Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 5 Trefniadau Gweinyddol

Osgoi dyblygu

22.—(1) Rhaid i hawliad am daliad o ran lwfans teithio neu lwfans cynhaliaeth gynnwys datganiad wedi'i lofnodi gan yr aelod, neu rhaid anfon y cyfryw ddatganiad gyda'r hawliad, a rhaid datgan yn y datganiad nad yw'r aelod wedi gwneud ac na fydd yn gwneud unrhyw hawliad arall mewn cysylltiad â'r mater y mae'r hawliad yn ymwneud ag ef.

(2) Ni chaniateir gwneud unrhyw daliad i berson o dan unrhyw ddarpariaeth yn adran 176 o Ddeddf 1972 mewn cysylltiad â mater y mae taliad wedi'i wneud mewn cysylltiad ag ef i'r person hwnnw yn unol ag unrhyw un o ddarpariaethau cynllun o dan Ran 2 o'r Rheoliadau hyn.

Talu lwfansau

23.  Rhaid i unrhyw daliad o ran lwfans teithio neu lwfans cynhaliaeth i aelod o banel apêl a gyfansoddir yn unol â rheoliadau o dan adran 94 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(10) gael ei wneud gan yr awdurdod sy'n cynnal yr ysgol neu'r ysgolion y cyfansoddwyd y panel apêl mewn perthynas â hi neu â hwy.

Cofnodion o lwfansau

24.—(1) Rhaid i awdurdod gadw cofnod o 'r taliadau y mae'n eu gwneud yn unol â'r Rheoliadau hyn neu ag unrhyw gynllun a wneir yn unol â hwy.

(2) Rhaid i gofnod o'r fath —

(a) pennu enw'r derbynnydd a swm a natur pob taliad; a

(b) bod ar gael, ar bob adeg resymol, i'w archwilio (yn ddi-dâl) gan unrhyw etholwr llywodraeth leol (o fewn yr ystyr yn adran 270(1) o Ddeddf 1972) yn ardal yr awdurdod.

(3) Caiff person y mae ganddo hawl i archwilio cofnod o dan baragraff (2) wneud copi o unrhyw rhan ohono o dalu'r cyfryw ffi resymol ag y byddo'r awdurdod yn gofyn amdani.

Cyhoeddusrwydd

25.—(1) Rhaid i awdurdod, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud neu ddiwygio unrhyw gynllun a wneir yn unol â'r Rheoliadau hyn, wneud trefniadau i'w gyhoeddi o fewn ardal yr awdurdod.

(2) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn y mae'r cynllun yn ymwneud â hi, rhaid i awdurdod wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi o fewn ardal yr awdurdod y cyfanswm a dalwyd ganddo yn y flwyddyn honno o dan y cynllun i bob aelod sy'n gynghorydd mewn cysylltiad â phob un o'r canlynol—

(a) lwfans sylfaenol;

(b) lwfans cyfrifoldeb arbennig; ac

(c) lwfans gofal.

(3) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn, rhaid i awdurdod wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi o fewn ardal yr awdurdod y cyfanswm a dalwyd ganddo yn y flwyddyn honno i bob un o'r aelodau mewn cysylltiad â'r canlynol—

(a) lwfans teithio

(b) lwfans cynhaliaeth; ac

(c) lwfans aelodau cyfetholedig.

RHAN 6 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

Sefydlu'r Panel

26.  Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru benodi panel parhaol a'i enw fydd Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

Aelodaeth y Panel

27.—(1) Rhaid i gyfansoddiad y Panel a benodir o dan reoliad 26 fod fel a ganlyn: Cadeirydd ac Is-gadeirydd, ynghyd â thri aelod arall.

(2) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru i benodi un aelod o'r Panel yn Gadeirydd y Panel.

(3) Nid yw unrhyw berson i fod yn aelod o'r Panel os yw wedi'i anghymwyso yn rhinwedd paragraff (4).

(4) Mae'r personau a ganlyn wedi'u hanghymwyso rhag bod yn aelodau o'r Panel —

(a) aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, o Dy'r Cyffredin, o Dŷ'r Arglwyddi, o Senedd Ewrop, o awdurdod, o gyngor tref neu gyngor cymuned; neu

(b) person sydd wedi'i anghymwyso(11) rhag bod yn aelod o awdurdod neu rhag cael ei wneud yn aelod o awdurdod ac eithrio fel swyddog yng nghyflogaeth awdurdod.

