(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 yn darparu'r pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol i awdurdodi unrhyw awdurdod perthnasol a bennir mewn Rheoliadau i lunio cynllun, neu i'w gwneud yn ofynnol iddo lunio cynllun, yn darparu ar gyfer talu lwfans sylfaenol (ymhlith eraill) i gynghorwyr a lwfans cyfrifoldeb arbennig i gynghorwyr â chyfrifoldebau arbennig. Mae'r pŵer hwn bellach wedi'i freinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999.
Mae adran 100 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”) yn darparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud rheoliadau mewn cysylltiad â lwfansau teithio a chynhaliaeth sy'n daladwy i aelodau o'r cyfryw awdurdodau perthnasol ag a ragnodir ac mewn cysylltiad â lwfansau sy'n daladwy i aelodau o'r cyfryw awdurdodau perthnasol ag a ragnodir am fynychu cynadleddau a chyfarfodydd. Mae adran 100 o Ddeddf 2000 hefyd yn darparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud rheoliadau mewn cysylltiad ag ad-dalu treuliau a dynnwyd gan aelodau o awdurdodau o'r fath fel a ragnodir gan reoliadau.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch talu lwfansau i aelodau o gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol ac awdurdodau tân ac achub yng Nghymru. Maent hefyd yn gwneud darpariaeth ynglŷn â thalu lwfansau i aelodau awdurdodau Parc Cenedlaethol ac ad-dalu rhai treuliau penodol a dynnwyd gan aelodau o'r fath.
Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru (“awdurdodau”) wneud cynlluniau ar gyfer talu lwfansau i'w haelodau. Wrth wneud cynlluniau, mae'n ofynnol i awdurdodau wneud darpariaeth ar gyfer talu lwfans sylfaenol (rheoliad 7). Caiff cynllun hefyd ddarparu ar gyfer talu lwfans cyfrifoldeb arbennig (rheoliad 8) a lwfans gofal (rheoliad 9).
Rhaid i swm lwfans sylfaenol, lwfans cyfrifoldeb arbennig a lwfans gofal sy'n daladwy i aelod o awdurdod, yn ddarostyngedig i'r ddarpariaeth yn rheoliad 11 mewn perthynas â'r cyfnod cyn 31 Mawrth 2009 a darpariaethau ynghylch uwchraddio yn rheoliad 12, beidio â bod yn fwy na'r uchafsymiau a ragnodir ar gyfer y lwfansau hynny (ac yn achos lwfans cyfrifoldeb arbennig, beidio ag ymestyn y tu hwnt i'r cyfrifoldebau neu ddyletswyddau a ragnodir) mewn cysylltiad â'r awdurdod hwnnw gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (“y Panel”) o dan Ran 6 o'r Rheoliadau hyn (gweler rheoliadau 7(2), 8(3) a 9(3) yn y drefn honno).
Mae rheoliad 8(2) yn darparu na fydd lwfans cyfrifoldeb arbennig yn daladwy i fwy na hanner aelodau awdurdod.
Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu bod yn rhaid i gynllun, mewn perthynas â lwfans sylfaenol, lwfans cyfrifoldeb arbennig a lwfans gofal, bennu bod yn rhaid i awdurdod, pan fydd aelod wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag cyflawni cyfrifoldebau neu ddyletswyddau'r aelod hwnnw fel aelod, wrthod talu'r rhan o bob un o'r lwfansau sy'n daladwy i'r aelod hwnnw mewn cysylltiad â'r cyfrifoldebau neu ddyletswyddau y mae'r aelod hwnnw wedi ei atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag eu cyflawni (gweler rheoliadau 7(6), 8(6) a 9(4)).
Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth bellach ar gyfer cynlluniau i dalu lwfansau. Mae rheoliad 12(1) i (3) yn darparu y caiff cynllun wneud darpariaeth ar gyfer addasu lwfansau'n flynyddol. Rhaid i'r cyfryw addasiad gan awdurdod beidio â bod yn fwy na'r swm a ragnodir mewn cysylltiad â'r awdurdod hwnnw gan y Panel (neu wrth addasu rhaid cyfeirio at unrhyw fynegai a ragnodir gan y Panel) mewn adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol a gynhyrchir gan y Panel.
O dan reoliad 12(4) caiff cynllun ddarparu, pan fydd lwfansau wedi'u talu i aelod am gyfnod pan fydd yr aelod hwnnw (ymhlith eraill) wedi'i atal dros dro, y caiff yr awdurdod ei gwneud yn ofynnol i'r cyfryw ran o'r lwfans ag sy'n berthnasol i'r cyfnod pan fydd yr aelod wedi'i atal dros dro gael ei had-dalu i'r awdurdod.
