Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 3 TALIADAU AC AD-DALIADAU

Talu treuliau teithio GIG

9.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (5), os oes gan berson hawl yn unol â rheoliad 5 neu 6 i gael taliad mewn perthynas â threuliau teithio GIG —

(a) rhaid iddo wneud cais i'r darparwr; a

(b) rhaid i'r darparwr gyfrifo'r gwir swm sy'n daladwy yn unol â'r Rheoliadau hyn a gwneud y taliad.

(2) Os darperir gwasanaethau yn unol â threfniadau a wnaed o dan adran 10 o'r Ddeddf a pharagraff 18 o Atodlen 3 iddi, caniateir i'r cais am daliad gael ei wneud i naill ai'r darparwr neu'r corff yn y gwasanaeth iechyd a wnaeth y trefniadau hynny, a chaniateir i'r cyfrifiad a'r taliad gael eu gwneud gan y naill neu'r llall.

(3) Mewn achos sy'n syrthio o fewn rheoliad 3(1)(b) (teithio i borthladd) rhaid i'r cais am daliad gael ei wneud i'r corff yn y gwasanaeth iechyd a wnaeth y trefniadau y cyfeirir atynt yn y ddarpariaeth honno, a rhaid i'r cyfrifiad a'r taliad gael eu gwneud gan y corff hwnnw.

(4) Rhaid i berson sy'n gwneud cais am daliad mewn perthynas â threuliau teithio GIG lofnodi datganiad o hawl a darparu unrhyw dystiolaeth o'i hawl ac o'i dreuliau teithio y gofynnir amdani gan y darparwr, neu, yn ôl fel y digwydd, gan y corff yn y gwasanaeth iechyd a wnaeth y trefniadau.

(5) Caniateir i dreuliau teithio GIG gael eu talu cyn i'r treuliau gael eu hysgwyddo.

Ceisiadau am ad-daliad

10.—(1) Mae gan berson sydd â hawl o dan y Rheoliadau hyn i beidio â thalu ffi GIG o gwbl neu i beidio â thalu rhan o ffi GIG neu hawl i gael taliad llawn neu rannol am dreuliau teithio GIG ac sy'n talu ffi o'r fath neu dreuliau teithio o'r fath heb arfer ei hawl i beidio â thalu neu i gael taliad, hawl i gael ad-daliad am y swm hwnnw y byddai wedi peidio â'i dalu neu y byddai wedi'i dalu.

(2) Rhaid i berson sy'n dymuno arfer ei hawl i gael ad-daliad o dan baragraff (1) wneud cais i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar ffurflen sydd wedi'i darparu at y diben neu wedi'i chymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3) Rhaid i gais o dan baragraff (2) gael ei wneud o fewn tri mis ar ôl y dyddiad y cafodd y ffi GIG ei thalu neu y cafodd y treuliau teithio GIG eu talu neu o fewn unrhyw gyfnod hirach y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ei ganiatáu am reswm da.

(4) Mae paragraffau (2) i (4) o reoliad 7 (ceisiadau am hawl) yn gymwys i gais o dan y rheoliad hwn.

Ad-daliadau

11.—(1) Os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i fodloni bod gan geisydd hawl i gael unrhyw ad-daliad o dan reoliad 10 rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru —

(a) yn achos ad-daliad sydd i'w wneud mewn perthynas â threuliau teithio GIG a ysgwyddwyd gan berson i fod yn bresennol mewn ysbyty neu unrhyw le arall a reolir gan ymddiriedolaeth GIG, roi hysbysiad ysgrifenedig o hawl y ceisydd i'r ymddiriedolaeth GIG; neu

(b) mewn achos sy'n syrthio o fewn rheoliad 3(1)(b) (teithio i borthladd) roi hysbysiad ysgrifenedig o hawl y ceisydd i'r corff yn y gwasanaeth iechyd a wnaeth y trefniadau y cyfeirir atynt yn y ddarpariaeth honno; neu

(c) mewn unrhyw achos arall, beri bod ad-daliad yn cael ei wneud i'r ceisydd mewn unrhyw fodd sydd ym marn Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn briodol o dan amgylchiadau'r achos penodol.

