Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 2 HAWL I GAEL TALIAD AM DREULIAU TEITHIO GIG AC I BEIDIO â THALU FFIOEDD GIG

Hawl i beidio â thalu ffi o gwbl ac i gael taliad llawn

5.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae gan berson hawl, heb wneud cais o dan reoliad 7 (ceisiadau am hawl), i gael taliad llawn treuliau teithio GIG ac i beidio â thalu ffi GIG o gwbl os yw —

(a) yn cael cymhorthdal incwm;

(b) yn cael lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm;

(c) yn cael credyd gwarant credyd pensiwn;

(ch) yn aelod o'r un teulu â pherson sy'n cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm neu gredyd gwarant credyd pensiwn; neu

(d) yn aelod o deulu y mae un aelod ohono yn cael —

(i) credyd treth gwaith a chredyd treth plant,

(ii) credyd treth gwaith sy'n cynnwys elfen anabledd neu elfen anabledd difrifol, neu

(iii) credyd treth plant, ond nad yw'n gymwys i gael credyd treth gwaith,

ar yr amod y penderfynir adeg y dyfarniad nad yw incwm perthnasol yr aelod neu'r aelodau y rhoddir y credyd treth iddo neu iddynt o dan adran 14 o Ddeddf Credydau Treth 2002 yn fwy na £15,050.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae gan y personau canlynol hawl i gael taliad llawn treuliau teithio GIG ac i beidio â thalu ffi GIG o gwbl ond mae'n ofynnol iddynt wneud cais am daliad neu am beidio â thalu yn unol â rheoliad 7 (ceisiadau am hawl) —

(a) person sy'n byw yn barhaol —

(i) mewn cartref gofal, neu

(ii) mewn llety a ddarperir gan awdurdod lleol o dan adrannau 21 i 24 a 26 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (darparu llety),

ac sydd wedi bodloni'r awdurdod hwnnw nad yw'n gallu talu am y llety hwnnw yn ôl y gyfradd safonol, neu, yn ôl fel y digwydd, y gyfradd lawn;

(b) ceisydd lloches y darperir cymorth ar ei gyfer o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999;

(c) aelod o'r un teulu â cheisydd lloches a ddisgrifir yn is-baragraff (b);

(ch) plentyn perthnasol o fewn ystyr adran 23A o Ddeddf Plant 1989(17) y mae awdurdod lleol cyfrifol yn darparu cymorth ar ei gyfer o dan adran 23B(8) o'r Ddeddf honno;

(d) unrhyw berson arall sy'n bodloni Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rhan 4 nad yw ei adnoddau cyfalaf yn uwch na'r terfyn cyfalaf ac nad yw ei adnoddau incwm yn uwch na'i anghenion neu eu bod yn fwy na'i anghenion o hanner cant y cant neu lai o swm y ffi a bennwyd yn rheoliad 3(1)(b) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) 2000(18); ac

(dd) aelod o'r un teulu â pherson a ddisgrifir yn is-baragraff (d).

(3) Dim ond os yw'n berson a ddisgrifir ym mharagraff (1) neu (2) ar yr adeg —

(a) Pan y codir y ffi;

(b) yr ysgwyddir y treuliau teithio GIG; neu

(c) yn achos ffi am wasanaethau deintyddol perthnasol pan—

(i) y gwneir y trefniadau ar gyfer y driniaeth neu'r cwrs o driniaeth frys o dan y Ddeddf,

(ii) pan wneir y trefniadau ar gyfer cyflenwi dant gosod neu gyfarpar deintyddol arall o dan y Ddeddf heblaw fel rhan o wasanaethau deintyddol sylfaenol perthnasol, neu

(iii) y codir y ffi,

y mae hawl person i gael taliad llawn treuliau teithio GIG neu i beidio â thalu ffi GIG o gwbl yn codi.

Hawl i beidio â thalu rhan o ffi ac i gael taliad rhannol

6.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), mae gan berson hawl i gael taliad rhannol unrhyw dreuliau teithio GIG ac i beidio â thalu rhan o ffi GIG am wasanaethau deintyddol perthnasol ar yr amod ar yr adeg yr ysgwyddir y treuliau teithio neu y codir y ffi —

(a) nad yw ei adnoddau cyfalaf yn uwch na'r terfyn cyfalaf; a

(b) naill ai —

(i) bod ei adnoddau incwm yn uwch na'i anghenion o lai na thraean o'r ffi, neu, yn ôl fel y digwydd, o lai na'r treuliau teithio a ysgwyddir mewn unrhyw wythnos, neu

(ii) ei fod yn aelod o deulu'r person a ddisgrifir yn is-baragraff (b)(i),

ond mae'n ofynnol iddo wneud cais am beidio â thalu neu am daliad yn unol â rheoliad 7 (ceisiadau am hawl).