Mae rheoliad 13 yn darparu bod yn rhaid i gynllun gynnwys darpariaeth i ganiatáu i aelod beidio â derbyn unrhyw ran o'r lwfans y mae gan yr aelod hwnnw hawl iddo o dan y cynllun.
Mae Rhan 4 o'r Rheoliadau hyn yn darparu bod awdurdodau'n talu lwfansau eraill. O dan reoliad 15, mae gan aelodau hawl i dderbyn lwfansau teithio a chynhaliaeth. O dan reoliad 16, caiff awdurdod ddarparu ar gyfer talu lwfans aelodau cyfetholedig i aelodau cyfetholedig sydd â chyfrifoldebau neu ddyletswyddau mewn cysylltiad â mynychu cynadleddau a chyfarfodydd fel a ragnodir gan y Panel.
Mae rheoliad 15(3) a rheoliad 16(6), yn y drefn honno, yn darparu bod yn rhaid i awdurdod, pan fydd aelod neu aelod cyfetholedig wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag cyflawni cyfrifoldebau neu ddyletswyddau'r aelod neu'r aelod cyfetholedig hwnnw fel aelod neu aelod cyfetholedig, wrthod talu'r rhan o bob un o'r lwfansau sy'n daladwy i'r aelod neu'r aelod cyfetholedig hwnnw mewn cysylltiad â'r cyfrifoldebau neu'r dyletswyddau y mae'r aelod neu'r aelod cyfetholedig wedi ei atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag eu cyflawni.
Rhaid i gyfraddau lwfansau teithio a chynhaliaeth sy'n daladwy gan awdurdod, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau ynghylch uwchraddio yn rheoliad 20, beidio â bod yn fwy na'r uchafsymiau a ragnodir mewn cysylltiad â'r lwfansau hynny ar gyfer yr awdurdod hwnnw gan y Panel o dan Ran 6 o'r Rheoliadau hyn (gweler rheoliad 15(2)). Rhaid i swm lwfans aelodau cyfetholedig sy'n daladwy gan awdurdod, yn ddarostyngedig i'r ddarpariaeth yn rheoliad 19 mewn cysylltiad â'r cyfnod cyn 31 Mawrth 2009 a darpariaethau ynghylch uwchraddio yn rheoliad 20, beidio â bod yn fwy na'r uchafswm a ragnodir ar gyfer y lwfans hwnnw (nac ymestyn y tu hwnt i'r cyfrifoldebau a dyletswyddau a ragnodir) mewn cysylltiad â'r awdurdod hwnnw gan y Panel o dan Ran 6 o'r Rheoliadau hyn (gweler rheoliad 16(2)).
O dan reoliad 17 caiff aelod neu aelod cyfetholedig o awdurdod ddewis peidio â derbyn unrhyw ran o'r lwfansau y mae gan yr aelod hwnnw hawl iddynt ac sy'n daladwy o dan Ran 4 o'r Rheoliadau hyn.
Mae rheoliad 18 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau bennu terfyn amser mewn cysylltiad â hawlio lwfansau teithio a chynhaliaeth gan y person y maent yn daladwy iddo. Rhaid i hawliadau teithio a chynhaliaeth (ac eithrio hawliadau am deithio mewn cerbyd modur preifat) gael eu gwneud ar sail “gwirioneddol” a rhaid i dderbynebau perthnasol am dreuliau a dynnwyd fynd gyda hwy, yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad neu gyfyngiad y caiff awdurdod ei bennu.
Mae rheoliad 19 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â'r uchafswm o lwfans aelodau cyfetholedig sy'n daladwy yn y cyfnod cyn 31 Mawrth 2009.
Mae rheoliad 20 yn darparu y caiff awdurdod wneud darpariaeth ar gyfer addasu'n flynyddol lwfansau sy'n daladwy o dan Ran 4 o'r Rheoliadau hyn. Rhaid i'r cyfryw addasiad gan awdurdod beidio â bod yn fwy na'r swm a ragnodir mewn cysylltiad â'r awdurdod hwnnw gan y Panel (neu wrth addasu rhaid cyfeirio at unrhyw fynegai a ragnodir gan y Panel) mewn adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol a gynhyrchir gan y Panel.
