ei chaffael o dan y rheoliad hwn;
(e) rhaid i'r awdurdod lleol, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, gaffael unrhyw wybodaeth berthnasol arall y gall fod ar y panel mabwysiadu ei hangen a rhaid iddo anfon yr wybodaeth honno at y panel.
(f) pan fo'r awdurdod lleol o'r farn y dylai'r lleoliad arfaethedig fynd yn ei flaen, rhaid i'r awdurdod lleol—
(i) gwneud asesiad o anghenion y plentyn a'r darpar deulu mabwysiedig ar gyfer gwasanaethau cymorth mabwysiadu yn unol â'r rheoliadau a wneir o dan adran 4(6) o Ddeddf 2002;
(ii) ystyried y trefniadau ar gyfer caniatáu i unrhyw berson gael cyswllt â'r plentyn;
(iii) ystyried a oes cyfyngu i unrhyw raddau i fod ar gyfrifoldeb unrhyw riant neu warcheidwad, neu unrhyw ddarpar fabwysiadwyr:
(iv) paratoi adroddiad ysgrifenedig y mae'n orfodol iddo gynnwys—
(aa) rhesymau'r awdurdod lleol am awgrymu'r lleoliad;
(bb) yr wybodaeth sydd wedi'i chaffael yn rhinwedd paragraffau 32(3)(ch) o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005;
(cc) ei argymhellion ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu, os o gwbl, yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 4(6) o Ddeddf 2002;
(dd) y trefniadau y bwriada'r awdurdod lleol eu gwneud er mwyn caniatáu i unrhyw berson gael cyswllt â'r plentyn;
(ee) argymhellion yr awdurdod lleol ar gyfer cyfyngu ar gyfrifoldeb rhiant unrhyw riant neu warcheidwad, neu ddarpar fabwysiadydd, a
(ff) unrhyw wybodaeth arall sy'n berthnasol i'r lleoliad arfaethedig.