Offerynnau Statudol
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
28 Mawrth 2007
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(1)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(1) ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru(2) ynghyd â'r pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 100 a 105 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(3), ac yntau wedi ymgynghori fel sy'n ofynnol gan adran 100(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000:
1989 p.42; diwygiwyd adran 18 gan Ddeddf yr Heddlu a Llysoedd Ynadon 1994 (p.29), Atodlen 4, paragraff 37; Deddf Addysg 1996 (p.56), Atodlen 37, paragraff 97; a Deddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22), adran 99. Back [1]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Back [2]