Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Erthygl 31

YR ATODLEN Gorchmynion sydd wedi'u dirymu

1.  Mae'r canlynol wedi'u dirymu i'r graddau y maent yn effeithiol yng Nghymru—

(a) Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Ffyrdd a Rheilffyrdd) 1975(7);

(b) Gorchymyn Allforio Anifeiliaid (Diogelu) 1981(8);

(c) Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) 1997(9);

(ch) Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Mannau Aros) 1998(10);

(d) Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Diwygio) 1999(11).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth yng Nghymru ar gyfer gweinyddu a gorfodi Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 ar ddiogelu anifeiliaid wrth iddynt gael eu cludo ac yn ystod gweithrediadau cysylltiedig (OJ Rhif L 3, 5.1.2005. t.1).

Mae'n darparu hefyd ar gyfer gweinyddu a gorfodi Rheoliad y Cyngor 1255/97 ynghylch meini prawf y Gymuned ar gyfer mannau aros (OJ L 174, 2.7.97 t.1).

Mae'n dirymu (i'r graddau y mae'n effeithiol yng Nghymru) Orchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) 1997, a weithredodd Gyfarwyddeb y Cyngor 91/628/EEC ar ddiogelu anifeiliaid wrth iddynt gael eu cludo (OJ Rhif L340, 11.12.91, t. 17).

Mae Rhan 2 o'r Gorchymyn yn gorfodi gofynion Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 ynglŷn â chludo (erthygl 5), cludwyr (erthygl 6), llestri gyrru mewn ac allan (erthygl 7), trefnwyr (erthygl 8), ceidwaid (erthygl 9) a chanolfannau cynnull (erthygl 10). Mae'n gorfodi hefyd ofynion Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/97 mewn perthynas â safleoedd rheoli (erthygl 11). Mae erthygl 11 yn ei gwneud yn dramgwydd i ddefnyddio safle rheoli nas cymeradwywyd ac i weithredu safle rheoli heb gael cymeradwyaeth ymlaen llaw.

Mae Rhan 3 yn darparu rhanddirymiadau ynglyn â'r cyfrwng cludo ar y ffordd a ddefnyddir ar gyfer teithiau nad ydynt yn hwy na 12 awr er mwyn cyrraedd y gyrchfan derfynol (erthyglau 12 i 19).

Mae Rhan 4 yn darparu ar gyfer diwygio, atal neu ddirymu cymeradwyaethau, awdurdodiadau neu dystysgrifau ac ar gyfer sylwadau yn erbyn hysbysiad i'w diwygio, i'w hatal neu i'w dirymu (erthyglau 20 i 23).

Rhoddir pwerau i arolygwyr ei gwneud yn ofynnol i berson cyfreithiol gydymffurfio â'r Gorchymyn, gan gynnwys pwer i stopio taith (erthygl 24).

Mae'n ofynnol i berchenogion a siartrwyr llestri a ddefnyddir i gludo anifeiliaid ddangos gwybodaeth, os gofynnir iddynt wneud hynny, i un o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol a gall yr wybodaeth honno gynnwys plan o'r llestr (erthygl 26).

Awdurdodau lleol sy'n gorfodi'r Gorchymyn (erthygl 29).

Mae torri'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, ac yn dwyn cosb yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honno.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi a gellir cael copïau oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(7)

O.S. 1975/1024. Back [7]

(8)

O.S. 1981/1051. Back [8]

(9)

O.S. 1997/1480. Back [9]

(10)

O.S. 1998/2537. Back [10]

(11)

O.S. 1999/1622. Back [11]