O dan reoliad 21 caiff awdurdod ddarparu, pan fydd lwfansau wedi'u talu o dan Ran 4 o'r Rheoliadau hyn i aelod am gyfnod pan fydd yr aelod hwnnw (ymhlith eraill) wedi'i atal dros dro, y caiff yr awdurdod ei gwneud yn ofynnol i'r cyfryw ran o'r lwfans ag sy'n berthnasol i'r cyfnod pan fydd yr aelod wedi'i atal dros dro gael ei had-dalu i'r awdurdod.
Mae Rhan 5 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â threfniadau gweinyddol. Mae rheoliad 22 yn darparu bod datganiad yn dweud nad yw'r hawlydd wedi gwneud ac na fydd yn gwneud unrhyw hawliad arall mewn cysylltiad â'r mater y mae'r hawliad yn ymwneud ag ef yn mynd gyda phob hawliad am lwfansau teithio a chynhaliaeth. Mae rheoliad 24 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cofnodion o lwfansau ac ar gyfer sicrhau bod y cyfryw gofnodion ar gael i etholwr llywodraeth leol.
Mae rheoliad 25(1) a (2) yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyhoeddi cynllun a chyhoeddi symiau a gaiff eu talu o dan y cynllun hwnnw. Mae rheoliad 25(3) yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyhoeddi symiau a gaiff eu talu mewn cysylltiad â lwfansau sy'n daladwy o dan Ran 4 o'r Rheoliadau hyn.
Mae Rhan 6 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer y Panel. Mae rheoliad 26 yn ei gwneud yn ofynnol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru benodi'r Panel. Mae rheoliad 27 yn darparu bod yn rhaid i gyfansoddiad y Panel fod fel a ganlyn: Cadeirydd ac Is-gadeirydd, ynghyd â thri aelod arall. Mae un aelod o'r Panel i'w benodi'n Gadeirydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae rheoliad 28 yn darparu ar gyfer deiliadaeth swydd aelodau'r Panel ac mae rheoliad 29 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyfarfodydd y Panel.
Mae rheoliadau 30 a 31 yn darparu ar gyfer pleidleisio yng nghyfarfodydd y Panel a chworwm y Panel, yn y drefn honno. O dan reoliad 32 Cynulliad Cenedlaethol Cymru sydd i dalu'r treuliau a dynnir gan y Panel wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau ac mae rheoliad 33 yn rhoi hawl i'r Panel i geisio gwybodaeth neu gyngor.
Mae rheoliad 34 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Panel gynhyrchu adroddiad cychwynnol cyn 31 Gorffennaf 2008 (neu'r cyfryw ddyddiad diweddarach ag y byddo Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n cytuno arno). Disgrifir y materion i'w rhagnodi yn yr adroddiad cychwynnol yn rheoliad 34(1) a (2).
Mae rheoliad 35 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Panel gynhyrchu adroddiad blynyddol yn ystod y flwyddyn ariannol 1 Ebrill 2009 i 31 Mawrth 2010 (a beth bynnag erbyn 31 Rhagfyr 2009, neu'r cyfryw ddyddiad diweddarach ag y byddo Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n cytuno arno) ac yn ystod pob blwyddyn ariannol ar ôl hynny. Disgrifir y materion i'w rhagnodi mewn adroddiad blynyddol yn rheoliad 35(1) a (2). Mae rheoliad 35(3)(a) yn ei gwneud yn orfodol i'r Panel, pan fydd yn cynhyrchu adroddiad blynyddol, roi sylw i unrhyw adroddiad atodol a gynhyrchwyd cyn yr adroddiad blynyddol hwnnw sy'n rhagnodi materion sydd ar y pryd yn gymwys i unrhyw awdurdod.
Mae rheoliad 36 yn rhoi hawl i'r Panel i gynhyrchu adroddiadau atodol y caniateir iddynt ragnodi o bryd i'w gilydd ac mewn perthynas ag un awdurdod neu fwy unrhyw un neu rai o'r materion y caiff y Panel eu rhagnodi yn yr adroddiad cychwynnol neu mewn adroddiad blynyddol.
Pan fydd yn cynhyrchu'r adroddiad cychwynnol, adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol, mae'n orfodol i'r Panel ystyried unrhyw sylwadau a ddaw i law oddi wrth awdurdod mewn cysylltiad â swyddogaethau'r Panel o ran cynhyrchu'r cyfryw adroddiad (gweler rheoliadau 34(3), 35(3) a 36(2) yn y drefn honno).
