(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“y Rheoliadau Optegol”) sy'n darparu ar gyfer gwneud taliadau drwy gyfrwng system dalebau o ran costau a dynnir gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â chyflenwi, ailosod a thrwsio teclynnau optegol.
Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 19 i gynyddu gwerth adbrynu taleb a ddyroddir tuag at gost ailosod un lens gyffwrdd ac i gynyddu uchafswm y cyfraniad drwy daleb tuag at gost trwsio ffrâm.
Mae rheoliad 3 a'r Atodlen yn diwygio'r Atodlenni i'r Rheoliadau Optegol i gynyddu gwerth talebau a ddyroddir tuag at gostau cyflenwi ac ailosod sbectolau a lensys cyffwrdd, i gynyddu gwerthoedd ychwanegol y talebau ar gyfer prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd a chategorïau arbennig o declynnau ac i gynyddu gwerth y talebau a ddyroddir at drwsio ac ailosod teclynnau optegol. Tua 2.7% yw graddfa'r cynnydd yn y talebau yn y Rheoliadau hyn.
Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gosod cost ar fusnes.