Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 8 Diwygiadau i'r Rheoliadau Awdurdod Tân ac Achub

41.—(1) Diwygir y Rheoliadau Awdurdod Tân ac Achub fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2 —

(a) yn lle'r diffiniad o “Rheoliadau 2002”, rhodder —

ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau) (Cymru) 2007;

(b) mewnosoder yn y lle priodol—

ystyr “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”) mewn perthynas ag awdurdod tân yw person nad yw'n aelod o'r awdurdod tân ond —

(a)

sy'n aelod o unrhyw un o bwyllgorau neu o is-bwyllgorau'r awdurdod tân; neu

(b)

sy'n aelod o unrhyw un o gyd-bwyllgorau neu o gyd-is-bwyllgorau'r awdurdod tân, ac sy'n cynrychioli'r awdurdod tân arno,

ac sydd â hawl i bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd i'w benderfynu mewn unrhyw gyfarfod o'r pwyllgor neu o'r is-bwyllgor hwnnw;; ac

(c) yn y diffiniad o “aelod”, yn lle “a pharagraff (2) o reoliad 15” rhodder “, paragraff (2) o reoliad 15 a rheoliad 15A”.

(3) Yn rheoliad 3, yn lle “adran 100(1)(b) a (d)”, rhodder “adran 100(1)(b), (c) a (d)”.

(4) Yn rheoliad 6(3)(a) a (b), yn lle “Reoliadau 2002” rhodder “Reoliadau 2007”.

(5) Yn nhestun Cymraeg rheoliad 8(4), yn is-baragraffau (a) a (b) hepgorer “ar gyfer y flwyddyn sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2006”.

(6) Yn nhestun Cymraeg rheoliadau 8(6), 10(a) ac 16(a) yn lle “gyfrifoldebau a'i ddyletswyddau”, rhodder “gyfrifoldebau neu ei ddyletswyddau”.

(7) Yn rheoliad 13(2), hepgorer is-baragraff (a).

(8) Yn rheoliad 14(2), yn lle “Reoliadau 2002” rhodder “Reoliadau 2007”.

(9) Ar ôl rheoliad 15, mewnosoder —

15A.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (7), caiff awdurdod tân ddarparu ar gyfer talu lwfans am bob blwyddyn i aelod cyfetholedig mewn cysylltiad â mynychu cynadleddau a chyfarfodydd (lwfans aelodau cyfetholedig).

(2) Wrth benderfynu mewn cysylltiad â pha gyfrifoldebau neu ddyletswyddau y caniateir talu lwfans aelodau cyfetholedig, rhaid i awdurdod tân roi sylw i'r materion a ragnodir mewn unrhyw adroddiad a lunnir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol o dan Ran 6 o Reoliadau 2007, i'r graddau y mae'r materion hynny'n ymwneud â chyfrifoldebau neu ddyletswyddau y caniateir talu lwfans aelodau cyfetholedig mewn cysylltiad â hwy, a'r rheini'n faterion sydd am y tro yn gymwys i unrhyw un neu rai o awdurdodau cyfansoddol yr awdurdod tân hwnnw.

(3) Rhaid i swm y lwfans aelodau cyfetholedig sy'n daladwy i aelod cyfetholedig gan awdurdod tân am flwyddyn beidio â bod yn fwy na'r swm sy'n hafal i gyfartaledd pob lwfans aelodau cyfetholedig (os o gwbl) sy'n daladwy gan awdurdodau cyfansoddol yr awdurdod tân hwnnw yn y flwyddyn honno o dan Reoliadau 2007.

(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5) caiff awdurdod tân wneud darpariaeth i addasu'n flynyddol lwfans aelodau cyfetholedig.

(5) Rhaid i addasiad blynyddol o lwfans aelodau cyfetholedig gan awdurdod tân beidio â bod yn fwy na'r swm sy'n hafal i gyfartaledd pob addasiad blynyddol (os o gwbl) a wneir gan awdurdodau cyfansoddol yr awdurdod tân hwnnw i lwfansau aelodau cyfetholedig sy'n daladwy gan yr awdurdodau hynny yn y flwyddyn honno o dan Reoliadau 2007.

(6) Os rhan yn unig o flwyddyn yw tymor mewn swydd aelod cyfetholedig, bydd hawl yr aelod cyfetholedig hwnnw'n hawl i daliad o'r cyfryw gyfran o lwfans aelodau cyfetholedig sy'n daladwy i'r aelod cyfetholedig hwnnw ag sy'n cynrychioli nifer y dyddiau y mae'r aelod cyfetholedig yn dal y swydd honno yn ystod y flwyddyn fel cyfran o nifer y dyddiau yn y flwyddyn honno.