Caiff y Panel hefyd wneud argymhellion ynghylch pa aelodau o awdurdod sydd i fod â hawl i bensiynau yn unol â Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 1997 (gweler rheoliad 37). Caiff y cyfryw argymhellion gan y Panel fod yn rhan o adroddiad cychwynnol y Panel neu o adroddiad atodol.
Mae rheoliad 39 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhoi cyhoeddusrwydd i adroddiadau'r Panel.
Mae Rhan 7 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol) (Cymru) 2002 (“Rheoliadau 2002”).
Mae rheoliad 40(6) yn diwygio rheoliad 8(1) o Reoliadau 2002 (sy'n ymwneud â lwfans cyfrifoldeb arbennig) fel bod categorïau o gyfrifoldeb a ddisgrifir yn rheoliad 8(1) yn cynnwys cadeiryddion pwyllgorau trwyddedu ac is-gadeiryddion pwyllgorau trwyddedu (gweler is-baragraffau (ch) a (d) o reoliad 8(1), yn y drefn honno).
Mae rheoliad 40(7) yn rhoi rheoliad 8(2)(b), (c) ac (ch) newydd yn lle rheoliad 8(2)(b) o Reoliadau 2002. Pan fydd gan awdurdod lle y mae trefniadau gweithrediaeth neu drefniadau amgen ar waith fwy nag un dirprwy arweinydd cabinet neu fwy nag un is-gadeirydd bwrdd, caniateir dosrannu'r swm ychwanegol o ddeg y cant sy'n daladwy o ran lwfans cyfrifoldeb arbennig am y cyfryw gyfrifoldeb ymhlith y dirprwy arweinyddion neu'r is-gadeiryddion hynny.
Mae Rhan 7 o'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau 2002 fel bod yn rhaid, mewn cysylltiad â lwfans sylfaenol, lwfans cyfrifoldeb arbennig, lwfans presenoldeb, lwfans gofal a lwfans colled ariannol, i gynllun a wneir gan awdurdod (neu, fel y bo'n briodol, awdurdod Parc Cenedlaethol) bennu bod yn rhaid i'r awdurdod neu'r awdurdod Parc Cenedlaethol, pan fydd aelod wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag cyflawni cyfrifoldebau neu ddyletswyddau'r aelod hwnnw fel aelod, wrthod talu'r rhan o bob un o'r lwfansau sy'n daladwy i'r aelod hwnnw mewn cysylltiad â'r cyfrifoldebau neu ddyletswyddau y mae'r aelod wedi ei atal rhag eu cyflawni pan fydd yr aelod wedi'i atal dros dro (gweler rheoliadau 40(5), 40(8), 40(10), 40(12) a 40(13) yn y drefn honno).
Mae rheoliad 40(15) yn mewnosod rheoliad 12A newydd yn Rheoliadau 2002 ac o dan y rheoliad hwn caiff cynllun ddarparu, pan fydd lwfansau wedi'u talu i aelod am gyfnod pan fydd yr aelod hwnnw (ymhlith eraill) wedi'i atal dros dro, y caiff yr awdurdod neu'r awdurdod Parc Cenedlaethol, fel y bo'n briodol, ei gwneud yn ofynnol bod y cyfryw ran o'r lwfans ag sy'n berthnasol i'r cyfnod pan fydd yr aelod wedi'i atal dros dro yn cael ei had-dalu i'r awdurdod.
Mae rheoliad 40(16) yn mewnosod rheoliad 12B newydd yn Rheoliadau 2002 sy'n darparu i ba raddau y mae'n rhaid i awdurdod Parc Cenedlaethol roi sylw i faterion a ragnodir yn un o adroddiadau'r Panel cyn iddo wneud cynllun neu ei ddiwygio neu bennu mynegai y gellid cyfeirio ato wrth addasu lwfansau.
Mae rheoliad 40(17) yn rhoi rheoliad 15(2) newydd yn Rheoliadau 2002 sy'n darparu i ba raddau y mae'n rhaid i awdurdod Parc Cenedlaethol roi sylw i faterion a ragnodir yn un o adroddiadau'r Panel cyn penderfynu cyfraddau lwfans teithio a chynhaliaeth.
Mae rheoliad 40(18) yn mewnosod (ymhlith pethau eraill) reoliad 15(4) a (5) newydd yn Rheoliadau 2002. Mae rheoliad newydd 15(4) a (5) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau bennu terfyn amser pan fydd raid gwneud hawliad am lwfansau teithio neu gynhaliaeth.