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), y swm y mae gan berson hawl i'w gael o dan baragraff (1) yw —

(a) yn achos ffi GIG am wasanaethau deintyddol perthnasol, y gwahaniaeth rhwng y ffi a thair gwaith y swm y mae ei adnoddau incwm yn uwch na'i anghenion; a

(b) yn achos treuliau teithio y gellir eu hadennill, y gwahaniaeth rhwng swm y treuliau a ysgwyddwyd a'r swm y mae ei adnoddau incwm yn uwch na'i anghenion.

(3) Yn achos ffi GIG am wasanaethau deintyddol perthnasol, y ffi y gellir peidio â thalu rhan ohoni o dan y rheoliad hwn, ac y mae'n rhaid ei defnyddio at ddibenion y cyfrifiad y gofynnir amdano o dan baragraff (2)(a), yw'r ffi a godir —

(a) am un cwrs o driniaeth neu gwrs o driniaeth frys, gan gynnwys unrhyw ffi a godir am ddant gosod neu gyfarpar deintyddol arall a gyflenwir yn y cwrs hwnnw o driniaeth; neu

(b) am gyflenwi dant gosod neu gyfarpar deintyddol arall o dan y Ddeddf heblaw fel rhan o wasanaethau deintyddol sylfaenol perthnasol.

Ceisiadau am hawl

7.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i berson sy'n dymuno gwneud cais am hawl o dan reoliad 5(2) (hawl i beidio â thalu ffi o gwbl ac i gael taliad llawn) neu reoliad 6(1) (hawl i beidio â thalu rhan o ffi ac i gael taliad rhannol) wneud cais i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar ffurflen sydd naill ai wedi'i darparu at y diben neu wedi'i chymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2) Ar gais o dan baragraff (1), rhaid i'r ceisydd ddarparu unrhyw dystiolaeth a gwybodaeth y mae'n rhesymol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ofyn amdanynt a hynny o fewn unrhyw amser y mae'n rhesymol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ofyn amdano.

(3) Caniateir i gais gael ei wneud ar ran person arall os yw'r person hwnnw'n methu, oherwydd anallu meddyliol neu gorfforol, â gwneud y cais ei hun.

(4) Os na fydd ceisydd yn cydymffurfio â cheisiadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â'r dystiolaeth neu'r wybodaeth neu'r amseru a grybwyllir ym mharagraff (2), caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru hysbysu'r ceisydd na phenderfynir ar y cais a bod rhaid barnu bod y cais wedi'i gau.

Hysbysiadau hawl

8.—(1) Os bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu, ar gais a wneir o dan reoliad 7 (ceisiadau am hawl), fod gan y ceisydd ac unrhyw aelod o deulu'r ceisydd hawl i beidio â thalu unrhyw ran o ffi GIG neu i gael unrhyw daliad mewn perthynas â threuliau teithio GIG, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru roi hysbysiad hawl i'r ceisydd.

(2) Os oes gan berson hawl i beidio â thalu ffi GIG o gwbl ac i gael taliad llawn treuliau teithio GIG am ei fod yn aelod o deulu a ddisgrifir yn rheoliad 5(1)(e) (teuluoedd credyd treth), rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru roi hysbysiad hawl i'r teulu hwnnw ac mewn achos o'r fath bydd yr hysbysiad yn gymwys i holl aelodau'r teulu hwnnw.

(3) Mae hysbysiad hawl a roddir o dan baragraff (1) yn gymwys i holl aelodau teulu'r ceisydd a rhaid i'r hysbysiad hawl ddatgan —

(a) a oes gan y personau hynny hawl i beidio â thalu ffi o gwbl ac i gael taliad llawn ynteu hawl i beidio â thalu rhan o ffi ac i gael taliad rhannol; a

(b) yn achos peidio â thalu rhan o ffi neu gael taliad rhannol, swm unrhyw ffi GIG am wasanaethau deintyddol perthnasol neu dreuliau teithio GIG nad oes hawl i beidio â'i dalu neu i gael taliad amdano.