(2) Os caiff ymddiriedolaeth GIG neu gorff arall yn y gwasanaeth iechyd hysbysiad fel y'i crybwyllir ym mharagraff (1), rhaid iddynt gyfrifo unrhyw swm sy'n daladwy mewn perthynas â threuliau teithio GIG yn unol â'r Rheoliadau hyn a gwneud unrhyw ad-daliad sy'n ddyledus i geisydd mewn perthynas â threuliau teithio GIG neu ffi GIG o'r fath.

(3) Rhaid i berson y mae ganddo hawl i gael ad-daliad mewn perthynas â threuliau teithio GIG lofnodi datganiad o hawl a darparu unrhyw dystiolaeth o'i hawl ac o'i dreuliau teithio y gofynnir amdani gan y corff yn y gwasanaeth iechyd sy'n gwneud yr ad-daliad.

Ad-dalu taliadau a wnaed mewn perthynas â threuliau teithio GIG

12.  Os bydd darparwr yn gwneud taliad o dan reoliad 9(1) neu (2) neu ad-daliad o dan reoliad 11(a) mewn perthynas â threuliau teithio GIG a ysgwyddwyd gan berson sy'n cael gwasanaethau gan y darparwr, caiff swm y taliad neu'r ad-daliad o dan sylw ei ad-dalu i'r darparwr gan y corff yn y gwasanaeth iechyd y darperir y gwasanaethau hynny ar ei ran.

Talu ac ad-dalu treuliau teithio tramor GIG

13.—(1) Rhaid i berson sy'n dymuno gwneud cais am hawl i gael taliad neu ad-daliad treuliau teithio tramor GIG wneud cais ysgrifenedig i'r corff yn y gwasanaeth iechyd a drefnodd y gwasanaethau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(2) o fewn tri mis ar ôl i'r treuliau gael eu hysgwyddo neu unrhyw gyfnod pellach y bydd y corff hwnnw'n ei ganiatáu am reswm da.

(2) Mae paragraffau (2) i (4) o reoliad 7 (ceisiadau am hawl) yn gymwys i gais (boed am daliad ynteu am ad-daliad) a wneir o dan y rheoliad hwn fel pe bai'r cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn y paragraffau hynny yn gyfeiriadau at y corff yn y gwasanaeth iechyd a drefnodd y gwasanaethau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(2).

RHAN 4 CYFRIFO ADNODDAU AC ANGHENION

Cyffredinol

14.—(1) Os oes angen i adnoddau neu anghenion person gael eu cyfrifo at ddibenion y Rheoliadau hyn, rhaid iddynt gael eu cyfrifo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â darpariaethau'r Rhan hon ac Atodlen 1.

(2) Rhaid i adnoddau ac anghenion person gael eu cyfrifo —

(a) yn achos cais a wneir o dan reoliad 7 (ceisiadau am hawl) drwy gyfeirio at ei adnoddau a'i ofynion ar ddyddiad y cais; neu

(b) yn achos cais am ad-daliad a wneir o dan reoliad 10(2) (ceisiadau am ad-daliadau) drwy gyfeirio at ei adnoddau a'i ofynion ar y dyddiad y talwyd y ffi GIG neu'r treuliau teithio GIG.

(3) Os yw'r ceisydd yn aelod o deulu, rhaid i adnoddau ac anghenion aelodau eraill ei deulu gael eu cyfrifo yn yr un modd ag adnoddau ac anghenion y ceisydd a rhaid eu cymryd i ystyriaeth fel pe baent yn adnoddau ac anghenion i'r ceisydd, ac yn y Rhan hon ac yn y darpariaethau y cyfeirir atynt yn Atodlen 1, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at y ceisydd yn cynnwys aelodau eraill ei deulu.

(4) Mewn achos lle mae enillion unrhyw berson i gael eu cyfrifo a bod anghydfod masnach wedi effeithio ar yr enillion hynny, yr enillion sydd i'w cymryd i ystyriaeth yw'r enillion y byddai'r person hwnnw wedi'u cael pe na bai anghydfod masnach wedi bod.