(7) Pan fydd aelod cyfetholedig wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag cyflawni cyfrifoldebau neu ddyletswyddau'r aelod cyfetholedig hwnnw fel aelod cyfetholedig o awdurdod tân yn unol â Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu â rheoliadau a wneir o dan y Rhan honno, rhaid i'r awdurdod tân wrthod talu unrhyw lwfans aelodau cyfetholedig sy'n daladwy i'r aelod cyfetholedig hwnnw mewn cysylltiad â'r cyfnod pan fo'r aelod cyfetholedig hwnnw wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro.

15B.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 15A(3) a (5), caiff awdurdod tân addasu swm y lwfans aelodau cyfetholedig sy'n daladwy am flwyddyn, a hynny ar unrhyw adeg yn y flwyddyn honno.

(2) Pan fydd awdurdod tân yn gwneud y cyfryw addasiad, p'un ai'n unol â rheoliad 15A(5) neu fel arall, caiff yr awdurdod tân hwnnw ddarparu bod yr hawl i gael lwfans aelodau cyfetholedig fel y'i haddasir i fod yn gymwys gydag effaith o ddechrau'r flwyddyn y gwneir yr addasiad ynddi..

(10) Yn rheoliad 16 —

(a) yn lle “aelod dan sylw”, rhodder “aelod neu aelod cyfetholedig dan sylw”; a

(b) ym mharagraff (a) —

(i) yn lle “o'i gyfrifoldebau neu ei ddyletswyddau”, rhodder “o gyfrifoldebau neu ddyletswyddau'r aelod neu'r aelod cyfetholedig hwnnw”;

(ii) yn lle “aelod, cadeirydd”, rhodder “aelod, aelod cyfetholedig, cadeirydd”; a

(iii) ym mharagraff (b), ar ôl “aelod” mewnosoder “neu aelod cyfetholedig”.

(11) Ar ôl rheoliad 17(2), mewnosoder —

(3) Rhaid i awdurdod tân bennu o fewn pa gyfnod o amser, yn cychwyn ar y dyddiad y mae hawl i gael lwfans teithio neu lwfans cynhaliaeth yn dechrau, y mae'n rhaid i'r person y mae'r lwfans yn daladwy iddo hawlio'r cyfryw lwfans.

(4) Nid oes dim ym mharagraff (3) yn rhwystro awdurdod rhag gwneud taliad pan na chaiff y lwfans ei hawlio o fewn y cyfnod a bennir felly..

(12) Yn nhestun Cymraeg rheoliad 19(1), ar ôl “bob awdurdod”, mewnosoder “tân”.

(13) Yn lle rheoliad 19(3), rhodder —

(3) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn, rhaid i bob awdurdod tân wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi o fewn ardal yr awdurdod tân y cyfanswm a dalwyd ganddo yn y flwyddyn honno i bob aelod mewn cysylltiad â—

(a) lwfans gofal;

(b) lwfans teithio; a

(c) lwfans cynhaliaeth..

(14) Ar ôl rheoliad 19(3), mewnosoder —

(4) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn, rhaid i bob awdurdod tân wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi o fewn ardal yr awdurdod tân y cyfanswm a dalwyd ganddo yn y flwyddyn honno i bob aelod cyfetholedig mewn cysylltiad â lwfans aelodau cyfetholedig..

RHAN 9 Dirymiadau ac arbedion

Dirymiadau, arbedion ac addasiadau

42.—(1) Mae Rheoliadau 2002 i barhau i fod yn effeithiol heb ragfarnu adran 16 o Ddeddf Dehongli 1978(13) mewn perthynas â hawlio lwfansau neu daliadau eraill mewn cysylltiad â dyletswyddau a gyflawnir cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym yn unol â rheoliad 1(1)(b).

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (1) dirymir drwy hyn Reoliadau 2002 ac eithrio i'r graddau y maent yn gymwys i —

(a) awdurdodau Parciau Cenedlaethol; a

(b) Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau) 1991(14).

(3) Ni fydd adrannau 174, 175 a 177 o Ddeddf 1972 yn gymwys i awdurdodau.

(4) Wrth ei chymhwyso i awdurdodau bydd is-adran (2) o adran 176 o Ddeddf 1972 yn effeithiol fel pe bai'r cyfeiriad at adran 174 o Ddeddf 1972 yn gyfeiriad at y Rheoliadau hyn ac fel pe bai'r cyfeiriad at ddyletswydd a gymeradwywyd yn gyfeiriad at y term hwnnw fel y'i diffinnir yn y Rheoliadau hyn.

43.  Dirymir drwy hyn Reoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol) (Pensiynau) (Cymru) 2003(15).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(16)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

28 Mawrth 2007

(13)

1978 p.30. Back [13]

(14)

Dirymwyd O.S.1991/351 gan O.S. 2002/1895 ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â hawlio lwfansau neu daliadau eraill mewn cysylltiad â dyletswyddau a gyflawnwyd cyn 1 Ebrill 2002. Back [14]

(15)

O.S. 2003/2963 (Cy.280). Back [15]