Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 1 Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau) (Cymru) 2007 a daw'r Rheoliadau hyn i rym —

(a) at ddibenion —

(i) y rheoliad hwn;

(ii) rheoliad 2;

(iii) Rhan 6;

(iv) paragraffau (1), (5) i (8), (10) i (13), (15), (18), (19) a (21) i (23) o reoliad 40;

(v) paragraffau (1), (5), (6) (7) ac (11) i (13) o reoliad 41; a

(vi) rheoliad 43,

ar 1 Mehefin 2007; a

(b) at bob diben arall, ar y diwrnod sydd bedwar mis ar ôl y diwrnod y mae'r adroddiad a gynhyrchwyd gan y Panel, yn unol â rheoliad 39(1), yn dod i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â rheoliad 34.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “adroddiad atodol” (“supplementary report”) yw adroddiad a gynhyrchir gan y Panel yn unol â rheoliad 36 o'r Rheoliadau hyn;

ystyr “adroddiad blynyddol” (“annual report”) yw adroddiad a gynhyrchir gan y Panel yn unol â rheoliad 35 o'r Rheoliadau hyn;

ystyr “adroddiad cychwynnol” (“initial report”) yw'r adroddiad a gynhyrchir gan y Panel yn unol â rheoliad 34;

mae “aelod” (“member”) yn cynnwys, mewn perthynas â Rhannau 2 i 5 o'r Rheoliadau hyn ac oni fynegir yn benodol fel arall, aelod cyfetholedig, aelod o bwyllgor neu aelod o is-bwyllgor;

ystyr “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”) o ran awdurdod yw person nad yw'n aelod o'r awdurdod ond —

(a)

sy'n aelod o unrhyw un o bwyllgorau neu o is-bwyllgorau'r awdurdod; neu

(b)

sy'n aelod o unrhyw un o gyd-bwyllgorau neu o gyd-is-bwyllgorau'r awdurdod, ac sy'n cynrychioli'r awdurdod arno,

ac sydd â hawl i bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd i'w benderfynu mewn unrhyw gyfarfod o'r pwyllgor neu o'r is-bwyllgor hwnnw;

ystyr “awdurdod” (“authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

ystyr “awdurdod Parc Cenedlaethol” (“National Park Authority”) yw awdurdod Parc Cenedlaethol a sefydlwyd o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(4);

ystyr “awdurdod tân ac achub” (“fire and rescue authority”) yw awdurdod tân ac achub a ffurfiwyd drwy gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 neu drwy gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno'n gymwys iddo(5);

ystyr “blwyddyn” (“year”) —

(a)

at ddibenion rheoliad 28(2), yw cyfnod o ddeuddeng mis;

(b)

at ddibenion rheoliad 29(1), yw unrhyw gyfnod o ddeuddeng mis yn dod i ben ar 31 Rhagfyr; ac

(c)

at bob diben arall —

(i)

yw'r cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym yn unol â rheoliad 1(1)(b) ac sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2009; a

(ii)

yw unrhyw gyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth ar ôl hynny;

ystyr “bwrdd” (“board”) yw pwyllgor awdurdod a sefydlwyd o dan rheoliad 4 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2007(6);

ystyr “cynllun” (“scheme”) yw cynllun talu lwfansau a wnaed yn unol â Rhannau 2 a 3 o'r Rheoliadau hyn;

ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972(7);

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000;

ystyr “dyletswydd a gymeradwywyd” (“approved duty”) yw —

(a)

presenoldeb mewn un o gyfarfodydd yr awdurdod neu o bwyllgorau'r awdurdod neu un o gyfarfodydd unrhyw gorff y mae'r awdurdod yn gwneud penodiadau neu enwebiadau iddo neu un o gyfarfodydd unrhyw un o bwyllgorau corff o'r fath;

(b)

presenoldeb mewn un o gyfarfodydd unrhyw gymdeithas awdurdodau y mae'r awdurdod yn aelod ohoni;

