Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Rheoliad 4

ATODLEN 2 DEDDFIADAU A DDATGYMHWYSIR O RAN UNEDAU

Deddfwriaeth Sylfaenol

Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998

1.  Nid yw adrannau 86 (13) a 94(14) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn gymwys o ran unedau.

Is-ddeddfwriaeth

Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003

2.  Nid yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003(15) yn gymwys o ran unedau.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae adran 19 o Ddeddf Addysg 1996 (“y Ddeddf”) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau addysg lleol wneud trefniadau i ddarparu addysg addas yn yr ysgol neu heblaw mewn ysgol ar gyfer y plant hynny o oedran ysgol gorfodol nad ydynt, oherwydd salwch, gwaharddiad o'r ysgol neu fel arall, yn derbyn am unrhyw gyfnod, addysg addas oni wneir trefniadau o'r fath ar eu cyfer. Adnabyddir unrhyw ysgol a sefydlwyd ac a gynhelir gan awdurdod addysg lleol sydd wedi'i threfnu'n arbennig i ddarparu addysg ar gyfer plant o'r fath, yn uned cyfeirio disgyblion.

Mae Atodlen 1 i'r Ddeddf yn darparu ar gyfer rheoliadau sy'n cymhwyso deddfiadau i unedau cyfeirio disgyblion.

Mae'r Rheoliadau hyn yn cymhwyso gwahanol ddeddfiadau addysg i unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru. Maent yn cymryd i ystyriaeth ddeddfwriaeth addysg a basiwyd, ers i rheoliadau gael ei gwneud ddiwethaf i gymhwyso deddfiadau i unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru. Mae'r rheoliadau cynt hynny'n cael eu dirymu gan reoliad 2 o'r Rheoliadau hyn.

(13)

Diwygiwyd adran 86 gan adran 47(1) o Ddeddf Addysg 2002 a chan baragraff 3 o Atodlen 4, ac Atodlen 22 Rhan 3 iddi. Back [13]

(14)

Diwygiwyd adran 94 gan adran 50 o Ddeddf Addysg 2002 a chan baragraff 8 o Atodlen 4 iddi. Back [14]

(15)

O.S. 2003/3231. Back [15]