Deiliadaeth swydd aelodau'r Panel

28.—(1) Rhaid i berson a benodir yn aelod o'r Panel ddal swydd ac ymadael â swydd yn unol ag amodau'r offeryn sy'n penodi'r person hwnnw i'r swydd honno fel a benderfynir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) ni chaniateir i unrhyw berson gael ei benodi'n aelod o'r Panel am gyfnod hwy na phedair blynedd.

(3) Bydd person sy'n peidio â bod yn aelod o'r Panel yn gynwys i'w ailbenodi.

(4) Mae aelod a benodir i sedd sy'n digwydd bod yn wag i wasanaethu yn y swydd honno hyd y dyddiad y byddai tymor mewn swydd y person yr etholir yr aelod hwnnw yn ei le wedi dod i ben.

Cyfarfodydd y Panel

29.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r Panel gyfarfod unwaith y flwyddyn o leiaf.

(2) Rhaid i gyfarfod cyntaf y Panel gael ei gynnal o fewn cyfnod o chwe wythnos sy'n cychwyn ar ddyddiad yr offerynnau sy'n penodi personau'n aelodau o'r Panel (neu ar y cyfryw ddyddiad diweddarach ag y byddo Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno arno).

(3) Yng nghyfarfod cyntaf y Panel, neu pan fydd swydd Is-gadeirydd yn digwydd bod yn wag, rhaid i aelodau'r Panel ethol un o'u plith (ac eithrio'r Cadeirydd) i fod yn Is-gadeirydd y Panel.

(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), y Cadeirydd sydd i lywyddu yng nghyfarfodydd y Panel.

(5) Os bydd y Cadeirydd yn absennol o un o gyfarfodydd y Panel, Is-gadeirydd y Panel sydd i lywyddu.

(6) Mae Cadeirydd neu Is-gadeirydd i ddal y cyfryw swydd hyd oni ddaw tymor mewn swydd y person hwnnw fel aelod i ben.

(7) Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaethau a wneir gan y Rheoliadau hyn, caiff aelodau'r Panel reoleiddio'i gweithdrefn eu hunain.

Pleidleisio

30.—(1) Rhaid i gwestiwn sydd i'w benderfynu gan y Panel gael ei benderfynu gan fwyafrif y pleidleisiau a gaiff eu bwrw gan yr aelodau sy'n bresennol yn y cyfarfod ac sy'n pleidleisio ar y cwestiwn.

(2) Os bydd nifer y pleidleisiau'n gyfartal, bydd y person sy'n llywyddu cyfarfod y Panel i gael ail bleidlais neu bleidlais fwrw.

Cworwm

31.  Cworwm o dri fydd i'r Panel a rhaid iddynt gynnwys—

(a) y Cadeirydd; neu

(b) yr Is-gadeirydd.

Gweinyddu

32.—(1) Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru dalu'r treuliau a dynnir gan y Panel wrth iddo gyflawni'i swyddogaethau a chaiff dalu aelodau'r Panel y cyfryw lwfansau neu dreuliau ag y byddo'n penderfynu arnynt.

(2) Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sicrhau bod cefnogaeth weinyddol briodol ar gael i'r Panel.

33.  Caiff y Panel, wrth iddo gyflawni'i swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, geisio gwybodaeth neu gyngor gan unrhyw gorff neu berson.

Yr Adroddiad Cychwynnol

34.—(1) Rhaid i'r Panel gynhyrchu adroddiad (“yr adroddiad cychwynnol”) sy'n rhagnodi mewn perthynas â phob awdurdod —

(a) y cyfrifoldebau neu ddyletswyddau y caniateir talu —

(i) lwfans cyfrifoldeb arbennig; a

(ii) lwfans aelodau cyfetholedig,

mewn cysylltiad â hwy; a

(b) yr uchafsymiau sy'n daladwy o ran —

(i) lwfans sylfaenol;

(ii) lwfans cyfrifoldeb arbennig;

(iii) lwfans gofal;

(iv) lwfans teithio;

(v) lwfans cynhaliaeth; a

(vi) lwfans aelodau cyfetholedig.

(2) At ddibenion yr adroddiad cychwynnol, caiff y Panel —

(a) rhagnodi uchafsymiau gwahanol mewn perthynas ag awdurdodau gwahanol, a

(b) mewn perthynas â —

(i) lwfans cyfrifoldeb arbennig; a

(ii) lwfans aelodau cyfetholedig,

rhagnodi uchafsymiau gwahanol mewn cysylltiad â chyfrifoldebau neu ddyletswyddau gwahanol.

