Offerynnau Statudol
GWASANAETHAU TÅN AC ACHUB, CYMRU
PENSIYNAU, CYMRU
Wedi'i wneud
28 Mawrth 2007
Yn dod i rym
29 Mawrth 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 34, 60 a 62 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(1) ac ar ôl ymgynghori â'r personau y mae'n ystyried eu bod yn briodol yn unol ag adran 34(5) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 29 Mawrth 2007, ac mae'n effeithiol o 6 Ebrill 2006 ymlaen.
(3) Daw Rhan 13 o Atodlen 1 i rym ar 1 Ebrill 2007.
(4) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Mae Cynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru), a welir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn ac sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer talu pensiynau a chyfandaliadau i bersonau, ac mewn perthynas â phersonau, sy'n cael neu sydd wedi cael eu cyflogi gan awdurdodau tân ac achub Cymreig, fel diffoddwyr tân (gan gynnwys personau sy'n marw tra bônt yn cael eu cyflogi felly), yn effeithiol.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), nid yw Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân a welir yn Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân 1992(2) (“cynllun 1992”) yn effeithiol mewn perthynas â pherson sy'n dechrau gwaith cyflogedig gydag awdurdod tân ac achub Cymreig ar neu ar ôl 6 Ebrill 2006.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson —
(a) sy'n trosglwyddo i gyflogaeth awdurdod tân ac achub Cymreig o gyflogaeth gydag awdurdod tân ac achub yn Lloegr neu'r Alban neu gyda Bwrdd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Iwerddon; a
(b) a oedd, yn union cyn 6 Ebrill 2006, yn aelod o gynllun pensiwn y diffoddwyr tân a sefydlwyd gan yr awdurdod y mae'r person yn trosglwyddo o'i gyflogaeth.
(3) Pan fo person, ar unrhyw bryd yn y cyfnod sy'n dechrau ar 6 Ebrill 2006 ac sy'n dod i ben ar y dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym, yn dod yn aelod o gynllun 1992 ar ôl dechrau gwaith cyflogedig gydag awdurdod tân ac achub Cymreig—
(a) ar y dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym—
(i) bydd effaith cynllun 1992 yn peidio mewn perthynas â'r person hwnnw, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau a welir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn (trefniadau trosiannol); a
(ii) bydd darpariaethau Cynllun Pensiwn newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) yn effeithiol mewn perthynas â'r person hwnnw; a
(b) ymdrinnir â gwasanaeth pensiynadwy a oedd yn wasanaeth cyfrifadwy at ddibenion cynllun 1992 fel gwasanaeth pensiynadwy sy'n gyfrifadwy o dan Gynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru).
(4) Mae Cynllun 1992 yn parhau i fod yn effeithiol mewn perthynas â pherson a oedd, yn union cyn 6 Ebrill 2006, yn aelod ohono neu yr oedd ganddo hawlogaeth i gael, neu yr oedd yn cael, dyfarndal odano.
4.—(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys pan fo awdurdod tân ac achub Cymreig, yn union cyn y dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym, yn cynnal cynllun ar gyfer talu pensiynau i ddiffoddwyr tân wrth gefn ac mewn perthynas â hwy (“y cynllun wrth gefn”).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff yr awdurdod barhau i gynnal y cynllun wrth gefn ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym, er budd y personau a oedd yn aelodau o'r cynllun hwnnw cyn 6 Ebrill 2006, fel petai'n gynllun a sefydlwyd o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.
(3) Rhaid i'r awdurdod beidio â gwneud y canlynol—
(a) o ran diffoddwr tân wrth gefn sy'n dod yn aelod o Gynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru), gwneud unrhyw gyfraniad at y cynllun wrth gefn ar neu ar ôl y dyddiad y mae aelodaeth y diffoddwr tân o'r Cynllun hwnnw yn cychwyn, neu
(b) defnyddio Cronfa Bensiwn eu Diffoddwyr Tân(3) er mwyn gwneud cyfraniadau cyflogwr at y cynllun wrth gefn.
(4) Yn yr erthygl hon ystyr “diffoddwr tân wrth gefn” (“retained firefighter”) yw person sy'n cael ei gyflogi gan awdurdod tân ac achub—
(a) fel diffoddwr tân, ond nid fel diffoddwr tân rheolaidd, a
(b) sy'n gorfod bod yn bresennol ar yr adegau y mae'r swyddog sy'n goruchwylio yn barnu eu bod yn angenrheidiol, ac yn unol â'r gorchmynion y mae'r person yn eu cael.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Mawrth 2007
Erthygl 2
RHAN 1
ENWI A DEHONGLI
RHAN 2
AELODAETH O'R CYNLLUN, DIWEDDU AC YMDDEOL
RHAN 3
DYFARNDALIADAU PERSONOL
RHAN 4
PENSIYNAU GOROESWYR
RHAN 5
DYFARNDALIADAU YN SGIL MARWOLAETH
RHAN 6
RHANNU PENSIWN YN SGIL YSGARU
RHAN 7
PERSONAU WRTH GEFN
RHAN 8
DYFARNU CWESTIYNAU AC APELAU
RHAN 9
ADOLYGU, ATAL A FFORFFEDU DYFARNDALIADAU
RHAN 10
GWASANAETH CYMHWYSOL A GWASANAETH PENSIYNADWY
RHAN 11
TÅL PENSIYNADWY, CYFRANIADAU PENSIWN A PHRYNU GWASANAETH YCHWANEGOL
RHAN 12
TROSGLWYDDIADAU I MEWN AC ALLAN O'R CYNLLUN
RHAN 13
CRONFA BENSIWN Y DIFFODDWYR TÅN
RHAN 14
TALU DYFARNDALIADAU
RHAN 15
DARPARIAETHAU AMRYWIOL
ATODIAD 1
Pensiynau Afiechyd
ATODIAD 2
Apelau i Fwrdd Canolwyr Meddygol
O.S. 1992/129. Gwnaed y Cynllun o dan adran 26 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947 (p.41). Diddymwyd Deddf 1947 gan adran 52 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 ac Atodlen 2 iddi, ond cafodd y Cynllun ei ailenwi'n Gynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) a'i barhau mewn grym gan erthyglau 3 a 4 o Orchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cynllun Pensiwn y Dynion Tân) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/2918) (Cy.257). Back [2]
Sefydlwyd Cronfeydd Pensiwn Diffoddwyr Tân o dan Ran LA o'r Cynllun a welir yn Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân 1992 (O.S. 1992/129). Mewnosodwyd Rhan LA gan O.S. 2007/1072 (Cy.110). Back [3]