(4) Rhaid i hysbysiad hawl a roddir o dan baragraff (1) neu baragraff (2) ddatgan am ba gyfnod o amser y mae'n ddilys a'r dyddiadau y mae'r amser hwnnw'n dechrau ac yn diweddu.

(5) Mae hysbysiad hawl a roddir o dan baragraff (1) yn ddilys am 12 mis gan ddechrau ar ddyddiad y cais ac eithrio —

(a) yn achos hysbysiad a roddir i fyfyriwr amser-llawn ym mlwyddyn olaf neu unig flwyddyn cwrs astudio, ei fod yn ddilys o ddyddiad y cais tan ddiwrnod olaf y cwrs hwnnw;

(b) yn achos hysbysiad a roddir i blentyn perthnasol, ei fod yn ddilys am 12 mis neu tan 18fed pen-blwydd y plentyn, p'un bynnag yw'r olaf;

(c) yn achos hysbysiad a roddir i berson a grybwyllir yn rheoliad 5(2)(b) (ceisydd lloches), ei fod yn ddilys am 6 mis gan ddechrau ar ddyddiad y cais;

(ch) yn achos hysbysiad a roddir i berson a grybwyllir ym mharagraff (6), ei fod yn ddilys am y cyfnod o amser a bennir yn y paragraff hwnnw.

(6) Mae hysbysiad hawl a roddir o dan baragraff (1) yn ddilys am 5 mlynedd gan ddechrau ar ddyddiad y cais os yw'r ceisydd —

(a) yn berson sengl heb fod yn llai na 65 oed; neu

(b) yn un o bâr lle mae un partner heb fod yn llai na 60 oed ac un partner heb fod yn llai na 65 oed,

nad yw'n cael —

(i) dim enillion;

(ii) dim taliadau o gynllun pensiwn galwedigaethol;

(iii) dim taliadau o gynllun pensiwn personol; a

(iv) dim taliadau o gontract blwydd-dal.

(7) Nid yw paragraff (6) yn gymwys i berson y mae ganddo blentyn neu berson ifanc dibynnol yn aelod o'i aelwyd.

(8) Mae hysbysiad hawl a roddir o dan baragraff (2) yn ddilys o unrhyw ddyddiad ac am unrhyw gyfnod y penderfynir arnynt gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(9) Yn ddarostyngedig i baragraffau (10), (12) a (13), ni fydd unrhyw newid yn amgylchiadau ariannol neu amgylchiadau eraill ceisydd neu aelod unrhyw o deulu ceisydd, yn ystod cyfnod dilysrwydd hysbysiad hawl, yn effeithio ar ei ddilysrwydd mewn perthynas â'r cyfnod hwnnw, neu yn achos peidio â thalu rhan o ffi neu daliad rhannol, ar y symiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3)(b).

(10) Rhaid i geisydd y rhoddir hysbysiad hawl iddo sy'n syrthio o dan baragraff (6) hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru am unrhyw newid yng nghyfansoddiad ei deulu neu ei aelwyd yn ystod cyfnod dilysrwydd yr hysbysiad hawl a chaiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru dynnu'r hysbysiad hawl yn ôl neu amrywio'r symiau a ddatganwyd ar yr hysbysiad hawl fel y cyfeirir atynt ym mharagraff (3)(b) os na fydd y ceisydd yn bodloni gofynion paragraffau (6) a (7) mwyach.

(11) Caiff ceisydd y rhoddir hysbysiad hawl i gael taliad rhannol treuliau teithio GIG neu i beidio â thalu rhan o ffi GIG am wasanaethau deintyddol perthnasol wneud cais pellach yn unol â rheoliad 7 ar unrhyw adeg yn ystod oes yr hysbysiad os yw'n credu y dylai'r symiau sydd wedi'u datgan ar yr hysbysiad hawl fel y cyfeirir atynt ym mharagraff 3(b) gael eu gostwng oherwydd newid yn ei amgylchiadau ariannol ef neu yn amgylchiadau ariannol unrhyw aelod o'i deulu.

(12) Rhaid i geisydd y rhoddir hysbysiad hawl iddo o dan y rheoliad hwn ei ddychwelyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn unrhyw achos lle gwelir wedyn fod ei gais wedi'i seilio ar osodiad ffug.

(13) Dim ond at ddibenion yr hawl i beidio â thalu ffioedd GIG ac i gael taliad treuliau teithio GIG yn unol â'r Rheoliadau hyn y mae hysbysiad hawl a roddir o dan y rheoliad hwn yn effeithiol.