Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”) ac maent yn gymwys o ran awdurdodau lleol yng Nghymru.

Mae rheoliad 3 yn mewnosod yn Rheoliadau 2003 reoliad newydd, sef rheoliad 24A, sydd i'w ddirymu ar 1 Ebrill 2011. Mae'r rheoliad newydd yn darparu nad oes angen i awdurdod lleol, hyd onid yw'n gorfod talu'r swm hwnnw i'r swyddog neu i'r cyflogai, godi ar gyfrif refeniw swm mewn cysylltiad â thaliad sydd i'w wneud i swyddog neu i gyflogai am waith a wnaed yn y gorffennol ac y cafodd y swyddog neu'r cyflogai dâl anghyfartal amdano.

Mae rheoliad 4 yn mewnosod yn Rheoliadau 2003 reoliadau newydd, sef rheoliadau 24B i 24D. Mae rheoliadau 24B a 24C yn gwneud darpariaeth ar gyfer y swm y mae'n rhaid i awdurdod lleol ei godi ar gyfrif refeniw neu ei gredydu i gyfrif refeniw mewn cysylltiad â phremiwm neu ddisgownt sy'n deillio o ad-dalu benthyciad yn gynnar gan yr awdurdod. Mae rheoliad 24D yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sydd wedi rhoi benthyciad i berson gredydu i gyfrif refeniw yr awdurdod cyfanswm y llog y mae i'w dderbyn ym mhob blwyddyn ariannol yn unol â'r cytundeb benthyciad ar gyfer y benthyciad hwnnw.

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn ac mae ar gael gan yr Is-adran Cyllid Llywodraeth Leol, yr Adran Llywodraeth Leol a Diwylliant, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ (Rhif ffôn 02920825111; e-bost : LGF3L@wales.gsi.gov.uk).