(5) Wrth gymhwyso'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm fel y'u crybwyllir yn rheoliad 15 a rheoliad 16, rhaid i ddarpariaethau'r Rheoliadau hynny gael eu cymhwyso fel pe bai —

(a) cyfeiriadau at gymhorthdal incwm yn gyfeiriadau at beidio â thalu ffioedd GIG a thalu treuliau teithio GIG,

(b) cyfeiriadau mewn unrhyw rai o'r darpariaethau hynny at unrhyw rai eraill o'r darpariaethau hynny yn gyfeiriadau at y ddarpariaeth arall honno fel y'i haddaswyd yn unol â rheoliad 15(4) neu, yn ôl fel y digwydd, â rheoliad 16(4); ac

(c) Rheoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth (Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol ac Amrywiol) 2002(19) heb eu gwneud.

Cyfrifo adnoddau

15.—(1) Rhaid i adnoddau ceisydd gael eu cyfrifo yn nhermau incwm a chyfalaf.

(2) Rhaid i incwm gael ei gyfrifo ar sail wythnosol yn unol â'r dull ar gyfer cyfrifo neu amcangyfrif incwm a ragnodwyd gan ddarpariaethau'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm, yn ddarostyngedig i'r addasiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4).

(3) Rhaid i gyfalaf gael ei gyfrifo yn unol â'r dull ar gyfer cyfrifo neu amcangyfrif cyfalaf a ragnodwyd gan ddarpariaethau Pennod VI yn Rhan V o'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm ac Atodlen 10 iddynt, yn ddarostyngedig i'r addasiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4).

(4) Mae darpariaethau'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm yn gymwys a rhaid i'r darpariaethau hynny a bennir yng ngholofn 1 o Dabl A yn Atodlen 1 gael eu cymhwyso yn unol â'r addasiadau a bennir yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2.

Cyfrifo anghenion

16.—(1) Rhaid cyfrifo mai'r swm y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yw anghenion ceisydd, llai'r swm, lle bo'n gymwys, y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) isod, fel a ganlyn —

(a) y swm sy'n cyfateb i gyfanswm —

(i) y swm cymwysadwy wythnosol a fyddai'n gymwys i'r ceisydd, gan gynnwys y swm hwnnw mewn perthynas ag unrhyw aelod arall o'i deulu, mewn cysylltiad â chais am gymhorthdal incwm fel y'i pennir gan y Rheoliadau Cymhorthdal Incwm, ond yn ddarostyngedig i'r addasiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4), a

(ii) yn ddarostyngedig i baragraff (2), swm wythnosol unrhyw dreth gyngor y mae'r ceisydd neu ei bartner yn atebol i'w dalu o dan Ran 1 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(20);

(b) y swm sy'n cyfateb i gyfanswm swm wythnosol unrhyw fudd-dal tai a swm wythnosol unrhyw fudd-dal treth gyngor y mae gan y ceisydd neu unrhyw aelod o'i deulu hawl i'w gael o dan ddarpariaethau Rhan VII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), os oes ceisydd yn atebol ar y cyd ac yn unigol i dalu'r dreth gyngor mewn perthynas ag annedd y mae'n preswylio ynddi gydag un neu fwy o bersonau, rhwymedigaeth y ceisydd mewn perthynas â'r dreth honno at ddibenion y Rheoliadau hyn fydd swm y dreth honno wedi'i rhannu â nifer y personau sy'n yn atebol ar y cyd ac yn unigol i dalu'r dreth honno.

(3) Nid yw paragraff (2) yn gymwys os yw ceisydd yn atebol ar y cyd ac yn unigol i dalu'r dreth gyngor mewn perthynas ag annedd gyda'i bartner yn unig.

(4) Mae darpariaethau'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm yn gymwys a rhaid i'r darpariaethau hynny a bennir yng ngholofn 1 o Dabl B yn Atodlen 1 i'w cymhwyso yn unol â'r addasiadau a bennir yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2.

(19)

O.S.2000/620. Back [19]

(20)

O.S.2002/3019 Back [20]