(3) Wrth gynhyrchu'r adroddiad cychwynnol, rhaid i'r Panel ystyried unrhyw sylw a ddaw i law oddi wrth awdurdod mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau'r Panel o dan y rheoliad hwn.

(4) Rhaid i'r Panel gynhyrchu'r adroddiad cychwynnol cyn 31 Gorffennaf 2008 (neu'r cyfryw ddyddiad diweddarach ag y byddo Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno arno).

Adroddiadau Blynyddol

35.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5) , rhaid i'r Panel gynhyrchu adroddiad ym mhob blwyddyn (“adroddiad blynyddol”) sy'n rhagnodi mewn perthynas â phob awdurdod —

(a) uchafswm yr addasiad blynyddol y caniateir ei wneud gan yr awdurdod hwnnw mewn perthynas â'r flwyddyn ganlynol —

(i) i lwfans sylfaenol;

(ii) i lwfans cyfrifoldeb arbennig;

(iii) i lwfans gofal;

(iv) i lwfans teithio

(v) i lwfans cynhaliaeth; a

(vi) i lwfans aelodau cyfetholedig.

(b) mynegai y caniateir i'r awdurdod hwnnw addasu'n flynyddol, drwy gyfeirio ato, un neu fwy o'r lwfansau a grybwyllir ym mharagraff (a)(i) i (vi) mewn perthynas â'r flwyddyn ganlynol.

(2) At ddibenion —

(a) paragraff (1)(a), caiff y Panel ragnodi uchafsymiau gwahanol mewn cysylltiad ag addasiadau blynyddol ar gyfer awdurdodau gwahanol; a

(b) paragraff (1)(b), caiff y Panel ragnodi mynegeion gwahanol ar gyfer awdurdodau gwahanol.

(3) Wrth gynhyrchu adroddiad blynyddol, rhaid i'r Panel—

(a) gymryd i ystyriaeth unrhyw adroddiad atodol a gynhyrchwyd gan y Panel cyn yr adroddiad blynyddol hwnnw ac sy'n rhagnodi materion sydd ar y pryd yn gymwys i unrhyw awdurdod; a

(b) ystyried unrhyw sylw a ddaw i law oddi wrth awdurdod mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau'r Panel o dan y rheoliad hwn.

(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i'r Panel gynhyrchu pob adroddiad blynyddol erbyn 31 Rhagfyr yn y flwyddyn cyn y flwyddyn y mae'r adroddiad hwnnw'n ymwneud â hi.

(5) Rhaid i'r Panel gynhyrchu'r adroddiad blynyddol cyntaf yn ystod y flwyddyn ariannol sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2010 a beth bynnag cyn 31 Rhagfyr 2009 (neu'r cyfryw ddyddiad diweddarach ag y byddo Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n cytuno arno).

Adroddiadau Atodol

36.—(1) Heb ragfarnu rheoliadau 34 neu 35, caiff y Panel ar unrhyw adeg ar ôl cynhyrchu'r adroddiad cychwynnol, ac o bryd i'w gilydd ar ôl hynny, gynhyrchu adroddiad (“adroddiad atodol”) yn rhagnodi mewn perthynas ag un awdurdod neu fwy unrhyw un neu rai o'r materion y caiff y Panel eu rhagnodi yn unol â rheoliadau 34 a 35.

(2) Wrth benderfynu p'un ai i gynhyrchu adroddiad atodol ai peidio ac, os bydd wedi penderfynu gwneud hynny, wrth gynhyrchu adroddiad atodol, rhaid i'r Panel ystyried unrhyw sylw a ddaw i law oddi wrth awdurdod mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau'r Panel o dan y rheoliad hwn.

Pensiynau

37.—(1) Caiff y Panel wneud argymhellion ynghylch pa aelodau o awdurdod sydd i fod â hawl i bensiynau yn unol â Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 1997(12).

(2) Wrth arfer ei swyddogaethau o dan baragraff (1), caiff y Panel wneud argymhellion gwahanol mewn perthynas â phob un o'r awdurdodau y mae'n arfer y swyddogaethau hynny mewn cysylltiad ag ef.

(3) Caiff argymhellion o dan baragraff (1) fod yn rhan o adroddiad a gynhyrchir gan y Panel yn unol â rheoliadau 34 neu 36.