Mae rheoliad 40(19) yn mewnosod rheoliad 15A newydd yn Rheoliadau 2002 sy'n darparu ar gyfer adennill lwfansau sy'n daladwy gan awdurdod o dan Ran IV o Reoliadau 2002.
Mae rheoliad 40(20) yn mewnosod rheoliad 15B newydd yn Rheoliadau 2002 sy'n rhoi hawl i awdurdod Parc Cenedlaethol i dalu lwfans aelodau cyfetholedig i'w aelodau cyfetholedig. Gwneir hefyd ddarpariaeth ar gyfer cyfrifo'r uchafswm lwfans aelodau cyfetholedig sy'n daladwy gan awdurdod Parc Cenedlaethol ac ar gyfer addasu'n flynyddol lwfans aelodau cyfetholedig.
Diwygir Rheoliadau 2002 hefyd fel bod yn rhaid i'r awdurdod, mewn cysylltiad â lwfansau teithio a chynhaliaeth a lwfans aelodau cyfetholedig (ymysg eraill) a phan fydd aelod neu aelod cyfetholedig o awdurdod Parc Cenedlaethol wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag cyflawni cyfrifoldebau neu ddyletswyddau'r aelod neu'r aelod cyfetholedig hwnnw fel aelod neu aelod cyfetholedig, wrthod talu'r rhan o bob un o'r lwfansau sy'n daladwy i'r aelod neu'r aelod cyfetholedig hwnnw mewn cysylltiad â'r cyfnod pan fydd yr aelod wedi'i atal dros dro (gweler rheoliadau 40(18) ac (20) yn y drefn honno).
Mae rheoliad 40(21) yn mewnosod Rhan IVA newydd yn Rheoliadau 2002 sy'n darparu i awdurdod Parc Cenedlaethol ad-dalu i aelod unrhyw arian a wariwyd gan yr aelod hwnnw mewn perthynas â threuliau a dynnwyd wrth drefnu ar gyfer gofal plant neu ddibynyddion.
Mae rheoliad 40(23) y diwygio rheoliad 19 o Reoliadau 2002 ac yn darparu i awdurdodau gyhoeddi'r cyfanswm a dalwyd mewn blwyddyn i bob aelod o ran lwfansau teithio a chynhaliaeth ac yn darparu i awdurodau Parc Cenedlaethol gyhoeddi'r cyfanswm a dalwyd mewn blwyddyn mewn perthynas ag ad-dalu costau gofal.
Mae Rhan 8 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Awdurdodau Tân) (Cymru) 2004 (“Rheoliadau 2004”). Mae rheoliad 41(5), (6) a (12) yn cywiro gwallau teipograffyddol yn nhestun Cymraeg rheoliadau 8, 10, 16 a 19 o Reoliadau 2004. Mae rheoliad 41(9) yn mewnosod rheoliad 15A newydd yn Rheoliadau 2004 sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer talu lwfans aelodau cyfetholedig gan awdurdod tân ac achub i'w aelodau cyfetholedig. Mae'r rheoliad 15A newydd hwnnw'n darparu (ymhlith pethau eraill) bod yn rhaid i awdurdod tân ac achub, pan fydd aelod cyfetholedig o awdurdod tân ac achub wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag cyflawni cyfrifoldebau a dyletswyddau'r aelod cyfetholedig hwnnw fel aelod cyfetholedig, wrthod talu'r rhan o lwfans aelodau cyfetholedig sy'n daladwy i'r aelod cyfetholedig hwnnw mewn cysylltiad â'r cyfnod pan fydd yr aelod wedi'i atal dros dro.
Mae rheoliad 41(11) yn diwygio rheoliad 17 o Reoliadau 2004 fel bod rhaid i awdurdod tân bennu terfyn amser pan fo rhaid gwneud hawliad am lwfansau teithio neu gynhaliaeth. Mae rheoliad 41(13) yn rhoi rheoliad 19(3) newydd yn Rheoliadau 2004 fel bod rhaid i awdurdod tân wneud trefniadau i gyhoeddi symiau a dalwyd mewn perthynas â lwfans gofal a lwfansau teithio a chynhaliaeth. Mae rheoliad 41(14) yn mewnosod 19(4) newydd yn Rheoliadau 2004 fel bod rhaid i awdurdod tân ar ôl diwedd pob blwyddyn wned trefniadau i gyhoeddi'r cyfanswm a dalwyd i bob aelod cyfetholedig mewn perthynas â lwfanasau aelodau cyfetholedig.
Mae Rhan 9 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer dirymiadau, arbedion ac addasiadau.