(c)

presenoldeb mewn unrhyw gyfarfod arall y mae'r awdurdod neu un o bwyllgorau'r awdurdod neu un o gyd-bwyllgorau'r awdurdod ynghyd ag un awdurdod arall neu fwy yn awdurdodi ei gynnal;

(ch)

dyletswydd yr ymgymerir â hi at ddiben cyflawni swyddogaethau gweithrediaeth neu mewn cysylltiad â'u cyflawni pan fydd gan yr awdurdod ar waith drefniadau gweithredol o fewn ystyr Rhan II o Ddeddf 2000;

(d)

dyletswydd yr ymgymerir â hi yn unol â rheol sefydlog sy'n ei gwneud yn ofynnol i aelod neu aelodau fod yn bresennol pan agorir dogfennau tendro;

(dd)

dyletswydd yr ymgymerir â hi mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw un o swyddogaethau'r awdurdod sy'n rhoi pŵer i'r awdurdod neu'n ei gwneud yn ofynnol iddo arolygu mangreoedd neu awdurdodi eu harolygu;

(e)

presenoldeb mewn unrhyw achlysur hyfforddi neu ddatblygu a gymeradwyir gan yr awdurdod neu gan weithrediaeth neu fwrdd yr awdurdod; ac

(h)

unrhyw ddyletswydd arall a gymeradwyir gan yr awdurdod, neu unrhyw ddyletswydd arall mewn dosbarth a gymeradwyir felly, a honno'n ddyletswydd yr ymgymerir â hi at ddiben cyflawni swyddogaethau'r awdurdod neu unrhyw un o'i bwyllgorau neu mewn cysylltiad â'u cyflawni;

ystyr “gweithrediaeth” (“executive”) yw gweithrediaeth awdurdod ar ffurf a bennir yn adran 11(2) i (5) o Ddeddf 2000;

mae i'r ymadrodd “lwfans aelodau cyfetholedig” (“co-optees' allowance”) yr ystyr sydd iddo yn rheoliad 16 o'r Rheoliadau hyn;

mae i'r ymadrodd “lwfans cyfrifoldeb arbennig” (“special responsibility allowance”) yr ystyr sydd iddo yn rheoliad 8 o'r Rheoliadau hyn;

mae i'r ymadrodd “lwfans gofal” (“care allowance”) yr ystyr sydd iddo yn rheoliad 9 o'r Rheoliadau hyn;

mae i'r ymadrodd “lwfans sylfaenol” (“basic allowance”) yr ystyr sydd iddo yn rheoliad 7 o'r Rheoliadau hyn;

mae i'r ymadrodd “lwfans teithio a chynhaliaeth” (“travelling and subsistence allowance”) yr ystyr sydd iddo yn rheoliad 15 o'r Rheoliadau hyn;

ystyr “Panel” (“Panel”) yw'r panel a sefydlir yn unol â Rhan 6 o'r Rheoliadau hyn;

mae “pwyllgor” (“committee”) yn cynnwys is-bwyllgor;

ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 2002(8);

ystyr “Rheoliadau Awdurdod Tân ac Achub” (“Fire and Rescue Authority Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Awdurdodau Tân) (Cymru) 2004(9);

mae i'r ymadrodd “swyddog priodol” yr ystyr sydd i “proper officer” yn adran 270(3) o Ddeddf 1972;

ystyr “trefniadau amgen” (“alternative arrangements”) yw trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau awdurdod sy'n swyddogaethau o fath a ddisgrifir yn adran 32(1) o Ddeddf 2000; ac

mae i'r ymadrodd “trefniadau gweithrediaeth” yr ystyr a roddir i “executive arrangements” gan adran 10(1) o Ddeddf 2000.

Awdurdodau perthnasol rhagnodedig

3.  Rhagnodir awdurdodau'n awdurdodau perthnasol at ddibenion adran 100(1)(b) ac (c) o Ddeddf 2000.

(6)

O.S. 2007/397 (Cy.43). Back [6]

(7)

1972 p.70. Back [7]

(8)

O.S. 2002/1895 (Cy.196). Back [8]

(9)

O.S. 2004/2555 (Cy.227) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/2929 (Cy.214). Back [9]