38.—(1) Caiff awdurdod —

(a) penderfynu pa aelodau o'r awdurdod sydd â hawl i bensiynau'n unol â Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 1997; a

(b) darparu mewn cysylltiad â'r aelodau hynny y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) yr ymdrinnir â lwfans sylfaenol a lwfans cyfrifoldeb arbennig fel symiau y mae pensiynau'n daladwy mewn cysylltiad â hwy.

(2) Rhaid i awdurdod wrth iddo wneud unrhyw benderfyniad yn unol â'r rheoliad hwn wneud hynny ddim ond mewn cysylltiad ag aelod a argymhellwyd gan y Panel fel aelod cymwys i gael y cyfryw hawl o dan reoliad 37.

Cyhoeddusrwydd i Adroddiadau'r Panel

39.—(1) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r Panel gynhyrchu adroddiad o dan reoliad 34, 35 neu 36, rhaid i'r Panel anfon yr adroddiad hwnnw ymlaen i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i adroddiad a gynhyrchwyd gan y Panel o dan reoliad 34 neu 35 ddod i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru anfon copi o'r adroddiad hwnnw at

(a) pob awdurdod;

(b) pob awdurdod Parc Cenedlaethol; ac

(c) pob awdurdod tân ac achub.

(3) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r adroddiad a gynhyrchwyd gan y Panel o dan reoliad 36 ddod i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru anfon copi o'r adroddiad at —

(a) yr awdurdod y mae'r adroddiad hwnnw'n ymwneud ag ef;

(b) unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae'r awdurdod hwnnw o fewn ei ardal; ac

(c) yr awdurdod tân ac achub y mae'r awdurdod hwnnw o fewn ei ardal.

(4) Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru —

(a) cyhoeddi manylion adroddiad a ddaw i law o dan baragraff (1) mewn un papur newydd neu fwy sydd â chylchrediad trwy Gymru gyfan;

(b) os yr adroddiad cychwynnol neu os adroddiad blynyddol yw'r adroddiad a ddaw i law o dan baragraff (1), gynnwys yn y cyhoeddiad o dan is-baragraff (a) ddatganiad yn dweud y bydd copïau o'r adroddiad ar gael i aelodau'r cyhoedd ym mhrif swyddfeydd yr awdurdodau ar y cyfryw adegau ag y byddo'r awdurdodau hynny'n eu pennu;

(c) os adroddiad atodol yw'r adroddiad a ddaw i law o dan baragraff (1), gynnwys yn y cyhoeddiad o dan is-baragraff (a) ddatganiad -

(i) yn dweud y bydd copïau o'r adroddiad hwnnw ar gael i aelodau o'r cyhoedd ym mhrif swyddfeydd yr awdurdod neu'r awdurdodau y mae'r adroddiad yn ymwneud ag ef neu â hwy ar y cyfryw adegau ag y byddo'r awdurdodau hynny'n eu pennu; a

(ii) yn pennu'r awdurdod neu'r awdurdodau y mae'r adroddiad yn ymwneud ag ef neu â hwy.

(5) Rhaid i bob awdurdod sicrhau, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i un o adroddiadau'r Panel o dan baragraff (2) neu (3) ddod i law —

(a) bod copïau ar gael i'w harchwilio gan aelodau'r cyhoedd ym mhrif swyddfa'r awdurdod ar y cyfryw adegau rhesymol ag y byddo'r awdurdod yn eu pennu; a

(b) bod copi'n cael ei gyflenwi i unrhyw berson sy'n gofyn amdano ac sy'n talu i'r awdurdod y cyfryw ffi resymol ag y byddo'r awdurdod yn penderfynu arni.

(10)

1998 p.31; diwygiwyd adran 94 gan Ddeddf Addysg 2002 (p.31), adran 51, gweler Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1398) (Cy.112). Back [10]

(11)

Gweler adran 80 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70) ac adrannau 79 a 83(11) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22). Back [11]

(12)

O.S. 1997/1612, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1997/1613, O.S. 1998/1238, O.S. 1999/1212, O.S. 1999/3438, O.S. 2000/3025, O.S. 2001/3649, O.S. 2001/770, O.S. 2001/1481, O.S. 2001/2401, O.S. 2002/206, O.S. 2002/819, O.S. 2003/2249. Gwnaed diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i Gymru. Back [12]